header Cymraeg English
High Street, Aberdâr  
Cartref Dr. Harry Banks, Ty Mawr, yn ystod Gorymdaith y Sul Dinesig tua 1930.

Cafodd y Ganolfan Iechyd newydd ei chodi yn y 70au cynnar. Roedd rhaid dymchwel Ty Mawr yn gyntaf er mwyn clirio'r safle. Dyna ddiwedd ar 200 o flynyddoedd o draddodiad lleol. Y ty mwyaf yn y dref oedd Ty Mawr pan gafodd ei godi tua 1775 – 1800. Teulu o'r enw Richards oedd yn byw yno. Erbyn tua 1820, y siopwr Evan Griffiths oedd yn cynnal ei fusnes yno. Ar ôl 1900, daeth Ty Mawr yn gartref i nifer o feddygon uchel eu parch yn yr ardal. Bu Dr. Evan Jones, Dr. Harry Banks, ac eraill yn byw yno yn eu tro.

Chwith: Cartref Dr. Harry Banks, Ty Mawr, yn ystod Gorymdaith y Sul Dinesig tua 1930.

Pen de-ddwyreiniol High Street, ychydig cyn 1900. Dyma un o geirt cwrw bragdy'r Rock Brewery yn aros ar yr ochr dde.

De: Un o geirt bragdy'r Brewery Dray yn High Street
Un o geirt bragdy'r Brewery Dray yn High Street
Ffatri Esgidiau Halewood - High Street

Roedd angen niferoedd mawr o bobl i weithio yn y diwydiannau glo a haearn. Cododd llu o fân ddiwydiannau i ddiwallu anghenion y bobl yma. Cafodd melin wlân Glandare ei chodi ger Canon Street a High Street, ond ym 1862 fe drowyd yr adeilad yn ffatri esgidiau Halewood. Bu'r ffatri'n gwerthu'i hesgidiau drwy siopau yn Aberdâr ac ar draws y De, nes cau'i drysau ryw bryd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Chwith: Ffatri Esgidiau Halewood - High Street
Walford James oedd yr organydd sefydlog yn y Rex pan agorodd y sinema'i drysau ym mis Ebrill 1939. Offeryn ysblennydd oedd yr organ Compton yno, mewn ffrâm wydr yn llaw goleuadau stribed. Byddai'r organ yn codi drwy lawr y llwyfan, a lliwiau'r goleuadau'n newid yn awtomatig. Byddai Walford James yn rhoi datganiad organ deirgwaith y dydd. Mae'r organ Compton yn dal mewn bodolaeth – darllenwch ei hanes yma . O'r holl sinemâu yng Nghymoedd y De, roedd y Rex gyda'r mwyaf moethus, gyda lle i 1,700 o wylwyr. Roedd y gwaith addurno'n llawn lliwiau llachar a siapiau geometraidd caled arddull Art Deco . Ond ar i lawr oedd hanes y Rex ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chaeodd y drysau ym 1981. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym mis Awst 1990, ar gyfer maes parcio newydd.

De: Tom Joseph wrth yr organ Compton yn sinema'r Rex
Tom Joseph wrth yr organ Compton yn sinema'r Rex
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf