Dim ond pentref bach gydag ychydig o fythynnod a ffermydd oedd Ynys-y-bwl yn wreiddiol yn ôl map degwm a chofrestr plwyf Llanwynno ym 1842. Dyma ganolbwynt y plwyf, lle'r oedd yr afon Ffrwd yn llifo i afon Clydach. Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd tua 200 o bobl yn byw yn y pentref a'r ffermydd cyfagos. Ffermwyr, gweision neu forwynion fferm oedd y rhan fwyaf ohonynt wrth eu galwedigaeth. Ymhlith gweithwyr eraill y pentref, roedd gof, dyn coed, saer maen, crydd, teiliwr a thafarnwr Ynysybwl Inn. Ni newidiodd pethau fawr ddim dros y 40 mlynedd nesaf, ar wahân i godi ambell fwthyn newydd.
|
Hen bentref Ynys-y-bwl
|
|
Yn wir, mae cyfrifiad 1881 yn dangos i boblogaeth Ynys-y-bwl gynyddu i ddim mwy na 270 o bobl. Ffaith bwysig arall yng nghyfrifiad 1881 yw nad oes yr un glöwr yn y pentref. Ond mae arolwg map ordnans 1884 yn dangos fod newid mawr ar droed yn Ynys-y-bwl. Er bod lefel lo Mynachdy i'w gweld ar y map, yr hyn a weddnewidiodd y pentref i fod yn dref lofaol oedd agor Glofa Lady Windsor ar 16 Mehefin 1884.
Siop ddillad Pugh's – ymfudodd y teulu i Ganada yn ystod streic 1926 |
Disgrifiwyd newidiadau mawr yr oes gan un o hynafiaid Ynys-y-bwl, William Thomas 1843-1890, neu Glanffrwd i eisteddfodwyr a charedigion llenyddol y fro. Ysgrifennodd Hanes Plwyf Llanwynno mewn wythnosolyn o'r enw ‘Y Darian' ym 1888, gyda disgrifiadau gwych am hynt a helynt y brodorion a'u ffordd o fyw.
"The Old Mill", Ynys-y-bwl |
|
Yn ystod yr 1880au, daeth David Davies Llandinam (Davies the Ocean) i bentref Ynys-y-bwl, yn argyhoeddedig fod cyfoeth o lo dwfn yno . Ar ôl i ganlyniadau profion yn y Graig-ddu ddangos ei fod yn llygad ei le, torrwyd y dywarchen gyntaf ar 16 Mehefin 1884. Erbyn mis Medi'r flwyddyn honno, roedd 200 yn cael eu cyflogi yn y lofa newydd – llawer ohonynt yn hanu o bentref genedigol David Davies, Llandinam.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Glofa Lady Windsor yn cynhyrchu toreth o lo golosg o'r radd flaenaf, agorwyd gwesty moethus ‘The Windsor Hotel' a dechreuwyd adeiladu 300 o fythynnod newydd i'r glowyr. Codwyd ffyrdd a gorsaf reilffordd newydd, a chyn pen dim, roedd Ynys-y-bwl yng nghanol bwrlwm diwydiannol.
Roedd y glowyr yn derbyn cyflog pitw. Ym 1886, roeddynt yn ennill rhwng 3s 6d a 5s 0d yr wythnos ac roedd tlodi a newyn yn hynod gyffredin – eto i gyd, roedd cyfranddeiliaid Glofa Lady Windsor yn cymryd 50% o'r elw. Codwyd tai mawr crand i'r rheolwyr, Tynywern – 1888 a Glynderwen – 1904.
Roedd yr amodau gwaith dan ddaear yn wael, gyda'r glowyr yn gorfod defnyddio lampau olew hyd yn oed ar ôl streic 1921. Rhaid aros tan 1930 cyn i berchnogion y lofa ystyried amodau gwaith a lles eu gweithwyr ac ym 1931, Glofa Lady Windsor oedd un o'r cyntaf yng Nghymru i gynnig baddondai pen pwll ac ystafell cymorth cyntaf/meddygol. Roedd croeso hefyd i'r trigolion lleol ddefnyddio'r baddonau am dâl bychan (3d i 6d).
Cafodd y diwydiant glo ei wladoli ar 1 Ionawr 1947 ac erbyn y 1950au roedd mwy a mwy o bobl yn gweithio yn Ystâd Fusnes Trefforest gerllaw gan greu prinder gweithwyr ym meysydd glo'r De. Er i'r rheolwyr gynnig gwaith i bobl heb ddinasyddiaeth o wahanol rannau o Ewrop, gyda lwfansau arbennig, doedd hyd yn oed hyn ddim yn ddigon i fodloni anghenion llafur y pyllau. Erbyn 1956, roedd angen cloddio'n ddyfnach islaw Glofa Lady Windsor gan fod y gweithwyr wedi cloddio bron i holl lo'r wythïen uchaf.
Roedd undod traddodiadol y glowyr dan straen, a phrofwyd eu hamynedd i'r eithaf wrth i lowyr golli swyddi mewn pyllau bach ledled Prydain a chael cynnig gwaith yn Ynys-y-bwl. Adeiladwyd tai parod i'r glowyr a'u teuluoedd ym Muarth-y-capel, ac ar 10 Ebrill 1964, ymgartrefodd sawl teulu o Swydd Durham yn Ynys-y-bwl.
Daeth y gwaith i ben am ddeufis ym 1972 oherwydd streic, ond ym 1973, fe lansiodd Bwrdd Glo Prydain ‘Plan for Coal' gan neilltuo dros £100,000,000 ar gyfer meysydd glo'r De yn unig. Ym 1974, cysylltwyd Glofa Lady Windsor â Glofa Abercynon trwy ddau dwnnel ochr yn ochr â'i gilydd o dan y ddaear - un twnnel 1,000 metr a'r llall bron i filltir o hyd. Oherwydd yr uniad hwn, dywedodd y Bwrdd Glo (NCB) ym 1977 mai Glofa Lady Windsor/Abercynon oedd yr un lleiaf tebygol o gau yng Nghymru. Ond nid felly y bu. Bu streic 12 mis o hyd ym 1984, a chaeodd Glofa Lady Windsor/Abercynon am y tro olaf ym 1988 - gyda gwerth 25 mlynedd o lo ar ôl heb ei gloddio. |