Organ Theatr Rex Compton |
|
Walford James oedd yr organydd preswyl cyntaf - dyn ifanc 17 oed o Donypandy bryd hynny a oedd wedi cael peth profiad o ganu'r organ yn Boscombe cyn iddo 'ddod adref'. Fe oedd yn rheoli sinema 'Cosy' Aberdâr ar ran yr un cwmni. Cafodd yr organ, fodd bynnag, ei agor yn swyddogol gan y cerddor Max Bruce. Er nad oedd e'n organydd enwog, fe oedd organydd cyntaf y Tower Ballroom, Blackpool nôl yn ôl ym 1929, cyn i Reginald Dixon gyrraedd yno flwyddyn wedi hynny. |
|
Aeth Walford i fyw yn Llundain ym 1940 i chwarae yn The State Theatre , Dartford a'r Capitol, Wembley. Ar ôl cyfnod yn y Llu Awyr, bu'n athro ac yn arholwr cerddoriaeth a bu'n canu'r organ yr eglwys lleol. Penderfynodd ymddeol i orllewin Cymru yng nghanol yr 1980au le buodd e'n byw tan ei farw ym 1994. Chwith: Walford James wrth yr organ |
|
Doreen Chadwick o Faes-y-coed, Pontypridd cymerodd le Walford, glaslanc ifanc unwaith eto (18 oed). Gene Lyn, sinema'r Castell, Merthyr Tuful oedd ei hathrawes. Camodd ymlaen i diroedd gleision sinemau Granada yn Llundain, ac yna i'r Gaumant, Manceinion yn y 1950au. Ac hithau'n ei 80au, mae hi'n perfformio o hyd (2005) ac mae hi'n recordwraig a darlledwraig o fri. I'r dde: Doreen Chadwick |
|
Cerddor enwog arall bu ar lwyfan y Rex yn y 1950au oedd Eric Williams. Dyn lleol o’r Godreaman a dreuliodd gyfnod yn diddanu yn yr Awyrlu. Roedd yn gweithio i gwmni Brecon Meat Supply yn Aberdâr (Joys Florist erbyn hyn). Yn ystod ei gyfnod yn y Rex, bu’n diddanu’r gynulleidfa â cherddoriaeth yr ‘hit parade’ newydd a chroesawu ceisiadau wrth y swyddfa docynnau. (diolch i Eric Williams am y llun a’r wybodaeth) |
|
Nid organ theatr gyffredin mo'r Compton. Organau pib oedd y rhan fwyaf o organau sinema (megis yr un yn sinema'r Castell, Merthyr Tudful), er doedd y gynulleidfa ddim yn ymwybodol o hyn gan fod y pibau wedi'u cuddio y tu ôl i waith plastr cain. Yn y 1930au, dyfeisiodd gwmni John Compton Organ Company ychwanegiad electronig i'w organau sinema - y 'Melotone' oedd ei enw. Erbyn 1938, datblygodd yr 'organ' yma i fod yn offeryn llawn. 'Electrone' oedd enw'r rhai cafodd ei gosod mewn eglwysi a chapeli a'r 'Theatron' gafodd eu gosod mewn sinemâu. Roedd cyfnod euraidd organ y sinema drosodd erbyn 1939 - dim ond tua 12 ohonyn nhw cafodd eu hadeiladu cyn y rhyfel ond fe gafodd un neu ddau eu gosod mewn gwestai a neuaddau dawns ddiwedd y 1950au cyn i'r cyfnod cynhyrchu ddod i ben yn gyfan gwbl. Organ Sinema'r Rex oedd un o'r organau theatr gorau'r cyfnod - roedd iddi seinchwyddwyr (amplifiers) o safon dda ac ystod eang o gyrn sain y tu ôl i'r 'rhwyll' i'r chwith o'r llwyfan. Yn ogystal â hynny, roedd iddi gist safonol Compton wedi'i hamgylchynu gan wydr a golau. I'r dde: Hysbyseb gan gwmni Compton
|
|
Uchod: Y Compton wedi codi llawr pren pwll y gerddorfa. |
Chafodd yr organ ddim llawer o ddefnydd yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd. Wrth i deledu ddenu cynulleidfaoedd ar draul y sinemâu, roedd gwasanaeth yr organydd yn hen ffasiwn ac yn gostus. Yn y pen draw, caewyd pwll y gerddorfa gan lawr pren ac aeth yr organ yn angof. Ceisiodd o leiaf dau berson brynu'r organ yn y 1970au, ond gwrthododd perchennog y theatr hynny. Caewyd drysau'r Rex am y tro olaf ym 1983 ac aeth yr organ i ddwylo casglwr ger Caerdydd. Ond fe benderfynodd nad oedd modd atyweirio'r organ a'r flwyddyn ganlynol roedd hi ar werth. Fe welodd un o'r bobl geisiodd brynu'r organ yn y lle cyntaf yr hysbyseb, a chyn hir, roedd yr organ ar y ffordd i Gastell-nedd ar gyfer gwaith atgyweirio a barodd tair blynedd. Ym 1987, wedi i'r perchennog brynu organ bib, gwerthwyd hi eto, ac am gyfnod, roedd modd ei chlywed hi mewn neuadd ar Ynys Wyth. Yn sgîl newid yn amgylchiadau ei pherchennog, tynnwyd yr organ o'r neuadd a'i rhoi ar gadw am gyfnod o wyth mlynedd.
|
Cysylltodd Stephen Dutfield â'r perchennog yn 2003, ac ym mis Ebrill yn yr un flwyddyn, aeth e i Ventnor, mewn fan fawr i gasglu'r organ. Roedd y cyrn sain gwreiddiol wedi pydru cyn i'r organ adael y sinema flynyddoedd yng nghynt a thaflwyd y seinchwyddwyr i'r domen sbwriel. Ond roedd y gist a'r cyfarpar electronig yn gyflawn - er yn frwnt. Mae Stephen wedi llwyddo i gael gafael ar seinchwyddwyr Compton llai a chwpwrdd Compton hefyd ac mae e'n gobeithio dechrau ar y gwaith atgyweirio nes ymlaen eleni (2005) | |
Hoffen ni ddiolch i'n cyfrannydd Stephen J Dutfield am holl wybodaeth sy ar y dudalen hon. Chwith: Stephen J Dutfield yn sefyll wrth y Compton Theatron |