header Cymraeg English
Cwmbach  

Fel y rhan fwyaf o Gwm Cynon, ardal ddistaw a gwledig oedd Cwmbach cyn dyfodiad diwydiant. Amharwyd ar ei llonyddwch gwledig gyntaf pan agorwyd camlas Aberdâr fis Mai 1812. Ar ôl hynny, byddai trafnidiaeth yn pasio drwy ardal Cwmbach er mwyn cyrraedd y gamlas, teithio ymhellach i'r gogledd neu ymuno â'r Glamorganshire canal tua'r de. Agorwyd y gamlas yn wreiddiol er mwyn hwyluso masnachu gyda'r diwydiant haearn yn ardal Aberdâr, ac roedd mewn lleoliad cyfleus dros ben pan agorwyd y pwll glo ager cyntaf ar gyfer y farchnad allforio yng Nghwmbach ym 1837.

Mae'r map uchod yn dangos y cysylltiad agos rhwng y gamlas, y rheilffyrdd a'r glofeydd

Mae'r map uchod yn dangos y cysylltiad agos rhwng y gamlas, y rheilffyrdd a'r glofeydd

Y Scales Arms

Y Scales Arms
Yn sgil y galw aruthrol am lo ager, agorodd nifer o lofeydd yng Nghwmbach. Daeth y diwydiant glo i ddibynnu llawer ar y gamlas, a datblygwyd porthladd bach yng Nghwmbach. Roedd cymaint o lo yn cael ei gynhyrchu yn y cwm nes i'r gamlas barhau tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er gwaethaf cystadleuaeth gref gan reilffordd y Taff Vale (1848) a'r Great Western (1864).

Wrth i Gwmbach ddatblygu'n ardal lofaol ffyniannus, dechreuodd esblygu'n dref fodern fel sy'n gyfarwydd i ni heddiw. Adeiladwyd llawer o dai ar gyfer y nifer fawr o bobl a oedd yn cyrraedd i weithio yn y glofeydd. Erbyn 1861 roedd nifer o strydoedd eisoes wedi'u hadeiladu, gan gynnwys Timothy Row, Scales Row, Ynyscynon Street a Little Row. Aed ati ar unwaith i sefydlu siopau yn y pentref, ac ymhlith y siopau groser, crydd a dillad, agorwyd siop Gydweithredol gyntaf Cymru. Agorwyd tafarndai hefyd, gan gynnwys y Colliers Arms (1841), y Scales Arms (1845) a'r Crown Inn (1851).

Adeiladwyd nifer o addoldai hefyd, gan gynnwys capel i'r Bedyddwyr ym 1841, capel bach o'r enw Capel Bricks i'r Annibynwyr ym 1846 a Chapel Methodistiaid Calfinaidd Tir Bach ym 1852. Roedd rhaid aros tan 1882 cyn i'r Eglwys godi adeilad yn y pentref pan agorwyd Eglwys Santes Mair Magdalen. Agorodd sawl adeilad arall o bwys yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Neuadd Gyhoeddus y Gweithwyr Cwmbach ym 1911 a'r Ysgol Gymysg tua 1868.

De: Eglwys Santes Mair Magdalen

 

Eglwys Santes Mair Magdalen
Cymdeithas Gydweithredol Cwmbach – Y gyntaf yng Nghymru
Roedd arloeswyr y mudiad Cydweithredol yng Nghymru yn hanu o Gwmbach, sef John Rees, gl ö wr a ddaeth yn rheolwr cyntaf y Gymdeithas, a Daniel Thomas, peiriannydd yng nglofa Lletty Shenkin. Roedd eu diddordeb yn y mudiad wedi dechrau yn sgil cyfres o lythyron a ymddangosodd yng ngholofnau papur newydd Reynold yn adrodd hanes Arloeswyr Rochdale. Ar ôl darllen yr erthyglau am ddigwyddiadau trychinebus streic 1857, pan gaewyd siopau'r cwmni gan berchnogion y lofa, cafodd y ddau eu hysbrydoli i sefydlu Cymdeithas Gydweithredol yng Nghwmbach. Aethant ati i gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmbach er mwyn trafod y mater. Cynhaliwyd y cyfarfod ar 9 Hydref 1859 yn y Mount Pleasant Inn, a chytunwyd y dylid mynd ati i sefydlu Cymdeithas Gydweithredol. Ymunodd hanner cant a chwech o aelodau yn ystod y cyfarfod.
Y Co-op ar ddechrau'r ugeinfed ganrif

Daethpwyd o hyd i adeiladau addas ger Camlas Aberdâr, sef bythynnod Capel Bricks, ac agorwyd y siop gyntaf ar 8 Mawrth, 1860. Hon oedd y siop gydweithredol gyntaf i agor yng Nghymru, tua phymtheg mlynedd ar ôl i'r siop gyntaf agor yn Lloegr. Messrs. D. Thomas and Co. Limited oedd enw'r Gymdeithas ar y pryd, hynny er anrhydedd i'w sylfaenydd. Newidiwyd yr enw i'r Cwmbach Industrial Co-operative Society Limited yn ddiweddarach. Roedd y siop wreiddiol yn llwyddiannus iawn, ac roedd nifer yr aelodau wedi codi i 174 erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf. Agorwyd canghennau eraill yn ddiweddarach yn Aberaman ym 1874, Cwmaman ym 1883, ac Aberpennar ym 1892. Adnewyddwyd ac ehangwyd y sefydliad gwreiddiol ym 1900 er mwyn sicrhau ei fod cystal ym mhob ffordd â'i ganghennau eraill.

Chwith: Y Co-op ar ddechrau'r ugeinfed ganrif

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif dechreuodd y gymdeithas golli cwsmeriaid, yn bennaf oherwydd cystadleuaeth gref gan Gymdeithas Aberdâr, a gynigiodd ddifidend uwch na Chymdeithas Cwmbach, a hefyd oherwydd effeithiau gweithredu diwydiannol yn y diwydiant glo. Ym 1927 agorodd pennod newydd yn hanes y Gymdeithas wrth iddi uno â'r Aberdare Co-operative Society i ffurfio'r ‘Aberdare and District Co-operative Society Limited'. Parhaodd y siop wreiddiol i werthu cynnyrch am nifer o flynyddoedd yn dilyn yr uno, ond cafodd ei dymchwel fis Mawrth 1977 i wneud lle i dai newydd.

De: Y Co-op yn Bridge Street yn ystod y gwaith dymchwel

Y Co-op yn Bridge Street yn ystod y gwaith dymchwel
Côr Meibion Cwmbach  
Côr Meibion Cwmbach

Ffurfiwyd Côr Meibion Cwmbach ym 1921, ac yn ôl yr hanes lleol, fe'i sefydlwyd adeg gêm griced leol fis Mehefin 1921. Collodd nifer o'r bobl oedd yn gwylio'r gêm bob diddordeb yn y chwarae, ac aethant ati i ganu emynau a chaneuon. Yn sgil hyn, awgrymwyd y dylid ffurfio Côr Meibion. Cynhaliwyd cyfarfod wedyn yn y Cwmbach Hall and Institute, a sefydlwyd Côr Meibion Cwmbach.

Enillodd y côr enw da bron yn syth, gan fwynhau llwyddiant wrth gystadlu a pherfformio mewn cyngherddau. Mae'r côr wedi ennill gwobrau lu, gan ddod i'r brig mewn Eisteddfodau lleol ac yn Eisteddfod Genedlaethol Port Talbot (1966) ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri (1968). Ym 1962 daeth y côr i'r brig ym Mhrif ac Ail Gystadleuaeth Côr Meibion Eisteddfod y Glowyr Porthcawl – camp hollol unigryw.

Dros y blynyddoedd mae'r côr wedi teithio'n helaeth, gan berfformio yn y Royal Festival Hall, y Royal Albert Hall, y Barbican, Neuadd Dewi Sant a sawl lleoliad arall ar hyd a lled y wlad. Aethant dramor am y tro cyntaf ym 1961, gan deithio i Hwngari er mwyn perfformio yn y Bela Bartok Festival – y côr cyntaf o Gymru i ganu y tu ôl i'r ‘Llen Haearn'. Ers hynny maent wedi perfformio yn Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Iwerddon, Sbaen, Canada a De Affrica.

Ers diwedd y 1950au mae'r côr wedi ymddangos sawl gwaith ar y radio a'r teledu ac wedi rhyddhau nifer o recordiau, tapiau a CDs. Record gyntaf y côr oedd ‘Male Voice Favourites' a ryddhawyd ym 1960. Côr Meibion Cwmbach oedd y côr cyntaf erioed i ganu ym Mharc yr Arfau cyn gêm rygbi ryngwladol.

Mae'r côr yn parhau i ffynnu hyd heddiw ac yn llwyddo i gynnal y safonau uchel a osodwyd gan yr aelodau gwreiddiol dros 80 mlynedd yn ôl.
Tystysgrif
Diwydiant Glo Cwmbach  
Mae gan Gwmbach le arbennig yn hanes y diwydiant glo ager yng Nghwm Cynon gan mai yno yr agorwyd y pwll glo dwfn cyntaf. Arloeswr y diwydiant hwn oedd Thomas Wayne, mab Mathew Wayne, haearnfeistr a meistr glo o Ferthyr. Enynnwyd ei ddiddordeb yn y diwydiant glo gan lwyddiant Lucy Thomas o Waun-Wyllt ym Merthyr, a wnaeth gytundeb gyda George Insole i werthu glo yn ardal Llundain ym 1830. Roedd y glo yn gwerthu mor dda nes i Mrs. Thomas lwyddo i werthu ei holl lo ym mhen y pwll am 4s. 0d. y dunnell ymhen ychydig fisoedd.
Mae Glofa Abernant-y-Groes yn ymddangos ar y map Arolwg Ordnans hwn dan yr enw Glofa Cwmbach.

Llwyddodd Thomas Wayne i berswadio ei dad a'i frawd hynaf y dylid mynd ati i geisio cyrraedd yr wythïen lo ager bedair troedfedd enwog. Roedden nhw'n ffyddiog y gellid dod o hyd i'r wythïen honno yng Nghwmbach, a gwnaethant gytundeb gyda pherchnogion Ystâd Abernant-y-Groes i agor pwll a chloddio unrhyw lo ar yr ystâd. Agorwyd glofa Abernant-y-Groes (Glofa Cwmbach yn ddiweddarach) fis Mehefin 1837 ac erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno roedden nhw wedi suddo'r siafft 60 troedfedd, gan gyrraedd y glo ager.

Chwith: Mae Glofa Abernant-y-Groes yn ymddangos ar y map Arolwg Ordnans hwn dan yr enw Glofa Cwmbach.

Aeth sylfaenwyr y fenter ati'n syth i ffurfio Wayne's Merthyr-Aberdare Steam Coal Company ac erbyn diwedd Rhagfyr roedd glo o'r lofa'n cael ei arddangos yn Llundain. Partneriaid y cwmni oedd Matthew Wayne, Thomas Wayne, W.W. Wayne, William Thomas David, Gwladys David a William Morgan. Roedd y lofa'n llwyddiannus iawn, ac ym 1840 cludwyd dros 40,000 o dunelli o lo o'r lofa ar hyd camlas Aberdâr. Caeodd y lofa ym 1896.

Dde: Glofa Rhif 9 Abernant o eiddo Richard Fothergill

Glofa Rhif 9 Abernant o eiddo Richard Fothergill
Glofa Lletty Shenkin a gaeodd yn agos i ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif
Chwith: Glofa Lletty Shenkin a gaeodd yn agos i ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif

 

Yn sgil llwyddiant ariannol eithriadol glofa Abernant-y-Groes, denwyd diwydianwyr eraill i'r ardal i agor glofeydd eraill, gan gynnwys:

1840

Glofa a Level Rhif 9 (Glofa Abernant)

R. Fothergill

1840

Glofa Old Duffryn (Glofa Tirfounder)

Thomas Powell

1843

Lletty Shenkin

William Thomas

1843

Glofa Middle Duffryn

T. Powell Esq.

1843

Glofa Ynyscynon (Pwll Williams, Pwll Scales)

David Williams

1844

Glofa Upper Duffryn

T. Powell & Sons

1860

Pwll Newydd Cwmbach

Aberdare Coal Co.

1865

Glofa Tunnel

Aberdare Iron Co.

1866

Pwll Bach (Pwll Bach Cwmbach)

Aberdare Iron Co.

1884

Lefel Tirfounder

David Jones

1890

Lefel Windsor

James Lewis Co.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf