Cardiff Street Aberdâr | |
Uchod: Yr Ysgol Genedlaethol, Cardiff Street, Aberdâr |
Cafodd yr Ysgolion Cenedlaethol i Fechgyn ac i Ferched eu hadeiladu ym 1829. Ardalydd Bute oedd wedi rhoi'r tir. Cynyddu'n gyflym oedd poblogaeth plwyf Aberdâr yr adeg honno, a doedd dim llawer o gyfle i blant gael addysg. Fuodd fawr o welliant tan ar ôl tua 1850. Ym 1847, cyhoeddodd comisiwn Seneddol eu hadroddiadau ar yr Ymchwiliad i Gyflwr Addysg yng Nghymru. Roedd yr adroddiadau'n nodedig am eu gelyniaeth tuag at y Gymraeg ac at Anghydffurfiaeth. Hyd heddiw mae'r Ymchwiliad yn cael ei alw'n ‘Brad y Llyfrau Gleision, a bu gwrthwynebiad chwyrn iddo yn Aberdâr. Ond fe nododd yr Ymchwiliad fod dim ond dwy Ysgol Genedlaethol, dwy o ysgolion gweithle, a chwech o ysgolion preifat – i boblogaeth o 15,000. Roedd 110 o fechgyn a 60 o ferched ar lyfrau'r Ysgolion Cenedlaethol. 111 o'r plant oedd wedi bod yn mynychu'r ysgol. Bu'r adroddiad yn sbardun mawr i achos addysg yn yr ardal. Agorodd Ysgol Brydeinig newydd ym Mharc y Comin, Trecynon , ym 1848, a chafodd Ysgolion Prydeinig Hirwaun eu hagor y flwyddyn ganlynol. |
Caeodd Morris Jacob & Sons tua 1985, ar ôl dros ganrif o wasanaethu defnyddwyr Aberdâr. Agorodd y busnes ym 1874 yn siop ddillad, gemau, a gwystlo. Byddai'r busnes gwystlo'n gweithredu o ystafell gefn, gyda'r cwsmeriaid yn cael eu tywys yno drwy'r brif siop. Tua: Morris Jacob & Sons, tua 1934 |
|
Bu tân yn siop ddillad a hetiau Cymdeithas Gydweithredol Aberdâr ar 11 eg Mai 1919. Sylwodd pobl ar y tân, ar gornel Cardiff Street a Station Street, tua 11.00. Bu Brigâd Dân Aberdâr wrthi tan 2.30 yn y prynhawn yn ymladd i gael rheolaeth ar y tân, a chafodd nifer ohonyn nhw'u hanafu. Ymhlith y rhain roedd W G Pink. Bu diffoddwr dewr yma farw wrth ymladd y tân yn Ysbyty Cyffredinol Aberdâr ddeng mlynedd yn ddiweddarach . Doedd ond cragen wag yr adeilad ar ôl, a bu difrod difrifol yn y busnesau cyfagos, Halls & Son a siop gig Miles. Cafodd y siop newydd ei hagor ym mis Gorffennaf 1923, gan Mr. Hale (Cadeirydd Cymdeithas Gydweithredol Aberdâr). Roedd G. H. Hall, Aelod Seneddol Aberdâr, yn bresennol yn y seremoni. Chwith: Tân Siop Gydweithredol Aberdâr, Mai 1919. |
|