header Cymraeg English
Green Fach  
Clirio Green Fach er mwyn adeiladu'r Llyfrgell Newydd

ae'r delweddau hyn, tynnwyd un ar droad yr Ugeinfed Ganrif a'r llall yn 2003, yn bortread dramatig o newidiadau ardal Greenfach yn ystod y blynyddoedd cyfamserol. O gymharu'r ddau ffotograff gellir gweld Capel Siloa, tyrrau Eglwys St Elfan a'r Constitutional Club ond nid oes llawer arall. Erbyn hyn, saif adeiladau'r goron ar safle Gadlys Row ar ochr chwith y ffotograff tra, ar ochr dde y ffotograff, dymchwelwyd Dare Place, Dare Street a Chapel Street ac yn eu lle ceir maes parcio.

Clirio Green Fach er mwyn adeiladu'r Llyfrgell Newydd

 

Ym 1961 dechreuodd y gwaith i glirio ardal Greenfach er mwyn adeiladu llyfrgell newydd ac adeiladau'r cyngor. Dinistriwyd tafarn y Green Dragon Inn, a oedd wedi bod ar agor ers 1835, a sawl stryd ac adeilad arall. Adeiladwyd Greenfach ar safle hen bentref Aberdâr yn y 1840au a'r 1850au ar yr un adeg â rhan helaeth o ganol y dref.

Mewn byr o dro, datblygodd Greenfach enw yn ardal leiaf dymunol y dref. Yn adroddiad 1853 Thomas Webster Rammell ar gyflwr glanweithdra Aberdâr disgrifiwyd Greenfach yn lle; "where there are a large number of houses crowded together upon a very limited space, without any street paving, drainage of any kind, or ventilation. These houses have, most of them, been lately built." Hefyd, yn y 19eg Ganrif cysylltwyd ardal Greenfach â throsedd ac ymddygiad anweddus.
Green Street
Dare Street
Dare Street

Addurnwyd ar gyfer coroni Brenin George VI a'r Frenhines Elizabeth ym mis Mai 1937. Gwelir yn y llun pa mor fach oedd tai ardal Greenfach a pha mor agos at ei gilydd yr oeddent. Byddai nifer o'r tai a gafodd eu codi yn ystod canol y 19eg Ganrif wedi cael eu hadeiladu yn rhad gan ddefnyddio maen brasnadd ac iddynt seiliau bas. Am y rhesymau hyn cafodd tai ardal Greenfach eu dymchwel yn ystod y 1960au cynnar.

 

 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf