header Cymraeg English

Ton Pentre

 

Fel sawl pentref arall yng Nghwm Rhondda, mae Tonpentre wedi'i enwi ar ôl fferm oedd yno cyn dyddiau diwydiant. ‘Y Ton', sef hen enw Cymraeg am gae, oedd enw'r fferm a'r clwstwr o fythynnod cyfagos. Dyna enw'r pentref gwreiddiol, ond cafodd ei ailfedyddio'n Tonpentre er mwyn gwahaniaethu rhwng Tonypandy. Yn wir, mae ‘Kelly's Directory of South Wales' 1906 yn enwi'r lle fel ‘Ton' neu ‘Ton Pentre' neu ‘Ton Ystrad'. Mae map degwm 1847 o'r ardal yn dangos tir sy'n eiddo i ystad Crawshay Bailey yn cael ei ffermio gan denantiaid fel Evan Jenkins fferm ‘Ton' a Mary Bailey, fferm ‘Tir yr Eglwys'

Enwyd ‘Tir yr Eglwys' ar ôl yr unig adeilad arall o bwys yn y cylch ar y pryd, sef eglwys y plwyf Sant Ioan. Mae cofnodion yn dangos bod addoldy Cristnogol ar y safle mor gynnar â'r chweched neu'r seithfed ganrif. Roedd eglwys fawr arall yn ardal Ton hefyd, sef Dewi Sant, capel anwes Sant Ioan. Fe'i hadeiladwyd ym 1881 gan Crawshay Bailey am £6,000, gyda lle i 550 o addolwyr. Adeilad amlwg arall yn Nhonpentre oedd ‘Ocean Collieries, Maindy and Eastern Workmen's library' ar Heol yr Eglwys. Gweithwyr pyllau ‘Maindy' ac ‘Eastern' adeiladodd y llyfrgell hon, a agorodd ym 1895 ar gost o £4,000.

Golygfa gyffredinol o Donpentre tua 1900

Golygfa gyffredinol o Donpentre tua 1900
Glowyr Tonpentre tua 1890

Oedd gan Donpentre ei gwrs golff ei hun am gyfnod hefyd, a chwaraeodd darpar frenin Lloegr rownd o golff yno ym 1924. Mae rhestr o fusnesau Tonpentre yng Nghyfeirlyfr Kelly 1901 yn dangos cymaint o fwrlwm oedd yn nhrefi bach Cwm Rhondda ar droad yr ugeinfed ganrif. Ymhlith busnesau Tonpentre mae 8 cigydd, 2 wniadwraig, 3 siop trin gwallt, 9 groser, 3 gwerthwr llysiau, 10 perchennog siop, 6 teiliwr, 4 crydd, 4 tafarn, perchennog cab, gof, 3 adeiladwr a chontractwr, certiwr, ffermwr, siop papur newydd, 2 toddwr haearn a phres, fferyllydd a'r ‘Ton Industrial Co-Operative Society'.

Glowyr Tonpentre tua 1890

Yn wahanol i heddiw gydag oes y ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hybu twf yr archfarchnadoedd mawr ar gyrion trefi, ers talwm roedd pob tref fach yn gorfod cynnig holl hanfodion bywyd bob dydd – gan greu canol trefi bywiog a ffyniannus.
Arloeswr mawr y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, a datblygiad Tonpentre ei hun, oedd David Davies, Llandinam. Llwyddodd ef a'i bartneriaid i brydlesu 8,000 o erwau yng Nghwm-parc a Maendy yn Nhonpentre ar ddiwedd y 1860au. Darganfuwyd cyflenwad cyfoethog o lo hyd at 200 llath islaw'r ddaear yng nglofa Maendy. Yn wahanol i rai perchnogion glo na ymdrechodd fawr ddim i sicrhau cartrefi i'w gweithwyr, cafodd David Davies ei ganmol am godi bythynnod i'w weithwyr yn Nhonpentre.

Clwb Golff Tonpentre

 

Ar ddarn o dir mynydd uwchben Tonpentre, sef ‘Waun Ton Pentre' lle'r oedd cenedlaethau o blant wedi chwarae pêl-droed, aeth criw o lowyr lleol ati i sefydlu maes golff syml iawn ar ddechrau'r 1920au. Ar ôl cael gafael ar ffyn golff ail-law, neilltuwyd ychydig erwau o dir mynydd i chwarae'r gamp. Yn y flwyddyn gyntaf, y cwbl oedd y maes oedd pedwar twll a dorrwyd gyda chyllell boced ym mhob cornel o'r llain heb laslawr na thïau. Cafodd ‘Ocean Area Recreation Union' ei sefydlu'r adeg hon, ac yn sgil trafodaethau llwyddiannus gyda'r Ocean Coal Company ac Ystad Crawshay Bailey, ehangwyd y cwrs i un 50 erw a sicrhawyd hawliau prydles uniongyrchol i'r aelodau. Cynhaliodd y clwb ei gyfarfod blynyddol cyntaf yn ystafell groeso gweinidog lleol. Rhoddodd glowyr lleol help llaw, gan gynnwys llosgi'r hen wair garw i wneud lle i'r maes newydd, estynedig. Gyda chymorth ariannol o gronfeydd Lles y Glowyr, a thanysgrifiadau'r glowyr eu hunain, cyflogwyd tirmon i ymgymryd â'r gwaith o wella'r laslawr a'r tïoedd ar gyfer y cwrs golff naw twll. Cynyddodd yr aelodau, ffynnodd y clwb, ac addaswyd hen sgubor yn bafiliwn i'r chwaraewyr.

Cafwyd diwrnod i'r brenin – yn llythrennol! – ym mis Mai 1924, pan gytunodd Dug Caerefrog (Brenin Siôr VI yn ddiweddarach) i chwarae gêm o golff mewn criw o bedwar yn erbyn Mr. Frank Hodges AS. Ar 17 Mai, daeth tyrfa fawr i wylio'r darpar Frenin yn chwarae golff ar ddarn o dir a fu'n ddim ond mynydd-dir moel tan yn ddiweddar. Colli fu hanes y Dug yn y diwedd. Bu'r clwb yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd wedyn, ond yn ôl yr hanesydd lleol Arthur Hazzard ym 1960, roedd y maes golff yn segur ers sawl blwyddyn ac wedi'i droi'n ôl yn dir amaeth.

Dug Efrog (a ddaeth yn Frenin Siôr VI yn ddiweddarach), yn chwarae golff yn Nhonpentre, 17 Mai 1924


Dug Efrog (a ddaeth yn Frenin Siôr VI yn ddiweddarach), yn chwarae golff yn Nhonpentre, 17 Mai 1924
Hanes Plwyf Dewi Sant, Tonpentre  
Hanes Plwyf Dewi Sant, Tonpentre
Diolch i lyfr a ysgrifennwyd gan Muriel Evans ym 1959, mae gennym dipyn o hanes plwyf ac eglwys Dewi Sant. Mae'n trafod perigloriaeth, neu gyfnod mewn swydd y Parchedig William Lewis a anogodd adeiladu eglwysi Dewi Sant a Sant Marc. Cyrhaeddodd y Parchedig Lewis Gwm Rhondda ym 1869 pan roedd yn 33 oed, ac arhosodd yno tan ei farwolaeth ym 1922. Roedd ganddo dasg anodd iawn o'i flaen pan ddaeth yn gyfrifol am blwyf Ystradyfodwg. Y pryd hwnnw, roedd y plwyf yn ymestyn o'r Rhugos yn y gogledd i Ffrwd Amos ym mhentref Dinas yn y de-orllewin ac i'r Porth yn y de-ddwyrain. Roedd hefyd yn cwmpasu'r holl ardaloedd ar lan ochr dde'r afon Rhondda Fach yn ogystal â chymoedd bach Cwm-parc a Chlydach cyn belled â'r Gilfach-goch yn y gorllewin.

Dim ond pedwar offeiriad, dwy ystafell genhadol a dwy eglwys oedd yn gwasanaethu poblogaeth gynyddol y plwyf. Y ddwy eglwys oedd hen eglwysi'r plwyf Ioan Fedyddiwr yn Nhonpentre ac Eglwys y Forwyn Fair yn Nhreherbert, a adeiladwyd gan deulu'r Bute ym 1868. Roedd yr ystafelloedd cenhadol yn ysgol Treorci (eglwys Sant Mathew yn ddiweddarach), ac yn ysgol Pentre .

Felly, aeth y Parchedig Lewis ati i adeiladu eglwysi yn lle bynnag roedd y boblogaeth yn cynyddu. Yr eglwys gyntaf a godwyd oedd adeilad haearn yng Nglynrhedynog, a gostiodd £620 ym 1874, yna Ystafell Genhadol San Steffan Ystradyfodwg ym 1876, ac Eglwys Sant Andrew, Llwynypia ym 1878. Yna, canolbwyntiodd ar Donpentre a'r Gelli, lle'r oedd y boblogaeth yn cynyddu oherwydd yr holl gyfleoedd gwaith yng nglofeydd Maendy a Bwllfa. Gan fod hen eglwys y plwyf Tonpentre yn fach ac yn dechrau dirywio, ac yn dioddef llifogydd o afon gyfagos, penderfynwyd bod angen eglwys newydd.
Cerdyn Dydd y Pasg

Trafododd y Parchedig Lewis ei anghenion gyda Mr. Crawshay Bailey, prif berchennog tir yr ardal a oedd yn enwog am helpu i godi eglwysi newydd. Cytunodd Mr. Bailey i godi eglwys newydd ar gyfer trigolion Tonpentre a'r cylch, yn ogystal â neilltuo tair erw a hanner o dir ar gyfer yr eglwys a'r ficerdy. Erbyn mis Ebrill 1879, cytunwyd ar safle uwchben y pentref a phenodwyd y pensaer Mr. I.B. Fowler o Aberhonddu i wneud y cynlluniau. Dewiswyd y meistri Shepherd o Gaerdydd i adeiladu'r eglwys newydd am gontract gwerth £4,000 - er y byddai'r pris yn debycach i £6,000 neu £7,000 ar ôl cynnwys cost y tir, ffensio ac ati.
Gosododd Mr Crawshay Bailey y garreg sylfaen ddydd Iau 17 Mehefin 1880, er bod y gwaith adeiladu wedi hen ddechrau erbyn hynny. Aeth Mr. Bailey ati i logi trên arbennig i'w gludo ef a'i deulu ai gyfeillion i orsaf Ystradyfodwg ar gyfer y seremoni, a chroesawyd ef gan bobl y fro. Roedd y llwybr o'r orsaf drenau i safle'r eglwys yn frith o faneri, rhubanau a bwâu o flodau a dail bytholwyrdd. Am un o'r gloch y prynhawn, cychwynnodd gorymdaith i safle'r eglwys o swyddfeydd Crawshay Bailey yn Nhonpentre. Roedd yn cynnwys côr o 200, a nifer fawr o offeiriaid gan gynnwys Esgob Llandaf, Mr a Mrs. Crawshay Bailey a llu o aelodau'r teulu a gwesteion eraill fel boneddigion Sir Fynwy a Morgannwg. Daeth tua 3,000 o bobl i weld y seremoni ei hun, ac i weld Mr Crawshay Bailey yn cyflwyno gweithredoedd eiddo'r tiroedd a'r adeiladau i'r Archddiacon. Ar ôl hyn, gosododd Mrs. Bailey y garreg goffa mewn gwagle, ac oddi tani, rhoddwyd potel fawr yn cynnwys papurau newydd y dydd a nifer o ddarnau arian cyfredol.
Agorwyd yr eglwys ar 27 Hydref 1881, a sicrhawyd trwydded i'w defnyddio fel adeilad i addoli, ond ni chafodd ei chysegru bryd hynny. Cynhaliwyd y Cymun Bendigaid am 8 o'r gloch y bore, gwasanaeth y bore am hanner dydd gydag Archddiacon Llandaf yn pregethu, a gwasanaeth yr hwyr am 7 dan ofal Ficer Llandaf. Ym 1902, cyflwynodd merched Crawshay Bailey blac pres i gofio am haelioni eu tad i'r eglwys.
Cafodd yr eglwys fwy na'i siâr o broblemau. Ychydig wythnosau ar ôl ei hagor, cafodd dwy groes eu chwythu i ffwrdd o'r talcenni, ac erbyn 1900, roedd yr adeilad wedi dadfeilio'n ddrwg. Dyma adroddiad ar gyflwr yr eglwys ar y pryd; ‘The building throughout requires repair; the roof is not watertight and consequently the walls are in a very bad state indeed, while the windows, the floor and the aisles of the building are also much worn. In addition to this the lighting and heating arrangements sadly require renovating. The tower also requires immediate attention.' Gwariwyd £600 ar drwsio'r adeilad, cyn ailagor yr eglwys ym 1901. O 26 Mawrth 1920 ymlaen, sefydlwyd plwyf ar wahân ar gyfer Eglwys Dewi Sant, Tonpentre.
Cafodd yr eglwys ei dymchwel yn yr 1980au a chodwyd fflatiau llety diogel i'r henoed yno o'r enw Ty Ddewi.

Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr, Tonpentre  
Agorwyd Sefydliad y Gweithwyr yn Church Road, wrth ochr Swyddfa Ystad Crawshay Bailey ym mis Medi 1895. Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad swyddogol gan Mr Williams Jenkins Y.H. a chafwyd nifer o areithiau a chaneuon. Roedd llawer o'r siaradwyr yn canmol dymuniad y gweithwyr i addysgu eu hunain yn eu hamser sbâr yn lle mynd i dafarnau'r cylch. Mae adroddiad papur newydd y Rhondda Chronicle ar achlysur agor y 'Maindy and Eastern Workmen's Institute' (fel yr oedd yn cael ei alw ar y pryd ar ôl i weithwyr y ddwy lofa dalu amdano), yn rhoi cipolwg inni o sefydlu'r sefydliad hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr, Tonpentre
Mae'n disgrifio sut yr oedd gweithwyr y cylch yn talu am addysg eu plant trwy system ‘puntdal' lle tynnwyd ceiniog o bob punt o'u henillion (cyn dyddiau'r Ddeddf Addysg). Ar ôl cyflwyno addysg am ddim, penderfynodd gweithwyr glofeydd Maendy ac Eastern barhau gyda'r system puntdal er mwyn helpu i ariannu'r gwaith o godi sefydliad y gweithwyr. Yn ôl yr adroddiad, prynwyd safle yn cynnwys dwy siop a nifer o fythynnod am £1,200 a chwalwyd yr adeiladau er mwyn gwneud lle i'r sefydliad newydd. Abel Richards gynlluniodd yr adeilad newydd, ac Alban Richards wnaeth y gwaith adeiladu. Roedd y neuadd newydd yn cynnwys ystafell darllen papurau newydd, ystafell luniaeth ac ystafell y gofalwr ar y llawr isaf, llyfrgell ac ystafell gyfarfod ar y llawr cyntaf, a dwy ystafell wely a storfeydd yn yr atig.

Gyda llwyddiant y sefydliad, penderfynwyd codi estyniad i'r adeilad gwreiddiol, ac agorwyd neuadd y gweithwyr drws nesaf ym 1904. Perfformiwyd y seremoni agoriadol gan Mrs. Jenkins o Ystradfechan, a chyflwynwyd allwedd y neuadd iddi gan ferch y pensaer Jacob Rees. Erbyn 1908, roedd yr ymddiriedolwyr wedi dechrau rhentu'r neuadd i gwmni preifat ddangos ‘animated pictures' neu'r ffilmiau mud cynnar. Buan y sylweddolodd pwyllgor ac ymddiriedolwyr y neuadd bod modd gwneud elw o'r fenter hon a'i bod hi'n bwysig bod aelodau'r Sefydliad ar eu hennill yn sgil hynny. Felly, aethant ati i ddangos eu ffilmiau mud eu hunain a defnyddio'r holl elw i sefydlu cronfa ariannol i helpu gweithwyr sâl ac anabl.

Yr ystafelloedd darllen

Yr ystafelloedd darllen
Y Llyfrgell

Cafodd y sinema ei haddasu ym 1931 trwy osod peiriant ‘talkie' i ddangos ffilmiau llafar, a thorrwyd tir newydd yn y Neuadd trwy ddangos ffilmiau ‘Cinemascope' a ffilmiau â sain stereoffonig. Dirywiodd y Neuadd a'r Sefydliad yn y 1940au yn sgil cau'r pyllau lleol a'r gostyngiad yng nghyfraniad y glowyr. Newidiodd ei henw i ‘Ton Pentre Workmen's Hall and Institute' a pharhaodd i ddangos ffilmiau tan 1971 pan drodd yn neuadd fingo. Agorodd hon ym 1989, ac roedd y Neuadd yn wag tan 1991 pan ail-agorodd fel sinema'r ‘Phoenix'.

Y Llyfrgell

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf