header Cymraeg English
Pentre'r Eglwys  

Dengys cofnodion cyfrifiad 1841 nad yw hanes Pentre'r Eglwys fel cymuned yn ymestyn rhyw lawer tu hwnt i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent yn dangos mai dim ond cartref saer coed a dau adeilad neu dy anghyfannedd oedd yn y pentref. Yn ôl map degwm 1846, roedd yr adeiladau hyn wrth groesffordd ffyrdd Tonteg i Lantrisant a Llanilltud Faerdref i Efail Isaf. Yn ystod y deng mlynedd nesaf, cafodd Pentre'r Eglwys ei ddatblygu'n sylweddol, a newidiwyd ei enw hefyd.

Cross Inn yw enw'r pentref ar gyfrifiad 1851, ac arhosodd felly tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r cyfrifiad hefyd yn dangos bod gan y pentref boblogaeth o 91 o bobl yn byw mewn 14 cartref, gan gynnwys fiteliwr, gwniadwraig, cigydd, dilledydd, groser a phrifathro. Yn arwyddocaol, cofnodir 24 glöwr a 2 gontractwr glo fel trigolion y pentref. Roedd lefelau a phyllau glo bach fel Glofa Dyhewid yn dechrau ymddangos yng nghyffiniau'r pentref. Roedd twf y diwydiant glo lleol yn dechrau cael effaith ar dwf a datblygiad Cross Inn

Y briffordd, Pentre'r Eglwys

Y briffordd, Pentre'r Eglwys

Pentre'r Eglwys Uchaf

Yn ystod y degawd canlynol, sefydlwyd nifer o sefydliadau crefyddol ac addysgiadol. Cynhaliwyd ysgol yn y stablau ger fferm Tir Bach ar gyrion y pentref. Yn nes ymlaen, symudodd yr ysgol i ystafell hir y tu ôl i dy tafarn y pentref, Tafarn y Groes. Roedd yr ystafell hon hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig nes i gapel gael ei adeiladu ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Tyfodd poblogaeth Tafarn y Groes yn fwy graddol yn ystod yr 1860au. Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd poblogaeth o 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref.

Chwith: Pentre'r Eglwys Uchaf

 
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf