Trefforest | |
I uchelgais a dyheadau diwydiannol y teulu Crawshay o Ferthyr Tudful y mae'r diolch am ddatblygiad Trefforest i fod yn bentref modern fel y mae heddiw. Dechreuodd eu cysylltiad â Threfforest ym 1794 pan brynodd William Crawshay ddarn o dir yn Ynys-pen-llwch lle'r oedd melin fechan ar gyfer rholio tunplat. Daeth y fenter hon yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig ar ôl agor y Glamorganshire Canal ym 1794 i gludo cynnyrch y cwmni. |
|
Wedi blynyddoedd o ehangu a moderneiddio, dyma'r gwaith tun mwyaf ym Mhrydain erbyn 1836. Yn ystod y cyfnod hwn, prynodd y Crawshays waith haearn bach ar dir cyfagos yn Nhrefforest. Ehangwyd y safle hwnnw i greu gwaith haearn Taff Vale, a unwyd gyda'r gwaith tun i greu Fforest Works. Erbyn 1835, roedd y gweithfeydd hyn dan reolaeth uniongyrchol Francis Crawshay oedd wedi symud i Drefforest o Hirwaun (lle'r oedd y teulu'n berchen ar waith haearn) gan ymgartrefu yn Forest House - safle Prifysgol Morgannwg heddiw. | |
Mae hyn yn engrafiad tua 1900 yn dangos yn glir Trefforest fel yr oedd ar y fron cyfnod weld Glyn-taf |
Aeth y pentref o nerth i nerth yn sgil llwyddiant y ddau ddiwydiant a'r cysylltiad cynnar â masnach lo Cwm Rhondda, diolch i dramffordd Dr Griffiths rhwng Dinas a Threfforest. Cafodd llawer o weithwyr eu denu i'r ardal, gan arwain at gynnydd sylweddol mewn gwaith adeiladu a masnach. Cyn pen dim, codwyd tai newydd i'r gweithwyr ar strydoedd fel Long Row, Forest Row, River Row a Market Street, ac agorodd siopau i gynnig nwyddau iddynt. Agorodd tafarnau newydd hefyd, ac mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1884 yn nodi pump ohonynt yn cynnwys y Ballar's Arms, The Greyhound Inn a Danygraig Arms. |
Diwallwyd anghenion crefyddol y trigolion hefyd, ac agorwyd nifer o gapeli Anghydffurfiaeth - gyda Chapel y Bedyddwyr Cymraeg (1841) a Chapel Methodistiaid Saron (1843) ymysg y cynharaf. Trefforest oedd y pentref cyntaf yn y cylch i gael swyddfa bost, ac roedd post Pontypridd yn cael ei anfon i Swyddfa Bost Trefforest i'w ddosbarthu. Yma hefyd yr oedd un o farchnadoedd cynharaf yr ardal, a chynhaliwyd marchnad reolaidd yn Market Square (Castle Square yn ddiweddarach) o 1803 ymlaen. Ond rhaid aros tan 1847 cyn agor gorsaf drenau Trefforest. |
Long Row Terrace oedd un o strydoedd cyntaf Trefforest. Dyma lun ohoni ym 1977 |
University of Glamorgan (Forest House) | |
Dechreuodd William Crawshay II (1788 -1867) y gwaith o foderneiddio Gwaith Tunplat Trefforest yn nechrau'r 1830au. Collodd ddiddordeb yn y gwaith, fodd bynnag, pan etifeddodd ymerodraeth Crawshay ym 1834 ar ôl marwolaeth ei dad, William Crawshay I. Felly, rhoddwyd y cyfrifoldeb o gwblhau'r broses foderneiddio yn nwylo mab William II, Francis Crawshay (1811 -1878). Erbyn 1836, roedd y gweithfeydd yn cynhyrchu'n llawn unwaith eto a symudodd Francis i dy o'r enw Forest House. Adeiladwyd y t y crand hwn ar gyfer ei daid, ar safle fferm Fforest Isaf. Chwith: Francis Crawshay |
|
Mae Forest House, sy'n perthyn i Brifysgol Morgannwg bellach ac yn cael ei adnabod fel ‘Bloc A', yn adeilad rhestredig. O'r tu allan, mae'n debyg i'r hyn yr oedd yn nyddiau Francis Crawshay. Ond mae'r tiroedd o amgylch y t y wedi gweld byd o wahaniaeth dros y blynyddoedd. Yn niwedd y 1880au, gosododd Barry Railway Company gledrau oedd yn mynd ar hyd y tir y tu ôl i'r ty cyn mynd drwy dwnnel Trefforest ac ymlaen i Bontypridd. Diflannodd y perllannau ar y bryniau islaw'r rheilffordd ar droad yr ugeinfed ganrif wrth i strydoedd newydd gael eu hadeiladu, fel Forest Grove, Bertha Street a Hilda Street. Dde: Forest House
|
|
Meini hirion Francis Crawshay |
Yn ystod ei oes, cododd Francis Crawshay nifer o feini hirion yma ac acw ar dir Forest House. Ar ôl iddo farw, aeth ei frawd Henry Crawshay (1812 -1879) ati i osod y cerrig hyn mewn cylch tebyg i Gylch yr Orsedd. Symudwyd y meini yn y 1950au er mwyn gwneud lle i ehangu Coleg Technegol Morgannwg. Ar ôl i deulu'r Crawshay adael Forest House, fe'i prynwyd gan gyfreithiwr lleol o'r enw Walter Morgan 1853-1901. Ef sefydlodd gangen Pontypridd o gwmni cyfreithwyr, Bruce and Nicholas, oedd yn gweithio'n agos gyda Ffederasiwn y Glowyr De Cymru. Ym 1913, gwerthwyd y ty gan ei weddw ar gyfer y South Wales and Monmouthshire School of Mines. Tua'r un pryd, symudwyd injan weindio a phwmpio John Calvert (1845) o Lofa Gelliwion hefyd. Sefydlwyd cyfansoddiad yr ysgol trwy weithred ymddiriedolaeth gydag Iarll Plymouth, Arglwydd Merthyr a David Davies fel yr ymddiriedolwyr, a phenodwyd George Knox (1869 -1950) yn brifathro. Ariannwyd yr ysgol trwy gyfraniad treth y glofeydd oedd wedi tanysgrifio iddi. Parhaodd y tanysgrifiad preifat hwn tan 1928 pan ddaeth yr ysgol dan ofal Awdurdod Addysg Morgannwg. |
O 1940, cafodd y coleg ei ailenwi'n School of Mines and Technology. Er gwaetha'r enw newydd, roedd yr adeiladau'n debyg i'r hyn yr oeddynt ym 1913. Roedd pedair adran yn y coleg, gyda 150 o fyfyrwyr llawn amser ac 800 o rai rhan-amser. Ar ôl cyfnod y rhyfel, ehangwyd nifer y cyrsiau. Agorwyd llawer o weithdai a labordai parod a chodwyd pedair ystafell ddosbarth alwminiwm y tu ôl i Forest House. Ym 1956, cwblhawyd y gwaith o godi bloc pedwar llawr ger Forest House. Newidiwyd statws yr ysgol ar hyd y blynyddoedd i adlewyrchu ei llwyddiant wrth ateb y galw cynyddol am addysg uwch, gan ddatblygu'n gyflym o fod yn Goleg Technegol (1949), i Goleg Technegol (1958) a Pholytechnig (1970). | Yr injan bwmpio o Lofa Gelliwion |
A number of prefabricated workshops and laboratories were set up and four aluminium classrooms erected behind Forest House. In 1956 the building of a double-storey block near Forest House was completed. The school's success in catering for the growing demand on higher education was reflected in its changing status, progressing quickly from Technical College (1949), to College of Technology (1958) and on to Polytechnic (1970). | |
Ym 1967, agorwyd y llety preswyl cyntaf ar y campws gyda lle i gant o fyfyrwyr. Roedd 632 o fyfyrwyr llawn amser a thua 1,500 o fyfyrwyr rhan-amser yma ar y pryd. Ehangodd campws y coleg gydag adeilad aml-lawr i'r adran peirianneg sifil ac yna adeilad undeb y myfyrwyr, llyfrgell a'r adran fusnes. |
|