Tylorstown |
|
Mae Tylorstown wedi'i enwi ar ôl Alfred Tylor, gwr o Lundain a brynodd hawliau mwynol fferm Pendyrus ym 1872 cyn mynd ati i agor glofa gynta'r pentref, Glofa Pendyrus. Mae map degwm 1847 yn dangos mai dim ond ffermydd gwasgaredig, caeau a dolydd ffrwythlon a choedwigoedd derw eang oedd ym Mhendyrus, fel gweddill y cwm ar y pryd. 1872 oedd blwyddyn geni'r diwydiant glo yn Tylorstown a'r pentref ei hun mewn gwirionedd. Dyma'r adeg y prynodd Alfred Tylor o Newgate Street, Llundain hawliau mwynol fferm Pendyrus ac agor yr ail lofa fwyaf yng Nghwm Rhondda Fach. Er hynny, cafwyd trafferthion mawr wrth agor y pwll cyntaf ac ni lwyddwyd i ddarganfod y gwythïennau glo ager cyntaf tan 1876, 333 o lathenni islaw'r ddaear. Anfonwyd y llwyth cyntaf o lo ager ar y Taff Vale Railway i Gaerdydd ym 1877, ac aeth Glofa Pendyrus o nerth i nerth wedyn, gan gynhyrchu 3,252 o dunelli ym 1877 a chynyddu i 241,061 o dunelli erbyn 1893. Prynodd David Davis and Sons Co. y lofa ym 1894. |
Tylorstown tua 1900 |
Daeth gweithwyr o bell ac agos i weithio yn y pentref mwya'r sydyn, gan arwain at orboblogi difrifol ac amodau byw gwael. Roedd gweithwyr cyntaf Glofa Pendyrus yn gorfod byw mewn cytiau pren wedi'u hadeiladu ar frys. Prin iawn oedd y cyfleusterau i ddechrau, fel y disgrifiodd E.D. Lewis yn ei waith, ‘The Rhondda Valleys: ‘…in many of these hastily erected townships of the Rhondda in the early days of the ‘coal rush', life bore a strong resemblance to the frontier townships of the United States.' Mae'r ffaith mai cwmni Tylor and Co. oedd yn gyfrifol am y cyflenwad dwr i gartrefi Tylorstown yn dangos y graddau yr oedd y gweithwyr wedi eu clymu i'r lofa leol. Cafodd Tylorstown ei siâr o drychinebau hefyd, pan laddwyd 57 o lowyr mewn tanchwa ym 1896. Llewellyn Street tua 1900 |
|
Mae byd o wahaniaeth rhwng y ddelwedd o Tylorstown fel ‘frontier town' yn y 1870au â'r disgrifiad o'r dref lai na 30 mlynedd yn ddiweddarach yng Nghyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906. Mae'n disgrifio Tylorstown fel pentrefan 7 milltir i'r gogledd-gogledd-orllewin o Bontypridd, gyda'i gorsaf ei hun ar lein Taff Vale Railway. Roedd yno eglwys, ‘Y Drindod Sanctaidd' a godwyd ym 1883 am £1,400, swyddfeydd post a swyddfa delegraff, oedd hefyd ar agor ar y Sul. Roedd 13 o addoldai Cymraeg a Saesneg yn y dref, gan gynnwys y Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Annibynwyr a'r Wesleaid. O ran byd masnach, roedd yno fasnachwr gwin a gwirodydd, warws esgidiau, gwneuthurwr watshis a chlociau, gwerthwr llaeth, gwerthwr llestri, gwerthwr pysgod wedi ffrïo, dilledydd a siop ddillad, cangen y London and Provincial Bank, Sefydliad Cerddorol Band Tylorstown, Sefydliad a Chlwb Ceidwadwyr Tylorstown, Llyfrgell a Sefydliad Tylorstown, a llu o siopau cyffredinol, cigyddion, groseriaid ac ati. Felly, llwyddodd Alfred Tylor a'i olynwyr i drawsnewid pentref bach gwledig anghysbell, prin ei boblogaeth, i fod yn dref lofaol ffyniannus dros ben. |
Swyddogion Glofa Cynllwyn-Du |
TANCHWA GLOFA TYLORSTOWN, DYDD LLUN 27 IONAWR 1896 |
|
Mae papur newydd y Rhondda Chronicle yn disgrifio sut y daeth Cwm Rhondda yn ganolbwynt tristwch a thrychineb unwaith eto ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r danchwa ddiwethaf mewn pwll glo yn yr ardal. Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio, ‘the Angel of Death had been at his dread task mowing down the colliers who were finishing their nights work in the Tylorstown colliery'. Mae'r adroddiad yn sôn am y miloedd o bobl o ardal Merthyr Tudful, Aberdâr a Chwm Rhondda oedd ar bigau'r drain wrth ben y pwll, yn disgwyl am newyddion am y glowyr druan yn nyfnderoedd y ddaear. Mae'r papur newydd hefyd yn disgrifio'r angladdau niferus a'r holl bobl a ddaeth i dalu teyrnged ym mynwentydd y cylch (Mynwent Llethr-ddu, Mynwent y Maerdy a mynwent Eglwys Llanwynno) a'r cyrff a gludwyd ar drenau i'w claddu yn Aberystwyth, Sanclêr, Cheltenham a'r Trallwng. |