Theatr y ColisËwm - Emlyn Williams |
|
George Emlyn Williams CBE 26 Tachwedd 1905 – 25 Medi 1987 |
|
Ganed i deulu Cymry Cymraeg dosbarth gweithiol yn Sir
y Fflint. Siaradodd Williams yn Gymraeg
yn unig nes iddo fod yn 8 oed. Roedd Williams mwy neu lai yn anllythrennog,
a'r unig lwybr oedd
yn agored iddo oedd y pyllau glo, hyd nes iddo ddal sylw Sarah Grace
Cooke, gweithiwr
cymdeithasol o Lundain. Sylwodd hi ar y talent a oedd gan Williams,
ac roedd hi'n gefnogol
ohono. O ganlyniad i hyn, pan oedd yn 17 oed, enillodd ysgoloriaeth
i fynd i Goleg Christ Church,
Rhydychen lle astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg. |
|
Bette Davies yn The Corn is Green – Warner Bros.
1945. |
Daeth ei lwyddiant fel actor wrth chwarae rhan y llofrudd mewn drama
gyffrous seicolegol a
ysgrifennodd ei hun, Night Must Fall. Un o'i ddramâu enwocaf yw The
Corn is Green, lle bu'n actio ynddo yn West End Llundain. Cafodd y ddrama ei haddasu i fod yn ffilm ym 1945 a oedd yn cynnwys Bette Davies yn chwarae rhan Miss Moffat; cymeriad wedi'i seilio ar fentor Williams, Sarah Grace Cooke. |
AYn ogystal â bod yn ddramodydd, ysgrifennodd Williams
ar gyfer y teledu ac ar gyfer ffilmiau gan Roedd Williams hefyd yn enwog am ei sioeau un dyn am Charles Dickens a Dylan Thomas. Aeth â'r sioeau yma ar deithiau rhyngwladol. |
|
Portread o Emlyn Williams gan Allen Warren. |
Emlyn Williams yn chwarae Charles Dickens |