header Cymraeg English
Camlas Aberdâr  
Cyffordd Camlas Aberdâr â Chamlas Morgannwg a'r Navigation , Abercynon, ym 1868.

 Cafodd Deddf Camlas Aberdâr ei phasio ym 1793 i greu cwmni gyda'r hawl i adeiladu camlas o Aberdâr i lawr i'r Navigation , Abercynon. Yn y fan honno byddai'r gamlas newydd yn ymuno â Chamlas Morgannwg, a redai o Ferthyr Tudful i lawr i Gaerdydd. Yn ogystal â hynnny byddai hawl gyda'r cwmni i adeiladu tramffordd i derfynfa Camlas Castell-nedd, ger Glyn-nedd.

Ond fe arhosodd Cwmni Camlas Aberdâr 16 o flynyddoedd cyn adeiladu camlas o gwbl. Gwaith Haearn Hirwaun oedd yr unig fenter ddiwydiannol yng Nghwm Cynon yr adeg honno. Fyddai'r busnes o un gwaith haearn ddim wedi bod yn ddigon i gadw camlas i fynd. Am y tro, agorodd y Cwmni chwarel calch ym Mhenderyn, gyda thramffordd i'w chysylltu â Gwaith Haearn Hirwaun.

Chwith: Cyffordd Camlas Aberdâr â Chamlas Morgannwg a'r Navigation , Abercynon, ym 1868.

Erbyn 1806 roedd dau waith haearn arall wedi'u hagor, yn Llwytcoed ac Aber-nant. Penderfynodd Cwmni Camlas Aberdâr fod yr amser wedi dod i wneud y gorau o dwf diwydiant yn yr ardal, ac adeiladu camlas. Fe wnaethon nhw'r gwaith tirmesur ym 1801, ac erbyn mis Mai 1812 roedd y Gamlas ar agor! Ar bwys T y Draw roedd pen y gamlas, lle'r adeiladodd y Cwmni bedair blanfa, bob un 80 troedfedd o hyd. 7 milltir oedd hyd y Gamlas, gyda 18 o bontydd drosti. Dim ond 13 o droedfeddi roedd y Gamlas yn disgyn o'i chychwyn i ben y gamlas: dyna pam fod angen dau loc yn unig. Roedd y lloc uwch yng Nghwm-bach, ar bwys lle mae'r Duffryn Arms heddiw. Ychydig i'r gogledd o Aberpennar roedd y loc arall. Roedd cyflenwad d w r y gamlas yn dod o ffos borthi yn rhedeg o Afon Cynon i lawr i ben y gamlas.

Un o lanfeydd pen y gamlas. Ychydig flynyddoedd ar ôl i Gamlas Aberdâr gau ym 1900, roedd y chwyn eisoes yn tagu'r gamlas.

Un o lanfeydd pen y gamlas. Ychydig flynyddoedd ar ôl i Gamlas Aberdâr gau ym 1900, roedd y chwyn eisoes yn tagu'r gamlas.

Rhyw 3 neu 4 o oriau oedd amser y daith o ben y gamlas i'r gyffordd â Chamlas Morgannwg yn Abercynon. Mewn egwyddor, byddai modd teithio o Aberdâr i Gaerdydd ac yn ôl cyn pen 30 o oriau. Ond roedd llawer o w y r y badau yn arfer aros dros nos yn Nantgarw, a chan hynny roedd hi'n fwy arferol i wneud dwy daith i Gaerdydd ac yn ôl mewn wythnos. Gwaetha'r modd, bu cwymp yn y fasnach haearn yr union adeg yr agorodd y gamlas. Peidiodd y tri gwaith haearn â gwneud haearn, ac erbyn mis Gorffennaf 1814 doedd dim digon o fusnes i gadw'r Gamlas i fynd. Doedd neb yn ei defnyddio o gwbl rhwng 1815 a 1818, a bu raid aros tan 1819 i'r fasnach haearn ddechrau ffynnu eto. Pan brynodd William Crawshay II Waith Haearn Hirwaun ym 1819, aeth ati i gael gafael ar y rhwydwaith trafnidiaeth i'r Hirwaun hefyd. Erbyn 1826, roedd e wedi prynu 96 o gyfranddaliadau yng Nghwmni Camlas Aberdâr. Ei lais e bellach oedd y cryfa yn y Cwmni. Yn ystod y 1820au a'r 1830au, roedd y fasnach haearn yn rhoi digon o fusnes i'r Gamlas i'r cyfranddalwyr wneud rhywfaint o elw'n gyson.
Glofa Middle Duffryn a Chamlas Aberdâr tua 1910

Erbyn diwedd roedd ffynhonnell newydd o fusnes yn dod i'r amlwg ym mhen uchaf Cwm Cynon. Ym 1837, fe agorodd Matthew Wayne a'i fab Thomas Waynes lofa Abernant-y-Groes yng Nghwm-bach, a dyna oedd cychwyn trawsnewid hanes y Gamlas, y cwm, a'r De i gyd. Dyma'r lofa gynta gafodd ei hagor i fanteisio ar yr elw i'w wneud o allforio glo Aberdâr. Cyn pen ychydig flynyddoedd roedd nifer o lofeydd wedi agor yn agos i'r Gamlas, gan gynnwys Middle Duffryn (1843), Upper Duffryn (1840), a Blaengwawr (1843). Cyfnod ffyniannus iawn i'r Gamlas oedd y 30 o flynyddoedd nesa. Yn ogystal â'r incwm cyson o Waith Haearn Hirwaun, roedd y cwmni'n elwa o gynnydd cyson y diwydiant glo.

Glofa Middle Duffryn a Chamlas Aberdâr tua 1910

 

Dyna pam roedd y Gamlas mor hynod ffyniannus yn ystod y 1840au a'r 1850au, er bod y rheilffyrdd yn dechrau ymestyn i fyny'r Cwm. Agorodd Rheilffordd Dyffryn Taf ym 1846, a Rheilffordd Cwm Nedd ym 1851. Ond, yn y pen draw, doedd dim modd i'r Gamlas oroesi yn wyneb cystadleuaeth y rheilffyrdd. Collodd y gamlas ei busnes craidd pan aeth y diwydiant haearn i'r wal ym 1875, ac erbyn yr adeg honno roedd y glofeydd yn anfon eu glo allan ar y rheilffyrdd. Roedd y Gamlas yn dal i gludo cynnyrch amaethyddol a deunyddiau adeiladu, ond bach iawn o fusnes oedd hynny. Prin y gallai'r Gamlas ennill digon o arian i dalu costau'i gweithredu. Ac erbyn diwedd y 1870au, roedd y tir o dan y Gamlas yn dechrau suddo mewn mannau lle'r oedd y pyllau glo'n ymestyn o dan y ddaear.

Prynodd Ardalydd Bute Gamlas Aberdâr a Chamlas Morgannwg ym 1884, a buddsoddi arian mawr ynddyn nhw. Ond doedd dim elw i'w gael ohonyn nhw, a dal i waethygu roedd yr ymsuddiant oherdwydd gwaith cloddio'r pyllau glo. Fe godai costau cynnal a chadw o hyd, ac ym 1900 roedd rhaid cau Camlas Aberdâr er mwyn diogelwch y cyhoedd.

Aeth Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr a Chyngor Dosbarth Aberpennar ar y cyd i brynu'r hen Gamlas ym 1923. Gwely'r Gamlas oedd sail llwybr yr A4049, y brif ffordd i fyny Cwm Cynon. Does dim ar ôl o'r Gamlas heddiw ond darn bach ar bwys Canal Head House - ac, wrth, gwrs, y t y 'i hun.

Chwalu Pont Camlas y Ffrwd, Aberpennar, yn ystod llenwi'r Gamlas ac adeiladu'r ffordd newydd, tua 1924
Chwalu Pont Camlas y Ffrwd, Aberpennar, yn ystod llenwi'r Gamlas ac adeiladu'r ffordd newydd, tua 1924
   
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf