Penrhiw-ceiber | |
Ystyr “ceibr” yw ‘trawst' neu ‘ddist', sy'n awgrymu ardal lle mae coed yn tyfu sy'n addas i'w defnyddio fel trawstiau to. Mae hyn yn adlewyrchu natur y dirwedd ers talwm, sef llechwedd serth gyda thrwch o goed hyd at ugain mlynedd ola'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Newidiodd pethau'n aruthrol yn sgil y diwydiant glo, wrth i'r coed gael eu cwympo ac i lofa a thai teras gymryd eu lle. |
|
Uchod: Mae'r map hwn o 1874-75 yn dangos y prinder tai o amgylch y lofa a'r llethrau coediog cyfagos. Gwelir Camlas Aberdâr hefyd, sy'n awgrymu ei bod yn dal i gael ei defnyddio'r adeg honno er gwaetha'r rheilffordd oedd yn mynd drwy'r cwm.
Mae cofnodion cyfrifiad 1871 ac 1881 yn dangos yr holl newidiadau mawr a fu yn hanes yr ardal. Does dim sôn o gwbl am bentref Penrhiw-ceibr ym 1871, (yn ôl y map uchod) ond mae cyfrifiad 1881 yn rhestru nifer o strydoedd yn y pentref gan gynnwys Railway Terrace, Quarry Road, Glanlay Street, Rheola Street a Penrhiwceiber Road. Mae'r ysgol a godwyd ym 1881 yn rhoi tystiolaeth bellach o dwf cyflym y pentref, ac ychwanegwyd estyniad pellach ati ym 1893, 1895 a 1901. Dde: Un o'r siopau cyntaf ym mhentref newydd Penrhiw-ceibr.
|
|
Aeth y pentref o nerth i nerth i'r ugeinfed ganrif. Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1920 yn pwysleisio holl lewyrch yr ardal, gan restru dros gant o adeiladau masnachol/busnes ym Mhenrhiw-ceibr, yn ogystal â gorsafoedd trenau ar reilffyrdd Great Western a Taff Vale, a llu o gapeli'n cynnwys Capel Carmel (1880), Capel Moreia, Capel Bethesda (1885) ac Eglwys Santes Gwenffrewi (1883), ynghyd â Neuadd Gyhoeddus a Sefydliad y Gweithwyr a adeiladwyd ym 1888. Chwith: Un o'r siopau cyntaf ym mhentref newydd Penrhiw-ceibr.
|
|
Glofa Penrhiw-ceibr | |
Dechreuwyd agor pyllau glo ym 1872 gan ddynion o Abertawe, John a David Glasbrook a Mr. Yeo. Ymunodd y Brodyr Cory â'r fenter flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd hwn yn waith peryglus dros ben, a chafwyd anawsterau di-ri oherwydd dwr a thywod. Bu sawl oedi oherwydd llifoedd sydyn o ddwr, a bron iddynt roi'r gorau i'r fenter yn llwyr. Daeth pethau'n haws ar ôl gosod pwmp trawst, a llwyddwyd i gyrraedd y wythïen naw troedfedd ym 1878. Am flynyddoedd lawer, roedd y glo'n cael ei gludo i'r brig gan olwyn bwli ffrâm bren, cyn cael ei disodli gan olwyn ddur oddeutu 1901. Prynodd cwmni Powell Duffryn y lofa ym 1943, a chafodd ei gwladoli ym1947. Caewyd y pwll gan Gwmni Glo Prydain ym 1985. |
Glofa Penrhiw-ceibr |
Er mai ym 1872 y dechreuwyd suddo'r siafft, ni ddaeth y dram cyntaf o lo i'r wyneb tan 7 Gorffennaf 1879. Roedd y siafft 658 o droedfeddi o ddyfnder, ac roedd rhai o'r talcenni glo yn estyn tua 2 filltir o'r siafft. Pan dynnwyd y llun hwn, roedd y lofa'n cyflogi 1,800 o ddynion oedd yn cynhyrchu tua 8,000 o dunelli o lo'r wythnos. Chwith: Glofa Penrhiw-ceibr, tua 1910.
|
|