header Cymraeg English
Tonypandy  
Yn ei waith ‘The Rhondda Valleys', mae E. D. Lewis yn crynhoi hanes pandy neu felin bannu a roddodd ei enw i dref Tonypandy. Dyma'r disgrifiad ohono, ‘The woollen manufactri and the pandy or fulling mill were situated on Nant Clydach, near the confluence of the Clydach brook and the River Rhondda Fawr at Tonypandy' .

Dunraven Street, tua 1920

Dunraven Street, tua 1920

Mae'n mynd ymlaen i adrodd hanes sefydlu'r pandy gan Harri David ym 1738, cyn i David Martin gymryd yr awenau yn ail hanner y ddeunawfed ganrif.
Prif orchwyl y pandy yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd cannu cynnyrch ffermydd yn ardal Tonypandy. Dirywiodd gwaith y pandy ar ôl i gwmni Taff Vale Railway gyrraedd Tonypandy gan ei gwneud hi'n haws i gludo tecstilau rhatach o ogledd Lloegr yno. Caeodd y pandy maes o law, ac ym 1914 bu ymgais aflwyddiannus i symud yr olwyn a'r ffrâm wehyddu i'r Amgueddfa Genedlaethol.

Mae map degwm 1847 yn dangos nifer o fythynnod a siop yn ogystal â'r ffermydd gwasgaredig arferol, sy'n profi pwysigrwydd y pandy fel canolfan i'r ffermwyr lleol. Agorwyd pyllau glo yr ardal, fel Nantgwyn ar y bryniau uwchben Tonypandy ym 1892, a Gellifaelog a agorwyd gan Walter Coffin ym 1845. Er hynny, datblygodd Tonypandy'n lle pwysig fel canolfan fasnachol a diwylliannol ar gyfer y pentrefi cyfagos.

 

Agorwyd llyfrgell gyhoeddus gyntaf Cwm Rhondda yn Nhonypandy, uwchben siop ddodrefn yn Dunraven Street, ac roedd theatrau fel yr Empire Theatre of Varieties a'r Theatre Royal yn ffynnu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Hefyd, roedd neuadd enfawr y Methodist Central Hall yn y dref yn adeilad sylweddol a thrawiadol am flynyddoedd. Neuadd y Wesleaid oedd hi'n wreiddiol pan y'i hadeiladwyd ym 1923 ar gost o £27,000, ac roedd yn cynnwys y brif neuadd â lle i 1,000, ynghyd ag ystafelloedd a neuadd lai â 500 o seddi.
Tonypandy

Codwyd ysgol uwchradd y dref ym 1915 a ddaeth yn ysgol ramadeg wedyn, ynghyd ag Eglwys Babyddol ac ysgol elfennol, a phencadlys yr heddlu oedd yn cynnwys tri sarjant a deg o gwnstabliaid ym 1926.

Roedd ffownten a chafn dwr ‘The Lady with the Lamp', fel yr oedd yn cael ei hadnabod ar lafar gwlad, yn harddu sgwâr Tonypandy am flynyddoedd. Codwyd y ffownten a'r cerflun ym 1909 gydag arian dros ben o gronfa cerflun coffa Archibald Hood, peiriannydd enwog o'r Alban a pherchennog gwaith glo lleol. Mae Tonypandy fwyaf enwog am Derfysgoedd 1910, pan ddaeth heddlu Metropolitan Llundain a milwyr i Gwm Rhondda oherwydd y gwrthdaro yn sgil anghydfod Glofa'r Cambrian.
Anghydfod Glofa'r Cambrian (Terfysgoedd Tonypandy)

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, y Cambrian Combine oedd un o rymoedd mawr y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng grym y perchnogion glo (y cwmnïau glo cyfunol, neu'r Combine) a'r gweithwyr (sef aelodau Cyfrinfa Cambrian, Ffederasiwn Glowyr De Cymru) at yr anghydfod mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y De. Penllanw hyn oedd digwyddiad a ddaeth yn enwog ymhlith haneswyr fel ‘Terfysgoedd Tonypandy'.
Dechreuodd yr anghydfod ym mhwll glo Ely ym Mhenygraig, oedd yn eiddo i'r Naval Colliery Company, ac roedd yn ymwneud â phenderfyniad y rheolwyr i agor gwythïen newydd, y wythïen bum troedfedd neu wythïen Bute. Cyn agor gwythïen newydd, byddai rhan o'r wythïen yn cael ei chloddio am gyfnod prawf i weld faint o gynnyrch oedd yno, a phris yn cael ei bennu am bob tunnell i'r glowyr fyddai'n cloddio'r wythïen. Yn ystod cyfnod prawf yn y wythïen hon ym 1909, roedd y rheolwyr yn cyhuddo'r glowyr o weithio'n arafach na'r arfer er mwyn codi pris fesul tunnell y wythïen pan fyddai'n cael ei gweithio go iawn. Ymatebodd y glowyr drwy fynnu ei bod hi'n anodd iawn cloddio drwy'r wythïen arbennig, annormal, hon. Yn y diwedd, cynigiodd y rheolwyr 1s.9.d y dunnell i lowyr y wythïen. Ond nid oedd hyn wrth fodd y glowyr, gan ddweud na fyddent yn gallu cloddio digon o lo i sicrhau digon o gyflog. Roedd y glowyr eisiau 2s 9d y dunnell.

Democratic Club Distress Committee 1910

Democratic Club Distress Committee 1910

Nid oedd y naill ochr na'r llall am ildio, ac ar 1 Awst 1910, anfonodd perchnogion y lofa hysbysiadau ‘cloi allan' - nid yn unig at yr 80 o ddynion oedd wedi'u heffeithio gan helynt y wythïen, ond at bob un o'r 800 o weithwyr yn y lofa. Dechreuodd hyn ar 1 Medi 1910. Ar 5 Medi, trodd gweithwyr eraill pyllau'r Naval allan i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr pwll glo Ely, ac ar 7 Medi, pleidleisiodd gweithwyr glofa'r Cambrian a'r Glamorgan i'w cefnogi wythnos yn ddiweddarach. Ar yr un pryd, ceisiodd William Abraham AS (Mabon) eu hannog i beidio â gwneud hyn, gan addo trefnu cynhadledd y meysydd glo i fynd i'r afael â'r anghydfod.
Dyma oedd argymhelliad Cyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar 16 Medi; ' to agree that the whole of the workmen employed at the Cambrian Combine be given permission to tender their notices upon the 1st of October next, to terminate their contracts and that a weekly levy be made upon all members of the Federation to provide necessary financial support' .
Cynhaliwyd y gynhadledd yn Neuadd Cory y diwrnod canlynol, gyda thros 248 o swyddogion yn cynrychioli 147,000 o ddynion, a phenderfynwyd cynnal pleidlais ar y mater – a ddylid derbyn yr argymhellion hyn neu a ddylai holl aelodau'r Ffederasiwn fynd ar streic i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr y Cambrian. Cyflwynodd holl lowyr y Cambrian Combine eu bwriad i adael eu swyddi tra'r oedd ymdrechion funud olaf i geisio atal streic. Sicrhaodd Mabon gynnig uwch o 2s1.3c y dunnell, ond gwrthodwyd hyn gan Gyfrinfa'r Cambrian. Ar yr un pryd, bu D.A Thomas, pennaeth y Combine, mewn cyfarfod â Chymdeithas y Perchnogion Glo grymus yng Nghaerdydd, lle addawodd y perchnogion ddigolledu perchnogion y glofeydd oedd wedi'u heffeithio a pheidio byth â chyflogi glowyr ar streic yn unrhyw ran arall o'r meysydd glo.

Heddlu Bangor yng Nghwm Clydach 1910/11

Heddlu Bangor yng Nghwm Clydach 1910/11

Felly, gyda'r frwydr ar fin dechrau a'r naill ochr a'r llall yn styfnigo, dechreuodd y streic yn swyddogol ar 1 Tachwedd 1910. Aeth y perchnogion glo ati ar unwaith i drefnu gweithwyr newydd o'r tu allan i'r meysydd glo, a gofyn i Brif Gwnstabl Morgannwg, y Capten Lionel Arthur Lindsay, am fwy o heddlu i'w hamddiffyn. Derbyniwyd y cais, a daeth heddlu o Abertawe, Caerdydd a Bryste i gadw'r heddwch. O safbwynt y glowyr, roedd Deddf Anghydfod Llafur 1906 yn rhoi hawl iddynt bicedu'n heddychlon, ac mewn cyfarfod ar 7 Tachwedd, dywedodd y glowyr eu bod am atal unrhyw swyddog o Mr Llewellyn i lawr rhag mynd i mewn i iard y lofa. O ystyried y gymysgedd beryglus o filoedd o streicwyr, y bygythiad o gludo glowyr o'r tu allan, mwy o heddlu yn y gymuned, a'r chwerwedd oedd yno eisoes yn sgil cau allan a'r streic, roedd helynt yn anorfod. Yn wir, hydref 1910 oedd un o'r cyfnodau mwyaf tanllyd a welodd y diwydiant glo hyd yn hyn - gyda streiciau eisoes ar waith yn rhannau eraill o'r meysydd glo, fel Aberdâr, ac erbyn mis Tachwedd roedd bron un o bob chwech o lowyr y De ar streic.

Sgwâr Tonypandy ar ôl terfysgoedd 1910

Sgwâr Tonypandy ar ôl terfysgoedd 1910

Penderfynodd y glowyr y dylai pawb oedd ar streic wrthdystio ger eu pyllau eu hunain am 5 o'r gloch y bore, 7 Tachwedd. Yn fuan ar ôl 5 y bore, roedd Noah Rees, ysgrifennydd Cyfrinfa'r Cambrian, W.H.Mainwaring a thrwmpedwr yn cerdded hyd y strydoedd yn galw'r glowyr i weithredu. Dechreuodd y streicwyr ymgynnull ger mynedfeydd y pyllau ac ym mhob stryd a ffordd oedd yn arwain i'r pyllau, er mwyn atal rhai rhag mynd i weithio y diwrnod hwnnw.

Ymunodd gwragedd a phlant â'u gwyr a'u tadau ar y llinell biced. Roedd ymgyrch y glowyr yn llwyddiant, a llwyddwyd i atal y gwaith ym mhob un o byllau'r Cambrian Combine heblaw am Lofa Glamorgan, Llwynypia. Roedd y perchennog Leonard Llewellyn, wedi llwyddo i amddiffyn y lofa honno i'r carn rhag y streicwyr. Yn ogystal â phicedu i atal unrhyw un rhag mynd i'r glofeydd, ymwthiodd y glowyr i lofa'r Cambrian er mwyn diffodd tanau'r boeleri a'r gwyntyllau awyru, fel na allai neb weithio yno. Erbyn 10.30 y noson honno roedd y streicwyr wedi amgylchynu'r unig lofa oedd yn dal ar waith yn Llwynypia. Y tu mewn i'r lofa, roedd Leonard Llewellyn a thua 60 o swyddogion a drafftsmyn yn dal i gynnal peiriannau'r pwll ac atal dwr rhag cyrraedd y pwll. Y si oedd bod Llewellyn wedi dod â thanwyr i mewn o Gaerdydd i weithio yn lle'r streicwyr.

Yn ogystal â'r gweithwyr hyn, roedd Capten Lindsay a thros gant o blismyn ar safle'r lofa - sy'n brawf o bwysigrwydd Glofa Glamorgan i'r gweithwyr yn ogystal â'r perchnogion glo, gyda generadur trydan a gorsaf bwmpio oedd yn cadw dwr draw o'r pyllau. Dyma lle daeth y streicwyr benben â'r heddlu am y tro cyntaf, a'r hyn a sbardunodd Derfysgoedd Tonypandy maes o law. Parhaodd y dorf o fil i wrando'n astud ar eu harweinydd Will John ar y cyfan. Ond dechreuodd canran fechan o'r dorf a oedd yn sefyll ar lethr uwchben yr orsaf bwer daflu cerrig at yr adeilad islaw a thynnu rhan o ffens bren y lofa i lawr. Dechreuodd helynt difrifol wedyn, gyda'r heddlu a'r streicwyr yn ymladd a'i gilydd cyn i'r heddlu â phastynau hel y dorf o'r lofa ac yn ôl i gyfeiriad Tonypandy toc ar ôl hanner nos. Rhwng 1 a 2 y bore ar Sgwâr Tonypandy, defnyddiodd 50 o blismyn Caerdydd eu pastynau i wasgaru'r dorf oedd wedi ymgynnull yno.

Erbyn un o'r gloch y bore, 8 Tachwedd, roedd Capten Lindsay yn ofni'r gwaethaf ac yn rhagweld y gallai golli rheolaeth ar y sefyllfa, ac anfonodd neges delegraff yn gofyn am gymorth y fyddin. Atebodd barics Tidworth trwy ddweud y byddai lluoedd o wyr meirch a throedfilwyr yn cyrraedd Tonypandy am 9 o'r gloch y bore hwnnw. Pan fethodd y milwyr â chyrraedd yno, anfonodd delegraff at Winston Churchill, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd:

'All the Cambrian collieries menaced last night. The Llwynypia Colliery savagely attacked by large crowds of strikers causing many casualties on both sides. Am expecting two companies of infantry and 200 cavalry today.' Unbeknownst to him however, Churchill on finding out about the unapproved troop movements had already stopped the reinforcements at Swindon, fearing some said a repeat of the incidents of 'Bloody Sunday, when in 1887 at Trafalgar Square troops with fixed bayonets faced rioters. He sent a telegram to Lindsay stating, 'infantry should not be used until all other methods have failed'. Instead of the military he sent 70 mounted and 200 other constables of the Metropolitan Police Force as reinforcements to the authorities already in the area. Cavalry were also offered, to be sent into the district as a precautionary measure under the control of General MacReady. Lindsay on hearing of the contingent of Metropolitan Police being sent to his aid refused the use of the cavalry saying the police reinforcements should be sufficient, as such the cavalry were halted at Cardiff.

Yn ddiarwybod iddo ef, fodd bynnag, roedd Churchill eisoes wedi rhwystro'r milwyr rhag mynd gam ymhellach na Swindon, gan ofni sefyllfa debyg i honno ar ‘Bloody Sunday' 1887 pan aeth milwyr â bidogau benben â therfysgwyr yn Trafalagar Square. Anfonodd delegram yn ôl at Lindsay gan ddweud , 'infantry should not be used until all other methods have failed'. Yn lle'r milwyr, felly, anfonodd 70 o blismyn ar geffylau a 200 o gwnstabliaid heddlu Metropolitan Llundain i fod yn gefn i'r heddluoedd eraill oedd yno eisoes. Cynigiwyd anfon gwyr meirch dan arweiniad y Cadfridog MacReady i'r ardal hefyd, rhag ofn. Ond gwrthododd Lindsay y cynnig hwn ar ôl clywed bod heddlu Metropolitan Llundain ar eu ffordd yno, gan ddweud y dylai hynny fod yn ddigon i gadw'r heddwch, ac felly stopiwyd y gwyr meirch yng Nghaerdydd.

