Abercynon | |
Fel croesfan y gwahanol ffyrdd o deithio y dechreuodd pentref Abercynon dyfu yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Roedd Camlas Morgannwg, Camlas Aberdâr, a Rheilffordd Dyffryn Taf i gyd yn mynd drwy'r ardal, ac roedd angen gwestyau a thafarnau i'r teithwyr yn ogystal ag i weithwyr y camlesi a'r rheilffyrdd. Dyna pam y cafodd y Junction , y Swan , y Boatman , y New Inn , y Navigation , a'r Traveller's Rest eu sefydlu . Chwith: Gwesty'r Junction, Abercynon tua 1900 |
|
Cafodd llythyrdy a siop bob peth dan yr un to'u hagor, a bu raid codi tai i'r holl weithwyr. Roedd nifer o enwau ar lafar i'r pentref 'Navigation', 'Y Basin' ac 'Aberdare Junction', bob un yn sôn am y gwahamol ffyrdd o deithio. Ym 1889, dechreuodd cwmnïau glo gloddio pyllau, a chafodd strydoedd newydd eu hadeiladu ar hyd ochrau'r cwm i ddarparu cartrefi i'r gweithwyr oedd yn heidio i mewn. Ymhlith y strydoedd yma roedd Martin's Terrace, Station Terrace (Ynysmeurig Road erbyn hyn), a Catherine Street (Herbert Street bellach). Roedd rhaid cael un enw i'r pentre, a daeth pobl at ei gilydd mewn cyfarfod cyhoeddus ym 1893 i ddewis yr enw Abercynon. Yn ogystal â'r siopau a'r gweithfeydd, fe godwyd nifer o adeiladau pwysig eraill gan gynnwys Ysgol y Navigation ym 1896, a Neuadd y Gweithwyr ym 1905. | |
Ymhlith y bobl a ddaeth i Abercynon i fyw roedd aelodau nifer o enwadau a chyrff crefyddol. Cododd y bobl yma gapeli ac eglwysi i ddiwallu'u hangenion crefyddol. Agorodd y Bedyddwyr Eglwys Calfaria ym 1894, dechreuodd yr Annibynwyr Bethania ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chysegrodd Eglwys Loegr eglwys newydd, Sant Dunwyd, ym 1908. |
Glancynon Terrace ac Eglwys Calfaria (B.) |
Diwydiant Glo Abercynon |
|
Mae gwythiennau glo Abercynon yn gorwedd yn ddwfn dan yr wyneb. Un enghraifft yw gwythïen Gelli-deg, sy'n 146 o lathenni dan yr ywneb yn Aberdâr, a 170 o lathenni dan yr wyneb yn Abercynon. Dyna pam fod glofeydd Abercynon wedi dechrau tua diwedd y 19eg ganrif, yn ddiweddarach na'r pyllau ymhellach i fyny Cwm Cynon. Busnes costus iawn yw cloddio am lo fodd bynnag, ac fe fyddai cloddio yn Abercynon yn gofyn am byllau dyfnach a mwy o faint. Er hynny fe lwyddodd peirianwyr i drechu'r problemau yma, a bu'r glofeydd llwyddiannus yma yn ffynnu yn Abercynon am gyfnod. | |
Roedd Glofa Abercynon (Glofa Dowlais Caerdydd) gyda'r dyfnaf ym maes glo'r De adeg ei gloddio. |
Glofa Abercynon Glofa Dowlais Caerdydd oedd enw gwreiddiol y lofa yma, gan taw Cwmni Haearn Dowlais oedd wedi dechrau'r pwll. Dechreuon nhw gloddio'r pwll ym 1889, ond aethon nhw i drybini'n fuan iawn gan fod gormod o ddwr ynddo. Bu raid gosod pympiau i dynnu'r dwr allan, ac erbyn 1906 roedd y lofa gyfan wedi'i chwblhau. Yr adeg honno, dyma oedd y pyllau dyfnaf ym maes glo'r De i gyd. Newidiodd Cwmni Haearn Dowlais ei enw i Guest Keen and Company ym 1901, a daeth hwnnw yn rhan o Guest Keen and Nettlefolds Ltd. - GKN - ym 1903. Yn nes ymlaen, fe roes GKN y gorau i gloddio am lo yma yn y De. Daeth y pwll yn eiddo i Welsh Associated Collieries Ltd erbyn 1931. Unodd y cwmni yma â Powell Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell Duffryn Associated Collieries Ltd. ym 1935. Daeth y lofa dan reolaeth y Bwrdd Glo Gwladol adeg gwladoli'r diwydiant glo ym 1947. Ym 1971, cysylltodd y Bwrdd Glo'r pwll yma â Glofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl, dan ddaear. Caeodd y Bwrdd Glo'r Pwll ym 1988. |
Glofa Carne Park Glofa gymharol fechan oedd hon, yn cynnwys nifer o lefelau i'r de-orllewin o Eglwys Dunwyd. Nid oes neb yn sicr pryd yn gywir y dechreuodd y lofa yma. Roedd y lofa'n gweithio erbyn 1864, er nad yw enw'r perchennog ar gael bellach. Roedd y lofa yn nwylo'r Carne Park Colliery Co. Ltd., ond aeth yn fethdalwr ym 1911. Er hyn roedd hi'n gweithio eto ym 1916, dan reolaeth y Brodyr Richardson. Ni chafodd y lofa'i gwladoli ym 1947, ac erbyn 1957 roedd hi'n eiddo i D. Leonard a'i Bartneriaid. Nid oes cofnod o ddyddiad cau'r lofa. De: Cyffordd Abercynon tua 1905
|
|
Richard Trevithick |
|
Mae copi o loco gwreiddiol Trevithick |
Peiriannydd o Gernyw oedd Richard Trevithick, y cyntaf i redeg locomotif ager ar reilffordd. Ac yntau'n gweithio i Samuel Homfray yng ngwaith haearn Pen-y-Darren ger Merthyr Tudful, fe fentrodd ei gyflogwr 500 gini y gallai Trevithick dynnu deg tunnell o haearn mewn trên tu ôl i locomotif ager o Ferthyr i Fasn Abercynon. Adeiladodd Trevithick injan ager wasgedd uchel i dynnu trên yn cludo deg tunnell o haearn, saith deg o ddynion, a phump o wagenni. Yn anffodus, fe drawodd corn mwg yr injan yn erbyn pont isel yn fuan ar ôl cychwyn, a chafodd y corn mwg a'r bont ryw faint o ddifrod. Atgyweiriodd Trevithick y corn mwg, ac ailgychwyn ar ei daith. Cwblhaodd y daith 9 ½ milltir i Abercynon ar gyflymdra o 5 milltir yr awr. Diolch i Richard Trevithick, roedd Samuel Homfray wedi ennill ei 500 gini. |