Glan-Bad | |
Pentref tair milltir i'r de o Bontypridd yw Glan-bad, ar lwybr yr hen Glamorganshire Canal ers talwm, a'r enw Saesneg ‘Upper Boat' yn enw ar y dafarn leol yn ogystal â'r ardal. Mae enw'r pentref yn cyfeirio at un o'r tri bad oedd yn cludo teithwyr dros afon Taf. Roedd un bad yn Ffynnon Taf; un arall ymhellach i fyny'r afon yn Willowford; a'r olaf wedi'i angori ger tafarn Upper Boat Inn. Dim ond 150 o bobl oedd yn byw yng Nglan-bad yn ôl cyfrifiad 1841. | |
Roedd y gamlas yn creu gwaith i gychwyr, ceidwaid lociau a seiri coed. Roedd rhai'n gweithio yng nglofeydd bychain y fro fel Glofa Groes-wen neu Lofa Maes-mawr ar ochr arall afon Taf, eraill yn gweithio yn ffowndri haearn Melin-gorwg, neu yn y felin flawd neu ar ffermydd. Roedd y rhan fwyaf o'r pentrefwyr yn byw mewn tai teras o boptu heol Caerdydd, sef Williams Place yn ddiweddarach. Ac yng nghanol y tai teras dwyreiniol, roedd Capel Carmel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg a adeiladwyd ym 1839.
Chwith: Glamorgan Canal ger Glan-bad
|
|
Yn wahanol i Gilfynydd neu Drehopcyn, ni agorodd unrhyw lofa fawr yn ardal Glan-bad yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ni chynyddodd y boblogaeth fawr ddim, ac erbyn 1901, dim ond rhyw 300 oedd yn byw yno. Roedd y Glamorganshire Canal a ffowndri Melin-gorwg yn dechrau dirywio. Er gwaetha'r ffaith nad oedd glofa fawr yn y pentref, roedd bron pawb o'r pentrefwyr yn gweithio yn y diwydiant glo. Dde: The Upper Boat Inn, tua 1977
|
|
Erbyn yr ugeinfed ganrif, gwelwyd tro ar fyd yng Nglan-bad a'r cyffiniau. Ar 30 Ebrill 1902, gosodwyd carreg sylfaen Gorsaf Bwer Glan-bad. Cwmni South Wales Electrical Power Distribution Company oedd biau'r orsaf bwer, a adeiladwyd ar lan orllewinol afon Taf. Ar y lan ddwyreiniol, aeth y Cardiff Railway Company ati i osod lein reilffordd rhwng Caerdydd a Rhydfelen. Y nod oedd dilyn y lein i Bontypridd, ond ni wireddwyd y syniad oherwydd gwrthwynebiad cwmnïau eraill. Chwith: Dymchwel hen orsaf bwer Glan-bad, Rhagfyr 1976 |
|
Er hynny, cafodd Glan-bad ei drawsnewid yn llwyr ym mis Gorffennaf 1936 pan ddewiswyd safle Ystâd Ddiwydiannol Trefforest gerllaw - ac ymhen blwyddyn, roedd tair ffatri'n cyflogi 69 o bobl yno. Wrth i'r ystâd ehangu, buan y diflannodd y caeau i'r de o'r pentref ac ar lan orllewinol afon Taf. Codwyd tai parod ar frys ym Mhont Pentre ar gyfer y gweithwyr newydd, ond cymharol fyr fu eu hoes. Dde: Capel Carmel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, a gaeodd ym 1987
|
|
Cawsant eu dymchwel ar ddechrau'r 1970au er mwyn adeiladu cefnffordd yr A470. Dyna hefyd oedd tynged Gorsaf Bwer Glan-bad a gaeodd ym 1972. Cafodd ei dymchwel ar 14 Rhagfyr 1976. Ni chodwyd llawer o dai newydd yng Nglan-bad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn hytrach, prif nodwedd yr ardal yw ei harchfarchnadoedd mawr a modurdai Griffin Mill sy'n sefyll ar safle'r hen felin flawd. | |