Y Maerdy | |
Cawn gipolwg gwych o ddatblygiad y Maerdy fel tref lofaol ffyniannus yn nodiadau llyfryn Eos Davies, codwr canu Capel yr Annibynwyr Cymraeg Siloa , ym mlynyddoedd cynnar yr Ugeinfed Ganrif. Mae'n dweud fel y cafodd y dref ei henwi ar ôl ffermdy go sylweddol ar lan afon Fechan. Byddai ffermwyr a bugeiliaid y fro yn ymgynnull yn y ffermdy i drafod busnes a mynychu llys yr ardal yng nghwmni'r stiward neu'r maer - sy'n egluro tarddiad yr enw ‘Maerdy' felly. Yma hefyd y cynhaliwyd y cwrdd crefyddol cyntaf a gofnodwyd ym 1877, mewn gwasanaeth ar y cyd rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn y parlwr oedd â digon o le ar gyfer 60 o addolwyr, ffaith sy'n rhoi syniad inni o faint y ffermdy. |
|
In 1874 Mordecai Jones of Brecon and Nantmelyn purchased the farmhouse and lands with the intention of sinking a pit and constructing a railway to link up with the Taff Vale Railway, and in December 1876 the Abergorky vein of coal was struck in the pits' no.1 shaft. The output from this vein was one hundred tons a day, and Maerdy soon became what Eos Davies described as an 'Eldorado'. Subsequently the mines were leased to Locket's Merthyr Company and the pits' output increased from nearly 30,000 tons in 1879 to over 160,000 tons by 1884. In 1877 Maerdy consisted of the farmhouse, a few huts for the workers at the mine and just 48 houses. Uchod: Gorsaf reilffordd y Maerdy tua 1910 |
|
Gyda chymaint o weithwyr a'u teuluoedd yn heidio i'r ardal, penderfynodd Bwrdd Ysgol Cwm Rhondda ym 1880 bod angen agor ysgol yn y Maerdy. Agorwyd ysgol gymysg y pentref y flwyddyn honno. Cymerodd côr o 200 o blant ran yn y seremoni agoriadol, a chawsant baned o de a theisen gan Mr. William Thomas, rheolwr cyffredinol y lofa. Agorwyd tafarn goffi ac ystafell ddarllen ym 1881 i ddiwallu anghenion y gweithwyr. Ym 1905, adeiladwyd Sefydliad y Gweithwyr ar hen safle'r dafarn. Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol a chymdeithasol y Maerdy am ddegawdau lawer. Mae Cofnodion Pwyllgor y Sefydliad yn rhestru'r sefydliadau a ddefnyddiodd yr adeilad rhwng 1918 a 1922 ac yn rhoi blas inni o gyfraniad y neuadd i gymdeithas y Maerdy, a'r holl glybiau a chymdeithasau oedd yn bodoli ar y pryd. Cyflwynodd landlordiaid ystâd y Maerdy'r safle fel rhodd i weithwyr glofeydd y dref, a £9,000 oedd cost adeiladu a dodrefnu'r neuadd. Adeilad tri llawr ydoedd, gyda neuadd fach, ystafell biliards a swyddfeydd ar y llawr isaf. Ar y llawr cyntaf roedd ystafell gotiau, ystafell ddarllen yr un i fenywod a dynion, llyfrgell, ystafell luniaeth, a swyddfeydd, ac ar y llawr uchaf roedd y neuadd fawr â lle i fil o bobl. Llosgodd yr adeilad gwreiddiol i'r llawr ym 1922, gan ladd y trysorydd Mr. John Jones. Cafwyd hyd i'w gorff ym mwthyn y gofalwr drws nesaf i'r prif adeilad. Ail-agorwyd y Sefydliad ychydig dros ddwy flynedd wedyn ym 1925, ar ôl i'r glowyr lleol godi £20,000 i'w adfer. Felly, datblygodd y pentref bychan gwledig gwreiddiol i fod yn gymuned lofaol ffyniannus o dros 880 o dai a thros 6,500 o bobl erbyn 1909. Roedd ganddo ei ysgol ei hun, capeli a llu o fudiadau cymdeithasol a diwylliannol i ddiwallu anghenion trigolion y Maerdy ddiwydiannol. | |
Glofa'r Maerdy | |
Roedd datblygiad economaidd Cwm Rhondda Fach ar ei hôl hi o gymharu â Chwm Rhondda Fawr. Tra'r oedd Cwm Rhondda Fawr yn prysur ddatblygu'n rym economaidd meysydd glo'r De, ardal wledig yn bennaf oedd Cwm Rhondda Fach o hyd. Y prif reswm am hyn oedd prinder cronfeydd glo bitwmen yn y rhan hon o'r Cwm a'i daearyddiaeth anodd ac anghysbell. Yn y diwedd, y galw cynyddol am lo ager arweiniodd at drawsnewid y cwm yn ardal ddiwydiannol hynod boblog ymhen hanner canrif. |
|
Roedd Glofa'r Maerdy yn enwog am ei chysylltiadau milwriaethus a chomiwynyddol, gyda hen hanes o gyflogi dynion radical fel atalbwyswyr – dynion fel Arthur Horner, comiwnydd adnabyddus a dreuliodd gyfnod dan glo am wrthod ymuno â'r brwydro yn y Rhyfel Mawr. Yr elfen filitaraidd hon, yn enwedig streic a'r ‘cloi allan' ym 1926, a sbardunodd y gwrthdaro gyda pherchnogion y pyllau a Ffederasiwn Glowyr De Cymru maes o law. Cafodd Cyfrinfa'r Maerdy ei diarddel gan y Ffederasiwn ym 1930. Dyma'r tro cyntaf i'r Maerdy gael ei ailfedyddio'n ‘Moscow Fach' gan y South Wales Daily News. Gyda llai o alw am lo ager a'r gwrthdaro cynyddol rhwng y gweithwyr a'r meistri glo, bu pyllau glo'r Maerdy yn segur gydol 1927. Uchod: Pyllau rhif 1 a 2 Glofa'r Maerdy tua 1920
|
|
Ym 1932, daeth cwmni Bwllfa and Cwmaman Collieries Ltd. yn berchen ar Byllau'r Maerdy, gan gau pwll rhif 1 a rhif 2. Roedd y cwmni hwn yn rhan o'r Welsh Associated Collieries, a chyfunodd gyda chwmni Powell Duffryn ym 1935 i greu Powell Duffryn Associated Collieries Limited. Caewyd y lofa gan y cwmni hwn cyn ei hailagor ym 1938. Cafodd y fasnach allforio glo ei hatal yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan effeithio'n ddrwg ar bwll Lofa Mardy fel llawer o lofeydd y De, ac fe'i gorfodwyd i gau ym 1940. Ar ôl gwladoli'r lofa ym 1947, daeth yn rhan o Ranbarth De-orllewin, Ardal 4 Bwrdd Glo Prydain. Ym 1949, cyflwynodd y Bwrdd Glo brosiect mawr gwerth tua £7 miliwn i aildrefnu a datblygu Glofa'r Maerdy. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu glofa fodern ar safle hen byllau rhif 3 a 4, er mwyn cloddio gwerth 100 miliwn o dunelli o lo yn ôl amcangyfrifon ar y pryd – digon o waith am gan mlynedd arall. Trawsnewidwyd yr hen lofa segur yn llwyr gan y prosiect, gan greu pwll o'r radd flaenaf gyda swyddfeydd gweinyddol newydd, ffreutur, cwt weindio trydanol, baddonau pen y pwll, canolfan feddygol, a gwaith paratoi glo ar yr wyneb. Adeiladwyd ffyrdd newydd o dan y ddaear i gysylltu Glofa'r Maerdy â Glofa Bwllfa yng Nghwm Cynon. Gyda'r holl fuddsoddiad, roedd hi'n ymddangos fod gan Lofa'r Maerdy ddyfodol sicr am gan mlynedd. Ond fe newidiodd yr hinsawdd economaidd. Pan gafodd cynnyrch Glofa'r Maerdy ei godi yng Nglofa'r Twr, Cwm Cynon, ym 1986, gan gyfuno'r ddwy lofa i bob pwrpas, roedd llawer o'r farn mai dyma ddechrau'r diwedd i Lofa'r Maerdy. Ac fel yr unig bwll glo oedd yn dal ar waith yng Nghwm Rhondda, byddai hyn hefyd yn golygu diwedd cyfnod mewn cwm lle bu glo'n teyrnasu am 150 o flynyddoedd. Bum mlynedd cyn i Lofa'r Maerdy gau am y tro olaf, roedd streic y glowyr 1984/1985 yn arwydd o dranc y diwydiant glo yn y Maerdy. Fe barodd yr anghydfod chwerw hwn am flwyddyn gron, a threchwyd Undeb Cenedlaethol y Glowyr oedd mor bwerus ar un adeg. Gwrthdaro rhwng dwy ideoleg oedd yn gyfrifol am yr anghydfod i raddau – rhwng polisïau adain Chwith arweinydd y glowyr, Arthur Scargill ac athroniaeth marchnad rydd y Blaid Geidwadol dan law Margaret Thatcher. Prif asgwrn y gynnen oedd bwriad Bwrdd Glo Prydain i droi'r diwydiant yn fwy proffidiol yn unol â pholisïau llywodraeth Thatcher. Byddai hynny'n golygu colli 65,000 o swyddi glofaol a chau cannoedd o byllau. Ar 6 Mawrth 1984, dechreuodd un o'r streiciau mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol Prydain, streic a arweiniodd at drechu a chwalu un o undebau llafur mwyaf pwerus Prydain, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, flwyddyn yn ddiweddarach. Yn unol â'i thraddodiad militaraidd, roedd Glofa'r Maerdy ar flaen y gad yn ystod y streic, yn trefnu siaradwyr mewn digwyddiadau codi arian ac anfon dynion i bicedu ledled y wlad (“flying pickets”). Dim ond dau ‘biced symbolaidd' a gafwyd yng Nglofa'r Maerdy, gan nad oedd dynion y Maerdy'n meiddio croesi'r llinell biced. Roedd hwn yn gyfnod o galedi mawr i'r streicwyr a'u teuluoedd, a'r cymoedd yn ymdebygu mwy i ddirwasgiad y 1930au na'r 1980au. Aeth merched y Maerdy ati i sefydlu'r grwp cyntaf o blithnifer i ddangos cefnogaeth y menywod i'r glowyr, gan gynnig gwasanaeth hollbwysig i'r streicwyr a'u teuluoedd. Roeddynt yn brysur yn casglu a dosbarthu bwydydd, yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus a hyd yn oed ymuno â'u gwyr ar y llinellau piced. Ar ôl i'r streicwyr golli'r frwydr yn y diwedd, fe ymunodd llawer o fenywod â'r glowyr a orymdeithiodd yn ôl i'w gwaith ar 5 Mawrth 1985 gan gario baner yr undebau i gyfeiliant band y lofa. I lawer, yr hoelen olaf yn arch Glofa'r Maerdy oedd ei chysylltu o dan ddaear â Glofa'r Twr, Hirwaun, ym 1986. |
|
O hynny ymlaen, yng Nglofa'r Twr y codwyd y glo a dorrwyd yn y Maerdy. Parhaodd pethau felly tan i'r Lofa gau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 1990, ddeng mis yn gynt na'r disgwyl i'r Bwrdd Glo. Cyfeiriodd cadeirydd cyfrinfa'r Maerdy o Undeb y Glowyr at hyn fel diwedd cyfnod yn hanes cynhyrchu glo yng Nghwm Rhondda,. Cyn cau, cafodd rhai o ffrindiau a pherthnasau'r glowyr eu hebrwng o dan y ddaear i weld yr amodau gwaith, ac i gael darn o lo'r Maerdy o'r wythïen 5 troedfedd i gofio'r achlysur. Ar ôl y shifft olaf, cynhaliwyd gwasanaeth yn y ffreutur gyda charolau, darlleniadau a cherddoriaeth gan fand arian y lofa a Tylorstown, cyn gorymdeithio i'r Neuadd Les i ‘gadw gwylnos'. Yn y diwedd, dim ond 17 o blith 300 o lowyr y Maerdy benderfynodd fynd i weithio mewn glofeydd eraill. Uchod: Gweddillion Glofa'r Maerdy, 1991 |
|
Tanchwa Glofa'r Maerdy – Dydd Mercher 23 Rhagfyr 1885 |
|
Tua 2.40 p.m. y diwrnod hwn, clywyd ergyd uchel yn diasbedain uwchben y ddaear yn y Lofa, a cholofn o fwg a llwch yn codi o'r siafft. Dyma gadarnhau ofnau pawb oedd yn gyfarwydd â'r diwydiant glo ar y pryd - sef bod damwain erchyll arall wedi digwydd o dan ddaear, a bod trasiedi o wedi taro cymuned glos y Maerdy yn sgil tanchwa yn rhan 'East Rhondda' o Lofa'r Maerdy. Lladdwyd 81 o ddynion a bechgyn i gyd - 63 ohonynt wedi mygu i farwolaeth, ac 18 wedi marw o'u llosgiadau a'u hanafiadau. 1) 'That the explosion was caused through the ignition of coal dust in the N.W. dip by the 'comet' lamp used at the arches. That such coal dust was raised by the concussion of a blown out shot in the stone heading'. |
|
Argyfwng Argae Lluest Wen |
|
Rhwng mis Rhagfyr 1969 a mis Ionawr 1970, bu bron i'r Maerdy gael ei daro gan drychineb enfawr a fyddai wedi creu dinistr enbyd yng nghymunedau Cwm Rhondda Fach i gyd. Canolbwynt y digwyddiad dramatig hwn oedd argae a chronfa ddwr Lluest Wen (adeiladwyd ym 1898) a oedd yn cwmpasu 20 erw ac yn dal hyd at 242 miliwn o alwyni o ddwr. Roedd yr argae uwchben tre'r Maerdy ym mhen uchaf Cwm Rhondda Fach. |