Tonyrefail | |
Daeth pentref Tonyrefail i fod yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Mae Thomas Morgan, un o hynafiaid y pentref, yn ategu hyn yn ei lyfr ‘Hanes Tonyrefail' ym 1899. | |
ae'n cofio siarad â nifer sy'n cofio'r adeg pan mai dim ond un ty oedd yn y pentref. Dechreuodd y pentref ddatblygu yn sgil mentergarwch Evan Pritchard. Roedd yn byw yn Collena House ar ael y bryn, uwchben y pentref lle sefydlodd melin wlân a melin gotwm. Adeiladodd system ddwr helaeth i yrru peiriannau'r melinau hyn, gan gynnwys cored dros afon Elái, ffrwd 400 llath, ceuffos a thri phwll. Dde: Collena House |
|
Arafodd pethau'n sylweddol ar ôl iddo farw ym 1795, ac ychydig iawn o dwf a datblygiad a welwyd yn negawdau cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr unig eithriad oedd agor siop y crydd. Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd 13 crydd yn byw yn Nhonyrefail, sef prif gyflogwr y pentref o bell ffordd. Chwith: Mill Street circa 1900 |
|
Roedd saith o lowyr a masnachwyr a chrefftwyr eraill hefyd yn byw yn y pentref ar y pryd, ond gwelwyd byd o wahaniaeth ugain mlynedd yn ddiweddarach. Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd nifer y glowyr wedi mwy na dyblu yn Nhonyrefail wrth i ychydig o lefelau bas a phyllau cloch agor ar ôl darganfod glo. Patrwm tebyg sydd i boblogaeth y pentref hefyd, a gynyddodd o 85 ym 1841 i 160 ym 1861. Dde: Y Gof - Tonyrefail |
|
Roedd dechrau'r 1860au yn nodi dechrau twf pellach yn hanes Tonyrefail. Y sbardun oedd adeiladu rheilffordd lydan trwy Gwm Elái, o Lantrisant i Donyrefail a Phenygraig, gan Ely Valley Railway Company. Daeth y lein i Donyrefail ym 1860 cyn ehangu i Benygraig ddwy flynedd wedyn. Aeth y cwmni rheilffordd ati i adeiladu tai yn Station Row hefyd, ac yn ôl cyfrifiad 1871, roedd tua 10 o weithwyr y rheilffordd a'u teuluoedd yn byw yno. | |
Capel y Ton |
rbyn hyn, roedd tai wedi'u hadeiladu bob ochr i Chapel Street a thair rhes fer oddi ar Collena Road ym 1862. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd poblogaeth yr ardal (gan gynnwys ardal Redgate) wedi cynyddu i dros 300. Datblygodd canolfan fasnachol Tonyrefail a chodwyd adeiladau crefyddol ac addysgol i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol y pentref. Agorwyd y swyddfa bost ym 1870 ar Chapel Street, a ailenwyd yn Stryd Fawr yn ddiweddarach. Cafodd Capel y Ton (Methodistiaid Calfinaidd), a adeiladwyd gyntaf ym 1791, ei ailadeiladu ym 1863, tra agorwyd Capel Ainon y Bedyddwyr flwyddyn ynghynt. Ar ôl agor festri newydd Capel y Ton ym 1857, sefydlwyd Ysgol Brydeinig newydd. |
Agorwyd adeilad pwrpasol i'r Ysgol Brydeinig ym 1868. Datblygodd pethau'n gyflym iawn o 1870au ymlaen wrth i byllau glo dwfn agor yn agos i Donyrefail Roedd glofeydd T y Du, Collena, Cil Ely, Ely Merthyr a'r Glyn o fewn milltir a hanner i ganol y pentref, yn ôl y map ordnans cyntaf ym 1874. Codwyd tai ar hyd a lled y pentref ar gyfer y glowyr a'u teuluoedd. Gwelwyd y datblygiad mwyaf ar hyd Chapel Street, ac erbyn 1891 roedd cymuned Redgate yn rhan o Donyrefail. Erbyn hyn, roedd 300 o bobl yn byw yn y stryd hon a 60 ohonynt yn gweithio yn y glofeydd. |
|
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd poblogaeth Tonyrefail wedi cynyddu i dros 2,200 yn ôl cyfrifiad 1901, a thua 500 yn gweithio yn y pyllau glo. Er i rai o byllau glo dwfn y pentref gau yn ystod degawd cynta'r ugeinfed ganrif, cynyddodd nifer y glowyr yn sgil agor Glofa Coed-Ely ym 1901. |
|
Ar ôl y Rhyfel Mawr, adeiladwyd tai cyngor yn yr ardal am y tro cyntaf erioed. Codwyd y stad fwyaf i'r gorllewin o lein Ely Valley Railway yn Nhynynbryn rhwng 1919 a 1922. Ni fu rhagor o ddatblygiad tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd tai cyngor yng ngogledd Tonyrefail yn y 1960au a'r 1970au, a chodwyd tai preifat y tu ôl i Benygarreg a Heol Isaf yn y 1970au a'r 1980au. Mae mwy o dai'n dal i gael eu hadeiladu heddiw, er i lofa Coed Ely gau ym 1985. Mae'r ardal yn denu'r datblygwyr oherwydd y cysylltiadau ffyrdd newydd. Codwyd ffordd osgoi newydd ar lwybr yr hen reilffordd o Goed-elái i Glydach, fel bod modd i drigolion Tonyrefail gymudo i Gaerdydd a thu hwnt. Ty weindio Tylcha Fach, Nantmelin 1928 |
|