Ddydd Mawrth 8 Tachwedd, cafodd y gweithwyr ar streic eu talu a'u diswyddo gan gwmnïau'r Cambrian Combine cyn mynd ymlaen i gyfarfod mawr yng Nghae Athletaidd Tonypandy. Siaradodd yr ynad cyflogedig lleol Lleufer Thomas â'r dynion a darllen neges gan yr Ysgrifennydd Cartref oedd yn nodi ei fwriad i ddal y milwyr yn ôl ac anfon yr heddlu'n unig i gadw heddwch. Cafodd y neges gymodol hon groeso gan y glowyr, gan ei fod yn addo trefnu cyfarfodydd gyda'r Bwrdd Masnach i ddatrys yr anghydfod. Trefnodd y glowyr orymdaith drefnus i Lofa Glamorgan unwaith eto, a chyrraedd yno tua 4pm. Cyn pen awr, fodd bynnag, dechreuodd yr hyn a ddisgrifiwyd fel ‘terfysgoedd difrifol'. Ceisiodd plismyn ar gefn ceffylau wasgaru'r streicwyr a bu gwrthdaro rhwng y streicwyr a'r heddlu am dros ddwy awr. O'r diwedd, llwyddodd yr heddlu i rannu'r streicwyr yn grwpiau ar wahân, ac anfonwyd rhai i gyfeiriad Llwynypia i fyny'r cwm a'r lleill i lawr y cwm am Donypandy. Anafwyd cannoedd o heddlu a therfysgwyr yn y sgarmes. A dyma ddechrau Terfysgoedd Tonypandy. Dechreuodd y streicwyr a gafodd eu hel i gyfeiriad Tonypandy dorri ffenestri siopau'r dref, a nifer o dai hefyd. Yn ôl adroddiadau, dim ond ffenestri dwy siop oedd heb eu torri - un siop gemwaith oedd â chaeadau rholer a siop fferyllydd o eiddo cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Roedd pum cwnstabl ar ddyletswydd yn Nhonypandy ar y pryd, a rhyngddyn nhw a dwsin o heddlu wrth gefn o'r Lofa, llwyddwyd i glirio'r strydoedd yn y diwedd. Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, anfonodd y Cadfridog MacReady delegram at Churchill gyda'r geiriau canlynol:

'As the situation appears to have become more serious you should if the Chief Constable or Local Authority desire it move all the cavalry into the district without delay'.

Ar ôl trafod gyda Lindsay a MacReady, cytunodd Churchill i anfon 200 o heddlu ychwanegol y Metropolitan a fyddai'n gadael Llundain am 3 o'r gloch y bore, 9 Tachwedd. Ond roedd yr helynt ar ben erbyn iddyn nhw gyrraedd, gan fod 150 o heddlu eisoes wedi cyrraedd Sgwâr Tonypandy am 11 o'r gloch nos Iau, 8 Tachwedd. Er nad oes cofnodion dilys o'r rhai a anafwyd (gwrthododd llawer o lowyr gael triniaeth am eu bod yn ofni cael eu harestio) cafodd bron i 80 o blismyn a thros 500 o bobl eraill niwed. Bu farw un ohonynt, Samuel Rhys, o'i anafiadau'n ddiweddarach.

Mae hanes Terfysgoedd Tonypandy wedi bod yn un dadleuol dros ben, gyda llawer o gefnogwyr y glowyr yn beio'r wasg (a oedd yn cael eu hystyried o blaid y perchnogion) am orliwio'r sefyllfa a nifer y protestwyr. Yn wir, mewn dadl seneddol ar ôl y terfysgoedd, fe honnodd Keir Hardy mai prin gant o ddynion oedd yn gyfrifol am dorri ffenestri o blith y miloedd o streicwyr.

