Canon Street, Aberdâr | |
Gallwch weld Capel y Drindod a'r Theatr Newydd yn glir yn y llun hwn o Canon Street. Y Temperance Hall oedd y Theatr Newydd yn wreiddiol. Roedd yn adeilad cyhoeddus hynod o bwysig yn Aberdâr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei adeiladu yn 1858 am £3,000, a chafodd ei ddarparu gan Gymdeithas Total Abstinence. Roedd y neuadd yn cynnwys lle i'r gynulleidfa a oedd yn gallu dal 1,500 o bobl, gwesty dirwestol ag iddo 11 ystafell, ystafelloedd pwyllgora, llyfrgell a thy coffi dirwestol. Ar y pryd, y Neuadd oedd y fwyaf oedd ar gael yn Aberdâr ar gyfer cynnal achlysuron cyhoeddus ac roedd yn cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, darlithoedd ac adloniant.
|
|
Fel pob tref debyg ym Maes Glo'r De, roedd nifer fawr o dafarndai yng nghylch Aberdâr. Ym 1793, pum tafarn yn unig oedd ym mhlwyf Aberdâr, ond erbyn 1872, roedd o leiaf 273 ty cyhoeddus yn bodoli, neu wedi bodoli, yn yr ardal rhwng Hirwaun ac Abercwmbói. Y prif resymau am hyn yw'r ffaith bod nifer y boblogaeth wedi cynyddu'n aruthruol yn ystod y cyfnod hyn, ac roedd y dynion a oedd yn gweithio yn y diwydiant glo yn hoff o gael llymaid wedi diwrnod caled o waith. Roedd tai cyhoeddus yr ardal â rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus hanner gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr Eisteddfodau cynnar yn cael eu cynnal mewn tai cyhoeddus, a'r mwyaf enwog ohonyn nhw, y Carw Coch , a gafodd ei chynnal yn y Stag Inn yn Nhrecynon yn 1853. Roedd nifer o gapeli cynnar a'u canolfan mewn tafarndai cyn i'r cynulleidfaoedd allu codi'u haddoldai eu hunain. Er enghraifft, ym 1836, cyn codi capel Salem, Tresalem, sefydlodd y Gweinidog Joseph Harrison dy cwrdd dirgel yn Ystafell Hir y Llew Gwyn, y Gadlys. Yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg fodd bynnag, roedd y tafarndai o dan bwysau'r mudiad dirwest a daeth y diffiniad rhwng 'y ddiod gadarn' a chrefydd yn fwy eglur. Yn ystod y cyfnod hwn, symudodd yr eisteddfodau o dai cyhoeddus i'r capeli. |
Uchod: Tafarn y Seiri |
Uchod: Canon Street wedi'i addurno ar gyfer ymweliad brenhinol |
Rhwng 25 a 27 Mehefin 1912, ymwelodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mari â Chaerdydd a Chymoedd y De. Ar y 27 ain roedd eu taith yn cynnwys ymweliad â Phontypridd a Phorth ar y trên Brenhinol, i'w ddilyn gan daith mewn car modur o Ferthyr Tudful i Aberdâr. Yn Aberdâr, cyflwynodd yr Arglwydd Merthyr gyfarchiad gan bobl Aberdâr iddyn nhw mewn seremoni arbennig ym Mharc Aberdâr . Roedd dros 8,000 o blant yn bresennol yn y parc i groesawu'r pâr brenhinol. Elfen enwocaf y daith oedd eu hymweliad â bwthyn glöwr. Y bwthyn a gafodd ei ddewis oedd 71 Bute Street, Aberdâr, ac mae'r bwthyn yn dal i gael ei adnabod fel Bwthyn y Frenhines Mari hyd heddiw. Yn dilyn yr ymweliad brenhinol, cafodd preswylwyr y ty, Mr a Mrs Jones, gannoedd o ymwelwyr o Dde Cymru a oedd yn awyddus i weld y cwpan yfodd y Frenhines Mari ohono. Roedd Adroddiad yr 'Aberdare Leader' ar Orffennaf 6 ed bod ymwelwyr diolchgar wedi llanw'r cwpan a yfodd y Brenin ohono â cheiniogau ar gyfer baban y Jonesiaid. |