Dinas | |
Heddiw mae'r enw Dinas yn cyfeirio at le mawr, poblog, ond roedd ei ystyr gwreiddiol yn cyfeirio at gaer. Ar Graig Y Ddinas, y llechwedd uwchben Dinas, canfuwyd gweddillion hynafol a allai fod wedi perthyn i gaer o ryw fath. |
|
Mae gan bentref Dinas le pwysig iawn yn hanes Cwm Rhondda oherwydd gellir dweud mai dyma'r union bentref y ganed y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, ac yn sgil hynny dyma fan geni Cwm Rhondda diwydiannol ei hun. Dechreuwyd ar y gwaith datblygu gan Walter Coffin, gwr busnes o Ben-y-bont ar Ogwr, a brynodd fferm Dinas ar ddechrau'r 1800au a hawliau mwyngloddio Ffermydd Gwaun Ddu a Gwaun Adda, gyda'r bwriad o chwilio am lo yn yr ardal. Roedd problemau mawr yn gysylltiedig â chloddio glo yn Ninas yn y dyddiau cynnar, gan fod gwyddoniaeth daeareg heb ei datblygu'n llawn eto, ac nid oedd sicrwydd faint o lo oedd yn yr ardal. Yn ogystal â hynny, nid oedd gan weithwyr Cwm Rhondda brofiad o'r diwydiant glo, felly roedd angen dod o hyd i weithwyr o'r tu allan a'u cartrefu yn yr ardal. |
|
Cymmer Road Dinas |
Gellir gweld datblygiad cynnar Dinas ar fap degwm 1847 o'r ardal. Mae'r map yn dangos bod yr ardal hon yn wahanol iawn i weddill Cwm Rhondda yn y cyfnod hwnnw, a oedd yn tueddu i gynnwys ffermydd gwasgaredig ac ambell i fwthyn, capel neu eglwys yn unig. Dinas oedd cartref cymuned lofaol gyntaf Cwm Rhondda, wrth i Coffin a David Griffiths adeiladu'r rhesi cyntaf o fythynnod ar gyfer gweithwyr Coffin. Mae'r map hefyd yn dangos capel gyda mynwent a thy ynghlwm. Adeiladwyd capel ‘Ebeneser' cyntaf Dinas ym 1830.Ychydig iawn o weithwyr o'r tu allan a symudodd i'r ardal ar y dechrau, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn swyddogion glofaol a ddaeth gyda Coffin o Ben-y-bont, arbenigwyr mewn agor pyllau o Lansamlet a'r glowyr cyntaf o ardaloedd fel Penderyn, Llantrisant a Llanharan. |
Erbyn yr 1930au dechreuodd nifer o labrwyr amaethyddol o Fro Morgannwg gyrraedd hefyd. Er nad oedd gweithfeydd glo Coffin yn fawr o'u cymharu â'r hyn a ddaeth wedyn, ei weledigaeth arloesol ef oedd yn gyfrifol am symbylu datblygiad enfawr y diwydiant glo yn yr ardal – datblygiad a newidiodd Gwm Rhondda am byth. Yn ôl y cofnodion, cafwyd y danchwa gyntaf mewn glofa yng Nghwm Rhondda yn Ninas ar Ddydd Calan 1844, a lladdwyd deuddeg o ddynion a bechgyn. Agorwyd gorsaf achub glofeydd yn Ninas ar 22 Mehefin 1912 gan y Brenin Siôr V. |
Glofa Dinas |
GORSAF ACHUB GLOFEYDD DINAS | |
Y trên brenhinol ym Mhorth yn cludo Siôr V wrth iddo agor Gorsaf Achub Glofeydd Dinas ym 1912 |
Bu gwaith glowyr yn hynod o beryglus erioed. Yn ogystal â thrychinebau mawr a laddodd nifer fawr o ddynion a bechgyn, lladdwyd llawer o lowyr gan gerrig yn disgyn, damweiniau mewn siafftau, damweiniau tramiau ac ati. Rhwng 1889 ac 1910 lladdwyd dros 1,000 o lowyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y diwydiant glo ym Mhrydain, a chododd y ffigur hwn i dros 1,800 ym 1910. O ganlyniad, pasiodd Llywodraeth Prydain Ddeddf Pyllau Glo 1911. Nododd y Ddeddf hon fod angen i berchnogion pyllau glo sefydlu Gorsafoedd Achub Canolog, gan sicrhau nad oedd unrhyw bwll perthnasol fwy na deng milltir i ffwrdd o orsaf o'r fath. |
Ffurfiwyd y Rhondda Collieries Rescue Association yng Nghwm Rhondda. Roedd y gymdeithas hon yn cynrychioli mwy nag ugain o gwmnïau glo yng Nghwm Rhondda a'r cyffiniau, a oedd yn eu tro yn berchen ar fwy na saith deg o lofeydd. Dewiswyd man ar gyfer yr orsaf achub yn Ninas a oedd lai na 200 llath o safle'r siafft gyntaf a agorwyd yng Nghwm Rhondda gan Walter Coffin. Roedd modd cyrraedd cymoedd y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr yn hwylus o'r safle hwn. Adeiladwyd yr orsaf gan Messrs. Niblett a Davies o Gaerdydd ar gost o bron i dair mil a hanner o bunnoedd. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ar 27 Mehefin 1912, ac roedd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mari'n bresennol. | |
Er gwaethaf dirywiad y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda yn ystod yr ugeinfed ganrif, parhaodd Gorsaf Achub Dinas i ffynnu. Gwasanaethodd fel gorsaf ganolog ar gyfer gorsafoedd achub eraill y de, ac estynnodd ei dalgylch wrth i orsafoedd eraill ddechrau cau. Yn ystod ei saith deg pum mlynedd cyntaf, hyfforddwyd tua 2,000 o ddynion gan Orsaf Achub Glofeydd Dinas, ac ymatebodd i dros 200 o alwadau brys, gan achub bywydau dirifedi yn y broses. Yr Orsaf Achub - Dinas |
|
Mae Gorsaf Achub Glofeydd Dinas yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned hyd heddiw. Yn dilyn preifateiddio'r diwydiant glo yn yr 1980au, mae gorsaf Dinas wedi'i rheoli gan gwmni preifat, Mines Rescue Service Ltd. Yn ogystal â pharhau â'i gwaith achub arbenigol, mae'r orsaf yn Ninas hefyd yn cynnig hyfforddiant i gwmn ï au preifat, sefydliadau ac unigolion, mewn meysydd fel cymorth cyntaf, offer anadlu ac iechyd a diogelwch. |