Dywedodd hefyd y byddai'r holl helynt wedi'i ddatrys ynghynt pe na bai'r holl heddlu'n amddiffyn eiddo'r perchnogion glo. Yn sgil y terfysgoedd, dechreuodd pobl busnes gau eu siopau'n gynt na'r arfer rhag ofn y byddai rhagor o helynt fin nos, a chyrhaeddodd lluoedd yr 18th Hussars i warchod Glofa Llwynypia. Er gwaetha'r holl niferoedd oedd yn gysylltiedig â'r terfysgoedd, dim ond 13 o lowyr o'r Gilfach-goch a gafodd eu herlyn am ddigwyddiadau'r 7fed ac 8fed o Dachwedd 1910. Fe'u cyhuddwyd o fygwth swyddog y lofa, a chynhaliwyd yr achos llys ym Mhontypridd ar 14 Rhagfyr. Gan ofni rhagor o helynt, amgylchynwyd y dref gan 400 o blismyn, dau farchoglu a sgwadron yr 18th Hussars. Yn ystod yr achos a barodd chwe diwrnod, gorymdeithiodd 10,000 o ddynion, gan gynnwys bandiau drymiau a phibau, o'r cymoedd i Bontypridd i ddangos eu cefnogaeth i'w cydweithwyr yn y doc. Gan eu bod wedi'u gwahardd o Bontypridd, cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol ger y Garreg Siglo ar y Comin. Dim ond 600 o ddynion orymdeithiodd i'r dref i glywed y ddedfryd ar y diwrnod olaf, gan fod llawer yn ofni cael eu dal yng nghanol terfysg neu gythrwfl gyda'r awdurdodau. Draw yn y llys, cafodd rhai o'r dynion eu cludo ar drên arbennig i dreulio rhwng pythefnos a chwe wythnos yng ngharchar Caerdydd, a chafodd eraill ddirwy neu eu rhyddhau.
Er mai dyma ddiwedd Terfysgoedd Tonypandy, bu rhywfaint o helynt yma ac acw yn ystod gweddill y streic. Cafwyd adroddiad am 'Blaenclydach Terror' yn y Rhondda Leader ym mis Ebrill 1911, lle'r oedd nifer o streicwyr yn bygwth y ‘bradwyr', yn taflu cerrig at yr heddlu, yn dwyn o siopau a llosgi lladd-dy lleol. Daeth y streic i ben ym mis Awst 1911, gyda'r gweithwyr yn gorfod derbyn telerau o 2s 3c a drafodwyd gan William Abraham AS cyn dechrau'r streic. Dychwelodd y streicwyr i'w gwaith y dydd Llun cyntaf ym mis Medi. Dim ond crynodeb o'r helyntion a geir uchod – i gael yr hanes manwl, dylech ddarllen 'The Tonypandy riots' gan G.Evans a D.Maddox; a hefyd 'South Wales Miners, a history of the South Wales Miners Federation 1898-1914' gan R.Page Arnot.
NEUADD GANOLOG Y METHODISTIAID, TONYPANDY

Neuadd Ganolog y Methodistiaid oedd y prif adeilad mwyaf amlwg yn rhan Tonypandy am dros 60 mlynedd, o'i hagoriad ym 1923 tan iddi gael ei dymchwel ym 1985. Nod y neuaddau hyn oedd bod yn ganolfannau cymdeithasol ac addysgol i'w cymunedau yn ogystal â diwallu anghenion ysbrydol y boblogaeth.
Hon oedd neuadd brydferthaf Cymru yn ôl y Glamorgan Free Press a'r Rhondda Leader pan agorwyd y neuadd newydd ddydd Gwener 29 Mehefin 1923. Mae'r erthyglau papur newydd yn rhoi ychydig o hanes y neuadd inni. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Mr. Arthur Brocklehurst, a'i hadeiladu gan y Laing a'i Feibion, ar gost o £30,000, a chafodd ei hagor yn swyddogol gan y Fonesig Nicholas o'r Garth, Trealaw, yng nghwmni ei g w r, Syr Walter Nicholas. Daeth cymaint o bobl i'r agoriad swyddogol fel y bu rhaid stopio'r traffig ar y ffyrdd am y tro.
Ar ôl i'r Parchedig J.E. Wakerley, Llywydd y Wesleaid arwain y gwasanaeth cysegru, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ym mhrif neuadd yr adeilad dan law Mr. Joseph Rank o Hull, a gyfrannodd £10,000 i gronfa'r adeilad.
Roedd yr achos Methodistiaid wedi hen ennill ei blwyf yn yr ardal cyn agor y Neuadd Ganolog. Dechreuodd yr achos yn y ‘Siop Fawr' ym mhentref Dinas cyn symud i Ben-y-graig, lle cynhaliwyd gwasanaethau a'r Ysgol Sul yn un o ystafelloedd gwesty'r White Hart. Yna, prynwyd darn o dir fferm Gellifaelog, Tonypandy ym 1866 er mwyn adeiladu'r capel cyntaf. Ond gyda dim ond lle i 80 o addolwyr, roedd y capel yn rhy fach o lawer i anghenion y Methodistiaid lleol. Felly, codwyd capel mwy o faint ar y safle ym 1873, ychwanegwyd estyniad ym 1899 a chodwyd oriel newydd ym 1910. Cafodd y capel hwn ei ddymchwel ym 1922 i wneud lle i'r Neuadd Ganolog newydd, a gymrodd flwyddyn i'w hadeiladu. Wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, cynhaliodd yr addolwyr wasanaethau yn Judges Hall a festrïoedd Capel Seion a Chapel Ebenezer, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddi yn ystafell ffrynt ty'r gofalwr hefyd.
Neuadd Ganolog y Wesleaid oedd enw gwreiddiol yr adeilad newydd sbon, gyda neuadd fawr â lle i 1,000 o bobl, llwyfan y côr a allai ddal 100 o gantorion, a neuadd arall, lai, â lle i 400 o bobl. Roedd yno ‘adran gynradd' hefyd â lle i 150 o blant, a phump neu chwe ystafell ddosbarth, ynghyd ag ystafell gemau gyda dau fwrdd biliards, llyfrgell, a lle i ddarllen ac ysgrifennu.
Fel y nodwyd mewn llyfryn i ddathlu pen-blwydd y Neuadd yn 25 oed, roedd y Neuadd, dan arweiniad y Parchedig R.J.Barker a'r Parchedig C.E.Gwyther wedyn, megis goleuni yn y tywyllwch yn ystod blynyddoedd llwm y dirwasgiad yn y cymoedd. Bu'n achubiaeth i'r di-waith, gyda gweithdai gwaith coed a chynhyrchu esgidiau, ystafelloedd darllen, gwasg argraffu a thafarn laeth. Cynhyrchwyd miloedd o deganau i'w dosbarthu i blant lleol, dosbarthwyd dillad a gwerthwyd ‘prydau dwy geiniog' yn y ffreutur. Roedd y Neuadd hefyd yn lle pwysig fel canolfan seibiant i faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fel llawer o gapeli'r cymoedd, dirywio fu hanes y Neuadd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyda'r gynulleidfa'n prinhau, fe'i gorfodwyd i gau ym 1980. Yn ôl y Rhondda Leader, ddydd Gwener 6 Mehefin 1980, canwyd yr emyn olaf yn y Neuadd Ganolog a chaeodd un arall o gapeli Cwm Rhondda . Yn ôl llefarydd y Neuadd, roedd yn rhan hynod ddylanwadol o'r gymuned hyd at ddeng mlynedd yn ôl, cyn i ddirywiad y diwydiant glo a'r diffyg diddordeb mewn crefydd arwain at lai o gynulleidfa. Ymunodd 80 o ffyddloniaid y Neuadd Fawr â chapeli Methodistaidd eraill y cylch, a daeth Llefarydd Ty'r Cyffredin, Mr. George Thomas (Iarll Tonypandy yn ddiweddarach) i'r gwasanaeth olaf. Ar ôl sefyll yn wag a chael ei fandaleiddio am flynyddoedd, cafodd y Neuadd Fawr ei dymchwel ym 1985 er mwyn gwneud lle i archfarchnad newydd.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf