header Cymraeg English
Aberdare Leader 12fed Tachwedd 1910  
   

Isod : Trawsgrifiad

Y Streic

Terfysgoedd difrifol yn Aberaman

Chwe deg o bobl wedi'u clwyfo

Torri ffenestri yn Aberaman

 

Ar nos Iau, cafodd cerrig eu taflu o bob cyfeiriad ac fe dorrwyd nifer o ffenestri. Cafodd carreg fawr ei thaflu trwy ffenestr siop Mr Gwilym Evans, y groser, Cardiff Road. Cafodd pedwar aderyn gwerthfawr, oedd wedi ennill gwobrau, eu dwyn o un o'r tai mas yn Belmont Terrace.

Roedd terfysgoedd difrifol ar nos y Fawrth. Trodd y streicwyr eu sylw ar olchfeydd y pyllau glo sy'n eiddo i gwmni Powell Duffryn. Rhagwelodd neb bod unrhywbeth chwithig yn mynd i ddigwydd yn yr ardal er gwaetha'r ffaith bod y ddadl ar fin hoelio sylw'r Bwrdd Cymodi'r Diwydiant Glo. O ganlyniad felly, roedd y terfysgoedd yn annisgwyl, a lledodd y newyddion yn gyflym iawn ar draws yr ardal bod pobl yn ymosod ar olchfa'r pwll glo.

Ymgasglodd 200 i 300 o bobl y tu allan i Sefydliad Aberaman, a gorymdeithio fel un corff i ganol yr anghydfod, rhwng Cwm-bach ac Aberaman, rhyw filltir a hanner o Aberdâr.

Roedd cannoedd o fenywod yn cydgerdded â'r streicwyr. Pan oedden nhw o fewn ychydig gannoedd o lathenni i'r olchfa, fe anfonon nhw rhyw 200 o lanciau ifanc o'u blaenau i wthio ffin yr olchfa, ond cafon nhw'u chwalu gan yr heddlu. Roedd tua 30 o blismyn yn gwarchod yr olchfa, ond doedden nhw ddim wedi rhagweld trafferthion difrifol, ac ar yr adeg cyrhaeddodd y 200 o ddynion ifanc roedd cyfran o'r plismyn yn cael te. Serch hynny, cawson nhw'u galw ar unwaith, ac yn y man, roedden nhw wyneb yn wyneb â 2,000 o streicwyr, nifer ohonyn nhw wedi'u harfogi â ffyn ag arfau eraill.

Ymdrefnodd yr heddlu yn rheng o flaen i'r pwerdy a'r adeiladau eraill, ond yn fuan iawn roedden nhw'n wrthrych protest elyniaethus, a chafodd pob math o bethau'u hyrddio atyn nhw, heb unrhyw ystyriaeth i fywyd, corff ac eiddo.

Dringodd y streicwyr dros ffens, ac am ba reswm does ond modd tybio beth oedd, dyma nhw'n rhoi'r gwellt a oedd yn cael ei gadw mewn wagen drên ar dân.

Yn fuan roedd tân mawr, ond cafodd y tân ei ddiffodd yn gyflym iawn, er iddo fudlosgi am oriau wedi hynny.


Chiwstrellodd y plismyn bibell ddwr ar y streicwyr, ond oherwydd na chafodd hyn ddim llawer o effaith arnyn nhw, bu rhaid i'r plismyn roi'r gorau iddi hi. Hyrddiodd y dorf gerrig yn ddibaid at y plismyn unwaith eto a chafodd sawl un ei glwyfo, Rees - Arolygydd yr Heddlu, Llan-daf; Y Rhingyll-Griffiths, Dociau'r Barri: a chafodd dau heddwas arall eu clwyfo'n ddifrifol, y cyntaf yn enwedig, a gafodd archoll cas ar ei wyneb.
O weld bod y protestwyr mewn hwyliau ciaidd, roedd rhaid i'r plismyn ddefnyddio rhagor o rym, a chawson nhw'u gorfodi i rhuthro at y dorf â phastynnau noeth.

Profodd y dull yma'n llwyddiannus, a gwasgarodd y dorf i bob cyfeiriad, gyda channoedd yn rhedeg ar hyd y rheilffordd ac i lawr hyd lan y gamlas.

Gwelwyd ddigwyddiadau hynod ar lan y gamlas. O ganlyniad i'r rhuthr cafodd sawl un ei wthio i mewn i'r gamlas, ond fe lwyddon nhw i ddringo nôl i'r lan. Mae'n cael ei ddweud bod tua 60 o streicwyr wedi'u hanafu. Llosgodd un dyn ei law yn ddifrifol o wael ar wifren drydan fyw, a thorrodd dyn arall ei goes. Roedd y mwyafrif o'r anafiadau eraill yn anafiadau difrifol i'r pen.

Cafodd gohebydd a gafodd ei gymryd i fod yn 'fradwr' trwy gamgymeriad ei fwrw ar ei ben a'i benelin â cherrig a ffyn.

Aberdare Leader 12fed Tachwedd 1910
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf