Bragdy'r Rock, AberdÂr | |
Agorodd Bragdy'r Rock, ar safle mae Swyddfeydd Rock Grounds y Cyngor ar hyn o bryd, ym 1850. Dim ond un o nifer o fragdai a sefydlwyd yn Aberdâr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gynhyrchu diodydd ar gyfer gwestai a thafarndai lleol oedd hwn. Ymhlith y bragdai eraill, roedd Bragdy'r George, Bragdy'r Black Lion a Bragdy Trecynon. Roedd y tri bragdy yma wedi cau erbyn 1911. Adeg gwerthu Bragdy'r Rock ym 1921, roedd yn berchen ar 40 o dai clwm. Chwith: Bragdy'r Rock tua 1913 |
|
Dyma gynnwys y dystysgrif; No.104
|
|
Agorodd Baddondy'r Rock ym 1938. Cafodd ei gau ym 1975 yn rhan o ymgyrch torri costau gan Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon. Yn ystod protest yn erbyn cau'r Baddondy mis Mai 1975, piniwyd torch sumbolaidd a oedd yn cynnwys yr arysgrif ‘Death of Democracy' ar ddrysau'r ystafelloedd newid. Mae'r safle yn faes parcio ac yn gartref i swyddfeydd y cyngor bellach. | |