Ffynnon Taf | |
Nid oes cofnod o'r enw Saesneg ‘Taffs Well' ar ddogfennau hanesyddol cyn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Ni roddwyd yr enw ar y pentref tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan nad oedd yn bodoli cyn hynny – yn hytrach, dyma enw ffynnon dwr cynnes hynafol a ffermydd rhent ar lan afon Taf. Ni wyddom pryd y cafodd y pentref presennol ei enwi'n Taffs Well. Er hynny, defnyddiwyd yr enw ar orsaf reilffordd Taff Vale a agorwyd ym 1840. Mae hefyd yn ymddangos yng nghyfrifiad 1841. Dde: Llun yn dangos cwt yn gorchuddio'r ffynnon dwr cynnes |
|
Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd tua 300 o bobl yn byw yn Ffynnon Taf, traean ohonynt mewn ardal o'r enw ‘Walnut Tree' yn ne'r pentref. Nodwedd hynod o'r cofnodion hyn yw swyddi amrywiol y trigolion - gan gynnwys ffermwyr, tafarnwyr, hetwyr, perchnogion siopau, cigydd a heddwas. Y Glamorganshire Canal oedd ffynhonnell gwaith mwya'r pentref. Yn ogystal â rhoi gwaith i gychwyr a cheidwaid lociau, roedd hefyd o bosib yn bwysig i seiri coed, torwyr coed a gofaint y pentref. | |
Mae map degwm 1841 a'r cofrestri ar gyfer plwyf Eglwysilan yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol arall am hanes cynnar Ffynnon Taf a'r cylch. Gwelir dwy bont yn ne'r pentref, un yn croesi Camlas Morgannwg a'r llall yn croesi rheilffordd y Taff Vale. Uwchben y pontydd hyn mae caeau fferm Portobello, rhai ohonynt wedi'u rhannu'n ddiweddar gan y lein reilffordd. Mae fferm Taffs Well i'w gweld ar y map hefyd.
Chwith: Glamorgan Canal, Ffynnon Taf |
|
Mae caeau'r fferm yn ymestyn i'r dwyrain o afon Taf, gan groesi'r gamlas a'r rheilffordd. Roedd y fferm ar safle fflatiau Ty Bryncoch heddiw. Mae'r ffynnon wedi'i nodi'n glir, ond heb ei henwi, mewn cae o'r enw Cae Ffynnon. Yn union uwchben y cae hwn mae fferm o'r enw Tir Ffynnon Taf. Er bod yr adeilad yno hyd heddiw, mae'r pedwar cae a fu unwaith yn rhan o'r fferm yn gartref i Ysgol Gynradd Ffynnon Taf a'i chaeau chwarae bellach. Achoswyd sawl penbleth gan fod enwau'r ddau le mor debyg i'w gilydd. Roedd poblogaeth Ffynnon Taf wedi mwy na dyblu mewn deugain mlynedd, yn ôl cyfrifiad 1881. Er bod y cyfrifiad yn dangos bod nifer helaeth o'r trigolion yn berchnogion siopau o hyd, roedd y mwyafrif bellach yn ennill eu bara menyn yng ngweithfeydd haearn Pentyrch a'r Garth a oedd o boptu'r afon, neu yng nglofeydd Bryncoch a Rockwood ar gyrion y pentref. Yn sgil hyn, codwyd ysgolion ac addoldai yn y pentref. Agorodd Ysgol Genedlaethol o'r enw'r Walnut Tree Bridge School ym 1869. Mae'r adeilad i'w weld hyd heddiw, sef Eglwys St James yn Church Street. Hefyd, cynhaliwyd Ysgol Brydeinig yn un o gapeli'r pentref, ac roedd ysgol elusennol i ferched drws nesaf i dafarn y Taffs Well Inn. Ar ôl sefydlu Bwrdd Ysgol Eglwysilan ym 1871, dechreuwyd ysgol bwrdd yng nghanol y 1870au – gan ddefnyddio adeilad yr hen Ysgol Brydeinig fwy na thebyg – tan i'r ysgol newydd sbon agor ei drysau ar 6 Ionawr 1879. Dyma ysgol y pentref hyd heddiw, a dathlodd ei phen-blwydd yn 125 oed yn ddiweddar. |
|
Hanes y ffynnon | |
