Theatr y ColisËwm - Yn Ôl y cofnodion | |
Mae dwy set o lyfrau cofnodion yn bodoli yng ngofal Llyfrgell Aberdâr, am y cyfnod Medi 1948 hyd at Ionawr 1961. Mae'r cyntaf, a oedd yn rhodd gan D.R. Davies o 78, Heol y Fynwent Road, Trecynon, yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Medi 1948 a mis Mawrth 1955. Mae'r ail yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 1955 a 1961. Enw'r llyfr cyntaf yw “Minutes (of the) Trecynon and District Welfare Association and the Coliseum” ac enw'r ail lyfr yw "Coliseum Theatre Management Commitee (sic) Book". Mae'r ddau lyfr yn cychwyn drwy nodi manylion aelodaeth y Pwyllgorau Rheoli ac amrywiol is-bwyllgorau ar y pryd. Y Cadeirydd yn 1948, yn cynrychioli'r aelodau a oedd yn lowyr, oedd Ivor Rees o Stryd y Felin, Trecynon. Ei Is-gadeirydd, yn cynrychioli aelodau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, oedd E Bevan o Stryd Penybryn, Aberdâr. Yr Ysgrifennydd oedd E.T. Erasmus o Stryd Frederick, Trecynon a'r Ysgrifennydd oedd W.J. Powell o Stryd Bell, Trecynon. Ym 1955, y Cadeirydd, yn cynrychioli aelodau Undeb Cenedlaethol y Glowyr oedd Emlyn Williams, Bron Haul, Cwm-bach. Ei Is-gadeirydd, yn cynrychioli aelodau'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, oedd A. Smart, o Deras Holford, Cwmdâr. Yr Ysgrifennydd oedd W.J. Powell, a barhaodd yn y swydd hyd at 1960. Ar 16 Ebrill 1960, cafodd ginio ei gynnal i'w anrhydeddu yn "Neuadd Fwyta Plasdraw, am 9/6 y pen", a chafodd ei gyflwyno â siec am £100. (GWELER LLYFR 2, TUDALEN 204) Yn ystod y blynyddoedd yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth Theatr y Colisëwm yn ganolbwynt unwaith eto i ystod eang o weithgareddau a diddordebau. Er enghraifft, mae'r cofnodion cyntaf ar gyfer y cyfnod yma yn cyfeirio at ystyried sgôr opera newydd, derbyn siec gan Gymdeithas Genedlaethol Clybiau Bechgyn Cymru, ymholiad gan Bencampwriaeth Bocsio Amatur y Glowyr Cenedlaethol, llythyr o ddiolch oddi wrth Lleng Brydeinig Aberdâr yn dilyn cyngerdd cerddorfaol diweddar, a chynnig o docynnau ychwanegol gan y BBC ar gyfer ei raglen 'Welsh Rarebit' a oedd ar fin cael ei darlledu. O 15 Mawrth hyd 20 Mawrth 1948, cafodd y gyntaf mewn cyfres o Wyliau Drama ar ôl y Rhyfel ei chynnal yn Theatr y Colisëwm, gyda D.R. Davies yn derbyn tâl o £6/6s (LLYFR 1, T 1) . Yn ddiweddarach yn y mis, ar y Sulgwyn, croesawodd Theatr y Colisëwm Gôr Meibion Pensiynwyr Aberaman (T 18). Yn wir, roedd llawer o gwmnïau teithiol hefyd yn ystyried Theatr y Colisëwm yn lleoliad hanfodol i gynnal eu perfformiadau. Roedd corws Opera Covent Garden a Band Pres CWS Manceinion, er enghraifft, wedi mynegi diddordeb mewn cynnwys Theatr y Colisëwm yn rhan o'u teithiau ar y pryd. Am ryw reswm neu'i gilydd, cafodd y cais cyntaf ei dderbyn, ond cafodd yr ail ei wrthod. (T 16) Mae'n deg dweud y byddai'r Pwyllgor Rheoli wedi trafod unrhyw gais i ddefnyddio cyfleusterau'r theatr yn fanwl cyn gwneud penderfyniad. Pan ofynnodd Capten Frost o Fyddin yr Iachawdwriaeth am ganiatâd i gynnal casgliad "ychydig y tu allan i'r brif fynedfa", cafodd ei wrthod (T 3). Roedd hi'n stori debyg i Sefydliad Diwylliant Corfforol Cenedlaethol Cymru wrth iddo geisio cynnwys "eitem bocsio" fel rhan o'u Harddangosiad ar 3 Ebrill 1948 (T 6). Yn yr un modd, cafodd cais gan Neuadd Les Cwmdâr i gynnal cystadleuaeth bocsio ei wrthod heb feddwl ddwywaith. Cafodd cais gan E.J. Evans o Drecynon i ofyn am ganiatâd y Pwyllgor Rheoli i werthu hufen iâ ei wrthod hyd yn oed. (T 8) Mae'n ymddangos mai egwyddorion moesol ac ymddygiad cywir a oedd yn ysgogi penderfyniadau o'r fath, wrth ddarllen bod gofyn i wragedd aelodau "ddod i'r awditoriwm drwy'r drws sy'n wynebu'r dref, yn hytrach na drws y coridor sy'n arwain at yr ystafelloedd gwisgo!" (T 1) Fodd bynnag, doedd popeth ddim yn fêl i gyd, hyd yn oed o fewn y Pwyllgor Rheoli ei hun. Pan ofynnodd Mr A. Smart, aelod o'r pwyllgor, gael dychwelyd ei docynnau yr oedd wedi'u prynu i'r sioe 'Variety on Parade', gan honni fod dim amser gyda fe i'w gwerthu, derbyniodd gerydd swyddogol gan y Pwyllgor (T 12). Yn yr un modd, er bod yr Ysgrifennydd a'r Trysorydd wedi derbyn gwahoddiad i gynrychioli'r Pwyllgor Rheoli mewn perfformiad yn neuadd gyngerdd Reardon Smith yng Nghaerdydd, roedden nhw wedi anghofio dweud wrth y Cadeirydd bod gwahoddiad hefyd wedi'i estyn iddo fe. Rhoddodd yr Ysgrifennydd y bai am y camgymeriad yma ar ei agenda gorlawn, a chynnig ymddiheuriadau lu (T 19). Doedd y berthynas rhwng y Pwyllgor Rheoli a'r Is-bwyllgor Opera ddim
bob amser mor
ddymunol ag y gallai fod chwaith. Roedd dyrannu seddi ar gyfer perfformiadau
yn
destun trafod o bwys. Pan roedd Emlyn Davies, Cadeirydd Is-bwyllgor
yr Opera,
wedi addo y byddai modd i aelodau'r corws fwy neu lai "eistedd
lle bynnag maen nhw
eisiau" ar gyfer perfformiad nos Sadwrn yr opera 'Balalaika',
a hynny am fod dim llawer |
|