Trealaw | |
Yn ôl pob sôn, Alaw, yr enw barddol ar dirfeddiannwr lleol David Williams oedd ffynhonnell yr enw Trealaw. Mae manylion perchnogion a thenantiaid Trealaw ar fapiau degwm 1847 yn dangos bod pobl wedi dechrau cloddio am lo yno. Er mai ysgutorion ystâd Anne Sanderson sy'n berchen ar ffermydd fel Brithweunydd Isaf a Brithweunydd Uchaf, Walter Coffin sydd wedi'i restru fel y tenant - sef arloeswr cyntaf gwaith glo yn rhan isaf Cwm Rhondda. Yn wir, roedd Coffin wedi prydlesu'r tir yn Nhrealaw ers 1811, er na agorodd ei lefel lo gyntaf yn yr ardal hon tan 1839, ar ôl llwyddo ym mhentref Dinas. Gwerthwyd pyllau glo Trealaw maes o law i Daniel Thomas, a agorodd lefel lo Brithweunydd ym 1862 cyn cau ym 1879. |
|
Gyda phoblogaeth Cwm Rhondda'n prysur gynyddu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sylweddolodd y cyngor dosbarth lleol nad oedd y fynwent bresennol yn ddigon mawr. Felly, prynwyd darn o dir yn Llethr-ddu, ar ochr y mynydd yn Nhrealaw, ar gyfer mynwent gyhoeddus a chapel. Cynhaliwyd yr angladd cyntaf ym mynwent Llethr-ddu ym 1881, a chwblhawyd y capel ym 1883. Chwith: Mynwent Eglwys Trealaw |
|
Digwyddiad pwysig yn hanes Trealaw oedd sefydlu canolfan addysg Maes-yr-haf yn ystod y 1920au. Emma a William Noble aeth ati'n ddiflino i'w sefydlu a bu'n hynod bwysig yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad yng Nghwm Rhondda. Yn ogystal â rhaglen o ddosbarthiadau a darlithoedd, roedd hefyd yn rhoi cymorth ymarferol i leddfu problemau trigolion Trealaw a Chwm Rhondda pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf. Sefydlwyd Clybiau'r Dynion Di-waith yma er mwyn rhoi cyfle iddynt addysgu eu hunain a cheisio dod o hyd i swydd arall. Cyn pen dim, sefydlodd clybiau tebyg ledled Prydain a hyd yn oed yn America yn ystod y Dirwasgiad mawr. Uchod: Royal Hotel, Trealaw |
|
Roedd adeilad trawiadol o'r enw ‘Judge's Hall' yn y pentref hefyd. Ei enw llawn oedd ‘The Judge Williams Memorial Hall' ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol ym mis Gorffennaf 1909 gan y Dywysoges Louise a Dug Argyll. Rhodd i bobl y fro gan yr Is-gyrnol Syr Rhys Williams oedd yr adeilad, oedd yn cynnwys neuadd gyngerdd â lle i 1,500 o bobl, ynghyd â llyfrgell ac ystafell biliards. Chwith: Pont Trealaw |
|
MAES-YR-HAF TREALAW | |
Canolfan gymuned i drigolion Trealaw yw Maes-yr-haf heddiw, ac mae'n gartref i gylch meithrin, clwb camera, cyfarfodydd Clwb y Rotari a chyfarfodydd Cyfeillion y Crynwyr ymhlith eraill. Arbrawf cymdeithasol unigryw yng nghanol cyfnod cythryblus y 1920au oedd y ganolfan wreiddiol, arbrawf a ledodd i rannau eraill o Brydain a hyd yn oed America ar y pryd. Mae llyfryn a ysgrifennwyd gan William Hazelton i ddathlu pen-blwydd Maes-yr-haf yn chwarter canrif oed ym 1952 yn crynhoi hanes y ganolfan bwysig hon. | |
Gwreiddiau
|
Roedd Prydain 1926 yng nghanol argyfwng diwydiannol, a bu galw am Streic Gyffredinol o blaid y glowyr ym mis Mai. Gohiriwyd y streic naw diwrnod yn ddiweddarach, ond parhaodd miloedd o lowyr i streicio yn erbyn cyflogau is. Trafodwyd y sefyllfa yng nghyfarfod Cymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr) ym Manceinion y flwyddyn honno, a phenderfynwyd anfon cynrychiolwyr i'r ardaloedd glo. Gorchwyl y cynrychiolwyr oedd casglu gwybodaeth o lygad y ffynnon am gyflwr yr ardaloedd hyn, a nodi anghenion y bobl mewn argyfwng. Roedd Emma Noble, un o aelodau'r Gymdeithas, yn y cyfarfod, a phenderfynodd fynd i Gwm Rhondda. Cyrhaeddodd Donypandy ym 1926, ac ar ôl cael llety mewn ty glöwr yn y dref, penderfynodd aros am 3 wythnos i asesu'r sefyllfa yn yr ardal. Daeth yn gyfeillgar â gwragedd y glowyr, gan drafod y problemau o fyw mewn ardal ag un diwydiant mawr lle'r oedd bron pawb yn ddi-waith. Ar ôl treulio wythnos yn yr ardal, roedd hi'n argyhoeddedig fod angen cymorth materol a chydymdeimlad cariadus ar y bobl hyn. Egwyddor sylfaenol Emma a'r gwirfoddolwyr eraill a ddaeth i Gwm Rhondda oedd mai ‘hunangymorth yw'r cymorth gorau'. Sylweddolodd Emma fod angen dillad ar fenywod, plant a phobl ifanc yr ardal, ac felly sefydlwyd Clybiau Gwnïo i Fenywod. Roedd y grwpiau hyn yn trwsio, darnio ac ail-wnïo sypiau mawr o ddillad wedi'u hanfon gan Bencadlys Cymdeithas y Cyfeillion yn Llundain a chan gymwynaswyr ledled Prydain. Yn sgil hyn, ymunodd y glowyr di-waith â ‘chlybiau trwsio esgidiau', gyda llawer ohonynt yn gysylltiedig ag ysgolion lleol. Cyflenwyd lledr ac offer drwy Gymdeithas y Cyfeillion a'r Bwrdd Gwarcheidwaid lleol, ac roedd glowyr di-waith yn treulio oriau maith yn trwsio esgidiau plant - tua 82,000 o barau i gyd. |
Wedi'r streic | |
Daeth streic y glowyr i ben ar ddiwedd 1926, a dychwelodd y glowyr i'r gwaith, wedi'u trechu'n llwyr. Er hynny, gadawyd miloedd o lowyr ar y clwt. Ym mis Ionawr 1927, aeth Emma Noble i gyfarfod yn Rhydychen gan fynnu bod angen parhau i helpu'r ardaloedd glofaol tlawd. Yn y cyfarfod hwn, cymerwyd y camau cyntaf tuag at gynnal a datblygu gwaith ysbrydol ac addysgol law yn llaw â'r gwaith cymdeithasol ymarferol yng Nghwm Rhondda. Ffurfiwyd pwyllgor, a chytunodd Emma a'i gwr William i ddychwelyd i Gwm Rhondda am ddwy flynedd, gan brynu Maes-yr-haf ar gyfer eu gwaith. Y syniad oedd ei droi'n ganolfan addysg i oedolion a chreu cyfleoedd i drafod, addysgu ac astudio. Roedd yn cael ei ystyried yn ffordd arloesol o ddiwallu anghenion pobl - glowyr yn bennaf - a oedd wedi diodde'n drwm gan ddirwasgiad a diweithdra. Fel canolfan arbrofol, cafodd y cwpwl rwydd hynt gan y pwyllgor i ddefnyddio'u profiad a'u gwybodaeth arbennig i ddatblygu'r lle heb unrhyw ymyrraeth. Bwriad y ganolfan o'r cychwyn cyntaf oedd bod yn gyfrwng cyfeillgarwch, cwnsela, cydymdeimlad a chymorth ymarferol, a thorri tir newydd ym maes addysg oedolion. Oherwydd tlodi a chyni mawr y cwm ar y pryd, fe ddaeth Maes-yr-haf yn ganolfan i ddigwyddiadau cymorth materol maes o law hefyd, er nad dyna'r bwriad ar y cychwyn. | |
Addysg i oedolion | |
Rhwng ei sefydlu ym 1927 a 1939, cynhaliwyd dros 475 o ddosbarthiadau a chyrsiau o ddarlithoedd gyda chymorth grant ym Maes-yr-haf, ynghyd â miloedd o ddarlithoedd sengl. Er enghraifft ym 1937-38, cynhaliodd y ganolfan gyrsiau ar diwtorialau Prifysgol, cyrsiau paratoadol ar gyfer Prifysgol a chyrsiau estyn Prifysgol. Cyflwynwyd y cyrsiau hyn gyda chymorth gwirfoddolwyr yn ogystal â Phrifysgol Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, YMCA, Cyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru a Chyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, ac fe'u cynhaliwyd ym Maes-yr-haf ac mewn nifer o is-ganolfannau eraill. Hefyd, ffurfiwyd llu o grwpiau anffurfiol a chylchoedd trafod, cymdeithasau dramâu a chorau, dosbarthiadau gwniadwaith, crefftau a dosbarthiadau ymarfer corff ym Maes-yr-haf . Uchod: Maes-yr-haf tua 1930 |
|
Dynion sengl di-waith | |
Erbyn 1928, roedd y cwm yn llawn dynion di-waith, anghenus, oedd yn methu hawlio budd-daliadau. Felly, torrwyd tir newydd ym Maes-yr-haf trwy sefydlu clybiau hyfforddi neu alwedigaethol i'r glowyr. Y syniad oedd cynnig diwrnod o waith yr wythnos i bob dyn ar raddfa gyflog yr undebau, ynghyd â chinio poeth a chyfle i ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan. Roedd y dynion di-waith yn gweithio mewn parciau a chaeau hamdden/chwaraeon lleol dan drefniant awdurdodau lleol a phwyllgorau hamdden lleol. Gwaith ar gyfer y gymuned gyfan oedd hwn, ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio yn lle llafur cyffredin. Roedd cyfleusterau ym mhob ardal leol er mwyn i'r aelodau gael pryd poeth a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff, datganiadau gramoffon, cyngherddau a darlithoedd ac ati. Yn yr haf, roedd gan bob aelod hawl i gael wythnos o wyliau yng nghanolfan Maes-yr-haf ger y môr. Manteisiodd 5,030 o ddynion ar y clybiau hyn i gyd, oedd yn cael eu hariannu gan Gymdeithas y Cyfeillion i ddechrau ac yna gan gronfa'r Arglwydd Faer ar gyfer helpu'r meysydd glo. Ehangwyd y cynllun hwn i holl ardaloedd anghenus y De. | |
Clybiau'r Dynion Di-waith | |
Yn sgil llwyddiant yr arbrawf hwn, ffurfiwyd y clybiau cyntaf i ddynion di-waith ym 1931, oedd yn llwyddiant mawr ledled Prydain ac America. Cynhaliwyd y clybiau hyn mewn adeiladau gwag yn y gymuned i ddechrau, ond wrth i'r mudiad fynd o nerth i nerth, dechreuodd y dynion godi eu hadeiladau eu hunain. Erbyn 1932, roedd 10 o glybiau a 1,500 o aelodau, a thyfodd hyn dros y saith mlynedd nesaf i 60 o glybiau a rhyw 9,000 o aelodau. Yn nyddiau'r diweithdra mawr, roedd y clybiau hyn ar agor drwy'r dydd er mwyn i'r dynion gael eistedd, darllen a chymdeithasu, ac er mwyn cael lloches a chynhesrwydd yn y gaeaf. | |
Roedd y clybiau'n cynnwys gweithdai gydag offer a deunyddiau ar gyfer gwaith coed, trwsio esgidiau a chelfi, ynghyd â'r holl gyfleusterau addysgol a diwylliannol ym Maes-yr-haf. Cafodd y clybiau hyn effaith annisgwyl a llesol, gyda dynion oedd wedi'u dadrithio'n llwyr ar fod yn ddi-waith yn cael ail wynt, ac yn dysgu sgiliau newydd ac ymdeimlad o werth ac o berthyn i gymuned. Roedd menywod hefyd yn elwa ar ddysgu sut i ddefnyddio peiriannau gwnïo, trwsio a gwneud dillad, a dysgu crefftau fel gwehyddu a chrochenwaith. Mewn ardaloedd lle rhoddwyd caniatâd i aelodau'r clybiau i weithio mewn lefel lo yn wirfoddol, roedd dynion yn cyflenwi 2 can pwys o lo yr wythnos i bob teulu yn y clwb, ac i bensiynwyr a phobl anabl y fro. Yr aelodau eu hunain oedd yn rheoli'r clybiau, gan gynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'r cymoedd yn ystod y Dirwasgiad Mawr. | |
Gwyliau haf ar lan y môr | |
Roedd Cymdeithas y Cyfeillion yn credu y byddai rhywfaint o newid a seibiant o'r holl dlodi a chyni ysbrydol yn gwneud byd o les i bobl. Felly cafwyd syniad o gynnig wythnos o wyliau haf ar lan y môr i bob aelod o'r clwb. Cafodd y Gymdeithas afael ar hen fragdy segur yn y Wig, ger y Bont-faen, Bro Morgannwg. Aeth y dynion di-waith ati i atgyweirio'r adeilad eu hunain, ac yn ystod ei gyfnod fel canolfan wyliau, cafodd miloedd o deuluoedd wyliau braf ar lan y môr. Dde: Yr hen fragdy, y Wig |