Mae'r ffynnon hon ar lan afon Taf i'r gogledd o'r pentref, ac mae'n un o ryfeddodau'r cwm. Mae ei hanes cynnar yn bur annelwig. Yn ôl llyfr a gyhoeddwyd ym 1833, roedd yn cael ei galw'n 'Ffynnon Dwym' o bryd i'w gilydd. Mae'n mynd ymlaen i ddweud y canlynol: "an extraordinary flood in the year 1799 is said to have laid bare Roman masonry adjoining the well, which was covered by subsequent inundations of the River Taff." Er na lwyddwyd i ganfod olion y meini Rhufeinig yn ystod gwaith cloddio diweddar, mae'n swnio'n ddigon credadwy gan fod nifer o hen bentrefi a ffyrdd Rhufeinig yn y cyffiniau. Yn ôl y fferyllydd Joseph Thomas, a archwiliodd y ffynnon ym 1877, roedd yn sefyll yng nghanol dolydd ffrwythlon yn wreiddiol. Ar ôl codi cored ar draws yr afon i gyflenwi dwr i weithfeydd haearn Pentyrch, symudodd gwely'r afon i'r dwyrain. Felly, roedd y ffynnon bellach yn ffinio gyda'r afon ac yn cael ei gorlifo'n aml. Mae'n debyg mai trigolion lleol yn unig oedd yn defnyddio'r ffynnon tan ganol y ddeunawfed ganrif. Yn raddol, cafodd pobl eu denu o bell yn sgil tystiolaeth am bwerau iachaol y ffynnon ac ar ôl adeiladu'r ffordd dyrpeg, y gamlas a'r rheilffordd. | |
ae'n debyg y codwyd Taffs Well Inn er mwyn cynnig llety i'r ymwelwyr hyn. Roedd llawer o'r pentrefwyr hefyd yn croesawu ymwelwyr. Mae'n ymddangos bod y ffynnon wedi'i chau i mewn erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg - naill ai gan wal garreg neu lenni haearn. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffynnon wedi mynd â'i phen iddi. Mewn cyfarfod agored ym 1929, penderfynodd y pentrefwyr i drwsio'r ffynnon ac fe ail-agorodd ym mis Awst 1930. Yn ddiweddarach, adeiladwyd pwll nofio wrth yr adeilad lle saif y ffynnon, gan ddefnyddio'r dwr ohoni. Yn anffodus, daeth dyddiau'r pwll nofio a'r ffynnon i ben ar ôl llifogydd trychinebus yn y 1950au. Uchod: Y ffynnon yn ystod gwaith adfer
|
|
Bu dyfroedd y ffynnon yn fendith mawr i lawnt fowlio'r pentref yn ystod sychder mawr 1978. Aildaniwyd y diddordeb yn y ffynnon, ac ar ddiwedd y 1970au, lansiwyd ymgyrch i adfer y ffynnon a'r safle. Glanhawyd y ffynnon yn llwyr, a bu nifer yn nofio ynddi hyd yn oed. Er hynny, ni chafodd yr ardal ei hailddatblygu'n llwyr tan ganol y 1990au. Rhoddwyd wyneb newydd i'r adeilad lle saif y ffynnon, llenwyd y pwll nofio a gosod gardd yn ei le. Dde: Adeilad y ffynnon, Gorffennaf 2004 |
|
Cludiant Ffynnon Taf | |
Roedd cludiant a thrafnidiaeth yn ffactorau pwysig yn hanes a datblygiad Ffynnon Taf, diolch i'w leoliad daearyddol yng nghanol ceunant cul rhwng Caerdydd a'r cymoedd. Nid yw'n syndod felly bod camlas, dwy ffordd a phedair rheilffordd yn mynd drwy'r pentref, ynghyd ag afon Taf. Ar brydiau roedd yr afon yn gyfrwng teithio, dro arall yn rhwystr i'r rhai oedd am groesi o un pen i'r llall. Mae map Arolwg Ordnans 1875 yn dangos bod sawl rhyd i fyny ag i lawr yr afon - un ohonynt ger safle'r orsaf heddlu heddiw. Dde: Y gamlas ger Ffynnon Taf |
|
Cyn dyddiau'r pontydd troed, roedd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio'r fferi i groesi'r afon. Roedd fferi Pentyrch yn mynd o westy'r Junction tra'r oedd perchennog y Portobello Inn yn gyfrifol am un arall. Byddai'r ddwy fferi yn cludo gweithwyr gwaith haearn Pentyrch yn ôl ac ymlaen i'w cartrefi yn ardal Ffynnon Taf. Roedd fferi Ffynnon Taf yn croesi'r afon o fferm Ty'r Ffynnon, neu ‘Ferry Farm' ar lafar gwlad, y tu ôl i'r ysgol. Teulu'r Saunders oedd perchnogion gwasanaeth fferi Ffynnon Taf am flynyddoedd lawer. Yn anffodus, cafodd Mrs Saunders ei sgubo i ffwrdd a boddi wrth gasglu teithwyr ar ddechrau'r 1920au. Ar ôl hynny, roedd pobl yn mynnu cael pompren neu bont droed dros yr afon. O'r diwedd, adeiladwyd pont droed diolch i garedigrwydd John Philips yn bennaf, ac enwyd y bont ar ei ôl. Roedd ‘Station Bridge' eisoes wedi'i chodi dros yr afon ar droad y ganrif, ar lwybr fferi Pentyrch. | Chwith: Fferi Ffynnon Taf yn fferm Ty'r Ffynnon. Gallwch weld yr ysgol y tu ôl i ganghennau'r coed ar y dde. |
Traphont Walnut Tree | |
Roedd Ffynnon Taf yn cael ei ystyried yn ddolen gyswllt bwysig rhwng y cymoedd a'r arfordir ar ôl i weithfeydd haearn Merthyr Tudful agor yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y ffordd dyrpeg rhwng Merthyr a Chaerdydd yn y 1770au, ac un o brif dafarnau ac arosfan y goets fawr oedd tafarn y Portobello Inn, Ffynnon Taf. Er gwaetha'r datblygiadau hyn, sylweddolodd meistri haearn Merthyr fod cludiant â cheffylau nid yn unig yn araf a drud ond yn eu hatal rhag datblygu'r diwydiant. Aethpwyd ati i ddechrau adeiladu'r Glamorgan Canal ym 1791, gyda chymorth ariannol y meistri haearn. Agorwyd rhan o'r gamlas yn Ffynnon Taf ym 1794. Roedd 51 o lociau ar hyd y gamlas i gyd, ac roedd tair ohonynt yn Ffynnon Taf - Taff Well Lock, Caegias Lock a Portobello Lock. Ychydig i'r gogledd o'r pentref, roedd y lociau trebl rhyfeddol yng Nglan-y-llyn, a oedd yn codi 30 troedfedd. |
|
Erbyn 1880, roedd rheilffordd TVR a Rhymney Railway mor orlawn o drenau glo fel yr aeth y perchennog glo David Davies ati i sefydlu'r Barry Dock and Railways Company ym 1884 ar y cyd â pherchnogion glo rhwystredig eraill. Gan mai lein y Barri oedd un o'r rhai olaf i'w hadeiladu yn y De, roedd angen cryn dipyn o ddyfeisgarwch peirianyddol i wneud y gwaith, gan fod cwmnïau blaenorol wedi dewis llwybrau haws o lawer i gyrraedd y meysydd glo. Adeiladwyd Traphont Walnut Tree ym 1901, ac roedd yn gampwaith ym maes peirianneg sifil.
Chwith: Traphont Walnut Tree |
|
Wedi'i chynllunio gan Syr James Szlumper, roedd y draphont 120 troedfedd o uchder a 1548 troedfedd o hyd yn cynnwys saith o hytrawstiau dellt dur yn gorffwys ar golofnau brics. Roedd rhywfaint o dro yn y pen gorllewinol er mwyn i'r gledren droi ar ‘silff' yn y bryn. Ar ôl arglwyddiaethu dros ben deheuol y pentref am bron i 70 o flynyddoedd, fe'i dymchwelwyd ym 1969 er bod dau biler yn dal i sefyll heddiw. Lein reilffordd cwmni Cardiff Railway oedd yr olaf i'w hadeiladu trwy Ffynnon Taf. Er iddi gael ei chwblhau ym 1911, dim ond cerbydau lleol oedd yn ei defnyddio'n bennaf gan fod cwmni Taff Vale yn gwrthod ei chysylltu â'u lein nhw yn Nhrefforest. Roedd y Glamorgan Canal yn segur erbyn 1942. Adeiladwyd cefnffordd yr A470 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd ym 1969 ar safle'r hen gamlas a chwmni Cardiff Railway. O blith y pedair rheilffordd wreiddiol, dim ond hen lein Taff Vale sy'n dal i ymlwybro ar hyd ceunant Ffynnon Taf. | Dymchwel Traphont Walnut Tree ym 1969 |