header Cymraeg English
SgwÂr Fictoria AberdÂr
 
Sgwâr Fictoria
Mae Gwesty'r Black Lion yn Sgwâr Fictoria wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd y dref ers o leiaf 1811 pan fu'n gwasanaethu'n brif ganolfan i Gymdeithas Caredigion Undeb Aberdâr (Aberdare Union Friendly Society). Dyma hefyd oedd cartref Swyddfa'r Post gyntaf Aberdâr ddiwedd y bedwardedd ganrif ar bymtheg - Robert Jones oedd enw'r postfeistr. Yn ogystal â hynny, bu'r Black Lion yn fragdy ac yn berchen ar nifer o dafarndai'r cylch, cyn i'r bragdy gael ei werthu ym 1911. Un o'r tafarndai hynny oedd y Vulcan Inn, cyferbyn â'r Black Lion ar waelod Monk Street. Y cofnod cyntaf sy gyda ni o'r Vulcan Inn yw ym 1844 ac fe gaeodd ei ddrysau am y tro olaf ym 1925 yn fuan wedi i'r llun yma gael ei gymryd.
Mae Sgwâr Fictoria wedi bod yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu yn Aberdâr ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg - yn wir, Commercial Place oedd enw cyntaf y sgwâr, cyn newid yr enw yn rhan o ddathliadau jiwbilî'r Frenhines Fictoria. Roedd y cigydd 'Miles the Butchers' wedi'i hen sefydlu pan dynnwyd y llun yma yn y 1920au, ac erbyn 1926, roedd R H Miles yn berchen ar siopau yn 8 Cardiff Street, 18 Canon Street, a 56 Jubilee Road, Aberaman yn ogystal â bwyty a siop losin yn 2 Canon Street.
R H Miles Sgwâr Fictoria

Achlysur dadorchuddio cerflun "Caradog"

Uchod: Achlysur dadorchuddio cerflun "Caradog"
Griffith Rhys Jones, 10 Gorffennaf 1920

Rydyn ni i gyd wedi clywed am hanes Griffith Rhys Jones 'Caradog' yn arwain y Côr Mawr a'i fuddugoliaeth yn y Crystal Palace, Llundain ym 1872 a 1873. Ganed Caradog yn y Rose and Crown, Trecynon ym 1834 a dechreuodd ymddiddori ym myd cerddoriaeth yn grwt ifanc iawn. Arweiniodd ei gôr cyntaf i lwyddiant yn Eisteddfod Aberfan ac ym 1858, fe gafodd ei i benodi'n arweinydd Côr ac y sgîl hynny daeth i enwogrwydd cyn ei benodi'n arweinydd y Côr Mawr. Tanysgrifiadau gan y bobl gyffredin dalodd am ei gerflun sy'n sefyll yn Sgwâr Aberdâr - cerflun a gafodd ei gynllunio gan Syr W Goscombe John. Cafodd y seremoni dadorchuddio ei chynnal ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 1920. Safodd tref Aberdâr yn stond wrth i bawb ymgynnull yn y sgwâr. Ar ôl i'r Arglwydd Aberdâr ei ddadorchuddio, canodd Madam Williams-Penn yr anthem genedlaethol cyn i bawb ymgynnull yn y Palladium - a oedd dan ei sang - i glywed areithiau gan, ymhlith eraill, yr Arglwydd Aberdâr ac Alderman Hopkin Morgan.

Tynnwyd y llun yma yn ystod streic y glowyr 1910 yng Nghwm Dâr. Dechreuodd yr anghydfod ym mis Hydref 1910 pan benderfynodd cwmni Powell Duffryn i atal hawl y gweithwyr i fynd â phren gwastraff gartref. Dyma fflach roedd ei angen i danio'r tensiwn ynghylch nifer o gwynion ac fe ledaenodd yr anghydfod answyddogol ledled glofeydd Cwm Dâr.
C B Stanton (1873-1946) yw'r dyn sy'n sefyll trydydd o'r chwith yn y llun, asiant y glowyr Cwm Dâr yn ystod y streic. Roedd Stanton yn AS dadleuol dros Fwrdeistref Merthyr rhwng 1915 a 1922. Torrodd e bob cysylltiad â'r Blaid Lafur Annibynnol i ymgyrchu o du adweithiol jingoistaidd a beirniadu ei gyn gydweithwyr am eu safbwyntiau ar y Rhyfel Mawr.

Sgwâr Fictoria
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf