header Cymraeg English
Trehopcyn  
Mae map rhaniad y degwm 1842 o Blwyf Llanwynno a'i atodlen yn darparu gwybodaeth werthfawr am darddiad pentref Trehopcyn. O'r map hwn, gallwn weld nad oedd unrhyw anheddau wedi'u lleoli lle datblygodd y pentref yn ddiweddarach. Yn hytrach, roedd yr ardal gyfan yn rhan o ystâd pum deg un erw Ty Mawr, a oedd yn eiddo i Evan Hopkin. Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd, roedd llawer wedi newid. Roedd Glofa Gyfeillion a hen siafft Ty Mawr wedi'u suddo ac roedd ffyrnau golosg, gweithfeydd cemegol a ffowndri haearn wedi'u hadeiladu. Roedd datblygiad y diwydiant yn creu angen am dai. Dechreuodd Trehopcyn ddatblygu fel rhes sengl o dai a alwyd yn Rhondda Road yng nghyfrifiadau 1851 a 1861. Dim ond ym 1871 yr ymddangosodd yr enw Hopkin's Town, fel y'i gelwid bryd hynny, yn y cyfrifiad. Gallwn dybio, felly, fod pentref Trehopcyn wedi'i enwi ar ôl Evan Hopkin, perchennog Ystâd Ty Mawr ar ddechrau'r 1840au.
Tyfodd poblogaeth Trehopcyn yn gyflym yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn cyfrifiad 1891, gwelwn fod strydoedd ychwanegol wedi'u hadeiladu oddi ar y stryd wreiddiol. Roedd poblogaeth y pentref bron â chyrraedd 1,500. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd poblogaeth Trehopcyn wedi dyblu a'i faint wedi cynyddu ymhellach. Yn wir, roedd cynllun y pentref gan mlynedd yn ôl yn debyg iawn i'r hyn a welwn heddiw.
Hopkinstown
Trychineb Rheilffordd Trehopcyn  
Mae'r ddamwain a ddigwyddodd ar y Taff Vale Railway ar 23 Ionawr 1911 yn ddigwyddiad arwyddocaol yng ngorffennol Trehopcyn. Gydol eu hanes, mae pentrefi glofaol y de wedi profi marwolaeth a thrasiedi. Yn wir, roedd colli un ar ddeg o fywydau o ganlyniad i drychineb rheilffordd Trehopcyn yn golled gymharol fach o gymharu â'r colledion a geir mewn trychinebau pyllau glo ar y pryd. Fodd bynnag, denodd y digwyddiad gryn sylw a chydymdeimlad â'r dioddefwyr o ganlyniad i'r adroddiadau cignoeth a ymddangosodd yn y wasg ar y pryd. Ymgasglodd torfeydd ar Graigwen Hill i dystio i'r dinistr. Hefyd, roedd unigolion amlwg ymhlith y teithwyr. Roedd aelodau Ffederasiwn Glowyr De Cymru'n teithio i gynhadledd arbennig Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn Llundain.

Yr olygfa drychinebus

Yr olygfa drychinebus

Digwyddodd y ddamwain lle'r oedd deg set o gledrau ar fin uno'n ddau. Roedd dau flwch signalau, y naill yn Gyfeillion Lower a'r llall yn Rhondda Cutting, yn rheoli'r traffig ar y rhan hon o'r trac. Am 9.48 y bore, aeth trên a oedd yn cludo tua chant o deithwyr i gyfeiriad Pontypridd heibio i flwch signalau Gyfeillion Lower o dan signalau clir. Fodd bynnag, wrth iddo droi'r tro cyn blwch signalau Rhondda Cutting, tarodd yn erbyn trên glo a oedd yn sefyll ar yr un cledrau . Achosodd effaith y gwrthdrawiad sydyn i gorff y prif gerbyd ddod yn rhydd o'r ffrâm isaf. Cododd y ffrâm isaf i fyny a hyrddio drwy'r cerbyd nesaf ar lefel y seddi. Cafodd llawer o'r cerbydau eraill eu bwrw oddi ar y cledrau. Cafodd gyrrwr y trên ddihangfa anhygoel am fod ei injan wedi gadael y cledrau ond wedi aros ar ei draed.

Digwyddodd y ddamwain lle'r oedd deg set o gledrau ar fin uno'n ddau. Roedd dau flwch signalau, y naill yn Gyfeillion Lower a'r llall yn Rhondda Cutting, yn rheoli'r traffig ar y rhan hon o'r trac. Am 9.48 y bore, aeth trên a oedd yn cludo tua chant o deithwyr i gyfeiriad Pontypridd heibio i flwch signalau Gyfeillion Lower o dan signalau clir. Fodd bynnag, wrth iddo droi'r tro cyn blwch signalau Rhondda Cutting, tarodd yn erbyn trên glo a oedd yn sefyll ar yr un cledrau . Achosodd effaith y gwrthdrawiad sydyn i gorff y prif gerbyd ddod yn rhydd o'r ffrâm isaf. Cododd y ffrâm isaf i fyny a hyrddio drwy'r cerbyd nesaf ar lefel y seddi. Cafodd llawer o'r cerbydau eraill eu bwrw oddi ar y cledrau. Cafodd gyrrwr y trên ddihangfa anhygoel am fod ei injan wedi gadael y cledrau ond wedi aros ar ei draed.
Yr olygfa drychinebus
Yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad, cyrhaeddodd trên a oedd yn teithio i fyny'r cwm, a stopiodd i alluogi nifer o deithwyr i ddisgyn a rhoi cymorth. Yn ffodus, nid oedd y ddamwain yn rhwystro'r trên, ac aeth ymlaen i Drehafod gyda newyddion am y drychineb. Anfonwyd mintai fawr o'r fyddin a'r heddlu metropolitan, a oedd wedi'u lleoli ym Mhontypridd ar ôl terfysgoedd Tonypandy a'r anhrefnu diwydiannol cyffredinol, i leoliad y ddamwain. Symudwyd y meirw i dy injans cyfagos a ddefnyddiwyd fel corffdy, a rhoddwyd y bobl oedd wedi'u hanafu ar drên arbennig i'r ysbyty agosaf , Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Cynhaliwyd ymchwiliad rhagarweiniol y diwrnod ar ôl y ddamwain yng Ngwesty'r New Inn, Pontypridd, lle cyfwelwyd â nifer o weithwyr a swyddogion. Agorwyd cwest y crwner yn Llys Heddlu Pontypridd ar y dydd Iau canlynol. Clywyd tystiolaeth anghyson ynglyn â'r signalau ar gyfer y trên glo gan y dyn signal Hutchings yn Gyfeillion Lower a Quick y dyn signal yn Rhondda Cutting. Ni lwyddodd y rheithgor i feio'r naill na'r llall, felly cafwyd rheithfarn agored. Fodd bynnag, aeth y rheithgor ymlaen i basio pleidlais gref o gerydd i yrrwr y trên glo am beidio â chydymffurfio â Rheol 55 yn brydlon. Roedd y rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddyn tân unrhyw drên sy'n sefyll ar reilffordd gael ei anfon i'r blwch signalau priodol i gadarnhau ei safle. Lai na mis ar ôl y drychineb, agorwyd Ysbyty Bwthyn Pontypridd ar 16 Chwefror 1911.
Diwydiant Glo Trehopcyn
 

John Calvert, peiriannydd rheilffordd o Swydd Efrog, oedd un o arloeswyr y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda. Cafodd ei gontractio i osod y Taff Vale Railway ar gyfer Brunel ond sylweddolodd yn gyflym fod elw mawr i'w wneud yn y diwydiant glo. Suddodd ei bwll cyntaf, Glofa Newbridge, ym 1844 ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i ddefnyddio pwer stêm i godi glo. Peiriant Calvert sydd i'w weld heddiw o flaen yr hen Forest House ar gampws Prifysgol Morgannwg. Bedair blynedd yn ddiweddarach, suddodd Lofa Gyfeillion. Cymerodd dair blynedd i gyrraedd y wythïen lo a hwn oedd y pwll cyntaf i gael ei suddo y tu hwnt i 100 llath. Ar ôl prydlesu'r pwll am dri mis, prynodd y Great Western Railway Company y lofa ym 1854. Yn dilyn deng mlynedd fuddiol dros ben, gwerthodd y cwmni'r lofa yn ôl i Calvert. Ym 1866, penderfynodd werthu'r lofa unwaith eto. Prynwyd gan y Great Western Colliery Company Limited a'i henw bellach fyddai Glofa'r Great Western.

Map Glo Trehopcyn o
Yr injan weindio yng Nglofa Ty Mawr

Cafwyd cyfnod o ehangu ac, erbyn diwedd y 1870au, roedd tair siafft ychwanegol wedi'u suddo (rhif 2, rhif 3 a Siafft Hetty). Mae hefyd yn debygol y cafodd hen Siafft Ty Mawr ei suddo yn y cyfnod hwn, er bod ei hanes cynnar yn aneglur o hyd. Yn ystod y 1880au, Glofa'r Great Western oedd y pwll mwyaf yng Nghwm Rhondda o ran gweithwyr a chynnyrch. Erbyn 1913, roedd pwll rhif 2 yn cyflogi 603 o ddynion a phwll rhif 3 yn cyflogi 206 o ddynion. Fodd bynnag, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i'r ddwy siafft, yn ogystal â hen Siafft Ty Mawr. Suddwyd siafft newydd Ty Mawr (a elwid yn rhif 1) a chadwyd Siafft Hetty i ddarparu pwmpio ac awyru.

Chwith: Yr injan weindio yng Nglofa Ty Mawr
Yn nes ymlaen, prynodd y Powell Duffryn Steam Coal Company Ltd Lofa Ty Mawr, a bu'n berchen arni tan y gwladoli. Ym 1958, buddsoddodd y Bwrdd Glo £1.2 miliwn mewn gwaith ad-drefnu ar yr wyneb a dan ddaear i uno Ty Mawr â Glofa Lewis Merthyr. Daeth yr holl waith weindio glo yn Lewis Merthyr i ben, a defnyddiwyd Ty Mawr i ddod â'r glo i'r wyneb, gyda deunyddiau'n mynd i lawr i Lewis Merthyr. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben yng Nglofa Ty Mawr/ Lewis Merthyr ym 1983.
The Great Western Colliery

Digwyddodd trychineb fwyaf Glofa'r Great Western ar 11 Ebrill 1893 pan fu farw 60 o lowyr mewn tân dan ddaear. Rhoddwyd llenni bradis ar dân gan wreichion o flociau brecio pren yr injan gludo. Cafodd dwr ei gario o'r stablau ac roedd dynion yn curo'r fflamau gydag unrhyw beth a ddaeth i law mewn ymgais i ddiffodd y tân. Fodd bynnag, roedd yr awel awyru gref yn tanio'r tân, gan achosi cynalyddion pren a llwch glo i gynnau. Cynhyrchwyd cymylau trwchus o fwg a mygdarth. Byddai llawer mwy wedi marw oni bai am ddewrder Thomas Prosser, y swyddog tân lleol 21 oed. Mentrodd i mewn i'r mwg trwchus a, thrwy agor set o ddrysau aer, dargyfeiriodd y mygdarth allan o'r pwll.
Roedd yna ddwy lofa lai yn Nhrehopcyn hefyd, sef Glofa'r Lan, ar lan ddeheuol yr afon Rhondda, a Glofa Typica. Agorwyd Glofa'r Lan gan y Lan Coal Company cyn 1870 ac fe'i caewyd ym 1907, tra bu Glofa Typica ar waith rhwng 1875 a 1879 dan berchnogaeth y Typica Coal Company.

   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf