header Cymraeg English
Abercynon  
Gwesty'r Junction, Abercynon tua 1900

Fel croesfan y gwahanol ffyrdd o deithio y dechreuodd pentref Abercynon dyfu yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Roedd Camlas Morgannwg, Camlas Aberdâr, a Rheilffordd Dyffryn Taf i gyd yn mynd drwy'r ardal, ac roedd angen gwestyau a thafarnau i'r teithwyr yn ogystal ag i weithwyr y camlesi a'r rheilffyrdd. Dyna pam y cafodd y Junction , y Swan , y Boatman , y New Inn , y Navigation , a'r Traveller's Rest eu sefydlu .

Chwith: Gwesty'r Junction, Abercynon tua 1900

Cafodd llythyrdy a siop bob peth dan yr un to'u hagor, a bu raid codi tai i'r holl weithwyr. Roedd nifer o enwau ar lafar i'r pentref 'Navigation', 'Y Basin' ac 'Aberdare Junction', bob un yn sôn am y gwahamol ffyrdd o deithio. Ym 1889, dechreuodd cwmnïau glo gloddio pyllau, a chafodd strydoedd newydd eu hadeiladu ar hyd ochrau'r cwm i ddarparu cartrefi i'r gweithwyr oedd yn heidio i mewn. Ymhlith y strydoedd yma roedd Martin's Terrace, Station Terrace (Ynysmeurig Road erbyn hyn), a Catherine Street (Herbert Street bellach). Roedd rhaid cael un enw i'r pentre, a daeth pobl at ei gilydd mewn cyfarfod cyhoeddus ym 1893 i ddewis yr enw Abercynon. Yn ogystal â'r siopau a'r gweithfeydd, fe godwyd nifer o adeiladau pwysig eraill gan gynnwys Ysgol y Navigation ym 1896, a Neuadd y Gweithwyr ym 1905.

Ymhlith y bobl a ddaeth i Abercynon i fyw roedd aelodau nifer o enwadau a chyrff crefyddol. Cododd y bobl yma gapeli ac eglwysi i ddiwallu'u hangenion crefyddol. Agorodd y Bedyddwyr Eglwys Calfaria ym 1894, dechreuodd yr Annibynwyr Bethania ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chysegrodd Eglwys Loegr eglwys newydd, Sant Dunwyd, ym 1908.


lancynon Terrace ac Eglwys Calfaria (B.)

Glancynon Terrace ac Eglwys Calfaria (B.)

Diwydiant Glo Abercynon

 
Mae gwythiennau glo Abercynon yn gorwedd yn ddwfn dan yr wyneb. Un enghraifft yw gwythïen Gelli-deg, sy'n 146 o lathenni dan yr ywneb yn Aberdâr, a 170 o lathenni dan yr wyneb yn Abercynon. Dyna pam fod glofeydd Abercynon wedi dechrau tua diwedd y 19eg ganrif, yn ddiweddarach na'r pyllau ymhellach i fyny Cwm Cynon. Busnes costus iawn yw cloddio am lo fodd bynnag, ac fe fyddai cloddio yn Abercynon yn gofyn am byllau dyfnach a mwy o faint. Er hynny fe lwyddodd peirianwyr i drechu'r problemau yma, a bu'r glofeydd llwyddiannus yma yn ffynnu yn Abercynon am gyfnod.

 

Roedd Glofa Abercynon (Glofa Dowlais Caerdydd) gyda'r dyfnaf ym maes glo'r De adeg ei gloddio.

Roedd Glofa Abercynon (Glofa Dowlais Caerdydd) gyda'r dyfnaf ym maes glo'r De adeg ei gloddio.

Glofa Abercynon

Glofa Dowlais Caerdydd oedd enw gwreiddiol y lofa yma, gan taw Cwmni Haearn Dowlais oedd wedi dechrau'r pwll. Dechreuon nhw gloddio'r pwll ym 1889, ond aethon nhw i drybini'n fuan iawn gan fod gormod o ddwr ynddo. Bu raid gosod pympiau i dynnu'r dwr allan, ac erbyn 1906 roedd y lofa gyfan wedi'i chwblhau. Yr adeg honno, dyma oedd y pyllau dyfnaf ym maes glo'r De i gyd. Newidiodd Cwmni Haearn Dowlais ei enw i Guest Keen and Company ym 1901, a daeth hwnnw yn rhan o Guest Keen and Nettlefolds Ltd. - GKN - ym 1903. Yn nes ymlaen, fe roes GKN y gorau i gloddio am lo yma yn y De. Daeth y pwll yn eiddo i Welsh Associated Collieries Ltd erbyn 1931. Unodd y cwmni yma â Powell Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell Duffryn Associated Collieries Ltd. ym 1935. Daeth y lofa dan reolaeth y Bwrdd Glo Gwladol adeg gwladoli'r diwydiant glo ym 1947. Ym 1971, cysylltodd y Bwrdd Glo'r pwll yma â Glofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl, dan ddaear. Caeodd y Bwrdd Glo'r Pwll ym 1988.

Glofa Carne Park

Glofa gymharol fechan oedd hon, yn cynnwys nifer o lefelau i'r de-orllewin o Eglwys Dunwyd. Nid oes neb yn sicr pryd yn gywir y dechreuodd y lofa yma. Roedd y lofa'n gweithio erbyn 1864, er nad yw enw'r perchennog ar gael bellach. Roedd y lofa yn nwylo'r Carne Park Colliery Co. Ltd., ond aeth yn fethdalwr ym 1911. Er hyn roedd hi'n gweithio eto ym 1916, dan reolaeth y Brodyr Richardson. Ni chafodd y lofa'i gwladoli ym 1947, ac erbyn 1957 roedd hi'n eiddo i D. Leonard a'i Bartneriaid. Nid oes cofnod o ddyddiad cau'r lofa.

De: Cyffordd Abercynon tua 1905


Cyffordd Abercynon tua 1905

Richard Trevithick

 

Mae copi o loco gwreiddiol Trevithick

Mae copi o loco gwreiddiol Trevithick

Peiriannydd o Gernyw oedd Richard Trevithick, y cyntaf i redeg locomotif ager ar reilffordd. Ac yntau'n gweithio i Samuel Homfray yng ngwaith haearn Pen-y-Darren ger Merthyr Tudful, fe fentrodd ei gyflogwr 500 gini y gallai Trevithick dynnu deg tunnell o haearn mewn trên tu ôl i locomotif ager o Ferthyr i Fasn Abercynon. Adeiladodd Trevithick injan ager wasgedd uchel i dynnu trên yn cludo deg tunnell o haearn, saith deg o ddynion, a phump o wagenni. Yn anffodus, fe drawodd corn mwg yr injan yn erbyn pont isel yn fuan ar ôl cychwyn, a chafodd y corn mwg a'r bont ryw faint o ddifrod. Atgyweiriodd Trevithick y corn mwg, ac ailgychwyn ar ei daith. Cwblhaodd y daith 9 ½ milltir i Abercynon ar gyflymdra o 5 milltir yr awr. Diolch i Richard Trevithick, roedd Samuel Homfray wedi ennill ei 500 gini.

   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf