AberdÂr - Cambrian Lamp Works - E. Thomas & Williams | |
Gellwch gysylltu â'r Lamp Works trwy'r cyfeiriad cyferbyn. Noder: Nid yw'r dudalen we hon yn rhan o Wefan Llwybr Treftadaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf - NID YW'R DUDALEN HON YN CAEL EI RHEDEG GAN E. THOMAS & WILLIAMS CYF. |
E. Thomas & Williams Cyf. |
Sefydlodd Evan Thomas y cwmni yn 1860 a'r safle gwreiddiol oedd Cardiff Street, Aberdâr. Yn 1877 symudodd i safle newydd ar Stryd y Graig oddi ar Monk Street, Aberdâr. Ymunodd Mr. Lewis N. Williams, a oedd yn awdurdod ar ddamcaniaeth a chreu lampau diogel, â Mr. Evan Thomas yn y busnes. Ym 1907 daeth y busnes yn gwmni cyfyngedig gan weithio o dan yr enw E.Thomas & Williams Cyf. Yn ystod yr 1880au a'r 1890au dangosodd y cwmni ei lampau yn ystod amrywiaeth o arddangosfeydd diwydiannol pwysig gan ennill sawl gwobr fawreddog yn cynnwys y fedal aur yn y London Mining Exhibition. Yr oedd ehangiad y diwydiant glo yn creu marchnad gartref weithredol ar gyfer eu nwyddau ac yr oedd allforion hefyd ar gynnydd gan allforio nwyddau i wledydd fel Awstralia, India, De Affrica, Canada, America a Rwsia. |
|
O ganlyniad i'r Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd y cwmni wneud casinau siel ar gyfer y Fyddin a chynyddodd nifer y gweithwyr i 70. Fodd bynnag, nid oedd y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd mor llwyddiannus ac oherwydd y dirwasgiad disgynnodd busnes a bu rhaid lleihau'r gweithlu. Newidiodd hyn pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ac enillodd y cwmni gytundebau gan y Weinyddiaeth Gyflenwi er mwyn gwneud darnau dur a "Lightbuoy" bach a oedd yn rhedeg ar fatri ar gyfer dod o hyd i oroeswyr llongau a gafodd eu taro gan dorpido. Parhaodd y cwmni i ffynnu nes i ddirywiad y diwydiant glo yn y DU orfodi'r rheolwyr i chwilio am syniadau amgen ar gyfer eu gweithlu. Arfer y cwmni o wneud Lampau Glowyr Cambriaidd i'w cyflwyno i urddasolion y byd gwleidyddol, milwrol a chwaraeon a ddatrysodd eu problem. Mewn byr o dro, gwelwyd cynnyrch y cwmni mewn siopau ledled y byd er nad oedd hyn yn ddiwedd ar gynhyrchu lampau diogel. Ystyrir Lamp Ddiogel Gambriaidd yn offeryn hanfodol ar gyfer dod o hyd i gynnydd nwy peryglus ac y mae yn dal i gael ei defnyddio mewn pyllau glo, howldiau llongau a charthffosydd hyd heddiw.Y mae'r cwmni yn parhau i weithio o ffatri yn Nhrerobert y symudodd iddi wedi i'w safle yn Aberdâr gael ei ddinistrio gan dân ym 1978. Y mae rhyw 12 o staff ac y mae yn dal i gynhyrchu tua 1500 o lampau cain y mis i'w gwerthu ar draws y byd i gyd gan fod yr unig wneuthurwyr cydnabyddedig lampau diogel yng Nghymru. Erbyn hyn, y mae 70% o allbwn y ffatri yn cael ei allforio i wledydd megis America, Canada, Sgandinafia a ledled Ewrop ac ond ychydig yn cael eu defnyddio at bwrpas glofaol. Gobeithir na fydd lampau efelychiadol rhad yn effeithio ar werthiant ac, o bosib, ddyfodol y cwmni lleol hwn sydd wedi'i hen sefydlu ac wedi bodoli ers dros 140 o flynyddoedd. |
|
I'r dde: Y lamp 9F a gafodd ei hysbysebu yn rhifyn 5 catalog y cwmni tua 1910 |