header Cymraeg English

Pentre

 

Roedd fferm sylweddol ‘Y Pentref' yn bodoli yma ymhell cyn i'r pentref go iawn ddatblygu yn sgil y diwydiant glo.
Fel oedd yn gyffredin yng Nghwm Rhondda cyn yr oes ddiwydiannol, roedd nifer o ffermydd ar hyd a lled y fro fel ‘Pentref' a'r ‘Maendy' yn cael eu ffermio gan denantiaid gyda landlordiaid absennol.

Er hynny, daeth mentrwyr busnes i bob rhan o Gwm Rhondda gyda'r holl alw cynyddol am lo a'r holl elw posibl yn sgil hynny. Ym 1857, prydlesodd Edward Curteis o Landaf hawliau mwynol Tir y Pentre gan Griffith Llewellyn o Faglan, ac agorwyd lefelau'r Pentre a Church yn fuan wedyn. Erbyn dechrau 1864, roedd y ‘Pentre Coal Company' wedi agor siafftiau glo â'u cysylltu â'r gwythiennau glo dyfnach, ac agorwyd ail bwll yn y Pentre. Ar y pryd, Glofa'r Pentre oedd un o'r mwyaf a'r fwyaf proffidiol yn y cymoedd. Dyma pryd y datblygodd y pentref go iawn.

Pentre
Fferm Maindy
Erbyn dechrau'r 1900au, roedd y Pentre'n lle prysur dros ben ac yn un o'r prif ardaloedd siopa ar gyfer rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr, gyda chwe siop gadwyn a dwy siop y Co-op ymhlith eraill. Fe'i disodlwyd gan Dreorci yn ddiweddarach ar ôl i Lofa'r Pentre gau. Y Pentre oedd canolbwynt llywodraeth leol Cwm Rhondda ar ôl agor swyddfeydd y cyngor yn Llewellyn Street ym 1882. Mae'r Pentre hefyd yn ymfalchïo yn ‘Eglwys Gadeiriol Cwm Rhondda', sef Eglwys San Pedr a gysegrwyd ym 1890, ac mae ei thwr ysblennydd yn amlwg ymhob cwr o'r ardal.

Dyma gartref cwmni Pentre Breweries, a sefydlwyd ym 1875, am flynyddoedd lawer hefyd, a gwerthwyd cwrw'r cwmni yn nhafarndai cymoedd y de.
Ym mis Hydref 1916, cafodd nifer a siopau a llawr sglefrio eu claddu gan dirlithriad, gan fygwth yr unig ffordd oedd yn mynd drwy Gwm Rhondda Fawr. Yn sgil hyn, cafodd y cyngor eu sbarduno i godi ail ffordd rhwng Tonpentre a Chwmparc.

Isod: Ffowndri Cubitt a Llewellyn – Sefydlwyd gan Griffith Llewellyn o Faglan a William Cubitt. Bellach mae'r adeilad yn gartref i'r Fyddin Diriogaethol.

 

Ffowndri Cubitt a Llewellyn – Sefydlwyd gan Griffith Llewellyn o Faglan a William Cubitt. Bellach mae'r adeilad yn gartref i'r Fyddin Diriogaethol.
Ffowndri Cubitt a Llewellyn – Sefydlwyd gan Griffith Llewellyn o Faglan a William Cubitt. Bellach mae'r adeilad yn gartref i'r Fyddin Diriogaethol

Ar wahân i'r pyllau glo, prif fusnes arall y Pentre oedd y Rhondda Engine Works dan reolaeth y Meistri Llewelyn a Cubitt, cwmni o beirianwyr a thoddwyr haearn a phres. Am hanner canrif, bu'r cwmni hwn yn cyflenwi rhai o'r offer glofaol gorau a'r mwyaf dibynadwy i fusnesau glo ledled y de. Sefydlwyd y cwmni ym 1847 gan Griffith Llewellyn o Faglan, a oedd yn berchen ar lawer o dir yng Nghwm Rhondda, a William Cubitt o Lundain. Roedd eu gweithdai'n cynnwys ty injan, ffowndri haearn a phres, siop y boeler a gefail - oll ar ran o Ystâd Baglan, chwarter milltir o orsaf drenau'r Taff Vale.
Ar droad y ganrif, roedd dros 100 o grefftwyr medrus yn gweithio yma. Cyn i'r gweithdai gael eu dymchwel ym 1915, roedd cwmni Llewelyn a Cubitt wedi cyflenwi fframiau pen pwll dur, caetsys y pyllau a llawer o offer hanfodol eraill i'r diwydiant glo am ddeugain mlynedd i'r rhan fwyaf o lofeydd Cwm Rhondda.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf