Cwmparc | |
Mae chwedlau cynnar yn cyfeirio at fodolaeth parc canoloesol, neu dir hela yn ardal Parc Cwm Brychiniog. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, rhannwyd yr ardal yn bedair fferm, ac enwau dwy o'r rhain oedd Parc Uchaf a Pharc Isaf. Rhoddwyd yr enw Cwmparc ar yr ardal, ac enwyd ei nant yn Nant Cwmparc. Yn sgil datblygiad y pentref glofaol yn y cwm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd yr enw Cwmparc ar y pentref hefyd. |
|
Mae manylion hanes a datblygiad cynnar Cwmparc i'w cael yn y llyfryn, ‘History of Cwmparc. King Coal Invades a Sylvan Valley' a enillodd wobr yn Eisteddfod Lled-Genedlaethol Treorci ym 1923. Mae'r awdur yn disgrifio Cwmparc ym 1923 fel ‘a mining village of considerable pretensions, aspiring almost to the more dignified name of township' gyda phoblogaeth o tua phum mil. Mae'n disgrifio Glofa Parc, ac ymhellach i lawr y cwm, Glofa Dare, ynghyd â'r holl wagenni yn cludo glo ar hyd y rheilffordd ar lan yr Afon Parc. Golygfa gyffredinol o Gwmparc – tua 1890 |
|
Adeiladu Tallis Street tua 1890 |
Arloeswr datblygiad Cwmparc oedd David Davies, Llandinam, a ddisgrifiwyd fel diwydiannwr pwysicaf Cymru a sylfaenydd yr Ocean Coal Company enwog. Ym 1892 aeth y gwr hwn ati i gynnal trafodaethau gyda Crawshay Bailey er mwyn dechrau gloddio glo ar Ystâd Tremains. Dechreuodd y gwaith fis Awst 1866 ac erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd Pwll Parc yn cynhyrchu glo am y tro cyntaf. Mae'n disgrifio'r gwaith o adeiladu Railway Terrace – y stryd newydd gyntaf yng Nghwmparc i'w hadeiladu ger y rheilffordd a arweiniai o ben y pwll. Rhoddwyd yr enw ‘Tub Row' ar y stryd yn lleol oherwydd arfer y trigolion o adael eu baddonau tun ar y palmentydd gyda'r nos, gan beryglu bywydau estroniaid ar noson dywyll! Wrth ddisgrifio gweddill y pentref, mae'n nodi bod Parc Road, y stryd fawr, bellach dros hanner milltir o hyd, ac yn cynnwys yr adeiladau mwy ‘parchus' fel Sefydliad y Glowyr, dau westy a thri chapel. Dywed bod prinder tai yn ystod dyddiau cynnar Cwmparc, wrth i'r boblogaeth dyfu mor gyflym, wedi bod yn broblem fawr. |
Cyfeiria at atgofion un o'r trigolion hyn, a ddaeth i Gwmparc gyda'i rhieni yn un o bedwar o blant, gan ymgartrefu mewn bwthyn bugail o'r enw Parc Bach. Gan fod y bugail, ei deulu a thri lletywr arall eisoes yn byw yn y bwthyn, mae'n amlwg nad oedd digon o le i bawb! Gyda chymaint o alw am dai, roedd yn amlwg y byddai adeiladwyr a datblygwyr eiddo yn heidio i'r ardal. Cwblhawyd Cwmdare Street ym 1867 a'r rhan fwyaf o Parc Street y flwyddyn ganlynol. Aed ati i ffurfio menter clwb adeiladu lleol, a chyn hir roedd Tallis Street, Barrett Street a Vicarage Row wedi'u hadeiladu. Enwyd Tallis Street ar ôl Mr A.S. Tallis, rheolwr Glofa Dare, a Barrett Street ar ôl meddyg lleol uchel ei barch a hanodd o'r Alban yn wreiddiol. | |
Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, ym 1936, ychwanegodd yr awdur bennod arall at ei waith. Wrth ystyried cyflwr y pentref yn y cyfnod hwnnw, mae ei sylwadau yn dra gwahanol i'r hyn a nododd dair blynedd ar ddeg yn gynharach. Mae'n disgrifio hanes diwydiannol y pentref fel un hynod o ddigalon gyda diweithdra yn bwrw cysgod parhaol dros yr ardal. Nid oedd prif gyflogwyr y pentref, Glofa Parc a Glofa Dare, wedi gweithio'n ddi-dor erioed, a chan fod cymaint o bobl wedi heidio i Gwmparc, doedd dim digon o waith i bawb. Bu cyfnodau o anghydfod diwydiannol, gan gynnwys streic gyffredinol 1926 a streiciau ‘yn y gweithle' 1935. Unwyd y ddau bwll gan Fwrdd Glo Prydain ym 1954, ac ym 1966, ar ôl can mlynedd o gynhyrchu glo, caeodd Pwll Parc a Dare am y tro olaf. Wedi hynny, bu modd i ardal Cwmparc adennill rywfaint o'i harddwch gwreiddiol. |
|
Rhyfel yn cyrraedd Cwmparc |
|
Ar noson 29/30 Ebrill 1941, dinistriwyd llawer o bentref bach glofaol Cwmparc gan fomiau Luftwaffe Hitler, digwyddiad a fydd yn aros yng nghof y rhai a oroesodd y noson ddychrynllyd honno am byth. Pwy wyr pam y targedwyd y pentref bach hwn yng Nghwm Rhondda, ond un awgrym oedd i gyrch awyr a fwriadwyd ar gyfer Abertawe neu Bort Talbot fethu, gan beri i'r awyrennau Almaeneg ddadlwytho eu bomiau ar eu ffordd adref. Beth bynnag oedd y rheswm am y cyrch, roedd ei ganlyniadau'n ddychrynllyd, wrth i bobl gael eu lladd ac adeiladau eu dinistrio. Disgynnodd y rhan fwyaf o'r bomiau ar dai yn Treharne Street a Parc Road, gan ladd saith ar hugain o ddynion, menywod a phlant. Ymysg y rhai a laddwyd oedd tri phlentyn oedd wedi ffoi i'r ardal o Lundain oherwydd y rhyfel. Roedd y tri, George Jameson 13 oed, ei frawd Ernest 11 oed, a'i chwaer Edith 14 oed yn byw yn 14 Treharne Street ar ôl cael eu symud i ddiogelwch Cwmparc er mwyn osgoi peryglon y Blitz yn Llundain. Un arall a laddwyd oedd Ivor Wright, aelod o'r Gwarchodlu Cartref lleol. Roedd Ivor wedi gweld parasiwt yn disgyn i'r ddaear, a chan feddwl mai milwr Almaenig ydoedd, roedd wedi rhedeg tuag ato er mewn ei herio. Fodd bynnag, bom Almaenig oedd yn y parasiwt, a lladdwyd Ivor yn syth. Yn ôl adroddiadau yn y papur lleol, ‘The Free Press and Rhondda Leader', wrth glywed y seiren yn rhybuddio am gyrch awyr byddai'r trigolion lleol yn disgwyl cyfnod diflas o aros yn y lloches nes clywed y seiren yn datgan ei bod yn ddiogel gadael y lloches. Yn wir, cyn y noson drychinebus honno, ni fyddai amryw o'r trigolion yn trafferthu mynd i'r lloches o gwbl gan fod y seiren i'w chlywed mor aml, heb arwain at ddim byd mwy na chyfnod anghyfforddus mewn lloches. Fodd bynnag, y tro hwn roedd pethau'n wahanol iawn, fel yr eglura gohebydd y papur: Mae'r gohebydd yn disgrifio ymdrechion arwrol y gwasanaethau brys wrth ddiffodd tanau'r bomiau a symud y meirw a'r clwyfedig o'r rwbel. Fodd bynnag, pan oedd yn ymddangos bod popeth dan reolaeth, llenwyd yr awyr gan swn brawychus awyrennau'n dychwelyd, a disgynnodd y cyntaf o ddau fom mawr, gan ddinistrio dau dy yn gyfan gwbl a pheri cryn ddifrod i nifer o rai eraill. Mae llawer o'r adroddiadau yn cyfeirio at arwriaeth a dewrder yr achubwyr y noson honno a'r dyddiau canlynol, wrth iddynt dyrchu drwy bentyrrau o rwbel er mwyn ceisio achub pobl. |