header Cymraeg English

Theatr y ColisËwm - Emlyn Williams

George Emlyn Williams CBE
26 Tachwedd 1905 – 25 Medi 1987

Ganed i deulu Cymry Cymraeg dosbarth gweithiol yn Sir y Fflint. Siaradodd Williams yn Gymraeg yn unig nes iddo fod yn 8 oed. Roedd Williams mwy neu lai yn anllythrennog, a'r unig lwybr oedd yn agored iddo oedd y pyllau glo, hyd nes iddo ddal sylw Sarah Grace Cooke, gweithiwr cymdeithasol o Lundain. Sylwodd hi ar y talent a oedd gan Williams, ac roedd hi'n gefnogol ohono. O ganlyniad i hyn, pan oedd yn 17 oed, enillodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg Christ Church, Rhydychen lle astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg.

Bette Davies yn The Corn is Green – Warner Bros. 1945.

Daeth ei lwyddiant fel actor wrth chwarae rhan y llofrudd mewn drama gyffrous seicolegol a ysgrifennodd ei hun, Night Must Fall. Un o'i ddramâu enwocaf yw The Corn is Green, lle bu'n
actio ynddo yn West End Llundain. Cafodd y ddrama ei haddasu i fod yn ffilm ym 1945 a oedd yn cynnwys Bette Davies yn chwarae rhan Miss Moffat; cymeriad wedi'i seilio ar fentor Williams,
Sarah Grace Cooke.

AYn ogystal â bod yn ddramodydd, ysgrifennodd Williams ar gyfer y teledu ac ar gyfer ffilmiau gan
addasu ei waith ei hun yn ogystal â gwaith eraill. Bu hefyd yn awdur gwaith ffuglen a ffeithiol, gan
gynnwys ei nofel ym 1980, Headlong, a gafodd ei haddasu'n fras i fod yn ffilm, King Ralph.

Roedd Williams hefyd yn enwog am ei sioeau un dyn am Charles Dickens a Dylan Thomas. Aeth â'r sioeau yma ar deithiau rhyngwladol.

Portread o Emlyn Williams gan Allen Warren.

Emlyn Williams yn chwarae Charles Dickens
yn Theatr y Colisëwm.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf