header Cymraeg English
Clwb Cyfansoddiadol Aberdâr  
Clwb Cyfansoddiadol Aberdâr

Cafodd Clwb Cyfansoddiadol cyntaf Aberdâr ei sefydlu ym 1884, mewn adeilad yn Commercial Place (Victoria Square). Symudodd y Clwb i adeilad mwy helaeth yn 28, Canon Street yn 1885, ond gymaint oedd twf y clwb nes bod yr aelodau'n gorfod chwilio am safle mwy helaeth byth.

Ym 1888, fe brynodd yr Arglwydd Merthyr darn o dir i godi Clwb Cyfansoddiadol Aberdâr arno. Cafodd y cynlluniau ar gyfer yr adeilad eu cymeradwyo, ac erbyn mis Gorffennaf 1893 roedd y gwaith wedi'i gwblhau. Roedd y Clwb Cyfansoddiadol yn cynnwys 3 o siopau, bar, a'r Neuadd Gyfansoddiadol ar y llawr gwaelod; ystafell filiards, ystafell cardiau, ystafell ddarllen, llyfrgell, ac ystafell bwyllgor ar y llawr cyntaf; ac ar y trydydd llawr roedd y ceginau, gyda lifft i'r llawr gwaelod.
Daeth J. M. Mclean, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngaherdydd, i agor y Clwb yn swyddogol mewn seremoni ar 15f ed Mawrth 1894.
Roedd pensaernïaeth y Clwb Cyfansoddiadol yn llawer mwy addurnol adeg ei adeiladu na beth yw hi heddiw. Mae'r llun hwn yn dangos y balwstrad a redai ar hyd y to, t w r y cloc, a'r porth addurnol mawreddog.
Daeth y Neuadd Gyfansoddiadol yn ganolfan adloniant o bwys i drigolion Aberdâr. Câi'i defnyddio mewn sawl ffordd wahanol, gan ddibynnu ar beth oedd yn ffasiynol ar y pryd. Ym 1905, cafodd y Neuadd ei hailenwi'n Palace Theatre of Varieties , ond Palace Theatre of Varieties oedd hi o 1909 ymlaen. Pan gaeoedd y Theatr, cafodd y Neuadd ei haddasu'n ystafell ddawnsio ac ystafell gyngerdd. Pan wawriodd y Chwedeau, dyma'r Neuadd yn ailagor fel y Go-Go Bar , ac, yn ddiweddarch, Decker's Nightclub oedd yr hen le.
soddiadol Aberdâr
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf