header Cymraeg English
Y Beddau  

Fel sy'n wir am lawer o bentrefi yn ardal Taf El á i, y diwydiant glo sy'n gyfrifol am fodolaeth a thwf pentref y Beddau. Yn ôl cyfrifiad 1861, dim ond ychydig o ffermydd oedd yno, gan gynnwys Llwyncrwn Uchaf a Gelynog. Fferm bwysicaf yr ardal oedd Ty'n-y-nant ger Nant Myddlyn. Roedd Coedwig Tynant gerllaw, lle byddai sgweier Castellau'n mynd i hela llwynogod. Mae'r rhan fwyaf o ffermydd yn y cyffiniau yno ers dros dri chan mlynedd.
Mae dau eglurhad posibl i darddiad yr enw ‘y Beddau'. Gallai'r pentref fod wedi'i enwi oherwydd pwysigrwydd yr ardal yn ystod rhyfeloedd rhwng llwythau. Ar y llaw arall, mae map Arolwg Ordnans 1833 yn dynodi pedwar llwybr trol a oedd yn cyfarfod mewn lle o'r enw Coesheol y Beddau (Croesffordd y Beddau). Byddai troseddwyr yn cael eu crogi o goeden wrth y groesffordd a'u claddu o dan y crocbren.

Fferm Cwm a ddaeth yn safle Glofa Cwm yn ddiweddarach

Fferm Cwm a ddaeth yn safle Glofa Cwm yn ddiweddarach

 

Mae'r map hwn o'r ardal o 1878 yn dangos mai prin oedd tai ym mhentref y Beddau yn y cyfnod hwnnw

Uchod: Mae'r map hwn o'r ardal o 1878 yn dangos mai prin oedd tai ym mhentref y Beddau yn y cyfnod hwnnw
Yn y 1860au y cafodd pentref y Beddau ei ddatblygu gyntaf. Sefydlwyd nifer o byllau glo yn y cyffiniau, a'r rhai pwysicaf oedd Ty'n-y-nant a Gelynog. Daeth y glo yn amryw o'r pyllau hyn i ben yn gymharol fuan. O ganlyniad i'r datblygiad diwydiannol hwn, adeiladwyd bythynnod a Swyddfa Bost ar sgwâr y pentref. Mae cyfrifiad 1871 yn dangos bod y rhan fwyaf o drigolion y pentref yn lowyr. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae map Arolwg Ordnans 1878 yn dangos bod y pentref hefyd yn cynnwys Capel y Bedyddwyr Bethania (1867),Tafarn Gelynnog (1871) ac Ysgol y Beddau (1877). Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Mr Rees Morgan, a ddaeth yn brifathro cyntaf Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd maes o law. Prin iawn oedd trafnidiaeth yn y cyfnod hwnnw, a byddai llawer o bobl yn cerdded i Bontypridd i siopa neu i fwynhau adloniant. Ni ddatblygwyd y Beddau ymhellach tan 1909. Yn y flwyddyn honno, torrwyd y dywarchen gyntaf ar safle Glofa Cwm.
Roedd un o'r gwasanaethau bws cynharaf yn teithio o'r Beddau i Bontypridd

Yn ystod y blynyddoedd canlynol, adeiladwyd tai ger y pwll glo a enwyd yn nes ymlaen yn Commercial Street, Mildred Street a Parish Road. Ni chafwyd datblygiadau mawr tan 1921 pan gafodd cynghorau lleol yr hawl i ddarparu tai am y tro cyntaf. Prin ei bod yn syndod i nifer disgyblion Ysgol y Beddau gynyddu cymaint nes bod rhaid agor ysgol newydd ym mis Chwefror 1931, sef Ysgol Uwchradd y Beddau. Gyda'r gymuned yn tyfu'n gyflym, roedd angen trafnidiaeth ar ei chyfer. Roedd Beddau Halt wedi agor ym 1909 o dan yr enw World's Ends, ac erbyn yr 1920au roedd gwasanaeth bws yn gweithredu rhwng y Beddau a Phontypridd.

Chwith: Roedd un o'r gwasanaethau bws cynharaf yn teithio o'r Beddau i Bontypridd

 

Sefydlwyd nifer o addoldai yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Agorwyd yr eglwys wreiddiol ym mhentref y Beddau ym 1921, ac mae'r adeilad bellach yn Neuadd yr Eglwys. Eglwys Sant Ioan oedd ei henw gwreiddiol. Cysegrwyd yr eglwys gyfredol i Sant Mihangel a'r Holl Angylion, ac agorodd ei drysau ym 1936. Fe wnaeth Mount Pleasant (1924) a Chapel Seion (1921) hefyd gyfrannu at fywyd crefyddol y gymuned.
Agorwyd amryw o lefydd i ddarparu adloniant i drigolion y Beddau. Agorodd y Welfare Hall and Institute fis Hydref 1933. Cynhaliwyd cyngherddau, dawnsfeydd a hyd yn oed ornestau bocsio yno, ond ym 1935 fe gafodd ei throi'n sinema, y Gaiety. Caeodd y sinema ym 1964 ac mae'r adeilad bellach yn glwb cymdeithasol. Agorodd Parc Mount Pleasant ym 1938, ond ni chafodd ei gwblhau tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Agorodd clinic iechyd ym 1940. Dewiswch bwnc Y Beddau Glofa Cwm Y Beddau
Glofa Cwm  
Dechreuwyd ar gyfnod o ddatblygu sylweddol yn ardal y Beddau ar ôl i'r Great Western Colliery Company Limited agor Glofa Cwm ym 1909. Roedd y cwmni wedi'i ymgorffori i agor pyllau yn ardal Pontypridd er mwyn darparu glo ager i Reilffordd y Great Western. Gwraig Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Mrs C.H. James, a gafodd y fraint o dorri'r dywarchen gyntaf. Ymysg y pwysigion lleol roedd y Fonesig Margaret a'r Fonesig Mildred Bramwell o Dir Mab Ellis. Cysylltwyd enwau'r ddwy â'r lofa am byth, am i'r ddau bwll a agorwyd ddod yn fwy adnabyddus fel Pyllau Margaret a Mildred. Roedd y gwaith o ddatblygu'r pwll yn dal i fynd rhagddo ym 1913 pan oedd 212 o ddynion yn cael eu cyflogi. Erbyn 1934 roedd y lofa'n gweithio i'w llawn botensial, yn cyflogi 100 o ddynion ar y wyneb a 780 dan ddaear. Daeth Powell Duffryn Steam Coal Company yn berchnogion y lofa ym 1928, gan ei gweithio tan i'r pyllau gael eu gwladoli ym 1947.

Datblygodd Glofa Cwm yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd, ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd cynnydd sylweddol yn nifer y gweithwyr a'r glo a gynhyrchwyd. Agorodd rheilffordd danddaearol yn cysylltu Glofa Maritime, Pontypridd â'r Cwm ym 1931. Ym 1957 agorodd rheilffordd debyg rhwng Cwm a Glofa Coedely. Yn sgil uno'r ddau bwll hwn, crëwyd y lofa fwyaf ym maes glo'r de. Erbyn 1960 roedd Glofa Cwm ar ei hanterth, gan gyflogi 1,470 o ddynion a chynhyrchu 324,794 o dunelli o lo. Agorodd gweithfeydd golosg Cwm ym 1958. Eu nod oedd canoli a chynnal y gwaith o gynhyrchu golosg ffowndri ym maes glo'r de. Roedd glo Cwm yn addas iawn ar gyfer golosg ffowndri oherwydd ei lefelau isel o sylffwr. Caewyd Glofa Cwm gan Fwrdd Glo Prydain ym 1986, a chaeodd y gweithfeydd golosg fis Mehefin 2002.

 

Llun o Lofa Cwm ym 1977

Chwith: Llun o Lofa Cwm ym 1977

 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf