Treherbert | |
William a Catherine Davies, Fferm Cwmsaerbren |
Cyn dyfodiad diwydiant, dim ond clwstwr o dyddynnod bach a ffermydd anghysbell oedd pentrefi Treherbert, Tynewydd, Blaenrhondda a Blaen-cwm. Ychydig iawn o bobl oedd yn byw yma, ac yn ôl y Parchedig Lewis yn ‘History of the Parish of Treherbert' ym 1959, roedd Treherbert ar frig cwm diarffordd ac wedi llwyddo i gadw ei gymeriad gwledig arbennig . Er bod tystiolaeth yn dangos fod pobl yn byw yma yn oes y Celtiaid, prin oedd poblogaeth yr ardal am flynyddoedd maith - dim ond 218 o bobl oedd yn byw yn 'Middle hamlet of Treherbert' ym 1841. Erbyn 1861 fodd bynnag, cynyddodd y ffigur hwn 500% i 1,203. Un peth oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r pentrefi hyn, a Chwm Rhondda i gyd i raddau helaeth, sef agor y pwll glo stêm cyntaf yng Nghwmsaerbren (Treherbert) ym 1855. |
Agorwyd y pwll gan Ymddiriedolwyr Marcwis Bute ar ôl iddynt brynu fferm Cwmsaerbren gan William Davies am £11,000 ym mis Awst 1845. Dechreuwyd cloddio am lo mewn pwll arbrofol ym 1850, ond araf iawn y datblygodd pethau oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gwael Cwm Rhondda yn y 1840au. Roedd rhaid defnyddio ceffylau i lusgo'r offer ar draciau garw am wyth milltir o derfynfa rheilffordd Taff Vale ym mhentref Dinas. | |
Er gwaethaf hyn, daethpwyd ar draws gwythïen lo 4 troedfedd, 125 o lathenni islaw'r ddaear, a dechreuodd y gwaith ym 1855. Gyda llaw, ym mis Ionawr y flwyddyn honno y ceir y cofnod cyntaf o'r enw Treherbert yng nghofnodion y Plwyf, ar ôl un o enwau teuluol Marcwis Bute. Cafodd y 38 o wagenni glo stêm cyntaf eu cludo o orsaf drenau Taff Vale Railway (oedd newydd ei ehangu) yng Ngelligaled (Ystrad) i Gaerdydd ar 21 Rhagfyr 1855. O ganol y 1850au ymlaen, dechreuwyd ehangu pentrefi rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr ac adeiladau'r rhesi cyntaf o dai, sef Bute Street, Dumfries Street, a Baglan Street. | |
Diwydiant glo Treherbert |
|
Dyma rywfaint o hanes prif byllau glo ardal Treherbert, Blaenrhondda a Blaen-cwm. Nid rhestr gynhwysfawr na chyflawn mohoni. |
|
Glofa Abergorchi - Treherbert |
|
Ar bod lefel lo fach yma yn nechrau'r 1800au, manteisiwyd i'r eithaf arni wrth i fflyd o fentrwyr glo heidio i'r ardal ar ôl agor pwll Bute . Ym mis Medi 1859, llwyddodd partneriaeth Houghty Huxham, Thomas Hopkin a William Morgan i gysylltu'r lefel â gwythïen ‘Rhondda No.3'. Prynwyd y lefel hon maes o law gan H. Insole am £7,000 ym 1862 a suddodd y siafft i'r gwythiennau glo stêm, ac yna gan Bunyeat, Brown and Company a brynodd y lofa ym 1874. Fe'i prynwyd gan Ocean Coal Company ym 1926, ond roedd yn segur erbyn gwladoli'r pyllau glo ym 1947. Uwchben Glofa Abergorchi tua 1900 |
|
Glofa Bute Merthyr (Treherbert) | |
Glofa Bute Merthyr tua 1885 |
Agorodd y lofa hon ym 1851, ac erbyn 1853 roedd wedi cyrraedd y wythïen 4 troedfedd 125 o lathenni islaw'r ddaear cyn suddo'r siafft aer rhwng 1853 a 1854. Ym 1857, gosodwyd y pwll ar les gan Ystâd Bute i gwmni a aeth i'r wal ym 1859 ac roedd y pwll yn wag am naw mis wedyn. Ym 1862, penderfynodd W.S.Clark i orchwylio'r gwaith cynhyrchu ei hun ar ran Ystâd Bute a chynyddodd y gwaith cynhyrchu yn gyflym. Erbyn 1869, roedd y pwll yn cynhyrchu bron ddwywaith cymaint o lo, a chloddiwyd yn ddyfnach o dan y ddaear gan daro'r wythïen dwy droedfedd naw modfedd, y wythïen chwe throedfedd a'r wythïen naw troedfedd. Prynodd United National Collieries y lofa ym 1915, cyn dod o dan reolaeth Ocean Coal Company ym 1926. Er na chynhyrchwyd mwy o lo gan y Bwrdd Glo ar ôl gwladoli, fe'i cadwyd ar agor fel gorsaf bwmpio am gyfnod byr wedyn.
|
Glofeydd Fernhill |
|
Oedd pump o byllau a lefelydd yn Fernhill, gan gynnwys pwll North Dunraven. Agorwyd pyllau rhif 1 a 2 Fernhill gan Ebenezer Lewis ym 1869, ac ar ôl i'r pyllau hyn gyrraedd y wythïen chwe throedfedd ym 1871 fe'u gwerthodd i bartneriaeth y Meistri Crowley, John ac Oldroyd yn yr un flwyddyn. Gwerthwyd y pyllau maes o law i George Watkinson a'i feibion ym 1877, a brynodd bwll North Dunraven (Blaenrhondda) ym 1893 hefyd a'i uno gyda Glofa Fernhill. Aeth Watkinson ati i greu cwmni cyhoeddus Fernhill Collieries Cyfyngedig wedyn. Daeth y cwmni dan fantell Cambrian Trust Limited ym 1910, ac erbyn 1913 roedd dros 1,700 o ddynion yn gweithio i byllau'r cwmni.
|
Pyllau 1 a 2, Fernhill |
Ym 1920, agorwyd pwll olaf Fernhill, pwll rhif 5, a daeth y cwmni'n rhan o'r Welsh Associated Collieries Limited a unodd gyda Powell Duffryn ym 1935 i greu cwmni Powell Duffryn Associated Collieries Limited oedd yn rheoli'r glofeydd tan iddynt gael eu gwladoli ym 1947. Ar ôl gwladoli, daeth Fernhill yn rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3, Grwp 4, Bwrdd Glo Prydain. Ar y pryd, cyflogwyd dros 1,000 o ddynion oedd yn cloddio'r gwythiennau pedair troedfedd, naw troedfedd, newydd a dwy droedfedd. Unwyd glofa Fernhill gyda Glofa'r Twr, Hirwaun ym 1966, a chynyddodd y gwaith cynhyrchu. Caeodd glofa Fernhill am y tro olaf ym 1978. | |
Glofa Glyn Rhondda (Blaen-cwm) |
|
Agorwyd y lofa hon ym 1911 gan gwmni Glenavon Garw Collieries Limited, aelod o Gymdeithas Perchnogion Glo De Cymru, a wasanaethwyd gan reilffordd Rhondda and Swansea Bay. Roedd yn cynnwys dwy lefel, slant a phwll, a chyflogwyd rhwng 200 a 500 o ddynion yn ystod oes y lofa a oedd yn cynhyrchu glo i gartrefi a diwydiannau. Ar ôl gwladoli, daeth y lofa'n rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3, Grwp 4, y Bwrdd Glo. Ar y pryd, roedd dros 450 o lowyr yn gweithio ym mhyllau 1 a 2, a thua 70 yn gweithio yn lefel rhif 2. Caeodd lefel rhif 2 ym 1954, a chaewyd y lofa i gyd gan y Bwrdd Glo ym 1966 Glofa Glyn Rhondda tua 1963
|
|
Glofa Lady Margaret (Treherbert) | |
Dyma un o byllau glo cyntaf rhan uchaf Cwm Rhondda, a agorwyd gan Farcwis Bute ym 1853. Roedd rheilffordd Taff Vale newydd gael ei hymestyn ar y pryd i wasanaethu'r lofa, ac roedd digon o le i 160 o wagenni llawn, 114 o wagenni gwag a 45 o wagenni eraill ar seidins y lofa. Cloddiwyd yn ddyfnach i'r wythïen bedair troedfedd uchaf a'r gwythiennau dwy droedfedd naw modfedd, pedair troedfedd a chwe throedfedd cyn rhoi'r gorau iddi ym 1909. Aeth United National Collieries Limited ati i brynu'r lofa hon ynghyd â Glofa Bute Merthyr ym 1915, ac erbyn 1926 roedd y gyfran fwyaf o'r cwmni ym meddiant Ocean Coal Company. Ar ôl gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, dim ond at ddibenion pwmpio ac awyru y defnyddiwyd Glofa Lady Margaret. Glofa Lady Margaret tua 1916
|
|
Glofa Tydraw (Blaen-cwm) | |
Glofa Dunraven oedd enw'r pwll hwn yn wreiddiol, ar ôl y perchnogion gwreiddiol, Dunraven United Collieries Limited a sefydlwyd gan Thomas Joseph. Aeth y cwmni i'r wal ym 1866 ar ôl darganfod y wythïen dwy droedfedd naw modfedd ym 1865. Roedd yn segur tan 1872 pan brynwyd y lle gan Watts and Company. Fe'i gwasanaethwyd gan reilffordd Taff Vale, ac ym 1897 roedd lle i 340 o wagenni ar y seidins. Pan brynodd y Brodyr Cory y lofa ym 1913, roedd yn cyflogi 806 o ddynion. Parhaodd yn eu dwylo nhw tan 1947 pan ddaeth yn rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3, Grwp 4, y Bwrdd Glo, gyda bron i 450 o weithwyr. Daeth y gwaith i ben am y tro olaf ym 1959. Glofa Tydraw yn y cefndir
|
|
Cludiant Treherbert |
|
Cyn agor Pwll Bute Merthyr, roedd cysylltiadau cludiant ym mhen uchaf Cwm Rhondda yn gwbl nodweddiadol o ardal wledig yn nechrau'r 1800au. Doedd dim cyswllt rheilffordd, a thraciau garw a llwybrau ceffyl niferus oedd ffordd fawr y cyfnod. Yr unig ffordd o gyrraedd y cymoedd cyfagos oedd ar hyd y grib oedd yn cysylltu â ffordd Castell-nedd/Aberdâr. Er mwyn croesi'r afon, roedd rhaid mynd drwy ddwy ryd, Rhyd-y-cwm, uwchben Blaenrhondda, a Rhyd Tonllwyd yn Nhreherbert. Mae cysylltiad amlwg rhwng datblygiad diwydiannol yr ardal a datblygu'r cysylltiadau cludiant yma. Mewn dim o dro, trodd yr ardal wledig anghysbell hon i fod yn ganolbwynt bwrlwm diwydiannol. |
Platfform gorsaf Blaenrhondda |
Felly, cynigiodd y cwmni wobr o £500 i unrhyw un a fyddai'n agor pwll 120 o lathenni o dan y ddaear ym mhen uchaf Cwm Rhondda Fawr. Llwyddodd pwll Bute Merthyr i wneud hyn wrth ddarganfod gwythïen lo 125 o lathenni o dan y ddaear ym 1853. Cafodd hyn effaith uniongyrchol ar gludiant, gyda rheilffordd Taff Vale yn ehangu'r lein i Gelligaled yn Ystrad Rhondda i ddechrau ac yna i bwll glo Bute Merthyr, Treherbert, ym 1856. Bellach, roedd modd cloddio am lo ar raddfa fawr yn y cylch, a doedd dim angen defnyddio ceffylau a wagenni i gludo'r holl offer ar lonydd anaddas wyth milltir i fyny'r cwm mwyach. Hefyd, doedd dim angen cludo'r glo i lawr y cwm fel hyn chwaith. Cyflymodd yr holl broses yn sylweddol, ac yn bwysicach i bawb oedd yn gysylltiedig â'r diwydiant, cynyddodd yr elw hefyd. Rhaid cofio mai trenau cludo nwyddau'n bennaf oedd yn teithio ar gledrau'r cyfnod, ac ni ddechreuwyd cludo teithwyr i orsaf Treherbert tan fis Ionawr 1863. Ffactor hynod ddylanwadol arall ar y pryd oedd creu Rheilffordd Rhondda and Swansea Bay a agorodd ym mhen ucha'r cwm, gan gysylltu Cwm Rhondda ag ardaloedd Castell-nedd ac Abertawe. Daeth y Rhondda and Swansea Bay Company yn gwmni corfforedig ym 1882 gyda'i fryd ar gysylltu Cwm Rhondda Uchaf â phorthladdoedd Bae Abertawe, a rhyddhau'r meysydd glo o fonopoli cwmni Taff Vale. Un o orchestion peirianyddol y cwmni hwn oedd creu twnnel bron i 3,500 o lathenni o hyd o Flaenrhondda i Flaengwynfi (y mwyaf o'i fath yng Nghymru), a gyflogai 1,100 o ddynion pan roedd y gwaith adeiladu ar ei anterth. Ond ni fu'r cwmni rheilffordd hwn mor llwyddiannus â'r disgwyl, ac ni lwyddwyd i lacio gafael haearnaidd Taff Vale Railway. Un o sgil-effeithiau hyn oedd y ffaith iddo agor yr ardal i'r gorllewin o Gwm Rhondda i drigolion Cwm Rhondda Uchaf - ac roedd yn arbennig o boblogaidd yn ystod misoedd yr haf pan roedd pawb a'i fodryb yn mynd ar y trên am y dydd i draethau Aberafan ac Abertawe. |
|
Fel y nodwyd eisoes, roedd ffyrdd yr ardal yn hollol anaddas ar gyfer yr holl bobl a heidiodd i'r ardal i chwilio am waith yn y diwydiant newydd. Mater i berchnogion y glofeydd eu hunain oedd mynd ati i adeiladu ffyrdd gwell, ac yn hyn o beth, roedd Ystâd Bute ar flaen y gad - gan alw am ffordd 50 troedfedd o led o Dreherbert i Bontypridd yn nechrau'r 1860au. Er na wireddwyd y cynllun hwn, aeth Ystad Bute ati i gyflawni'r gwaith o Dreherbert i Dreorci. Yn y 1920au, aeth y cyngor lleol ati i adeiladu ffordd y Rhugos (neu ‘New Road' fel yr oedd ar y pryd) fel dolen gyswllt rhwng pen ucha'r cwm â Chwm Cynon a Chwm Nedd. Pont Ynysfeio tua 1900
|
|
Cerbydau hansom, breciau a wagonetiau oedd fwyaf cyffredin ar y ffyrdd cynnar, ond ym 1860au, sefydlwyd dau wasanaeth bws â cheffyl rhwng Treorci a Threherbert. Ehangwyd y gwasanaeth yn y 1870au gyda thri gwasanaeth dyddiol rhwng Treherbert ac Ystradyfodwg. Ym mis Ebrill 1906 ffurfiwyd cwmni Rhondda Tramways gan arwain at y gwasanaeth tram trydan cyntaf i Dreherbert ym 1908. Disodlwyd y tramiau gan y bysus yn y 1930au, gyda'r gwasanaeth bws cyntaf rhwng Treherbert a Chaerdydd 1931. Mewn llai nag 80 mlynedd felly, roedd Treherbert a'r cylch wedi gweddnewid yn llwyr - o fod yn blwyf tawel ac anghysbell oedd heb newid fawr ddim ers canrifoedd, i fod yn dref ddiwydiannol brysur â chysylltiadau i weddill y De. Damwain trên Fernhill |