Eglwysi Aberdâr |
|
Eglwys Ioan Fedyddiwr yw eglwys plwyf wreiddiol Aberdâr. Does neb yn siwr pryd yn gywir y cafodd yr eglwys hon ei chodi, ond mae lle i gredu'i bod wedi'i hadeiladu gyntaf yn chwarter olaf y ddeuddegfed ganrif. Mae llawer o ysgolheigion yn credu i'r eglwys gael ei chodi yn y flwyddyn 1189. Os yw hyn yn gywir, mae Eglwys Ioan Fedyddiwr o leiaf 600 yn hynach na phob adeilad arall yn Aberdâr.
Dydy'r eglwys welwch chi heddiw ddim yn wahanol iawn i fel roedd hi 800 o flynyddoedd yn ôl. Er hyn fe fu ambell i newid ynddi. Y tebyg yw bod dim Cangell ar wahan yn wreiddiol, ac i'r Clochdyred a'r Drws Gorllewinol gael eu hychwanegu yn ddiweddarach. Ymhlith y nodweddion pensaernïol gwreiddiol sy'n dal yno mae'r drws o garreg galch Sutton i'r festri (dyna fuasai'r fynedfa yn wreiddiol), a'r fedyddfaen wythonglog, sydd hefyd o garreg Sutton. |
Eglwys Ioan Fedyddiwr tua 1827 - 1828. Ychydig iawn mae'r eglwys wedi newid ers i'r chwiorydd Bacon dynnu'r llun hwn, a hawdd iawn yw'i nabod o'r darlun.
|
Eglwys y plwyf oedd sylfaen bywyd y fro cyn i'r dref ehangu'n gyflym yn sgîl y chwyldro diwydiannol. Dyma oedd yr unig adeilad cyhoeddus, a byddai pobl wedi'i defnyddio i sawl diben ar wahan i addoli. Byddai Llys Maenoraidd yn cael ei gynnal yno yn ystod yr 17 eg ganrif, ac yn ystod y 18fed ganrif buodd Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn derfnyddio'r adeilad. Pan gafodd festri newydd ei chodi ym 1795, bu honno yn ei thro yn gartref i ysgol, gyda 20 o ddisgyblion. Daeth hi'n amlwg nad oedd Eglwys Ioan Fedyddiwr ar ei phen ei hun yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer anghenion ysbrydol yr holl blwyfolion. Ym 1846, lle i 146 o bobl oedd yn yr eglwys, ond erbyn 1851 roedd poblogaeth Aberdâr wedi croesi'r 14,000. Yn ateb i hynny, dechreuodd yr awdurdodau eglwysig ar raglen uchelgeisiol o godi eglwysi newydd yn y plwyf, bob un wedi'i chysegru i sant neu santes arall - Elfan (1852), Ffagan (1854), Lleurwg (1858), a Mair (1864).
Cymraeg oedd iaith y gwasanaethau yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yr adeg honno, ond erbyn y 1860 roedd adeiladwaith yr eglwys wedi dechrau dirywio. Roedd y ffenestri wedi syrthio i mewn erbyn 1871, ac ofnnai rhai fod y to ar fin dod i lawr. Aeth y bobl ati i gasglu arian i achub yr eglwys, ac fe ail-agorodd Eglwys Ioan Fedyddiwr ar Ddydd Gwyl Ifan, 1876. |
|
Eglwys Elfan
Fel y gwelsoch chi uchod, roedd pobl yn gweld angen mawr am ragor o eglwysi yn Aberdâr erbyn canol y 19 eg ganrif. Dechreuodd y symudiad i adeiladu eglwys newydd ym 1846, pan benododd Ardalydd Bute y Parchedig John Griffiths yn Ficer Aberdâr. Galwyd cyfarfod cyhoeddus ym 1850 i gyhoddi'r prosiect, fyddai'n costio £3,000. Cyn pen 9 niwrnod roedd y cyhoedd wedi cyfrannu £1,000, ac erbyn mis Chwefror 1851 roedd £2,500 wedi dod i law. Cafodd y pensaer Andrew Mosely'i benodi i ddylunio'r eglwys newydd.
Ymhen blwyddyn roedd yr arian wedi mynd yn brin ac roedd angen rhagor o gyfraniadau gan y cyhoedd i dalu am adeiladu'r meindwr. Ond, er gwaetha'r problemau hyn, daeth y gwaith i ben yn fuan ac agorodd Esgob Llandaf yr eglwys newydd yn swyddogol ar 30 ain Medi 1852. Ond chafodd Eglwys Elfan Sant mo'i chysegru tan 25 ain Medi 1854, yn sgîl rhyw broblemau gyda'r trawsgludiad ar y tir. Ymhlith y torfeydd mawr a ddaeth i'r seremoni roedd 1,200 o ymwelwyr o'r tu allan i Aberdâr, oedd wedi cyrraedd mewn trenau arbennig. Roedd Eglwys Elfan Sant, ar ôl ei chwblhau, yn 140 troedfedd 6 modfedd o hyd, 50 troedfedd 6 modfedd o led, a 50 troedfedd o uchder yng nghorff yr eglwys. 180 troedfedd oedd uchder y meindwr. |
Roedd rhagor o waith i'w wneud ar ôl y seremoni gysegru. Cafodd 8 o glychau'u gosod ym mis Gorffennaf 1858, a dechreuodd cloc y twr weithio ym 1862. Unwaith eto, haelioni'r cyhoedd dalodd am y gwaith. Daeth gwendidau yn y gwaith adeiladu gwreiddiol i'r amlwg, ac roedd angen gwario £700 ar waith atgyweirio ym 1869. Ym 1884, cafodd Eglwys Elfan Sant do newydd ac estyniad i'r gangell, ac fe godwyd y Porth Gogleddol hefyd.
Bu rhagor o waith estyn ar yr eglwys ym 1910 - 1911, codi'r eil ddeheuol yn enwedig. Daeth Esgob Llandaf i ail-agor Eglwys Elfan Sant ar 3 ydd - 4 ydd Hydref 1911. |
Cafodd Eglwys
Fair ei chodi ar gyfer y plwyfolion oedd yn addoli yn Gymraeg. Mrs. Ann Wayne, gwraig Thomas Wayne, osododd y garreg syflaen ar Orffennaf 2 ail 1863. Cafodd yr eglwys ei hagor a'i chysegru gan Esgob Llandaf ar 10 fed Tachwedd 1864.
Arthur Blomfield oedd pensaer Eglwys Fair a Philip Rees, Aberdâr, oedd y contractiwr adeiladu. Costiodd y gwaith adeiladu £2,797. Roedd y nofelydd Thomas Hardy'n gweithio fel prentis pensaer i Arthur Blomfield ar y pryd, ac yn ôl y traddodiad lleol y fe oedd yn gyfrifol am y planiau i'r eglwys hon. Mae rhai'n dweud iddo fod yn aros ym Monk Street, ac yntau'n goruwchwylio'r gwaith adeiladu. Yn anffodus, does dim tystiolaeth gadarn i ategu'r honiadau hyn. Cafodd Eglwys Fair ei hadeiladu yn yr arddull Gothig Ffrengig, gyda changell yn ymagor i gorff yr eglwys. To trumiog oedd ar y twr, oedd yn cynnwys un gloch ddur. Un o nodweddion anghyffredin yr eglwys oedd y fedyddfa yn is na llawr yr eglwys, gyda grisiau yn arwain i lawr iddi.
De: Llun, gan y ffotograffydd lleol enwog Glyn Davies, o dwr Eglwys Fair gyda'i do trumiog hynod. |
|
Bu Eglwys Fair yn gartref ysbrydol i'r plwyfolion Cymraeg eu hiaith am gryn ganrif, ond erbyn 1963 roedd llai na 100 o ffyddloniaid a doedd dim modd cadw'r achos i fynd. Cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru nad oedd Plwyf Aberdâr yn gallu cynnal Eglwys Fair ragor. Gweinyddodd Esgob Llandaf y Cymun Bendigaid yno ar 5 ed Ebrill 1964, a dyna'r gwasanaeth olaf yn yr eglwys. Aeth yr adeilad ar werth ac, mewn arwerthiant yn y Boot Hotel ym mis Chwefror 1964, cafodd ei brynu gan Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr am £2,500. Tynnwyd yr adeilad i lawr ac, yn sgîl gwaith datblygu, agorodd Canolfan Gymdeithasol Eglwys Fair ym 1969. |