Cwmdâr | |
Cyn i'r glofeydd agor a phentref Cwmdâr gael ei sefydlu yn y 1850au, ardal wledig o ffermydd a thyddynnod gwasgaredig oedd Cwmdâr. Mae nifer o'r ffermydd hyn yno o hyd, gan gynnwys Bwllfa, Nantmelin a Thir Evan Bach Traws (Canolfan Farchogaeth Greenmeadow bellach). Fodd bynnag, diflannodd eraill yn sgil twf y diwydiant glo a gorchuddiwyd fferm Troedrhiwllech gan wastraff o Bwll Powell yn ystod y ganrif ddiwethaf. Chwith: Fferm Bwllfa Dâr, tua 1870 |
|
Wrth i'r glofeydd ddechrau agor yn y cwm, adeiladwyd tai ar gyfer y gweithwyr. Adeiladwyd y tai cyntaf yng Nghwmdâr ar ochrau deheuol a gorllewinol y pentref yn agos at y glofeydd. Adeiladwyd James Street, David Street a Dare Road rhwng 1852 ac 1859. Datblygwyd cymuned fechan Pithead yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ar ochr arall y cwm gerllaw Glofa Merthyr Dare. Adeiladwyd gweddill y pentref ddechrau'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd y tai hyn i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref blaenorol, ac roedd y tir a ddefnyddiwyd yn rhan o Gomin Hirwaun yn wreiddiol. Ni fyddai'r tir hwn wedi bod ar gael ar gyfer adeiladu pan adeiladwyd y tai gwreiddiol. Adeiladwyd llawer o'r tai hyn gan Glybiau Adeiladu lleol, sef cymdeithasau a ffurfiwyd i adeiladu nifer penodol o dai ar gyfer eu haelodau. | |
Yn y llun uchod/ar y dde o ddechrau'r ugeinfed ganrif, saif David Edwards gyda balchder wrth stepen drws ei siop yn 19 Bwllfa Road. Ym 1920 disgrifiwyd y siop fel siop groser, warws dillad ac esgidiau. Yno hefyd roedd Swyddfa Bost y pentref lle'r oedd Islwyn Edwards yn Is-Bostfeistr. |
Mae amrywiaeth eang o amwynderau wedi gwasanaethu Cwmdâr yn ystod ei hanes. Y tair prif dafarn oedd: y Collier's Arms (1853 - 1931) wrth y gyffordd rhwng James Street a Dare Road, y Castle Inn (1866 - 1968) ar Sgwâr Cwmdâr a'r Tonglwydfawr, a adeiladwyd ym 1853 a'r unig dafarn sydd ar agor yng Nghwmdâr hyd heddiw. Mae nifer o siopau wedi gwasanaethu trigolion Cwmdâr ar hyd y blynyddoedd. Yng Nghyfeirlyfr Masnach Kelly 1920, nodir bod 20 o sefydliadau manwerthu yng Nghwmdâr. Er bod nifer o'r rhain yn siopau bach mewn ystafelloedd ffrynt cartrefi, sefydlwyd nifer o siopau mawr hefyd, gan gynnwys Groser David Edwards yn 19 Bwllfa Road, fferyllydd, dwy siop gigydd a dwy siop trin gwallt. |
Sefydlwyd llawer o addoldai yng Nghwmdâr hefyd. Agorodd Capel Bedyddwyr Nebo ym 1858, ac adeiladwyd capel mwy ar yr un safle ym 1868 er mwyn ymdopi â'r nifer cynyddol o addolwyr yn ôl pob tebyg. Dymchwelwyd y capel hwn ym 1977. Sefydlwyd Capel Elim gan yr Annibynwyr ym 1867. Adeiladwyd Capel Gobaith ym 1875, ac fe'i hail-adeiladwyd ym 1907 . Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth yr Eglwys yng Nghymru ati i adeiladu nifer o eglwysi ar hyd a lled Cwm Cynon. Agorodd Eglwys Sant Luc yng Nghwmdâr fis Mehefin 1887, a chynhaliwyd gorymdaith yn cynnwys yr Esgob, clerigwyr a chôr er mwyn dathlu'r achlysur. Cenhadaeth Cwmdâr oedd yr addoldy diwethaf i'w adeiladu yng Nghwmdâr ym 1920. Capel Gobaith tua 1900 Gobaith Chapel c1900 |
