header Cymraeg English
Y Porth a'r Cymer  
Mae cymoedd y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn cwrdd â'i gilydd yn nhre'r Porth a dyna sy'n cyfrif am darddiad yr enw, sef ‘y fynedfa i Gwm Rhondda'. Felly hefyd y Cymer - hen air Cymraeg am ddwy afon yn cwrdd â'i gilydd, a'r enw a roddwyd ar yr ardal gyfagos. Mae'r Cymer bellach yn faestref o'r Porth ond mae ffynonellau cynnar yn dangos mai y Cymer oedd yr enw a ddefnyddiwyd yn y dyddiau cynnar. Datblygiad y cloddio am lo ar Ystâd y Porth, a dyfodiad Rheilffordd y Taff Vale i'r Porth a barodd i enw'r Porth ddod i amlygrwydd.
Fel y rhan fwyaf o'r Rhondda roedd y Porth, cyn dyfodiad y pyllau glo, yn wledig iawn, poblogaeth y cylch yn denau a'i harddwch naturiol yn nodedig. Y Porth oedd un o ardaloedd cyntaf y Rhondda i weld diwydiannu ar raddfa fawr, a newidiodd ei natur o fod yn fugeiliol a thangnefeddus i arddangos yr agweddau diflas hynny oedd yn nodweddiadol o ardaloedd glofaol yn gyffredinol. Cyn i gloddio am lo ar raddfa fawr ddigwydd yn y Porth, dim ond yn Dinas yr oedd wedi digwydd o gwbl yn y Rhondda. Fodd bynnag, gyda dyfodiad Rheilffordd y Taff Vale i'r ardal ynghyd â'r cynnydd yn y galw am lo a arweiniodd at brinder ohono, y dechreuodd y datblygu o ddifri.

Golygfa gyffredinol o'r Porth tua 1900

Golygfa gyffredinol o'r Porth tua 1900

 

Pont y Cymer

Pont y Cymer

Golygai hyn, ynghyd â'r gwelliant mewn technegau mwyngloddio fod amgylchiadau yn aeddfed ar gyfer datblygu'r diwydiant yng nghymoedd y Rhondda. Denodd hyn hapfuddsoddwyr mwyngloddio i'r ardal, ac un o'r rhai pwysicaf yn natblygiad y Porth oedd George Insole.

Perchennog cwmni llongau yng Nghaerdydd oedd wedi arbenigo mewn glo oedd Insole. O weld cynnydd yn y galw am lo bitwmen penderfynodd fod yn gynhyrchydd yn hytrach na dim ond yn gyflenwr. Felly agorodd Lofa Maesmawr, ond nid oedd yn cynhyrchu cymaint â'r disgwyl. Hefyd, roedd y glo a gynhyrchai o safon is na chynnyrch glofa Dinas, a elwid yn ‘Coffin Coal'.

Felly ym 1844 cymerodd hawliau mwyngloddio 375 erw o dir yn y Cymer ar brydles gan Evan Morgan Fferm Ty'n-y-Cymer, ac agor Lefel Dde'r Cymer ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Araf iawn oedd y datblygiad ar y dechrau, a siomedig oedd y cynnyrch o wythïen Rhondda Rhif 2. Felly ym 1847 penderfynodd Insole suddo pwll, Pwll Rhif 1 neu Hen Bwll y Cymer, i wythïen Rhondda Rhif 3. Suddwyd hwn ryw 80 llath yn is na gwythïen Rhif 2 ac yn fuan enillodd enw da am ei lo golosg, ac ym 1848 adeiladwyd 36 o ffyrnau golosg yn y Cymer. I gwrdd â'r galw cynyddol ehangwyd y gwaith yn y Cymer ac ym 1851 suddwyd Glofa Uchaf y Cymer. Hefyd ym 1855 agorwyd Glofa Newydd y Cymer yn ymyl Hen Bwll y Cymer.
TANCHWA GLOFA'R CYMER 1856

Fore Mawrth, 15 Gorffennaf 1856 yn Hen Lofa'r Cymer, digwyddodd yr hyn a gofnodir gan yr Arolygwr Glofeydd fel 'The most fearful and destructive explosion, resulting in a sacrifice of human life unparalleled in the history of Britain at that time' . Am 6 y bore aeth 165 o ddynion a bechgyn i lawr y siafft i ddechrau ar eu shifft ac roeddynt ar eu ffordd i'w mannau gwaith pan ddigwyddodd tanchwa. Mor ofnadwy oedd y danchwa fel y credai'r achubwyr fod pob bywyd wedi'i golli. Ond nid oedd rhai gweithwyr wedi mynd ond ychydig bellter i mewn i'r pwll a gallodd y rheini wneud eu ffordd yn ôl i'r siafft ac i ddiogelwch. Aeth yr achubwyr ati i glirio gweddill y llosgnwy o'r lofa, a thair awr wedi i'r danchwa ddigwydd aethant i lawr i'r pwll. Erbyn yr hwyr roedd rhyw 112 o gyrff wedi eu codi i ben y pwll; cafwyd hyd i löwr arall ar y dydd Mercher a bu farw un o losgiadau difrifol ar y dydd Iau.
Ar ben y pwll roedd perthnasau a ffrindiau yn chwilio i gael enwi'r meirw, llawer ohonynt, nid wedi llosgi i farwolaeth ond wedi eu mygu gan weddillion y llosgnwy. Defnyddiwyd gweithdai saer y Lofa a Chapel yr Annibynwyr y Cymer i gadw'r cyrff dros dro.
Chwalwyd cymunedau bach y Cymer a'r ardaloedd amgylchynol gan raddfa'r drychineb; ni adawyd un cartref heb ei gyffwrdd a bu farw bron pob dyn a bachgen o oedran gweithio. Mewn un cartref yn unig collwyd tad a'i dri mab 10, 13 ac 16 oed. Agorwyd 30 o feddau ym mynwent Capel yr Annibynwyr y Cymer, a chynhaliwyd angladd i gladdu'r meirw dydd Iau, 17 Gorffennaf.
Cynhaliwyd y cwest cyntaf i'r drychineb yn y Ty Newydd Hotel, y Porth ar 16 Gorffennaf ond cafodd ei ohirio tan y Llun 27 Gorffennaf i'w gynnal yn y Butcher's Arms Pontypridd. Parhaodd y cwest am 13 diwrnod a galwyd 29 o dystion. Daeth yn amlwg yn y cwest fod y rhagofalon diogelwch yn y lofa yn gwbl annigonol, a bod rheoliadau diogelwch yn cael eu hanwybyddu. Gwelwyd nad oedd y lofa yn cael eu hawyru'n iawn, mai peth cyffredin oedd darganfod pocedi o nwy o dan ddaear, a'i bod yn arfer i gario fflam agored yn y pwll. Dygodd y rheithgor reithfarn o ddynladdiad ar reolwr y pwll, Jabez Thomas, a phedwar o swyddogion y lofa. Cafodd eu dyfarniad ei wrthdroi gan frawdlys Morgannwg yn Abertawe'r mis Mawrth canlynol, a pharodd hyn lawer o ddrwgdeimlad ymhlith gweithwyr y glofeydd.

TRYCHINEB YNG NGLOFA TYNEWYDD Y PORTH 1877
Tua 4 y prynhawn ar 11 Ebrill 1877 llanwyd pwll Tynewydd, glofa Troedyrhiw gan lifeiriant o ddwr. Ar adeg y drychineb roedd y pwll yn cyflogi rhyw 100 o ddynion, ond pan ddigwyddodd y ddamwain dim ond 14 ohonynt oedd dan ddaear. Digwyddodd y ddamwain am fod y gwaith presennol wedi torri trwodd i waith Hen Bwll y Cymer nad oedd bellach yn cael ei weithio ac a oedd wedi llenwi â dwr. Ar unwaith dechreuwyd ceisio achub yr 14 dyn oedd ar goll. Pan glywyd swn cnocio, torrodd yr achubwyr drwy biler o lo 12 llath o drwch, a bore drannoeth daethant o hyd i 5 dyn. Yn anffodus, pan dorrwyd y twll bach cyntaf i fynd i mewn i'r boced lle'r oedd y dynion wedi'u dal, gwasgwyd un ohonynt (William Morgan) i farwolaeth gan nerth yr aer cywasgedig. Tybiwyd bod y naw gweithiwr arall wedi marw yn y llifddwr. Ond clywyd rhagor o gnocio yn dod o stâl Thomas Morgan, a oedd yn is na lefel y llifddwr, a thybiodd yr achubwyr fod rhagor o ddynion wedi'u dal mewn poced o aer. Mewn ymgais anarferol i'w hachub galwyd ar ddau blymiwr o Lundain, ond roedd cymaint o falurion yn y pwll fel nad oedd hynny'n bosibl. Yr unig ffordd o gyrraedd y dynion fyddai torri drwy dros 38 llath o lo. Er gweithio nos a dydd cymerodd ddeng niwrnod i gyrraedd y pum dyn, ac erbyn hyn roedd eu cyflwr wedi tynnu sylw'r wasg drwy'r byd, a derbyniwyd brysnegesau yn gofyn am y newyddion diweddaraf gan y Frenhines Victoria hyd yn oed. O'r diwedd, am 2.30 p.m. ar ddydd Gwener 20 Ebrill cyrhaeddodd y tîm achub y pum dyn oedd wedi bod heb fwyd am ddeng niwrnod a heb ddim ond llifddwr brwnt i'w yfed. Bu'n rhaid i'r pump dreulio deunaw niwrnod yn yr ysbyty oherwydd eu bod yn dioddef o'r ‘bends' o ganlyniad i'r datgywasgu cyflym. Wedi hynny gwella fu hanes pob un ohonynt. Collodd y pedwar dyn arall oedd ar goll eu bywyd yn y llifddwr. Wedi hynny cyflwynodd y Frenhines Victoria bedair ar hugain o fedalau Albert dosbarth cyntaf ac ail i'r achubwyr.
Dechreuadau addysg yn y Porth
Yn draddodiadol, mae addysg, law yn llaw â chrefydd, wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl y Rhondda. I'r dosbarth gweithiol roedd yn ffordd o ddianc o'r pwll ac yn gyfle i roi gwell bywyd i'w plant nag a gawson nhw. Fodd bynnag, roedd cadw'r plant yn yr ysgol yn aberth; mewn cyfnod pan oedd arian a gwaith yn brin yn aml roedd yn rhaid cael cyflog arall, a phan fyddai digonedd o waith ar gael roedd cyflog arall yn ddeniadol iawn i deulu mawr dosbarth gweithiol. Er hynny, daeth y Rhondda'n enwog am ei hagwedd tuag at addysg a hunan-ymroddiad.
Ysgol Porth

Fodd bynnag, i fyny at 1859 yr Ysgolion Sul oedd yr unig gyfleusterau addysgol yn ardal y Porth. Yna, ym 1859, agorodd y Gymdeithas Genedlaethol Ysgol Genedlaethol y Cymer gyda'r bwriad o 'inculcating Church of England doctrines in addition to the usual secular subjects' . Yn fuan wedyn agorwyd Ysgol Brydeinig yn y Porth i'r rheini roedd eu rhieni yn gwrthwynebu athrawiaethau Eglwys Loegr. Am lawer blwyddyn, roedd hon yn cael ei chynnal yng Nghapel Bethlehem a hi a ddaeth ymhen amser yn Ysgol y Bechgyn, y Porth. Yn dilyn newid yn y gyfraith daeth mynychu'r ysgol yn orfodol a ffurfiwyd Byrddau Ysgol er mwyn codi arian drwy drethi lleol a darparu adeiladau cymwys.
Felly ar ddiwedd yr 1870au, cafodd Ysgol Genedlaethol y Cymer ei throsglwyddo i Fwrdd Ysgol Llantrisant, ac Ysgol Brydeinig y Porth i fwrdd Llanwynno. Fodd bynnag, roedd twf cyflym yr ardal yn golygu bod angen rhagor o ysgolion, felly adeiladwyd ysgol newydd yn y Cymer a'i hagor ym 1881. Yn ystod yr 1890au daeth holl ysgolion y Porth o dan Fwrdd Ysgol newydd Ystradyfodwg. Ym 1893 daeth hen Ysgol Genedlaethol y Cymer yn ganolfan rhan-amser ar gyfer hyfforddi Disgybl Athrawon, ac fe'i hymgorfforwyd yn adeiladau'r ysgol uwchradd newydd. Yn dilyn Deddf Ysgolion Canol 1889, adeiladwyd Ysgol Ganol y Rhondda yn y Porth i roi i fechgyn a merched addysg fyddai'n eu paratoi ar gyfer cyrsiau prifysgol. Adeiladwyd yr ysgol ar dair erw o dir uwch Mount Pleasant wedi'i roi am ddim gan y Cyrnol Picton Turberville, ac fe'i hagorwyd ar 22 Medi 1896, a hi wedyn a ddaeth yn Ysgol Sir y Porth. Ym 1913 agorwyd Ysgol Sir y Merched.
Yn ddiweddarach sefydlodd Y Bwrdd Ysgolion Ysgol Elfennol Uwch yn Mount Pleasant, a chafodd statws honno ei ddyrchafu i Ysgol Uwchradd yn yr 1920au hwyr. Roedd swyddogaeth yr ysgolion Gradd Uwch yn gyfyngedig, a'r addysg a roddent yn cael ei hystyried yn ddim ond hyfforddiant galwedigaethol i feibion glowyr. Roedd disgwyl i'r Ysgol Ganol, fodd bynnag, ddarparu ar gyfer lleiafrif dosbarth canol a fedrai fforddio talu am addysg yn ogystal â'r rheini oedd yn ddigon dawnus i haeddu ysgoloriaeth, ac roedd ei maes llafur clasurol ei naws yn fwy amrywiol. Roedd yn y Porth hefyd ddwy ysgol breifat a fu'n llewyrchus am nifer o flynyddoedd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, y Cambrian Mining School a'r Commercial School y ddwy yn Heol y Fynwent. Yn olaf, adeiladwyd Neuadd Tynycymer, Athrofa Feiblaidd De Cymru lle'r oedd dynion a merched yn cael eu hyfforddi 'in Bible knowledge...for all kinds of Christian work at home and abroad'.

Hanes crefyddol cynnar y Porth  

Ni ellir meddwl am y Rhondda heb feddwl am grefydd yn gyffredinol ac anghydffurfiaeth yn enwedig, ac nid yw'n bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd crefyddol a chymdeithasol ‘y capel'. Wedi i lofa gael ei hagor yn lleol ac i weithwyr ddylifo i mewn i ardal, yr un patrwm a ddilynai pentrefi'r Rhondda wrth ddatblygu. Yn ddieithriad yr anghenion crefyddol fyddai'r cyntaf i gael eu diwallu. Felly ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan drigolion y Porth nifer o ddewisiadau o ran sectau a lleoedd i addoli, a dyma fanylion am rai ohonynt:

Y Methodistiaid Cynnar

Mae cofnodion yn dangos i gylchdaith Methodistiaid cynnar Aberdâr genhadu yn y Porth ym 1867 ac i Ysgol Sul gael ei sefydlu ym 1868 gyda'r egin eglwys bryd hynny yn cwrdd yn 9 Mary Street. Erbyn 1870 roedd Eglwys y Porth yn rhan o gylchdaith Pontypridd ac iddi 15 o aelodau. Erbyn 1877 roedd y Porth wedi dod yn ‘orsaf' ar wahân gyda'r Parch C. T. Harries yn arolygydd cyntaf arni, ac ym 1879 codwyd capel.

Yr Annibynwyr Saesneg

Mae hanes Annibynwyr Saesneg y Porth yn dyddio'n ôl i 1881, pan gafodd gwasanaethau eu cynnal yn ‘Hen Gapel' y Cymer. Ym 1882 corfforwyd yr Eglwys ac ym 1883 adeiladwyd Festri yn Ffordd Pontypridd lle y bu'r gynulleidfa'n addoli am rai blynyddoedd. Ym 1885 adeiladwyd capel newydd ac yn ddiweddarach ychwanegwyd neuadd fawr ac ystafelloedd dosbarth. Ehangwyd y capel ym 1912 a gosodwyd organ ynddo

Y Wesleaid Cymraeg

O ganlyniad i'r dirwasgiad yn niwydiant llechi'r gogledd a diwydiant mwyngloddio plwm Sir Aberteifi heidiodd llawer o weithwyr o'r ardaloedd hynny i ardaloedd gloafol De Cymru. Gan nad oedd Eglwys Wesleaidd iddynt addoli ynddi yn y Porth, gofynnwyd am ganiatâd i godi festri yno. Codwyd hi ym 1882, ond gyda rhagor o bobl yn dylifo i mewn roedd angen adeilad mwy, ac felly codwyd Ebenezer ym 1903 ar gost o £2,000.

Y Bedyddwyr Cymraeg

Gellir olrhain dechreuadau'r achos yn Salem yn ôl i 1852, pan bregethodd y Parch W. Lewis, Zoar Ffrwdamos i drigolion y Porth. Roedd yr ychydig Fedyddwyr bryd hynny yn aelodau yn Zoar ac yn ddiweddarach yng Ngharmel (ailenwyd yn Tabernacl) Pontypridd. Fodd bynnag, ym 1853 cafodd 22 o aelodau Carmel eu rhyddhau i ffurfio chwaer-eglwys yn y Porth gyda'r aelodau yn cwrdd mewn ty o'r enw America Fach. Ym 1855 agorwyd a chorfforwyd y capel cyntaf a disodlwyd hwnnw gan adeilad mwy a agorwyd ym 1879. Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd achos y Bedyddwyr yn ffynnu yn y Porth ac arweiniodd hyn at godi capeli newydd yn Ainon, Ynyshir, Pisgah, y Cymer a Seion, Birchgrove, y Porth.

Tabernacle, Y Porth - Y Bedyddwyr Saesneg

Ym 1872 roedd ychydig Fedyddwyr Saesneg y Porth yn mynychu gwasanaethau'r Wesleaid; roedd rhwystr yr iaith yn ei gwneud yn amhosibl iddynt ymuno yng ngwasanaethau'r Bedyddwyr Cymraeg. Erbyn 1874 oherwydd y cynnydd yn eu nifer daeth yn bosibl iddynt ffurfio eglwys, Eglwys y Bedyddwyr Saesneg oedd yn cwrdd yn ysgoldy Bwrdd Llanwynno. Yn ddiweddarach codwyd festri yn Hannah Street a'i hagor yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 1875. Ddwy flynedd wedyn ym 1877 agorwyd capel newydd. Yn yr 1890au sefydlwyd eglwysi newydd Bethany, Ynyshir a Phenuel, Trehafod. Ehangwyd ac ychwanegwyd adain newydd i'r Tabernacle yn 1903 ar gost o £1,800.

Yr Annibynwyr Cymraeg

Oherwydd ei sefydlu mor gynnar â 1738 gall Eglwys Annibynnol Y Cymer hawlio mai hi yw mam eglwys Anghydffurfiaeth yn y Rhondda. Ym 1740 roedd rhestr aelodaeth o 63, ac ym 1743 codwyd hen Gapel y Cymer. Ailadeiladwyd hwn ar ei safle presennol ym 1834, ac ychwanegwyd chwaer eglwysi yn Ynyshir a'r Porth ym 1879. Ym 1855 ehangwyd Capel y Cymer i eistedd mil o addolwyr. Ffurfiwyd naw chwaer eglwys i'r Cymer - yn Castellau, Dinas, Gilfach, y Porth, Pontypridd (Sardis), Tonyrefail, Williamstown (Saron), Hafod (Bethel), ac Ynyshir (Saron).

Eglwys Goffa Pugh

Roedd Eglwys Goffa Pugh yn perthyn i'r Symudiad Ymosodol, adran o'r Eglwys Bresbyteraidd a sefydlwyd ym 1891 gan y Parchedigion John Pugh a Seth Joshua. Cafodd nifer o aelodau o fam eglwys Bethlehem Pontypridd eu rhyddhau i sefydlu'r achos, a Neuadd Wilke ar gornel Ffordd y Cymer oedd eu man cyfarfod. Anfonodd Dr. Pugh y gweinidog cyntaf i'r eglwys ym 1893. Sicrhawyd lleoliad parhaol i'r eglwys ac aed ati i adeiladu neuadd i eistedd 700 o bobl ger ‘Yr Hen Bwll' yn Ffordd Pontypridd. Tra roedd honno'n cael ei chodi roedd yr eglwys yn addoli yn Hen Neuadd y Dref, ond yn 1908 fe'i hagorwyd a'i henwi'n Eglwys Goffa Pugh'

Yr Eglwys Wesleaidd Saesneg

Mae'n ymddangos i'r adeilad gwreiddiol gael ei agor ym 1867 gan mai dyna'r dyddiad ar y dystysgrif sy'n cofrestru'r adeilad fel lle o addoliad. Ehangwyd ymhellach ym 1880 ar dir a gafwyd gan Mr Idris Williams ac eraill.

Yr Eglwys Yng Nghymru

Yn wreiddiol roedd y Cymer ym Mhlwyf Llantrisant a'r Porth ym Mhlwyf Llanwynno. Pan gafodd yr Ysgolion Cenedlaethol eu hadeiladu yn y Cymer ym 1857 dechreuodd y Parchedig Morgan, Ficer Llantrisant gynnal gwasanaethau yn yr ysgoldy. Daeth hwn yn lle o addoliad i bobl ardaloedd Ynyshir, Dinas a Threhafod yn ogystal â'r Cymer a'r Porth. Ym 1874 sefydlwyd pwyllgor i edrych i mewn i'r posibilrwydd o godi eglwys yn y Cymer, ond oherwydd gorfod rhoi'r gorau i sawl lleoliad bu tipyn o oedi cyn dechrau adeiladu. Fodd bynnag ym 1886 llwyddodd y Parch. Moses Lewis, ficer Llanwynno ar y pryd, i gael Eglwys Sant Paul wedi'i chodi a'i chysegru yn y Porth. Yn ddiweddarach, ym 1887, cafodd yr anawsterau ynglyn â lleoliad posibl eglwys y Cymer eu datrys ac ar ddarn o dir rhoddedig ar Ystâd y Fedw codwyd Eglwys Sant Ioan a'i chysegru yn 1889. Ym 1894 cafodd plwyf y Cymer a'r Porth ei sefydlu gyda'r Parch William Thomas yn beriglor cyntaf arni.
Thomas and Evans  
Mae'n amhosibl meddwl am y Porth heb feddwl ar yr un pryd am Thomas and Evans a'r Welsh Hill Works , pop Corona wedi hynny. William Evans, dyngarwr o wr busnes oedd yn bennaf y tu ôl i sefydlu'r fenter. Ganwyd ef yn Abergwaun ym 1864, yn un o 14 o blant. Wedi llwyddo i gwblhau ei brentisiaeth fel groser yn Hwlffordd, gweithiodd fel siopwr iau ym musnes groser yr Henadur William Thomas. Yn 19 oed, ym 1883, daeth yn rheolwr siop Peglar yn y Porth, ac ymhen dwy flynedd, gyda chymorth yr Henadur Thomas, agorodd ei siop nwyddau ei hun yn Hannah Steet y Porth.

Sgwâr y Porth gyda ffatri Corona yn y cefndir

Sgwâr y Porth gyda ffatri Corona yn y cefndir

 

Erbyn 1888, ac yntau'n ddim ond 24 oed, roedd William Evans wed talu buddsoddiad yr Henadur Thomas yn ôl, gydag elw, ac roedd am y tro cyntaf mewn busnes o'i eiddo'i hun. Erbyn 1895 roedd wedi ehangu, yn berchen ar bedair siop groser, ac wedi cymryd ei frawd Frank ato i'r busnes. Ond nid cyn iddo ddechrau cynhyrchu hop bitters , ginger beer a lemonêd yn y ffatri a alwodd yn Welsh Hill Mineral Waters yn Y Porth y tyfodd ei ffortiwn a'i enwogrwydd. Roedd y diodydd hyn mor boblogaidd fel y gorfodwyd William Evans i agor ffatrïoedd ar draws De Cymru i gwrdd â'r galw amdanynt. Yn gynnar yn yr 1920au newidiwyd enw'r brand i Corona, a thyfodd y busnes gymaint fel bod pop Corona'n cael ei anfon dros Brydain benbaladr. Drwy Gymru a Lloegr agorwyd 87 o ffatrïoedd a storfeydd i gyd, un ohonynt yn Willesden, Llundain ym 1934.
Wedi i William farw ym 1934, parhaodd ei frawd Frank i ehangu ac agor nifer o farchnadoedd tramor. Wedi cyfnod ym mherchnogaeth Beechams a Britvic caeodd y cwmni ddrysau'r ffatri yn y Porth am y tro olaf ym Medi 1987. Mae cymynroddion William Evans i bobl Y Porth i'w gweld hyd heddiw, yn arbennig felly ym Mharc Bronwydd ac yn y Llyfrgell Gyhoeddus.
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf