Commercial Street, Aberdâr | |
Tua diwedd yr 1840au, dechreuodd Commercial Street ddatblygu'n un o brif ganolfannau masnach Aberdâr. Dyma lun sy'n dangos mor brysur oedd canol y dref pan oedd Aberdâr ar ei mwyaf ffyniannus. Mae un o fysiau troli Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr yn ymlwybro i fyny'r stryd rhwng y cerddwyr. Cynyddodd poblogaeth Aberdâr drwy'r 19eg ganrif, a chyrraedd 50,830 ym 1911. Cyrhaeddodd y boblogaeth uchafbwynt o 55,007 erbyn 1921, ond dechreuodd fynd i lawr eto wrth i'r dirwasgiad yn y diwydiant glo waethygu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y boblogaeth wedi dirywio i 38,930. Mae'r boblogaeth wedi dal yn weddol sefydlog ers hynny. |
|
Mae'n debyg bod y milwyr hyn yn aros yn Nhy Windsor, Trecynon. Cafodd Ty Windsor ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel fel ysbyty i aelodau o'r lluoedd arfog oedd wedi cael eu clwyfo. Cafodd yr ysbyty milwrol ei agor gan yr Arglwydd Aberdâr. Cymdeithas y Groes Goch oedd yn rhedeg yr ysbyty, ac roedd lle yno i 60 o gleifion. Ysbyty oedd ar y safle yn wreiddiol, yn ôl ym 1875. Cafodd y lle'i droi'n ysgol ddiwydiannol wedyn gan Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful. Roedd lle yn yr ysgol i 120 o blant tlawd ac amddifad. Bydden nhw wedi dysgu crefftau fel amaethu, neu wneud esgidiau, er mwyn iddyn nhw fedru ennill bywoliaeth ar ôl ymadael â'r ysgol. |
|
Mae'r llun hwn yn dangos grwp o filwyr yn sefyll o flaen adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc rywbryd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 23, Commercial Street oedd adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc, ar y gornel â Gloucester Street. |
|
Mae pwn isaf Commercial Street wedi newid yn aruthrol ers tynnu'r llun hwn tua diwedd y 19 eg ganrif. Mae'r llun yn dangos y Bont Haearn wreiddiol oedd yn cysylltu ganol Aberdâr ag Abernant . Mae'n debyg bod y bont wedi'i chodi cyn 1844, gan i westy'r Iron Bridge Hotel agor y flwyddyn honno. Y gwesty hwnnw sydd ar ochr chwith y llun, gyferbyn â'r Commercial Hotel . Caeodd yr Iron Bridge ym 1982. Ym 1983, cafodd y ddau westy, a nifer o adeiladau masnachol eraill, eu tynnu i lawr yn ystod gwaith adeiladu Ffordd Osgoi Aberdâr. De: Y Bont Haearn, Commercial Street |
|