|
Diwydiant Glo Cwmdâr | |
Mae'r cofnod cyntaf o gloddio glo ar raddfa fawr yng Nghwmdâr yn dyddio'n ôl i 1851, er ei bod yn debygol iawn bod y gwaith eisoes wedi dechrau ychydig cyn y dyddiad hwnnw. Agorwyd pedair glofa fawr yng Nghwmdâr, yn eithaf agos at ei gilydd, sef: |
|
Glofa Cwmdâr Yn fwy adnabyddus fel Pwll Powell, agorwyd y lofa hon gan Thomas Powell, a chloddiwyd y glo cyntaf ym 1856. Roedd Thomas Powell yn un o'r perchnogion glofeydd cynnar mwyaf llwyddiannus, a phan fu farw ym 1863 roedd yn berchen ar bron i 20 glofa. Ar ôl ei farwolaeth, prynwyd Pwll Powell gan y Powell Duffryn Steam Coal Co., a'r cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes ei gwerthu i Bwllfa and Merthyr Dare Steam Collieries Co. Ltd. ym 1906. Ym 1935 daeth y lofa dan reolaeth Powell Duffryn unwaith eto, ac erbyn hynny, y cwmni hwn oedd cwmni glo cyfun mwyaf y byd. Gydol y 1920au a'r 1930au caeodd ac ail-agorodd y lofa yn gyson wrth iddi ddioddef yn sgil y dirwasgiad yn y diwydiant glo, fel gweddill maes glo'r De. Caeodd y lofa am byth fis Mai 1936. | |
Glofa Merthyr Dare: Ar ôl cael ei hagor gan David Williams (Alaw Goch) cyn 1851, o holl Lofeydd Dwfn Cwmdâr, hon oedd yr un fwyaf byrhoedlog. Gwerthodd David Williams y lofa i syndicâd dan arweiniad Rees Hopkin Rhys ym 1861, ac fe'i gwerthwyd eto i John Brogden o Lofa Bwllfa yn yr 1870au. Caeodd y lofa am y tro olaf ym 1884.
Roedd y slip talu ar y chwith, dyddiedig 21 Mai 1910, ar gyfer unigolyn o'r enw David Davies a gyflogwyd fel cludwr yng Nglofa Rhif 2 Bwllfa (Nantmelin). Mae'r slip pythefnos yn dangos iddo weithio 8 diwrnod am 4 swllt ac 1 3/4 ceiniog y dydd. Ar ôl derbyn ei ganran (bonws), enillodd gyfanswm o £2/4/2d.
|
|
Glofa Nantmelin: Hon oedd y lofa olaf i'w hagor yng Nghwmdâr. Dechreuodd Mordecai Jones o Aberhonddu weithio ar y safle ym 1860, a chodwyd y glo cyntaf o'r Wyth ï en Bedair Troedfedd fis Ebrill 1861. Yn dilyn marwolaeth Jones ym 1880, rheolwyd y gwaith gan y Nantmelin Colliery Company, ac ym 1891 unodd y cwmni hwn â'r Aberdare Merthyr Collieries Co. Ltd. Ym 1896 daeth y lofa dan reolaeth y Bwllfa Company, a oedd yn prysur ehangu, a'r perchnogion preifat olaf oedd y Powell Duffryn Company a ddaeth yn berchnogion holl weithfeydd Bwllfa ym 1935. Ym 1949 dechreuodd Bwrdd Glo Prydain weithio ar gynllun i gysylltu Cwmdâr a'r Rhondda Fach. Arweiniodd hyn at gau Nantmelin ym 1957, pan gloddiwyd yr holl lo ym Maerdy. Symudwch y llygoden dros y llun uchod/ar y dde i weld yr un olygfa heddiw |
|
Glofa Bwllfa Dare: Agorwyd Glofa Bwllfa Dare, neu Lofa Bwllfa, ym mhen uchaf Cwmdâr o dan gysgod y Darren gan Samuel Thomas a Thomas Joseph ddechrau'r 1850au. Fel llawer o lofeydd eraill, bu gan Bwllfa Dare nifer o berchnogion yn ystod ei hoes. Fodd bynnag, mae hanes Glofa Bwllfa yn cael ei gysylltu'n agos â dau deulu: teulu Brogden ac yn fwy felly teulu Llewellyn. Mae cysylltiad teulu Brogden â Bwllfa yn dyddio'n ôl i'r 1870au pan brynodd John Brogden & Sons y lofa gan y Bwllfa Colliery Co. Ltd. Cadwodd teulu Brogden ei gysylltiadau â'r lofa tan farwolaeth mab ifancaf John Brogden, G W H Brogden, ym 1892. Wedi hynny, Rees Llewellyn a'i fab D R Llewellyn a ddaeth i'r amlwg. Roedd Rees Llewellyn wedi bod yn rheolwr Bwllfa ers 1877, ac erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, ef oedd Cadeirydd y cwmni a reolai'r lofa. O dan ei arweiniad ef, cafodd y lofa a'i gweithgareddau cysylltiedig eu cyfnod mwyaf llewyrchus erioed. Erbyn 1906 roedd y Bwllfa and Merthyr Dare Steam Coal Collieries (1891) Ltd. yn berchen ar holl lofeydd Cwmdâr. Ar ôl profi ei allu wrth lwyddo gyda'r Lefelau Windber, daeth D R Llewellyn yn gadeirydd y cwmni yn dilyn marwolaeth ei dad ym 1919. Cadwodd ei afael ar yr awenau nes i'r cwmni gael ei werthu i Powell Duffryn ym 1935. Roedd Rees a D R Llewellyn yn amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus ardal Aberdâr, gan wasanaethu ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr ymysg cyrff eraill. Yn dilyn gwladoli'r diwydiant ym 1947 a'r cynllun i gysylltu glofeydd Bwllfa a Maerdy, roedd angen ailddatblygu safle Bwllfa, ac adeiladwyd ffrâm pen concrid newydd a thy weindio. Fodd bynnag, ym 1977 daeth y gwaith yn y Bwllfa i ben am y tro olaf, ac erbyn 1991 roedd y safle wedi'i glirio'n gyfan gwbl. | |
Gwasanaethwyd glofeydd Cwmdâr gan ddwy linell rheilffordd a reolwyd gan gwmn ï au gwahanol. Y llinell gyntaf i gyrraedd y glofeydd oedd Cangen Dâr ac Aman o'r Vale of Neath Railway, a ddaeth yn fwy enwog fel y Great Western Railway ar ôl i'r cwmni hwnnw brynu'r Vale of Neath ym 1865. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Lofa Bwllfa ym 1857. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Gwmdâr o Gyffordd Gelli Tarw ger Llwydcoed ar ôl croesi Traphont Gamlyn a Thraphont Dâr, dwy enghraifft wych o draphontydd pren a gynlluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Adeiladwyd yr ail linell i Gwmdâr gan Taff Vale Railway, a dilynodd lwybr ger yr Afon Dâr o gyffordd ger Aberdâr. Agorwyd y llinell hon ym 1866. Mae modd olrhain llwybr y ddwy reilffordd hyn hyd heddiw, gan iddynt gael eu haddasu fel ffordd a llwybr pan ail-ddatblygwyd Cwmdâr er mwyn creu Parc Gwledig Cwmdâr. |
|
Parc Gwledig Cwmdâr - Agorwyd y Parc yn swyddogol fis Rhagfyr 1973. Ym 1971 dechreuwyd ar y gwaith o adennill y tir a oedd wedi'i greithio'n ddifrifol gan dros ganrif o fwyngloddio. Roedd y cynllun yn cynnwys lefelu tomennydd glo, ailgyfeirio'r Afon Dâr a chreu dau lyn gyda rhaeadr yn llifo i'r llyn isaf. Agorwyd y ganolfan ymwelwyr ym 1985, sy'n cynnwys 15 ystafell ar gyfer gwesteion. Mae yna faes pebyll a pharc carafannau bach ger y ganolfan ymwelwyr hefyd. |