header Cymraeg English
Nantgarw  

Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd tua 300 o bobl yn byw ym mhentref Nantgarw a'r cyffiniau, ac roedd llawer ohonynt yn gweithio ar y Glamorganshire Canal. Yn wir, oni bai am y gamlas mae'n debyg na fyddai Nantgarw wedi bodoli o gwbl. Mae'r cyfrifiad yn dangos bod 34 o drigolion y pentref yn gweithio fel cychwyr, 16 fel labrwyr amaethyddol, 15 fel gwneuthurwyr pibellau tybaco clai yng Nghrochendy Nantgarw, a dim ond 11 fel glowyr.
Fodd bynnag, ugain mlynedd yn ddiweddarach mae cyfrifiad 1861 yn dangos bod poblogaeth y pentref wedi cynyddu i tua 500, tra bod nifer y cychwyr a'r glowyr wedi disgyn. Roedd y gostyngiad hwn i'w ddisgwyl o ystyried twf y Taff Vale Railway ar draul y gamlas, a bod cloddfeydd drifft wedi agor yn y cwm.

Golygfa gyffredinol o Nantgarw tua 1900

Golygfa gyffredinol o Nantgarw tua 1900

Dechrau'r gwaith o agor Glofa Nantgarw ym 1910

Dechrau'r gwaith o agor Glofa Nantgarw ym 1910

Mae map Arolwg Ordnans 1875 yn dangos lleoliad pentref Nantgarw rhwng dwy sianel ddwr, yr Afon Taf i'r gorllewin a'r Glamorganshire Canal i'r dwyrain. O gymharu'r map hwn â map arolwg ordnans a gyhoeddwyd bron i hanner canrif yn ddiweddarach ym 1919, does fawr ddim wedi newid. Roedd yn anodd datblygu'r pentref oherwydd y ddwy sianel ddwr, ond yn bwysicach na hynny, ni chafodd yr un pwll glo mawr ei agor nes i Lofa Nantgarw agor ym 1911. O ganlyniad, ychydig o newid a fu ym mhoblogaeth y pentref yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Parhaodd y broses hon o ddiffyg datblygu ym mhentref Nantgarw hyd at yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel aed ati i ddatblygu Glofa Nantgarw ar raddfa fawr, ac agorodd ffwrn glo golosg a ffatri sgil-gynhyrchion ym 1951. Adeiladwyd pentref bach newydd ar lechwedd y tu ôl i'r lofa yn ystod yr un cyfnod. Ym 1969 dinistriwyd yr hen bentref pan adeiladwyd ffordd yr A470, ac erbyn heddiw mae yna gylchfan fawr lle safai'r pentref.
Nantgarw Pottery  
Mae Crochenwaith Nantgarw yn enwog am y porslen artiffisial hardd a wnaed yno bron i ddwy ganrif yn ôl, ac sy'n dal yn hynod o boblogaidd gyda chasglwyr heddiw. Dechreuwyd cynhyrchu crochenwaith yn Nantgarw pan ddaeth William Billingsley a'i fab yng nghyfraith, Samuel Walker, i Nantgarw ym 1813. Mae'n bosibl iddynt gynnal trafodaethau yn y dirgel gyda'r gwr busnes William Weston Young, ac iddo ef fynd ati i godi dwy odyn danio a'r adeiladau angenrheidiol i'r dwyrain o'r Glamorganshire Canal ychydig cyn i'r crochenwyr gyrraedd. Diolch i'r gamlas roedd modd dod â chaolin i'r gwaith a chludo porslen i Gaerdydd i'w gludo ar long i Lundain. Roedd cyflenwad digonol o danwydd hefyd ar gael yn lleol. Ar ben hynny, gan fod Nantgarw yn ardal gymharol anghysbell, roedd modd cuddio sgiliau arbenigol gwaith cynhyrchu porslen rhag cystadleuwyr.
Cyfalaf o £250 yn unig a ddefnyddiwyd i agor y crochendy, a wynebodd broblemau ariannol o'r cychwyn cyntaf. Roedd angen tymheredd uchel i gynhyrchu darnau perffaith, ac oherwydd hynny roedd dull past meddal Billingsley yn anodd iawn ei danio. Ar adegau, difethwyd 90% o'r cynnyrch yn ystod y broses danio, gan ddod allan o'r odyn wedi'i ddifrodi gormod i'w ddefnyddio. Yn sgil y colledion hyn, doedd dim syndod i Billingsley a Walker ddechrau cael problemau ariannol cyn pen dim. Gwellodd y sefyllfa am gyfnod yn sgil benthyciad o £600 gan Weston Young, ond gwariwyd yr holl arian heb lwyddiant masnachol. Fis Medi 1814 aeth Billingsley a Walker ati i geisio cael cymorth ariannol gan y Bwrdd Masnach. Gofynnwyd i Lewis Weston Dillwyn o Grochendy Cambrian Abertawe ymweld â Nantgarw er mwyn adrodd ar y mater. Methodd y Bwrdd Masnach â chynnig cymorth, a chaeodd y gwaith yn Nantgarw yn fuan wedyn.
Crochenwaith Nantgarw
Penderfynodd Dillwyn wahodd y ddau grochenydd i ymuno ag ef yn Abertawe. Aethant ati i gynhyrchu porslen trwy ddefnyddio mowldiau ac offer Nantgarw, gan barhau i ddefnyddio marc Nantgarw ar y darnau. Dyma'r tro cyntaf i borslen gael ei gynhyrchu yn Abertawe. Arhosodd Billingsley a Walker yn Abertawe cyn dychwelyd i Nantgarw ym 1817. Er i ansawdd a dyluniad y porslen wella, roedd llawer o'r cynnyrch yn dal i gael ei wastraffu yn y broses danio. Er bod galw mawr am y porslen gan gasglwyr o Lundain, buan iawn y daeth arian y busnes i ben, a gadawodd Billingsley a Walker Nantgarw ym 1819.
Crochenwaith Nantgarw
Ym 1821 llwyddodd Young i berswadio Thomas Pardoe adael Bryste a dod yn rheolwr yn Nantgarw gan gynorthwyo gyda'r gwaith o addurno'r porslen. Buan iawn y daeth yn amlwg na fyddai'r fenter yn llwyddo. Fis Hydref 1822 gwerthwyd yr offer a'r holl stoc mewn arwerthiant cyhoeddus, a chyda hynny daeth y gwaith o gynhyrchu porslen enwog Nantgarw i ben. Ym 1833 prynwyd Crochendy Nantgarw gan William Pardoe, mab Thomas Pardoe, a dechreuodd gynhyrchu llestri pridd a llestri caled â sglein. Fe aeth ati i gynhyrchu pibellau tybaco clai, gan allforio llawer ohonynt i Iwerddon.
Mae rhai o drigolion presennol Nantgarw yn cofio mynd i'r crochendy yn blant er mwyn prynu pibellau i'w defnyddio i chwythu swigod. Roedd pibellau â choesau wedi'u torri ar werth am ddimai. Yn dilyn marwolaeth Thomas ym 1867, penderfynodd nifer o'i feibion barhau â'r busnes dan yr enw Pardoe Bros. Fodd bynnag, arweiniodd y cynnydd mewn ysmygu sigaréts a dyfodiad nwyddau metel rhatach ar ddechrau'r ugeinfed ganrif at dranc y busnes, a chaeodd y crochendy yn Nantgarw am y tro olaf ym 1921.
Dros y saith deg mlynedd nesaf, tyfodd coed a drysni i guddio'r odynau a'r bwthyn. A dyna fu eu hanes tan 1991 pan gliriwyd y safle gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Taf Elái. Agorwyd canolfan arddangos ar y safle y flwyddyn ganlynol.
Glofa Nantgarw  
Glofa Nantgarw oedd un o lofeydd mwyaf Taf El á i yn ystod yr ugeinfed ganrif. Agorwyd y lofa gan Thomas Taylor o Bontypridd fis Mai 1910, ac roedd y ddwy siafft yn cyrraedd yr wyth ï en ar ddyfnder o dros 850 llath – y pyllau dyfnaf ym maes glo'r De hyd at y cyfnod hwnnw. Erbyn 1924 roedd y lofa yn cyflogi 850 o ddynion, ac fe'i gwerthwyd i'r Taff Rhondda Navigation Steam Coal Co. Cafodd y cwmni lawer o broblemau daearegol wrth weithio'r lofa, a phenderfynwyd rhoi'r gorau iddi ym 1927. Roedd yn segur am gyfnod wedyn nes iddi gael ei phrynu gan y Powell Duffryn Steam Coal Co Ltd. Cafwyd sawl ymgais arall i weithio'r pwll, cyn iddi gael ei rhoi mewn sefyllfa ‘gofal a chynnal a chadw'.
Ym 1937, lluniodd Powell Duffryn gynllun datblygu i ailddechrau gweithio Glofa Nantgarw, ond ni ellid ei weithredu oherwydd y rhyfel. Atgyfodwyd y cynllun ym 1946, ac ar ôl i'r pyllau gael eu gwladoli ym 1947, fe'i rhoddwyd ar waith gan y Bwrdd Glo.
Yn wir, hwn oedd prosiect mawr cyntaf Is-adran y De-orllewin, a buddsoddwyd £5 miliwn er mwyn creu adeiladau modern ar wyneb y pwll a dulliau mwyngloddio modern. Agorwyd ffyrnau glo golosg newydd ym 1951, ac roedd y lofa yn cynhyrchu glo erbyn y flwyddyn ganlynol. Llwyddwyd i gynhyrchu glo rhwng 1952 ac 1974. Ar ôl hynny, unodd Glofa Nantgarw a Glofa Windsor Abertridwr yn uned gynhyrchu sengl. Llwyddodd y lofa i ymdopi ag effeithiau streic y glowyr ym 1984/5, ond fel nifer o byllau glo eraill, fe'i caewyd fel rhan o bolisi'r llywodraeth fis Tachwedd 1986.
Safai Glofa Craig yr Allt i'r de o bentref Nantgarw, a hwn oedd un o byllau glo cyntaf yr ardal. Byddai dwr o'r Afon Taf yn aml yn llifo i'r lofa adeg llifogydd, ac fe'i caewyd ym 1878.
Clofa Nantgarw - Agorwyd y lofa gan Thomas Taylor o Bontypridd dis mai 1910
Crefydd ac Addysg  

Fel sy'n wir am nifer o addoldai Taf El á i, defnyddiwyd Eglwys y Santes Fair Nantgarw fel ysgol yn wreiddiol. Rhoddwyd darn o dir i Archddiacon Llandaf gan Henry Williams, sgweier Ystâd Dyffryn Ffrwd, ac adeiladwyd ysgol ym 1845. Ficer Eglwysilan oedd yn gyfrifol am addysg grefyddol yn yr ysgol, ac roedd modd defnyddio'r adeilad ar gyfer addoli cyhoeddus hefyd. Erbyn 1875 roedd yr ysgol wedi cau a'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel eglwys yn unig. Adnewyddwyd yr eglwys yn ystod y 1890au, ac mae llawer o'r clod am hynny'n mynd i Mrs Evan Williams, merch yng nghyfraith Henry Williams. Arferai gynnal Ysgol Sul yn Nyffryn Ffrwd yn ogystal â ffair sborion. Fodd bynnag, o'r 1920au ymlaen roedd gan yr eglwys nifer o ddyledion, nifer llai o addolwyr a diffyg cymorth gan glerigwyr. Ar ben hynny, yn sgil y gwaith o adeiladu ffordd newydd yr A470, dinistriwyd yr hen bentref a gwahanwyd yr eglwys oddi wrth y boblogaeth. Caeodd Eglwys y Santes Fair ym 1983, gan ddod yn anedd-dy. Ymunodd y gynulleidfa ag Eglwys Sant Iago, Ffynnon Taf, ac ail-enwyd yr eglwys yn Eglwys y Santes Fair a Sant Iago. Lleolwyd Capel Cymraeg yr Annibynwyr yng nghanol yr hen bentref. Codwyd yr adeilad gwreiddiol ym 1825, ond fe'i hail-adeiladwyd yn ddiweddarach. Codwyd Neuadd Efengylaidd Nantgarw tua diwedd y 1920au gyda deunyddiau ail-law. Mae'r neuadd yn dal i sefyll hyd heddiw, ac yn sgil dymchwel Capel Nantgarw adeg adeiladu ffordd yr A470, dyma addoldy olaf y pentref, ac felly mae'r aelodau'n awyddus i'w heglwys barhau i wasanaethu Nantgarw.

Agorodd Ysgol Plant Bach Nantgarw ar 11 Mawrth 1907 gyda 55 o blant ar y gofrestr. Fe'i dinistriwyd gan dân fis Ebrill 1933 a symudwyd y plant dros dro i Neuadd Biliards Wheeler wrth i'r ysgol gael ei hail-adeiladu. Ail-agorodd yr ysgol mwy neu lai yn ei ffurf bresennol ar 2 Medi 1935. Adeiladwyd estyniad yn cynnwys toiledau, cegin fach a swyddfa i'r pennaeth ym 1979. Mae nifer y plant sy'n mynd i'r ysgol heddiw yn debyg iawn i'r nifer a'i mynychodd adeg ei sefydlu bron i ganrif yn ôl.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf