header Cymraeg English
Tonysgruboriau  
Mae map a rhestr y degwm 1841 yn dangos Plwyf Llantrisant. Ond, er bod tref ganoloesol Llantrisant ar ben y bryn, does dim sôn am breswylfeydd arnyn nhw yn ardal Tonysguboriau.
Yn ôl rhestr y degwm, Syr Charles Chetwynd Talbot, ail Iarll Talbot o Hensol, oedd perchennog y tir lle cafodd yr adeiladau cyntaf eu codi. Does dim rhyfedd felly mai ‘Talbot Arms’ oedd enw’r adeilad cyntaf a gafodd ei godi yn y pentref ym 1859, a hynny er teyrnged iddo fe.

The Talbot Arms - Talbot Green

The Talbot Arms - Talbot Green

Yn ogystal â nodi enw’r tŷ tafarn, mae cyfrifiad 1861 hefyd yn dangos bod yr enw Tonsciborau (sic), Tonysguboriau, yn cael ei roi ar rai o breswylfeydd yr ardal. Mae’n ymddangos bod ychydig o ysguboriau wedi cael eu hadeiladu ar dir roedd Ardalydd Bute yn berchen arno, yn agos i gyffordd y ffordd i Lanharan a’r brif ffordd rhwng Llantrisant a’r Bont-faen.
Yn ystod y 1860au, tyfodd pentrefan Tonysguboriau yn bentref gyda 100 o drigolion. Cafodd tai eu hadeiladu ar dir cyfagos â’r Talbot Arms, a’u galw’n Talbot’s Row. Mae enw Cymraeg y pentref yma o hyd, ac mae’r enw Saesneg wedi datblygu ychydig.

Mae’n bosibl deall y rheswm dros ddatblygiad yr ardal yn ystod y 1860au drwy archwilio galwedigaethau’r trigolion yn ôl cyfrifiad 1871. Ymhlith y galwedigaethau mae cloddiwr mwyn haearn, gyrrwr trenau, fforddoliwr, ffitiwr cerbydau a signalwr y rheilffordd. Cafodd cloddfa mwyn haearn Bute ei hailagor ym 1852, a chafodd cloddfa mwyn haearn y Mwyndy ei hagor ym 1853 – roedd y ddwy gloddfa yma o fewn tafliad carreg o Donysguboriau. Ym 1856, cafodd cloddfa’r Mwyndy ei phrynu gan Nash Edwards-Vaughan o Blas Glanelái, ac roedd e’n rhan annatod o hyrwyddo’r syniad o sefydlu Cwmni Rheilffordd Cwm Elái a Chwm Rhondda.
Cafodd lein gangen y Mwyndy, rhan o Reilffordd Cwm Elái, ei hagor ym 1859. Roedd hi’n bosibl i drenau gyrraedd y cloddfeydd, ond doedd y rheilffordd yma ddim yn cwtogi ar y gost uchel o ran cludo’r mwyn haearn o’r cloddfeydd i’r gweithfeydd haearn ym mlaenau Morgannwg a Sir Fynwy. Roedd y daith i Ferthyr Tudful yn gwmpasog, ac roedd rhaid teithio’r holl ffordd i Gastell-nedd ac ar hyd Rheilffordd Cwm Nedd. Cafodd prif reilffordd Cwm Elái, rhwng Llantrisant a Phenrhiw-fer, ei hagor ar 2il Awst 1860, a chafodd rheilffordd Llantrisant a Taff Vale Junction ei sefydlu'r flwyddyn yma hefyd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, cafodd gwasanaeth newydd ei ddechrau gan y cwmni rhwng y Bont-faen a Phontypridd - trwy gyffordd Maes yr haul. Wrth edrych ar fap 1875 yr Arolwg Ordnans, roedd y ddwy reilffordd yn mynd heibio i Donysguboriau.
OS map Talbot Green
Yn ôl cyfrifiad 1881, roedd poblogaeth Tonysguboriau wedi dyblu yn ystod y 1870au gan gyrraedd tua 300. Wrth ystyried mannau geni’r trigolion yn ôl cyfrifiad 1881 roedd nifer o Gernywiaid a Chernywesau wedi mudo i’r pentref a mannau eraill ym Morgannwg. Mae’n amlwg roedd mwynfeydd newydd a datblygiad y diwydiant glo wedi denu mwynwyr medrus a oedd yn pryderi am eu dyfodol yng Nghernyw ar ôl i’r diwydiant cloddio copr ddod i ben. Rheswm arall dros dwf y pentref oedd agor gwaith Tunplat Llantrisant ym 1872.Cafodd adeiladau eu codi o amgylch Talbot Arms ac yn yr ardaloedd cyfagos. Roedd Cwmni Haraen Loftus, o Middlesborough, wedi buddsoddi’n helaeth yn y lofa leol sydd i’w gweld ar fap 1875 yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys 33 o fythynnod newydd a gafodd eu henwi’n Loftus Terrace. Er hynny, roedd y fenter yma’n aflwyddiannus ac, yn ôl cyfrifiad 1881, roedd gweithwyr y diwydiant tunplat yn byw yn y bythynnod yma.
Roedd poblogaeth Tonysguboriau’n parhau i dyfu ac roedd tua 600 o bobl yn byw yno erbyn diwedd y 19eg ganrif. Cafodd cloddfa mwyn haearn Bute ei chau ym 1880 a chafodd cloddfa mwyn haearn y Mwyndy ei chau bedair mlynedd yn ddiweddarach, felly daeth y diwydiant glo yn brif gyflogwr y pentref.
Mae map 1899 yr Arolwg Ordnans yn dangos mai Cardiff Navigation oedd enw’r lofa leol olaf. Yn ôl cyfrifiad 1901, roedd T.J. Masters yn byw ym Mhlas Glanelái ar brydles. Roedd e’n deiliwr ac yn ddilladwr yng Nghaerdydd, a chafodd y lofa ei phrynu ganddo fe.
Erbyn hynny, roedd glowyr yn byw yn y rhan fwyaf o dai’r pentref, gan gynnwys Loftus Terrace,  gyda’u teuluoedd nhw. Roedd diwydiant y rheilffordd yn parhau i gyflogi nifer o weithwyr y pentref. Roedd casgliad o dai ger cyffordd y Mwyndy yn cael eu galw’n fythynnod Rheilffordd y Great Western, ac roedd gyrwyr trenau, signalwyr, gardiaid y rheilffordd a phorthor croesfan y rheilffordd yn byw ynddyn nhw.
Yn ôl cyfrifiad 1901, roedd cymuned o fusnesau bach Tonysguboriau yn tueddu byw yn y pentref ei hun ac yn cynnwys groser, dilledydd, gwerthwr llestri, gwerthwr pysgod a menyw oedd yn rhedeg siop. Meddai un dyn, a oedd yn byw yn Talbot Road, mai ei alwedigaeth ef oedd archwilio achosion o niwsans ar ran y cyngor dosbarth.

1899 Ordnance Survey Map

1899 Ordnance Survey Map

Tonysguboriau School, Original Buildings - April 1977

Tonysguboriau School, Original Buildings - April 1977
Yn ôl Kelly’s Trade Directory 1914, cafodd ysgol gynradd ei chodi ym 1908. Ysgol Tonysguboriau oedd yr enw arni ac roedd hi’n sefyll yn agos i gyffordd y pentref. Digwyddiad pwysig arall yn natblygiad y pentref oedd adeiladu ffordd Cwm Elái ym 1922-23 rhwng Tonysguboriau a Thonyrefail. Roedd hyn wedi creu cyffordd newydd yn y pentref ac yn rhoi hwb i’r gwaith datblygu.
Roedd y ffordd newydd wedi hybu twf o ran y gwasanaethau bws. Prif ddarparwr y gwasanaeth bws erbyn 1939 oedd Rhondda Transport Company ac roedden nhw wedi sefydlu gorsaf fysiau yn agos i’r gyffordd. Mewn cyhoeddiad o’r enw ‘Pontyclun & Talygarn: A History & Topography’, meddai’r hanesydd lleol Mr J. Barry Davies:
“... frequently alleged, but not I believe, universally accepted, that it was a Rhondda Transport Inspector, Mr Frank Reed, who was instrumental in establishing the name of the village as Talbot Green rather than Talbot Road.”
Roedd busnesau’r pentref yn dechrau tyfu o ganlyniad y cyfleusterau newydd ar gyfer trafnidiaeth. Cafodd siop newydd ei hagor yn Talbot Road gan Gymdeithas Gydweithredol Pen-y-graig ym 1932, a thafliad carreg o’r siop yma, cafodd garej gwreiddiol Llantrisant Motors ei sefydlu ym 1934.
Cafodd pentref bach Tonysguboriau ei drawsnewid ar ôl yr Ail Ryfel Byd wrth i ddatblygiadau sylweddol ddigwydd o ran preswylfeydd a masnach. Cafodd yr ystadau tai cyntaf eu hadeiladu y tu ôl i’r tai ar ochr ddwyreiniol Cowbridge Road, ac enwau’r ystadau yma oedd Heol Johnson, Heol Miles, Fan Heulog a Bron Haul. Cafodd rhagor o dai eu hadeiladu yn Forest Hill ar Lanelay Road, Maes y Rhedyn ac ar dir plasty Danygraig. Cafodd y tŷ yma ei brynu gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref.

Magistrates Court, Talbot Road - April 1977

Magistrates Court, Talbot Road - April 1977

Ebeneezer Free Evangelical Church - April 1977

Rhoddwyd hwb i statws gweinyddol Tonysguboriau pan symudodd Llysoedd Ynadon i adeilad newydd yn y pentref o Neuadd y Dref, Llantrisant. Hefyd ym 1956, cafodd Ysgol Gyfun y Pant ei hagor. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ysgol anghenion arbennig ei hagor ym 1964. Cafodd unig addoldy’r pentref ei agor ym mis Mehefin 1958. Ar ôl sefydlu ysgol Sul mewn cwt Nissen, gweithiodd Mr Edward Dickerson yn ddi-baid er mwyn sefydlu Eglwys Rydd Efengylaidd Ebeneser, ac yn y pendraw daeth e’n weinidog amser llawn.

Ebeneezer Free Evangelical Church - April 1977

Ers diwedd y 1960au, mae datblygiadau masnachol wedi symud i ystadau diwydiannol a pharciau manwerthu ar gyrion y pentref. Cafodd y ffordd i Donyrefail ei symud eto a’i hymestyn a chafodd New Park Farm ei droi’n barc manwerthu sylweddol gydag archfarchnadoedd a siopau eraill – ac maen nhw’n parhau i ddod. Yn ddiweddar, roedd cwmni Tesco wedi dymchwel ei hen siop a chodi adeilad newydd yn ei lle. Mae siopau adnabyddus eraill y stryd fawr hefyd wedi agor, gan gynnwys Marks & Spencer, Boots, Next a T K Maxx. Erbyn hyn, mae’r busnesau yng nghanol yr hen bentref yn wynebu brwydr yn erbyn y siopau mawr yma.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf