Llanharry | |
Pentref sy'n datblygu'n gyson yw Llanhari yng ngogledd Bro Morgannwg, bedair milltir i'r gogledd o'r Bont-faen. Mae mwyngloddio haearn wedi bod yn bwysig i'r pentref ers canrifoedd, ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, oes Elisabeth ac am gyfnod yn yr ugeinfed ganrif, yno yr oedd unig bwll haearn Cymru. Fodd bynnag, mae plac bach ar wal ger tafarn y Fox and Hounds yn ein hatgoffa nad mwyngloddwyr oedd yr ymwelwyr cyntaf â'r ardal, ond llwyth rhannol- grwydrol o'r Oes Efydd o'r enw Pobl y Biceri. Codwyd y plac yn y 1960au gan Gyngor y Plwyf yn dilyn pwysau gan yr ysgol gynradd leol. Mae'n coff á u darganfyddiad ysgerbwd dyn tua 35 oed, 5tr. 9 mod. a llestr bicer 8 modfedd ym 1929. Mae gan y llestr gynllun trawiadol a gwneuthuriad cain a defnyddir llun ohono'n aml heddiw mewn llyfrau pwysig am y cyfnod. Daethpwyd o hyd i'r Dyn Bicer yn gorwedd ar ei ochr dde, gyda'i ben yn wynebu'r gogledd a'i ben-gliniau o dan ei ên. Glanhawyd yr ysgerbwd gan y diweddar Mrs. Eliza Johns ar fwrdd yn ei bwthyn cyfagos, cyn cael ei symud gyda'r llestr i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. |
Uchod: Gwaith cloddio ar safle Claddu Pobl y Biceri yng Ngwinllan Naboth, 1929. Daethpwyd o hyd i'r safle wrth adeiladu'r ffordd rhwng Llanharan a Llanhari
|
I'r gogledd o'r pentref ger Ystâd Trecastell, daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith mwyn haearn Rhufeinig neu Rufeinig-Brydeinig. Llwyddodd y mwynau cyfoethog ger y wyneb i ddenu mewnddyfodiaid o dai moethus y Fro ac o anheddiad Rhufeinig y Bont-faen. Mae'n ymddangos i'r gwaith mwyngloddio haearn gael ei wneud mewn siafftau bas dros ardal eang i gyfeiriad Meisgyn a Mwyndy, ond daeth y dystiolaeth orau o Lanhari i'r amlwg ym 1967 pan ddaethpwyd o hyd i damaid o grochan Rhufeinig o'r drydedd ganrif yn "Redlands House". Ychydig flynyddoedd yn ôl canfuwyd rhai ceiniogau Rhufeinig yn yr un ardal hefyd.
Llun trwy garedigrwydd Paul Thomas |
|
St. Illtud's Church |
|
Eglwys Illtud Sant Llanhari (Mae David J Francis, awdur y dudalen hon, i'w weld yn y llun) | |
Saif Eglwys Illtud Sant yng nghanol y pentref. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1867-8, ond mae'n bosibl i'r anheddiad Cristnogol cyntaf dyfu o amgylch eglwys bren yn ystod Oes y Seintiau. Does wybod ai Illtud Sant, neu un o'i ddilynwyr, sefydlodd yr eglwys yn ail hanner y bumed ganrif, neu i'r eglwys gael ei sefydlu yn y ddeuddegfed ganrif. Yr hyn sy'n hysbys i ni yw bod enw'r eglwys a'r enwau 'Llanhari' a 'Llanharry" yn dechrau ymddangos ar ddogfennau ar ôl y dyddiad diweddarach hwn a thrwy'r Oesoedd Canol. Does neb yn gwybod beth yw ystyr Llanhari, (doedd yna ddim Sant Harri), ond mae'n bosibl mai ‘Llanhari' yw'r ffurf Gymraeg gywir, a dyna sy'n ymddangos yng ngwaith y beirdd Cymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cafodd y Diwygiad a'r Rhyfel Cartref effaith ar yr eglwys ei hun. Yn ystod teyrnasiad Edward VI, cafodd llawer o eiddo'r eglwys ei atafaelu gan Brotestaniaid eithafol, ac yn ystod cyfnod Oliver Cromwell, cafodd y Rheithor Edmond Gamage ei droi allan o'i gartref ym 1649, gan ddioddef cryn galedi ariannol nes i'r frenhiniaeth gael ei hadfer ym 1660. Mae mwy o wybodaeth am yr hen eglwys a'r adeilad Fictoraidd a gymerodd ei lle ar gael ar wefan yr eglwys. Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth bensaern ï ol a hanesyddol. | |
Llanhari – hen dafarndai | |
Fel llawer o hen bentrefi, mae yna dafarn gerllaw'r eglwys yn Llanhari. Mae hanes diddorol iawn yn perthyn i'r Bear Inn. Defnyddiwyd y lle fel ysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a byddai'r plant yn cael eu dysgu gan athro 80 oed a oedd yn ddisgyblwr llym. Roedd yn gartref i Gymdeithas Gyfeillgar a oedd yn dyddio'n ôl i Ryfeloedd Napoleon, ac ar un adeg roedd yn Ysgol Nos Fictoraidd ar gyfer glowyr a gweithwyr haearn.
Dde: The Bear Inn, Llanhari 2004 ac (isod) - hen ran y Bear a ddefnyddiwyd fel ysgol ar un adeg |
|
Ganllath neu ddau ar hyd y ffordd i gyfeiriad Llanharan saif "The Fox and Hounds", adeilad sy'n perthyn i Oes y Tuduriaid sydd wedi'i ymestyn yn sylweddol yn ddiweddar. Roedd yna dair tafarn arall yn y plwyf yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef "The Colliers Arms", "The Gronow" a "The Boars Head" yn Nhylagarw. Enwyd y ddwy olaf ar ôl arglwyddi maenordai Llanhari a Threcastell. Ers 1959, mae Clwb y Gweithwyr wedi agor yng nghanol stad fawr o dai, gan ddatblygu'n ganolfan gymdeithasol a hamdden ffyniannus yn y pentref. Caeodd y tafarndai Fictoraidd, "The Colliers Arms" a "The Gronow" yn y 1920au. .
Chwith: The Fox and Hounds, Llanhari 2004 |
|
Mae ysgolion wedi'u cynnal mewn amryw o adeiladau gwahanol yn y pentref dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn yr eglwys a'r hen reithordy yn y ddeunawfed ganrif. Sefydlwyd yr Ysgol Sul gyntaf a Chapel Anghydffurfwyr pwysig ychydig y tu allan i Lanhari ar y ffordd i'r Bont-faen yn yr 1820au, yn rhannol oherwydd bod grwp o fechgyn wedi bod yn chwarae pêl-droed ar y Sabath. Nid yn unig y perswadiodd y Parch. Shadrach Davies y bechgyn i roi'r gorau i'w chwaraeon “annuwiol” a mynychu'r Ysgol Sul, ond mae'n debyg iddo fynd ati ei hun i adeiladu Capel Peniel. Ar ôl i'r Bear Inn gau ym 1870, roedd plant Llanhari yn gorfod cerdded i'r Ysgol Genedlaethol yn Llansannor ym mhob tywydd. Mae'n dal i fod mor boblogaidd ag erioed. Erbyn 1913 roedd Ysgol y Cyngor wedi'i hadeiladu yn Llanhari ger Capel Peniel. Goroesodd yr adeilad blêr hwn, lle'r oedd yr inc yn rhewi yn y gaeaf, tan 1935 pan adeiladwyd Ysgol Gynradd fodern ar yr un safle. Agorodd Ysgol Uwchradd Fodern Llanhari gyferbyn â'r Ysgol Gynradd ym 1959, gan droi'n Ysgol Gyfun Llanhari yn ddiweddarach. | |
Profodd Llanhari chwyldro diwydiannol bach tua chanol yr Oes Fictoraidd gyda mwyngloddio glo a Distyllfa ar Ddôl Llanhari a mwyngloddio haearn ar safle presennol Tai Patch. Ond ni chafwyd twf sylweddol o ran y boblogaeth, gwaith a thai tan ddechrau'r ugeinfed ganrif pan agorwyd Pwll Mwyn Haearn Hematit Llanhari ger Fferm Llechau. Adeiladwyd tai cyngor yn Addison a Thylacoch yn y 1920au, ac aed ati i adeiladu rhagor ar ôl y Rhyfel yn Aelfryn a Gelli, ac ar stad fawr ym Mhantgwyn yn y 1950au. Gydol y cyfnod hwn, y Pwll Haearn oedd prif gyflogwr yr ardal, ac roedd yn ergyd drom pan gaeodd ym 1975. |
|
Er i nifer o amwynderau cyhoeddus fel siopau newydd, meddygfeydd, canolfan gymunedol, parciau a meysydd chwarae gael eu hadeiladu cyn i'r pwll gau, cafwyd cryn galedi economaidd yn yr 1980au a'r 1990au. Fodd bynnag, mae dyfodiad yr M4, twf datblygiadau tai preifat, lleoliad y pentref gerllaw Caerdydd a'r Fro, un o ardaloedd mwyaf ffyniannus Cymru, a'r tebygolrwydd o agor Stiwdio Ffilm arobryn yn Llanilid yn argoeli'n dda i bentref sydd wedi colli ei enaid haearn. | |