header Cymraeg English
Aber-nant  
Doedd dim tai gweithwyr i'w cael yn Aberdâr ym 1799. Dyna ddywedodd Thomas Dafydd Llewellyn wrth sgrifennu'i gyfrol Gardd Aberdar : yn cynwys cyfansoddiadau buddugol yn dal cysylltiad a phlwyf Aberdar a'r cylchoedd ym 1853. Ond daeth newid sydyn i hyn ym 1801, pan agorodd Gwaith Haearn Abernant. Tai yn Little Row a Moss Place oedd y cynta i'w codi, ym 1800, a chafodd twf y dref hwb arall yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae'n bosibl bod hyn wedi digwydd oherwydd cynnydd mewn gwerthiant glo, ac adeiladu llinell leol o Reilffordd Cwm Nedd i Ferthyr Tudful. Mae enwau rhai o'r strydoedd a godwyd yr adeg honno'n dwyn i gof gymaint mae diwydiannau trwm yn rhan o dreftadaeth y fro, e.e. Engineer's Row, Foreman's Row, a Collier's Row. Agorodd gorsaf Abernant ym 1854.
'Trap' oedd enw poblogaidd godre Abernant yn gynnar yn y 19eg. Does neb yn hollol si w r o'r rheswm am hyn. Un esboniad cyffredin yw bod llawer o dafarnau yno ar un adeg, a bod gweithwyr yn cael eu maglu yno ar eu ffordd adre. Mae ysgolheigion o'r farn taw gris neu gamfa oedd y 'trap', lle'r oedd Tramffordd Cwmni Haearn Aberdâr yn croesi Ffordd y Plwyf i Aber-nant. Roedd Ardalydd Bute yn cynnal ysbyty bwthyn bach yn yr ardal o dua 1875 tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel meddygfa leol nes cael ei ddymchwel ym 1980.
Fe fu nifer o lofeydd ar waith yn Aber-nant. Cafodd llawer ohonyn nhw'u hagor yn wreiddiol gan Gwmni Haearn Abernant. Dyma'u henwau: Werfa No. 1 (1846 - 1910); Werfa No. 2 (1879 - 1910); Mountain (1866 - 1927); Blaennant (tua 1840 - 1927); Forge (1851 - 1910); a River Level (tua 1840 - 1939). Fe fu llifogydd trychinebus yn River Level ym 1896, a chafodd chwech o'r glowyr eu boddi. Gweler isod am ddisgrifiad o'r digwyddiadau trychinebus yma.

Llawfeddygaeth Trap
Ty Abernant
Ty Abernant

James Birch gododd y plasty gwreiddiol yn Aber-nant. Fe a Jeremiah Homfray oedd sylfaenwyr Gwaith Haearn Aber-nant. Ar ôl gwerthu'r Gwaith Haearn ym 1819, daeth y t y 'n eiddo i Rowland Fothergill. Wedyn fe ddaeth ei nai e, Richard Fothergill, yn berchen ar y t y a chychwyn ar raglen uchelgeisiol o waith yno. Cododd e estyniadau i'r prif adeilad, a dechrau tirweddu'r gerddi ar raddfa helaeth.

Chwith: Ty Abernant

T y Abernant oedd cartref cyntaf Coleg Diwinyddol San Mihangel. Cafodd y Coleg ei sefydlu yno ym 1892 gan Emma Talbot, Margam, i hyfforddi offeiriad i'r Eglwys yng Nghymru. Agorodd y Coleg Ddydd G w yl Ddewi'r flwyddyn honno, gyda thri o fyfyrwyr. Erbyn yr ail dymor, roedd 12 o fyfyrwyr yn mynychu cyrsiau yno. Y Canon H. R. Johnson oedd Warden cynta'r Coleg. Doedd y Coleg ddim yn si w r faint fydden nhw'n cael aros yn Nh y Abernant, ac felly dyna nhw'n symud i lawr i Landaf ym 1907. Ers 1917 fodd bynnag T y Abernant yw cartre Ysbyty Cyffredinol Aberdâr.

De: Mae'r llun hwn o gapel Coleg Diwinyddol San Mihangel yn dangos mor gain a manwl oedd pensaerniaeth y tu fewn i D y Abernant. Cafodd y rhain eu distrywio yn nh â n 1929

 

Mae'r llun hwn o gapel Coleg Diwinyddol San Mihangel yn dangos mor gain a manwl oedd pensaerniaeth y tu fewn i D y Abernant. Cafodd y rhain eu distrywio yn nh â n 1929
Dechreuodd y symudiad i agor ysbyty i'r fro ym 1907. Godreaman oedd y dewis cynta o ran safle i'r ysbyty, ond bu llawer o oedi am wahanol resymau. Cynigiodd Ardalydd Bute brynu prydles ar D y Abernant, ac roedd y pwyllgor yn falch i dderbyn hyn. Cyfrannodd y cyhoedd £14,428 at gost yr ysbyty, gyda meistri glo'r ardal yn cyfrannu £10,000 yn ychwanegol. Horace J. Davies, Bargoed, fu'n gyfrifol am addasu T y Abernant. Costiodd y gwaith hwn £10,300. Agorodd Ysbyty Cyffredinol Aberdâr ar Orffennaf 17 eg 1917.
Ehangu wnaeth yr Ysbyty a'i diroedd o'r cychwyn cyntaf, gyda chwmni Powell Duffryn yn rhoi tair erw ar ochr ddeheuol yr adeilad. Cododd gweithwyr yr ardal eu cyfraniadau o un hen geiniog i dair hen geiniog yr wythnos ym 1920, a chyda'r arian hwn roedd modd ymestyn y Wardiau Offthalmig ac Orthopedig. Agorodd Ward Ymadfer newydd ym 1923, a phrynodd Charles Kenshole y cyfan o'r tir i'r de o Barc Abernant a'i roi i'r Ysbyty. Erbyn 1927 roedd yr Ysbyty'n berchen ar yr holl dir o'i gwmpas. Cafodd fferm ei sefydlu i gyflenwi llaeth ffres i'r cleifion.
Dyma lun yn dangos mor ddifrifol oedd y ddifrod yn sgîl tân Medi 27 ain 1929

Fe fu tân trychinebus ar Fedi 27 ain 1929. Cafodd T y Abernant, y prif adeilad i gyd, ei ddinistrio. Doedd dim ar ôl o'r adeilad ond cragen wag, gyda'i harddwch wedi'i losgi'n ulw. Daeth Ei Huchelder Brenhinol Duges Efrog (y Fam Frenhines yn ddiweddarach) i ailagor yr Ysbyty ym 1933. Parhaodd yr Ysbyty i ehangu gyda chymorth noddwyr lleol, ac ym 1939 fe dalodd W. M. Llewellyn am godi ward mamolaeth newydd.

Chwith: Dyma lun yn dangos mor ddifrifol oedd y ddifrod yn sgîl tân Medi 27 ain 1929


Gwaith Haearn Abernant  
Jeremiah Homfray a James Birch ddechreuodd Waith Haearn Abernant. Fe brynon nhw brydles ar dir ac ar hawliau mwynol Abernant-y-Wenallt ym 1801. Ym 1804, daeth James a Francis Tappenden o Gaint i ymuno yn y fenter, a chodwyd tair ffwrnais ar y safle. Adeiladodd James a Francis Tappenden dramffordd i gysylltu'r Gwaith Haearn â Chamlas Castell-nedd, ond ym 1807 cododd ffrae am y dramffordd rhyngddyn nhw â'r ddau bartner arall. Ymadawodd Homfray a Birch o'r cwmni, gan adael y cyfan yn nwylo'r ddau Tappenden. Ond mae'n debyg fod James a Francis wedi bod yn rhy uchelgeisiol yn y blynyddoedd nesaf, ac fe gollon nhw anghydfod cyfreithiol gyda Chamlas Castell-nedd. Bu raid iddyn nhw wneud cais i fynd yn fethdalwyr ym 1814. Ym 1819, prynodd Cwmni Haearn Aberdâr Waith Haearn Aber-nant, i'w ychwanegu at ei gwaith haearn yn Llwytcoed.

Richard Fothergill

Richard Fothergill

Llun pensil o Abernant, mis Medi 1827

Roedd tair ffwrnais yn gweithio yn Aber-nant ym 1823, ond doedd dim cyfleusterau ar gyfer coethi'r haearn. Rhaid ei anfon draw i Ferthyr Tudful i'w droi'n fariau haearn bwrw. Pan gymerodd Rowland Fothergill a'i nai Richard y Gwaith Haearn i'w dwylo ym 1846, dechreuon nhw foderneiddio'r lle o ddifrif. Yn Abernant yr adeiladon nhw'u ffwrnais a'u melinau, er mwyn coethi'r haearn crai o wethiau Abernant a Llwydcoed.

Chwith: Llun pensil o Abernant, mis Medi 1827

   
Trychineb Glofa River Level 1896  
Cafodd gweithfeydd Glofa River Level, Aber-nant, eu boddi ar Ragfyr 9 fed 1896 gan dd w r o hen weithfeydd yng Nglofa Ysguborwen. Roedd enw drwg gyda Glofa Ysguborwen fel pwll eithriadol o wlyb, ac ychydig cyn iddi gau roedd rhai o'r glowyr yno wedi bod yn gweithio mewn man oedd bron â thorri i mewn i hen weithfeydd River Level. Heb yn wybod i lowyr a rheolwyr River Level, roedd y rhwystrau rhwng Hedin Rhif 2 River Level, a gweithfeydd Ysguborwen, wedi cael eu gwanhau'n enbyd. Disgynnodd y seilin yn lefel ddraenio Ysguborwen, a doedd dim modd i'r d w r ddianc. Yn lle rhedeg i ffwrdd, fe dorrodd drwodd i weithfeydd River Level.
Trychineb Glofa River Level
Yn ystod y cwest wedyn, fe ddaeth hi'n amlwg bod rhai o lowyr Ysguborwen wedi torri trwodd i lofa River Level. Gwaetha'r modd, doedd neb wedi dweud wrth reolwyr Ysguborwen am y perygl posibl. Yn ôl adroddiad gan y bargyfreithiwr Robert Woodfall, ar reolwyr Ysguborwen roedd y bai. Roedd rheolwyr River Level, meddai fe, heb wneud dim o'i le. Ond credai er hyn y byddai sicrhau dyfarniad euog yn anodd gan fod byrbwylltra o'r fath mor gyffredin ym myd mwyngloddio.
O'r 120 o lowyr oedd yn gweithio yng nglofa River Level, collodd chwech o ddynion a dau grwt eu bywydau. Y dynion oedd Thomas Jones (29); John Phillips (39); John Jenkins (52) a'i fab, a Thomas Jenkins (18): y ddau fachgen oedd George Evans (14) a John Williams (13). Roedd rhaid pwmpio'r d w r a'r nwy i gyd allan o'r pwll cyn chwilio am eu cyrff, a doedd dim modd cyrraedd y rheiny tan Rhagfyr 23 ain . Ddydd Nadolig y cafodd yr angladd ei gynnal, gyda channoedd o bobl yn tyrru i Aber-nant i hebrwng y glowyr marw i Fynwent Aberdâr. Yn ôl gohebydd y South Wales Daily News , ymestynnai'r orymdaith o 2,000-3,000 o bobl filltir o hyd cyn iddi gyrraedd tref Aberdâr. Daeth rhagor o bobl i ymuno yn yr orymdaith wrth iddi symud ymlaen drwy Drecynon i'r Fynwent. Safai gwylwyr fesul naw neu ddeg o resi oddeutu llwybr yr orymdaith hefyd.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf