header Cymraeg English
Trecynon  

Dechreuodd cymuned Trecynon ddatblygu ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heol-y-felin oedd enw'r ardal ar y pryd oherwydd ei lleoliad ar y ffordd i Felin Llwytgoed, a sbardun datblygiadau'r ardal oedd agor Gwaith Haearn Aberdâr yn Llwytgoed ym 1800. Mabwysiadwyd yr enw Trecynon yn swyddogol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl ennill cystadleuaeth enwi'r pentref mewn eisteddfod. Dim ond un ty oedd yn Heol-y-felin cyn 1800, drws nesaf i gapel yr Hen Dy Cwrdd a godwyd ym 1751.

Trecynon

Cliciwch y map am fwy o wybodaeth

 

Ehangodd Heol-y-felin wrth i fwy o bobl symud i ardal Aberdâr i chwilio am waith yn y diwydiant haearn. Codwyd llawer o'r tai cynnar yn Nhrecynon ar hyd y ffordd rhwng Aberdâr a Hirwaun - sef y ffordd oedd yn mynd heibio'r Mount Pleasant Inn, Capel Carmel ac i fyny Heol Hirwaun at dafarn y White Lion, lle'r oedd tollborth.
Heol-y-felin oedd un o brif ganolfannau poblogaeth plwyf Aberdâr erbyn y 1850au. Adeiladwyd rhan helaeth o Harriet Street rhwng 1830 a 1860, Ebenezer Street yn ystod y 1840au, a thai Alma Street, Mount Pleasant Street a Margaret Street yn ystod y 1850au.

Ym 1853, anfonwyd Thomas Webster Rammell i archwilio iechyd y cyhoedd yn Aberdâr ar ran y Bwrdd Iechyd cyffredinol. Er bod cyflwr y draeniau yn Heol-y-felin yn well nag ardaloedd eraill ar y cyfan, codwyd pryderon eraill yn yr adroddiad:

Dyma a ddywed John Griffith, Ficer Aberdâr;

"There is not, to my knowledge, a place in Aberdare more filthy than the neighbourhood of the Royal Oak in the same quarter of the town. Mill-Street proper is in a very bad state from the ash-heaps of rubbish and filth thrown into and lying on the centre of the road."

Meddai Rees Hopkin Rhys;

"Many of the houses in this quarter are of a very inferior description, and these have no privy accommodation whatever. The new houses, here, as a rule, have one privy for two houses."

Royal Oak, Cynon Place (Cau ym 1908)

Royal Oak, Cynon Place (Cau ym 1908)
Caeodd tafarn y Royal Oak, Cynon Place, ym 1908. Er bod Heol-y-felin yn dioddef llawer o'r problemau iechyd cyhoeddus oedd yn gyffredin yng ngweddill Aberdâr, roedd yr adroddiadau'n nodi bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw yno.

Mill Street a'r Sgwâr

Mill Street a'r Sgwâr

Er i weithfeydd Haearn Aberdâr gau ym 1875, dal i ddatblygu wnaeth Trecynon oherwydd twf y diwydiant glo a'r cynnydd mewn poblogaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd Edward Street yn y 1870au a Broniestyn Terrace ym 1905. Cysegrwyd Eglwys Sain Ffagan ar 31 Gorffennaf 1854 i wasanaethu addolwyr Anglicanaidd pen uchaf Cwm Cynon. Ym 1848, adeiladwyd Ysgol Brydeinig Aberdâr (Ysgol y Comin) ar gomin Hirwaun, ac adeiladwyd Ysgol Sir Bechgyn Aberdâr ar gyrion deheuol Trecynon ym 1896.

Ym mis Awst 1902, cynhaliwyd seremoni i osod carreg sylfaen Neuadd Gyhoeddus a Llyfrgell Trecynon gan yr Arglwydd Windsor a D A Thomas A.S. Cafwyd nawdd ariannol o sawl ffynhonnell; Cronfa Carnegie - £1,000, Glofa Bwllfa - £105; Arglwydd Windsor - £50; D A Thomas - £50; a chodwyd £180 gan y cyhoedd. Agorwyd y neuadd yn swyddogol ar 10 Mawrth 1903 gyda chyngerdd mawreddog.

Parc Aberdâr  

u galw mawr am barc cyhoeddus yn Aberdâr am flynyddoedd lawer cyn iddo agor yn swyddogol ym 1869. Y safle dan sylw oedd darn o dir ar gomin Hirwaun ger Trecynon. Ym 1865, cyflwynwyd 49 erw o dir comin Hirwaun i Wardeiniaid Eglwysi a Goruchwylwyr Plwyf Aberdâr gan y Comisiynwyr Tir Caeedig, ac ym 1866 daeth y tir dan feddiant Bwrdd Iechyd Aberdâr. Roedd rhaid i Fwrdd Iechyd Aberdâr wneud cais i'r Ysgrifennydd Cartref am ganiatâd i fenthyca £5,000 i dalu am y gwaith, a oedd i'w ad-dalu fesul 60 o ad-daliadau hanner blwyddyn o £161 15s 4c. Cyflwynwyd ardoll arbennig yn y dreth i helpu tuag at gostau'r parc, a chafodd trigolion Hirwaun eu heithrio rhag talu hwn.

Mynedfa Parc Aberdâr (tua 1920)

Mynedfa Parc Aberdâr (tua 1920)
Agorodd y parc yn swyddogol ar 29 Gorffennaf 1869. Dechreuodd gorymdaith yn y Boot Hotel, Sgwâr Victoria cyn symud ymlaen tua'r parc. Band Gwirfoddol Aberdâr oedd yn arwain yr orymdaith; yna masnachwyr y dref; aelodau'r Bwrdd Iechyd; Richard Fothergill AS a Henry Richard AS; dros 1,000 o blant ysgol a Band Cyfartha ar eu hôl. Wrth i'r dyrfa fawr fynd drwy'r parc, taniwyd gynnau mawr oedd yn atsain ar hyd a lled y fro ( "and the surrounding hills echoed back their thundering reports with grand effect" Aberdare Times, 31 Gorffennaf 1869). Agorwyd y parc yn swyddogol gan Richard Fothergill, ac yn ei araith, soniodd am y newidiadau mawr a chyflym a welwyd yn Aberdâr yn ystod y 30 mlynedd cynt, o fod yn bentref bychan i dref ddiwydiannol fawr.
Ffair flynyddol Ysbyty Cyffredinol Aberdâr 1935 – llwyfan perfformio wedi'i oleuo

Roedd llawer o is-ddeddfau'r parc yn adlewyrchu awydd y Bwrdd Iechyd i greu hafan dawel yn y dref ddiwydiannol ffyniannus hon. Ni ddylai neb ganu offeryn cerdd yn y parc, chwarae gêmau na phregethu – heb ganiatâd y Bwrdd Iechyd. Nid oedd gan neb hawl i werthu nac yfed alcohol ar dir y parc. Roedd ambell is-ddeddf go anarferol hefyd, fel cafeat oedd yn dweud na châi unrhyw un guro carpedi yn y parc a bod gan y Bwrdd Iechyd y grym i wahardd pobl nad oeddynt yn lân neu wedi gwisgo'n weddus o'r parc.

Ffair flynyddol Ysbyty Cyffredinol Aberdâr 1935 – llwyfan perfformio wedi'i oleuo


Cyflwynodd y Bwrdd Iechyd is-ddeddfau newydd ym 1889 yn sgil poblogrwydd beiciau yn y 1890au. Nid oedd gan neb hawl i reidio beiciau mewn modd a allai beryglu defnyddwyr eraill y Parc. Ni ddylai neb feicio ar gyflymdra o dros 8 milltir yr awr, ac roedd rhaid beicio mewn un rhes a heb fod mwy na 6 troedfedd o'r cwteri.

Ym 1910, codwyd llwyfan perfformio ar ynys y llyn rhwyfo, ac fe'i defnyddiwyd fel canolbwynt cyfres o ffeiriau wedi'u goleuo er budd Ysbyty Cyffredinol Aberdâr. Cyflwynodd Arglwydd Merthyr ffownten i drigolion Aberdâr yn y parc ym 1911 i goffau coroni Brenin Siôr V. Daeth y Brenin a'r Frenhines Mary ar ymweliad i Aberdâr ym 1912, a phlannu coeden yr un yn y parc cyhoeddus.


Chris Palmer o Ynys Manaw ym Mharc Aberdâr, 17 Gorffennaf 2004.
Llun trwy garedigrwydd John White Photography

Chris Palmer o Ynys Manaw ym Mharc Aberdâr, 17 Gorffennaf 2004.
Mae'r ffynnon

Mae Parc Cyhoeddus Aberdâr yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oedd pan agorodd am y tro cyntaf. Mae'r defnydd o'r parc a'r cyfleusterau sydd yno wedi newid yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn naturiol, wrth i ofynion poblogaeth Aberdâr newid.

Er enghraifft, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Parc Aberdâr yn enwog ledled y DU am Rasys Ffordd Aberdâr, a chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma ym 1956. Mae'n dal i gyflawni gofynion gwreiddiol hen Fwrdd Iechyd Aberdâr, sef cynnig lle i drigolion Aberdâr hamddena a chadw'n heini.

Ymwelodd Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary â Chaerdydd a'r Cymoedd rhwng 25 a 27 Mehefin 1912. Ar y 27ain aethant i Bontypridd a'r Porth ar y Trên Brenhinol, yna mewn car modur drwy'r Rhondda Fawr ac ymlaen i Ferthyr Tydfil. Yn y prynhawn, aethant mewn car modur o Ferthyr i Aberdâr.

Yn Aberdâr, cyflwynodd yr Arglwydd Merthyr anerchiad iddynt gan drigolion Aberdâr ym Mharc Aberdâr. Roedd dros 8,000 o blant yno i gyfarch y pâr Brenhinol. Yr hyn a gofir yn bennaf yw iddynt ymweld â bwthyn glöwr.

Yn 71 Stryd Bute, Aberdâr oedd y bwthyn a ddewiswyd sy'n dwyn yr enw Queen Mary's Cottage hyd heddiw. Wedi'r ymweliad Brenhinol, ymwelodd cannoedd o bobl o bob cwr o'r De â pherchnogion y ty, Mr a Mrs Jones, er mwyn gweld y gwpan yr yfodd y Frenhines Mary ohoni. Ar 6 Mehefin 1912 adroddodd yr ‘Aberdare Leader' bod ymwelwyr diolchgar wedi llenwi'r gwpan yr yfodd y Brenin ohoni gydag arian cochion ar gyfer baban y teulu.
Ymwelodd Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary â Chaerdydd a'r Cymoedd rhwng 25 a 27 Mehefin 1912.
William Williams - Y Carw Coch 1808 i 1872  
William Williams (Y Carw Coch)

Fel y nodwyd uchod, roedd cysylltiad cryf rhwng Capel Undodaidd yr Hen Dy Cwrdd â'r diwygiad yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd gan y gweinidogion, sef y Parchedig Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi) a'r Parch. John Jones safbwyntiau radical iawn, yn ogystal â'u cynulleidfa. Un aelod amlwg o'r gynulleidfa oedd William Williams, a oedd fwyaf enwog dan ei enw barddol, y Carw Coch.
Yn enedigol o Gwm Nedd, symudodd i Aberdâr ym 1832 a phriodi merch leol. Ym 1837, agorodd dafarn y Stag Inn, Harriet Street. Ym 1841, sefydlodd Gymreigyddion y Carw Coch, cymdeithas yn canolbwyntio ar lenyddiaeth a thraddodiadau cerddoriaeth Gymraeg. Cynhaliwyd eisteddfod gynta'r gymdeithas yn y Stag Inn ym 1841, ac o dan nawdd y gymdeithas, cynhaliwyd cyfres 'Eisteddfodau'r Carw Coch' yn ystod y 1840au a'r 1850au. Eisteddfod 1853 oedd yr enwocaf ohonynt, pan gyfansoddwyd y gerdd 'Gardd Aberdâr'.
Roedd 'Eisteddfodau'r Carw Coch' yn ffordd o fynegi safbwyntiau diwygiadol yr aelodau. Ym mhlwyf Aberdâr, roedd y diwygwyr yn defnyddio crefydd a diwylliant yn hytrach na thrais ac anhrefn i gyflwyno dyheadau'r mudiad. Arweiniodd Eisteddfodau'r Carw Coch at dwf eisteddfodol yn ardal Aberdâr yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1850, cynhaliwyd yr eisteddfod gapel gyntaf yn Siloa, a daeth yr eisteddfod yn rhan annatod o'r bywyd anghydffurfiol o hynny ymlaen. Oherwydd hynny, collwyd llawer o'r min radical oedd yn rhan annatod o'r mudiad gwreiddiol yn Nhrecynon.

William Williams (Y Carw Coch)
Capel Undodaidd yr Hen Dy Cwrdd  

an godwyd Capel Undodaidd gwreiddiol yr Hen Dy Cwrdd ym 1751, dyma unig addoldy'r anghydffurfwyr ym mhlwyf Aberdâr. Ni fu addoldy arall yn y Plwyf tan 1811, pan sefydlodd y Bedyddwyr Gapel Carmel. Er na wyddom fawr ddim am hanes cynnar yr Hen Dy Cwrdd, mae'n debyg iddo gael ei sefydlu gan adran Aberdâr o Gynulleidfaoedd Cefn Coed yn sgil gwahaniaethau barn yn athrawiaeth yr eglwys. Roedd dau o weinidogion yr Hen Dy Cwrdd yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn wyr hynod dros ben, gan sicrhau bod y capel yn dipyn mwy dylanwadol nag yr oedd nifer yr aelodau'n ei awgrymu (tua 50 ym 1830).

Yr Hen Dy Cwrdd a hen dafarn y Mount Pleasant Inn
Yr Hen Dy Cwrdd a hen dafarn y Mount Pleasant Inn

Roedd Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), a fu'n weinidog rhwng 1811 a 1833, yn dipyn o wleidydd radical wnaeth dorri tir newydd gyda'r diwygwyr. Roedd ei olynydd, John Jones, gweinidog rhwng 1833 a 1863 hefyd yn wr radical ac ef oedd un o sylfaenwyr cylchgrawn Yr Ymofynnydd. Defnyddiodd y cyfrwng hwn i gyhoeddi ei negeseuon radical.
Cafodd capel newydd ei adeiladu ym 1862, ar gost o £753 15s 4 ½ c. Gwrthododd John Jones gynnal gwasanaeth cysegru arbennig, gan fod hynny'n awgrym o ‘Babyddiaeth' yn ei farn ef.
Er bod yr hen adeilad yn dal i sefyll, caewyd drysau'r capel am y tro olaf yng nghanol y 1990au oherwydd prinder aelodau. Gobeithio y caiff yr hen gapel ei ddefnyddio at ddibenion eraill yn y dyfodol.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf