header Cymraeg English
Commercial Street, Aberdâr  

Tua diwedd yr 1840au, dechreuodd Commercial Street ddatblygu'n un o brif ganolfannau masnach Aberdâr. Dyma lun sy'n dangos mor brysur oedd canol y dref pan oedd Aberdâr ar ei mwyaf ffyniannus. Mae un o fysiau troli Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr yn ymlwybro i fyny'r stryd rhwng y cerddwyr. Cynyddodd poblogaeth Aberdâr drwy'r 19eg ganrif, a chyrraedd 50,830 ym 1911. Cyrhaeddodd y boblogaeth uchafbwynt o 55,007 erbyn 1921, ond dechreuodd fynd i lawr eto wrth i'r dirwasgiad yn y diwydiant glo waethygu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y boblogaeth wedi dirywio i 38,930. Mae'r boblogaeth wedi dal yn weddol sefydlog ers hynny.

Commercial Street, Aberdâr
Mae'r llun hwn yn dangos grwp o filwyr yn sefyll o flaen adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc rywbryd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 23, Commercial Street oedd adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc, ar y gornel â Gloucester Street.
Mae'n debyg bod y milwyr hyn yn aros yn Nhy Windsor, Trecynon. Cafodd Ty Windsor ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel fel ysbyty i aelodau o'r lluoedd arfog oedd wedi cael eu clwyfo. Cafodd yr ysbyty milwrol ei agor gan yr Arglwydd Aberdâr. Cymdeithas y Groes Goch oedd yn rhedeg yr ysbyty, ac roedd lle yno i 60 o gleifion.
Ysbyty oedd ar y safle yn wreiddiol, yn ôl ym 1875. Cafodd y lle'i droi'n ysgol ddiwydiannol wedyn gan Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful. Roedd lle yn yr ysgol i 120 o blant tlawd ac amddifad. Bydden nhw wedi dysgu crefftau fel amaethu, neu wneud esgidiau, er mwyn iddyn nhw fedru ennill bywoliaeth ar ôl ymadael â'r ysgol.

Mae'r llun hwn yn dangos grwp o filwyr yn sefyll o flaen adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc rywbryd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 23, Commercial Street oedd adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc, ar y gornel â Gloucester Street.

 

Mae pwn isaf Commercial Street wedi newid yn aruthrol ers tynnu'r llun hwn tua diwedd y 19 eg ganrif. Mae'r llun yn dangos y Bont Haearn wreiddiol oedd yn cysylltu ganol Aberdâr ag Abernant . Mae'n debyg bod y bont wedi'i chodi cyn 1844, gan i westy'r Iron Bridge Hotel agor y flwyddyn honno. Y gwesty hwnnw sydd ar ochr chwith y llun, gyferbyn â'r Commercial Hotel . Caeodd yr Iron Bridge ym 1982. Ym 1983, cafodd y ddau westy, a nifer o adeiladau masnachol eraill, eu tynnu i lawr yn ystod gwaith adeiladu Ffordd Osgoi Aberdâr.

De: Y Bont Haearn, Commercial Street
Y Bont Haearn, Commercial Street
 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf