Cwm Clydach |
|
Mae'r cwm wedi ei enwi ar ôl yr Afon Clydach, sy'n llifo i lawr i'r Afon Rhondda yn Nhonypandy, ac mae cofnodion o'r 17eg ganrif hefyd yn cyfeirio at yr ardal fel ‘Duffryn Clydach'. Gellir rhannu'r cwm yn ddau bentref ar wahân, Blaenclydach a Chwm Clydach. |
|
Y Sgwâr, Cwm Clydach tua 1900 |
Er gwaethaf y gweithgarwch diwydiannol cynnar hwn, roedd Cwm Clydach yn parhau i fod yn gwm coediog o harddwch naturiol. Fodd bynnag, rhwng 1863 ac 1880 tyfodd yr ardal ar raddfa fawr, a daeth Cwm Clydach yn un o'r ardaloedd mwyaf poblog ac adeiledig nid yn unig yn y Rhondda ond yng Nghymru gyfan. Dechreuodd y twf hwn pan agorodd Bush and Company wyth ï en y Rhondda Rhif 2 yn Lefel-y-Bush, a phan agorwyd Glofa Blaenclydach yng ngwyth ï en y Rhondda Rhif 3 ym 1863. Yn ogystal â hynny, fis Ionawr 1864 enillodd Daniel ac Edmund Thomas hawliau mwyngloddio Ystâd Blaenclydach a Fferm Ffynondwyn, ac aethant ati i agor Glofa Cwmclydach. Ar ben hynny, agorodd Samuel Thomas ac Osborne Riches Lofeydd Cwm Clydach Rhif 1, 2 a 3 dros gyfnod o ugain mlynedd yn dechrau ym 1872. Erbyn 1879 roedd dwy Lofa Cwm Clydach yn cynhyrchu dros 100 tunnell o lo bob dydd. |
Mae gan Gwm Clydach draddodiad hir o fod yn gymuned agos a gwleidyddol ei naws. Sefydlwyd y gymdeithas barhaol gyntaf ar gyfer glowyr y Rhondda yn y cwm, sef y Cambrian Miners' Association, ac fe ymunodd nifer o'i haelodau â'r Frigâd Ryngwladol i ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen. Sefydlwyd y ‘Clydach Vale and Blaenclydach Recreation Ground Committee' ym 1921, gan newid i'r ‘Cambrian Welfare Association' yn nes ymlaen. Sefydlwyd y pwyllgor hwn gyda grant o £57,000 a'i blaenoriaethau gwreiddiol oedd creu maes chwarae i blant, cae pêl-droed, cyrtiau tennis a lawnt fowlio. Parhaodd y gymdeithas am dros drigain mlynedd, gan ddod yn ganolbwynt bywyd cymunedol yn ardal Clydach, ac yn adeiladu a rheoli neuaddau, sefydliadau a meysydd chwarae cyhoeddus. Parhaodd â'i gwaith o reoli cyfleusterau nes i resymau ariannol ei gorfodi i'w trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1977. Cafodd y bocsiwr Tommy Farr ei eni yng Nghwm Clydach. Dewiswch bwnc Cwm Clydach Diwydiant Glo Cwm Clydach Trychineb Glofa Clydach 1905 Trychineb Glofa Clydach 1965 Trychineb Llif Cwm Clydach | |
Diwydiant Glo Cwm Clydach |
|
Glofeydd Blaenclydach |
|
Glofeydd Blaenclydach |
Agorwyd y lefelau ym Mlaenclydach am y tro cyntaf ym 1863 gan Frank James er mwyn cloddio gwythïen rhif 3 y Rhondda, ffynhonnell ragorol o lo golosg. Ym 1875 agorodd Bush and Company Lofa Blaenclydach. Ym 1878 prynwyd y lofa gan Forest Iron and Steel Company Ltd. er mwyn darparu golosg ar gyfer eu ffwrneisiau ym Mhontypridd, a oedd yn angenrheidiol wrth gynhyrchu Haemetite a haearn crai. Ailagorwyd hen Lofa Cwm Clydach gan Gwmni Glofa Blaenclydach ym 1912. |
Glofeydd Cambrian |
|
Agorwyd pwll Rhif 1 ym 1872 gan gwmni a ffurfiwyd gan Samuel Thomas ac Osborne Riches. Ar ddyfnder o 400 llath, ym 1874 canfuwyd gwythïen lo Chwe Troedfedd y Rhondda. Yn dilyn y llwyddiant hwn, agorwyd pwll Rhif 2 ym 1874 a Rhif 3 ym Mehefin 1891. Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd 700 tunnell o lo bob dydd rhwng 1890 ac 1894. Erbyn hyn, roedd Rheilffordd Taff Vale yn gwasanaethu'r pwll yn uniongyrchol, ac roedd lle ar ei seidins i dros 840 o wagenni, gan ei wneud yn fusnes hynod o fawr. Yn dilyn marwolaeth Samuel Thomas ym 1879, daeth ei feibion yn bartneriaid rheoli ac ym 1895 fe aethant ati i ffurfio Cambrian Collieries Limited. Glofeydd Cambrian tua 1900 |
|
Chwith: Brigâd Achub Glofeydd Cambrian 1916
|
Yn dilyn anghydfod Glofa Cambrian ym 1910, a arweiniodd at Derfysg Tonypandy, cynyddodd y gweithlu i'w lefel uchaf erioed ym 1913, sef 4,113. Unodd y cwmni ym 1929 i ffurfio Welsh Associated Collieries Ltd., ac unodd gyda Powel Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell Duffryn Associated Collieries Limited. Ym 1934 cyflogodd y Lofa 1,900 o ddynion dan ddaear yng Ngwythïen Dwy Droedfedd Naw Modfedd Pentre, y Bute, iard, Gwythiennau Pum Troedfedd a Phum Troedfedd Is. Caewyd pwll Rhif 3 ym 1936. Parhaodd y lofa i weithio ar ôl i'r diwydiant gael ei wladoli, ac roedd 1,711 yn gweithio dan ddaear ym 1954. Caewyd y glofeydd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1966. |
Y Cambrian Combine |
|
Dyma'r cyntaf o'r casgliadau mawr o byllau glo a ffurfiwyd yn y De, ac roedd yn drobwynt mawr yn nulliau gweithredu'r diwydiant glo. Gynt, roedd pyllau'n tueddu i fod yn fach ac o dan reolaeth cwmn ï au glo unigol. Arweiniodd y broses o ffurfio ‘Combines' at fentrau mwy o lawer lle'r oedd nifer fawr o byllau'n cydweithio er mwyn creu un gorfforaeth fawr. |
|
Trychineb Glofa Cambrian 1905 | |
Ar 10 Mawrth 1905 cafwyd tanchwa yng Ngwythïen 6tr. pwll Rhif 1 Glofa Cambrian. Lladdwyd 32 o ddynion dan ddaear, bu farw un arall yn yr ysbyty, ac anafwyd 14 o rai eraill yn ddifrifol. Roedd papurau newydd Dydd Sadwrn 18 Mawrth yn llawn penawdau fel, ' Terrible explosion at Clydach Vale... Heavy Death Roll... Men still missing...Pit a veritable inferno.... Men still missing.' |
|
Trychineb Glofa Cambrian 1965 |
|
'Another sad scar in the Rhondda's History', '31 Died in Pit Hell', 'Rhondda Hell'. Dyna oedd penawdau'r papurau newydd ar 18 Mai 1965 yn dilyn tanchwa yng Nglofa Cambrian, Cwm Clydach, ar ddydd Llun 17 Mai. Digwyddodd y danchwa ychydig cyn 1.00 p.m. yng ngwythïen Pentre rhanbarth p.26 a oedd wedi bod yn gweithio ar ei hanterth ers dim ond pedwar mis. Hwn oedd y trychineb mawr olaf i daro maes glo'r De. Aed ati'n syth i geisio achub bywydau, ac ar adegau roedd dros 150 o ddynion yn helpu. Ddeg awr ar ôl y danchwa, tynnwyd y corff olaf o'r wythïen ddwy droedfedd a hanner, 300 llath o dan y ddaear a mwy na milltir a hanner o ben y pwll. Lladdwyd 31 gan y danchwa, ac roedd angen defnyddio rhifau llusernau neu olion bysedd amryw o'r meirw er mwyn eu hadnabod. Anafwyd 13 o bobl eraill. |
|
Trychineb Llif Cwm Clydach |
|
Golygfa o drychineb y llif |
Bron bum mlynedd yn union ar ôl tanchwa Cambrian 1905, dioddefodd pentref Cwm Clydach drychineb arall. Er na ddigwyddodd y trychineb hwn dan ddaear, yr hen weithfeydd glo oedd yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Yn yr achos hwn, un o'r lefelau 'Perch' gwreiddiol, oedd wedi bod yn segur am y bum mlynedd flaenorol, oedd yn gyfrifol. Roedd yn hysbys ers peth amser bod dwr wedi bod yn cronni yn y lefelau segur hyn, ac roedd contractwr wedi bod wrthi'n draenio'r gronfa i nant gyfagos. Mae'n amhosibl bod yn sicr a oedd y broses o darfu ar y gronfa wedi tanseilio'r muriau gan achosi'r union ddigwyddiad roedd yn ceisio'i osgoi. Bid â fo am hynny, tua 4.00 p.m., dydd Gwener 11 Mawrth 1910, dymchwelodd ochr y mynydd fel pe bai ffrwydrad folcanig wedi digwydd, ac ysgubodd llifeiriant o ddwr ynghyd â phentyrrau o bridd, clogfeini a rwbel i lawr ochr y mynydd. |
Teras Adams oedd yn gorfod wynebu'r llifeiriant hwn gyntaf, ac yn ôl adroddiadau papurau newydd o'r cyfnod, lloriwyd y ty cyntaf a wynebodd y llifeiriant fel pecyn o gardiau, a lladdwyd ei breswylwyr, Mrs. Elizabeth Ann Williams a'i merch bedwar mis oed. Yn ôl adroddiad y papur newydd, dinistriwyd un ar ddeg o dai a siop y crydd, ac ysgubwyd un ty ymaith yn gyfan gwbl. |
|
Fe aeth y glowyr ati'n syth i achub y plant, gan osod polion ac ysgolion yn erbyn waliau ysgol y merched a'u helpu i gyrraedd diogelwch buarth y bechgyn trwy'r ffenestri. Yn yr un modd, cafodd y rhai a oedd yn gaeth yn Ysgol y Babanod eu symud i le diogel trwy'r ffenestri ac ysgol y merched. Cafodd nifer fawr o blant a oedd yn gaeth ym muarth y plant eu codi dros wal yr ysgol a'u hachub. Er gwaethaf ymdrechion dewr yr achubwyr, boddodd tri o'r plant ysgol, Blodwen Davies, naw oed, Enid Howells chwech oed a Gertrude Rees, pump oed. Bu farw Elizabeth a Francis Williams a Haydn Brimble o Stryd Adams hefyd, gan fynd â chyfanswm y rhai a laddwyd gan y llif i chwech. Cafodd y wal ei dymchwel gan nerth y dwr yn y buarth, a llifodd y dwr yn ddiogel i lawr y llethr i'r afon Rhondda. Brawychwyd trigolion Cwm Clydach gan y difrod a achoswyd gan y llif, a daeth miloedd o bobl i weld y golygfeydd hunllefus. Fodd bynnag, oni bai am ddewrder athrawon yr ysgol a'r bobl eraill a helpodd i achub bywydau, byddai llawer mwy o blant wedi marw oherwydd y llif. |