header Cymraeg English

Theatr y ColisËwm - Sybil Thorndike

Y tro cyntaf i Ŵyl Cynghrair Drama Prydain Dramâu Hyd Llawn ddigwydd tu allan i Brydain oedd ym 1947 yn Theatr y Colisëwm, gyda Dame Sybil Thorndike yn dyfarnu?

Dame Agnes Sybil Thorndike CH DBE
24 Hydref 1882 – 9 Mehefin 1976

Actores o Loegr a deithiodd y byd yn perfformio mewn cynhyrchiadau Shakespeare. Yn aml, byddai
hi'n ymddangos ochr yn ochr â'i gŵr, Lewis Casson. Ysgrifennodd George Bernard Shaw y ddrama
'Saint Joan' gyda hi ar flaen ei feddwl ar gyfer y brif ran. Roedd hi'n llwyddiannus yn y rôl. Cafodd
ei henwi'n Gadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1931, ac yn Gydymaith Anrhydedd ym 1970.

Mr Whitworth yn cyflwyno'r ‘Whitworth Trophy’ i Glwb Drama Sunderland, 1947

O bapur newydd yr 'Aberdare Leader'

   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf