Cilfynydd | |
Nid yw hanes Cilfynydd fel pentref yn ymestyn y tu hwnt i chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel mae map Arolwg Ordnans 1875 yn ei ddangos, pentref bach o fythynnod oedd Cilfynydd a adeiladwyd ar lan Camlas Morgannwg, wedi'u hamgylchynu gan ychydig o ffermydd gwasgaredig. Yn ôl cyfrifiad 1881, roedd tua 100 o bobl yn byw yn y tai hyn. Newidiodd y sefyllfa'n gyfan gwbl pan ddechreuodd Albion Steam Coal Company agor pyllau glo ym 1884. Tyfodd poblogaeth Cilfynydd ar raddfa enfawr. Erbyn 1891 roedd y boblogaeth wedi tyfu bum gwaith drosodd, ac yn ystod y degawd nesaf gwelwyd twf ar raddfa fwy. Yn ôl cyfrifiad 1901, tua 3,500 oedd cyfanswm y boblogaeth. Roedd Cilfynydd wedi newid yn llwyr. | |
Map Arolwg Ordnans o 1875 |
Map Arolwg Ordnans o 1900 |
Glofa Colliery | |
Dynion yn cerdded i'r gwaith yng Nglofa Albion am 6.30 y bore |
|
Dechreuwyd ar y gwaith yng Nglofa Albion ym 1884 ar safle Fferm Ynyscaedudwg. Albion Steam Coal Company oedd y perchnogion, ac agorodd y lofa fis Awst 1887. Cyn bo hir roedd y gwaith yn ffynnu a'r lofa'n cynhyrchu cyfartaledd wythnosol o 12,000 o dunelli o lo. Dyma'r nifer mwyaf o dunelli mewn glofa weindio-glo siafft sengl ym maes glo'r De. Erbyn 1893, roedd 1,500 o ddynion a bechgyn yn cael eu cyflogi yn yr Albion. Ni fu llawer o ddamweiniau difrifol yn ystod blynyddoedd cynnar y lofa, ond cafwyd trychineb fawr brynhawn Sadwrn 23 Mehefin 1894. Ar y prynhawn tyngedfennol hwnnw roedd y shifft nos wrthi'n cael gwared â llwch ac yn atgyweirio'r ffyrdd. Am 3.50 p.m. clywyd dau ffrwydriad swnllyd yn syth ar ôl ei gilydd. Dilynwyd y rhain yn syth gan lwch a mwg o'r siafft aer ‘downcast' ac yna o'r siafft aer ‘upcast'. Roedd effeithiau'r danchwa yn arswydus. Lladdwyd 290 o ddynion a bechgyn, a hon oedd trychineb waethaf maes glo'r de ar y pryd. Dim ond y ffrwydrad yng Nglofa Universal, Senghenydd ym 1913 oedd yn waeth na thrychineb Glofa Albion. Ychydig iawn o lowyr a ddaeth allan o'r pwll yn fyw, a bu farw'r rhan fwyaf o'r rheiny wedyn o'u hanafiadau. Aed â chyrff y meirw i lofft wair stablau'r pwll a oedd yn gweithredu fel marwdy dros dro, ac fe gafwyd golygfeydd torcalonnus wrth i berthnasau chwilio am aelodau eu teuluoedd yng ngolau llusern. Roedd llawer o'r cyrff wedi'u hanffurfio'n ddifrifol, ac roedd angen dychwelyd o leiaf tri ohonyn nhw i'r llofft wair wedi iddyn nhw gael eu hadnabod yn anghywir. Ychwanegwyd at y dryswch gan y ffaith nad oedd neb yn gwybod faint o ddynion oedd dan ddaear yn ystod y ffrwydrad. Cynhaliwyd cwest y mis canlynol ym Mhontypridd. Buan iawn y daeth i'r amlwg bod yna wahaniaeth barn ynghylch achos a lleoliad y ffrwydrad rhwng yr arolygwyr a'r tystion proffesiynol ar y naill law a pherchnogion y lofa ar y llaw arall. Ar ôl clywed y dystiolaeth, daeth aelodau'r rheithgor i'r casgliad bod llwch glo wedi cyflymu ffrwydrad nwy, ond ni allen nhw gyrraedd cytundeb ar y materion eraill. Penododd y Llywodraeth fargyfreithiwr o'r enw Mr J Roskill i archwilio'r dystiolaeth. Cyflwynodd ei adroddiad i'r Ysgrifennydd Cartref fis Medi 1894. Ym marn Mr Roskill, achoswyd y ffrwydrad gan broses ffrwydro coed a daniodd groniad nwy a oedd yn gyfrifol wedyn am danio llwch glo. Roedd y tebygrwydd o ddamwain yn y pwll wedi cynyddu o ganlyniad i arferion gwaith peryglus ac anniben. Ymhlith yr arferion hyn oedd ffrwydro coed yn ystod shifftiau, diffyg defnydd o ddwr i gael gwared ar lwch a phatrymau shifft newydd ar ddydd Sadwrn a olygai nad oedd egwyl ar gyfer clirio llwch rhwng shifftiau. Er i'r adroddiad argymell erlyn Cwmni Glo Albion a nifer o unigolion penodol, yn y diwedd dim ond y rheolwr Philip Jones a'r fforman William Anstes a erlynwyd, a derbyniodd y cyntaf ddirwy o £10 a'r ail £2. Ail-agorwyd y lofa lai na phythefnos ar ôl y ffrwydrad, a chyn hir cyflogwyd glowyr newydd yn lle'r rhai a fu farw. Cynyddodd y gweithlu i 1,735 erbyn 1896, ac i 2,589 erbyn 1908. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, cafwyd gostyngiad cyson yn nifer y dynion a gyflogwyd gan y pwll, ac ym 1928 fe aeth Cwmni Albion Steam Coal yn fethdalwyr. Prynwyd asedau'r cwmni gan Gwmni Powell Dyffryn Steam Coal, a nhw oedd perchnogion y lofa tan i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol gael ei ffurfio ym 1947. Erbyn hynny roedd y gweithlu ychydig yn llai na 1000. Erbyn i'r lofa gau ym 1966 roedd y gweithlu bron wedi haneru. Pan ddaeth cyfnod Glofa Albion fel cyflogwr trigolion Cilfynydd i ben, roedd y tomennydd yn dal i sefyll yn fygythiol uwchlaw'r pentref, gyda'r bygythiad o drychineb debyg i Aberfan. Dechreuodd cynllun dau gam i leihau graddiant serth y domen wastraff ym 1974, ac fe'i cwblhawyd ddwy flynedd yn ddiweddarach. |
|
Ysgolion a Chapeli Cilfynydd | |
Mis arwyddocaol yn hanes Cilfynydd oedd Awst 1887. Yn ogystal â Glofa Albion yn cynhyrchu glo am y tro cyntaf, agorodd ysgol gyntaf Cilfynydd yn ystod y mis hwnnw. Tyfodd y pentref mor gyflym o ganol yr 1880au nes i ysgol gael ei hagor yn festri Capel Annibynwyr Cymraeg Moriah yn Ann Street. Dechreuodd naw deg pedwar o ddisgyblion ar 15 Awst a chofrestrwyd un deg tri arall cyn y penwythnos. Prifathro ac unig athro'r ysgol oedd Richard Williams, 24 oed o Donyrefail. Roedd yn brifathro ar yr ysgol tan 1928. Roedd Festri Capel Moriah yn adeilad bach, ac roedd yn anodd addysgu dros gant o blant mewn lle mor gyfyng. Parhaodd nifer disgyblion yr ysgol i gynyddu, ac yn y pen draw symudwyd y plant ieuengach i Gapel Methodistiaid Calfinaidd Bethel. |
|
Yn ogystal â sefydlu ysgol, adeiladwyd nifer o addoldai yn ystod cyfnod cynnar twf Cilfynydd. Erbyn 1891, roedd Eglwys Sant Luc a chwe chapel Anghydffurfiol wedi'u hadeiladu. Yn ogystal â gweinidogaethu ar gyfer anghenion ysbrydol trigolion Cilfynydd, roedd llawer o fywyd cymdeithasol y pentref yn troi o gwmpas yr eglwysi a'r capeli. Roedd corau'n gysylltiedig â'r capeli, a bydden nhw'n cystadlu'n aml mewn eisteddfodau. Roedd yr eisteddfodau hefyd yn cynnwys cystadlaethau llenyddiaeth, traethodau, barddoniaeth ac adrodd. Byddai pob capel yn perfformio oratorios ac operâu plant bob blwyddyn. Er bod cerddoriaeth yn rhan bwysig iawn o fywydau llawer o bobl, mae'n anhygoel bod pentref Cilfynydd wedi magu tri cherddor a lwyddodd i berfformio ar rai o lwyfannau enwoca'r byd. Ganwyd Syr Geraint Evans, Stuart Burrows a Gareth Wood yng Nghilfynydd. |
Eglwys Fethodistaidd Gynnar
|
Gareth Wood Composer and Double Bass Player | |
Capel Beulah y Bedyddwyr Seisnig |
Ganwyd Gareth Wood yn Mary Street ar 7 Mehefin 1950 ac amlygodd ddawn gerddorol pan yn ifanc iawn. Dim ond deuddeg oed ydoedd pan berfformiodd mewn clybiau yng Nghwm Rhondda fel gitarydd gyda'r grwp pop The Planets. Mynychodd Ysgol Ramadeg Pontypridd lle dechreuodd ganu'r bas dwbl a chyfansoddi ar gyfer cerddorfa'r ysgol. Mynychodd yr Academi Frenhinol a daeth yn aelod o'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Mae Gareth Wood wedi mwynhau gyrfa hynod o lwyddiannus fel cyfansoddwr ac fel un o gerddorion preswyl gorau'r gerddorfa adnabyddus. |
Sefydlwyd capeli eraill fel canghennau capeli sefydledig Pontypridd. Dechreuodd Capel Annibynwyr Cymraeg Moriah fel cangen o Gapel Seion, Pontypridd. Ym 1887 rhoddodd y capel gymorth i aelodau a oedd yn byw yng Nghilfynydd i adeiladu festri er mwyn cynnal eu gwasanaethau eu hunain. Adeiladwyd Rehoboth fel cangen o Gapel Tabernacl, Pontypridd. Adeiladwyd y festri ym 1888 ac agorodd y capel ym 1889. Capel Beulah y Bedyddwyr ac Eglwys Sant Luc yw'r unig addoldai sy'n dal i fod ar agor yng Nghilfynydd heddiw. Mae mwyafrif y capeli eraill wedi'u dymchwel. |
|
Trafnidiaeth Cilfynydd | |
Adeiladwyd y Cilfynydd Inn ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd mewn lleoliad cyfleus gerllaw'r ffordd a'r gamlas, gan ddarparu stablau dros nos i geffylau a dynnai goetsis neu gychod camlas. Agorodd y Glamorganshire Canal ym 1794, gan gysylltu Merthyr a Chaerdydd gan basio ochr orllewinol y pentref. Roedd y gamlas yn mynd yn ei blaen wedyn i Chwareli Bodwenarth lle y llwythid cychod camlas â cherrig. Fodd bynnag, daeth cyfnod y gamlas i ben yn sgil dyfodiad y rheilffordd. Caewyd y darn rhwng Abercynon a Chilfynydd ym 1915 a'r darn rhwng Cilfynydd a Chaerdydd ym 1942. Roedd modd dilyn llwybr y gamlas nes i ffordd yr A470 gael ei hadeiladu ddechrau'r 1970au. Agorodd Rheilffordd Taff Vale oedd yn cysylltu Merthyr â Chaerdydd ym 1841. Nid oedd y rheilffordd yn mynd drwy Gilfynydd oherwydd bod y llinell yn rhedeg ar hyd ochr arall Cwm Taf. Pan agorodd Glofa Albion, roedd angen i'r pentref ddatblygu cysylltiadau rheilffordd er mwyn cludo glo a phobl. O ganlyniad, adeiladwyd llinell leol yn gadael y brif linell ychydig i'r gogledd o Goedpenmaen, yn croesi'r Afon Taf dros draphont haearn ac yn rhedeg ar lan y Glamorganshire Canal i Lofa Albion.
Y Glamorgan Canal yn cael ei defnyddio at ddibenion hamdden |
|
Adeiladwyd y draphont ym 1885 ac mae'n dal i sefyll heddiw. Adeiladwyd gorsaf Cilfynydd a dechreuwyd cludo teithwyr fis Mehefin 1900. Ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ar Fedi 12 1932, rhoddwyd terfyn ar gludo teithwyr a chaewyd y llinell, ac yna chwalwyd yr orsaf. Pont Berw ger Cilfynydd
|
|
Seiclon Cilfynydd 1913 | |
Daeth digwyddiad dinistriol arall i ran Cilfynydd ar 27 Hydref 1913. Gwibiodd seiclon drwy'r pentref, gan achosi difrod mawr a lladd un o'r trigolion. Ar Richard Street, dinistriwyd tu blaen bron bob siop, a gwasgarwyd y nwyddau ar hyd y stryd. Chwythwyd tô haearn rhychiog y Co-operation Stores ymaith yn gyfan gwbl, a dinistriwyd toeau dau dy yn Park Place.
Difrod i siopau Richard Street |
|
Chwythwyd adeiladau pren yr Orsaf Dân ger Glofa Albion i'r gamlas a dinistriwyd yr orsaf aros ar derfyn llwybr y tramiau. Torrwyd gwifrau'r tramiau a'r gwifrau ffôn. Malwyd ffenestri yng Ngorsaf yr Heddlu, a difrodwyd sawl addoldy yn ddifrifol. Bu'n rhaid i aelodau Capel Moriah dalu £130 i atgyweirio'r adeilad. Cafodd Treharris ac Abercynon eu difrodi'n ddifrifol hefyd.
Difrod i dai yn Park Place
|
|