header Cymraeg English
Gelli  
Gelli

Mae pentref Gelli, fel llawer o bentrefi Cwm Rhondda, wedi'i enwi ar ôl fferm a oedd yn bodoli yn yr ardal. Gall y cyfieithiad Saesneg o Gelli olygu coedlan, llwyn neu goedwig fach. Mae map degwm 1847 ar gyfer yr ardal yn dangos ardal wledig gyda ffermydd gwasgaredig fel Ty Isaf, Ynisgoy (Ynys Coy), a Bwllfa a oedd yn eiddo i dirfeddianwyr fel Crawshay Bailey ac Iarll Dunraven.
Fodd bynnag, mae gwaith cloddio archeolegol ar y llechwedd uwchlaw Gelli, yn enwedig yn Hen Dre'r Gelli, fel ym mis Mai 1921 pan ddaethpwyd o hyd i dair bwyell o'r oes efydd, yn dangos bod pobl yn byw yn y rhan hon o Gwm Rhondda ers hanes cynharaf Prydain. Mae olion yn awgrymu bod gweithgarwch oes efydd, oes haearn a Brythonig-Rufeinig, yn ogystal â gweithgarwch canoloesol, yn gysylltiedig â'r rhan hon o Gwm Rhondda.

Mae gwreiddiau Gelli fel y pentref glofaol a welwn heddiw'n dyddio'n ôl i'r pwll cyntaf a suddwyd yn yr ardal gan Edmund Thomas a George Griffiths yn y 1870au. Prynwyd Glofa Gelli gan John a Richard Cory, a oedd yn masnachu fel Messrs' Cory Brothers and Company, ym 1874, a chafodd y pyllau eu dyfnhau i'r mesuriadau glo ager ym 1877. Bu farw pum glöwr a chafodd ugain arall eu hanafu'n ddifrifol ar ôl ffrwydrad nwy yn y lofa ym 1883. Gwerthwyd y lofa i'r Powell Duffryn Steam Coal Company, un o gwmnïau glofeydd blaenllaw Prydain, a fu'n berchen arni tan i byllau glo Prydain gael eu gwladoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ffordd Nantygwyddon cyn ei hadfer, tua 1910

 

Ffordd Nantygwyddon cyn ei hadfer, tua 1910

Glofa Gelli a'r ardal gyfagos, tua 1930. Yn y llun, gallwch weld Ystrad Road gyda Llyfrgell Ystrad, Shady Road, Dorothy Street gyda hen Ysgol y Gelli, Princess Street, Ynysgau Street, Gelli Crossing a William Street gyda Chapel Nebo

 

Mae gwreiddiau Gelli fel y pentref glofaol a welwn heddiw'n dyddio'n ôl i'r pwll cyntaf a suddwyd yn yr ardal gan Edmund Thomas a George Griffiths yn y 1870au. Prynwyd Glofa Gelli gan John a Richard Cory, a oedd yn masnachu fel Messrs' Cory Brothers and Company, ym 1874, a chafodd y pyllau eu dyfnhau i'r mesuriadau glo ager ym 1877. Bu farw pum glöwr a chafodd ugain arall eu hanafu'n ddifrifol ar ôl ffrwydrad nwy yn y lofa ym 1883. Gwerthwyd y lofa i'r Powell Duffryn Steam Coal Company, un o gwmnïau glofeydd blaenllaw Prydain, a fu'n berchen arni tan i byllau glo Prydain gael eu gwladoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Yng Nglofa Gelli y ffurfiwyd cyfrinfa gyntaf Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yng Nghwm Rhondda. Mynychwyd cyfarfod cyntaf y gyfrinfa yng Ngwesty'r Gelli gan lai na phum deg o lowyr ond tyfodd ei phoblogrwydd gyda mwy a mwy o bobl yn ymuno â'r undeb newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan y Brodyr Cory. Suddodd David Davies o Landinam Lofa Ddwyreiniol Gelli ym 1877, a chafodd ei chau drigain mlynedd yn ddiweddarach ym 1937.

Glofa Gelli a'r ardal gyfagos, tua 1930. Yn y llun, gallwch weld Ystrad Road gyda Llyfrgell Ystrad, Shady Road, Dorothy Street gyda hen Ysgol y Gelli, Princess Street, Ynysgau Street, Gelli Crossing a William Street gyda Chapel Nebo

Er nad yw'n un o brif ganolfannau siopa Cwm Rhondda fel Pentre, Tonypandy neu Dreorci, mae Kelly's Industrial Directory of South Wales 1926 yn portreadu cymuned lofaol brysur. Yn ogystal â'r siopau a'r capeli arferol ac ati, roedd yno orsaf heddlu sirol gyda rhingyll a thri chwnstabl, ysgol elfennol gyhoeddus a adeiladwyd ym 1893 ac a ehangwyd ym 1894 a 1903 a pharc a agorwyd yn swyddogol ym 1919.
Roedd lleoliad Gelli ar dir isel ar lan y Rhondda'n golygu ei fod yn agored i lifogydd. Yn ystod tywydd difrifol ym 1960 a 1970, boddwyd llawer o'r strydoedd o dan sawl troedfedd o ddwr ac, o ganlyniad, gorfodwyd yr awdurdod lleol i wario arian mawr ar gynllun atal llifogydd i atal unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Eglwys Sant Marc - Gelli  

Wrth ymchwilio i hanes Sant Marc, buom yn ffodus i ddod ar draws llyfr a ysgrifennwyd gan Mrs Muriel Evans ym mis Tachwedd 1959 sy'n rhoi holl fanylion sefydlu a hanes yr eglwys.

Yn y gwaith hwn, mae Mrs. Evans yn esbonio nad oedd Eglwys Sant Marc, yn wahanol i eglwys gyfagos Dewi Sant, yn ddigon ffodus i gael cymwynaswr fel Crawshay Bailey i dalu'r gost o adeiladu'r eglwys. Fel y cyfryw, roedd dyddiau cynnar sefydlu'r eglwys yn anodd iawn, a heblaw am ymdrech gadarn ei sefydlydd, y Parchedig Canon Lewis, mae'n annhebygol y byddai'r eglwys erioed wedi'i hadeiladu. Roedd gan y Parchedig Lewis brofiad helaeth o adeiladu eglwysi, ac Eglwys Sant Marc oedd yr unfed prosiect ar hugain o'r fath iddo fod yn rhan ohono. Fodd bynnag, nid oedd Canon Lewis erioed wedi wynebu cymaint o wrthwynebiad yn ystod ei yrfa yn Ystradyfodwg ag a gafodd wrth gyflwyno'i brosiect ar gyfer eglwys newydd yn y Gelli.
Cerdyn Pasg diwrnod

Mor gynnar â 1893, roedd Canon Lewis wedi dechrau gwneud ymholiadau ynglyn â phrydlesu darn o dir ar gyfer ystafell genhadol yn y Gelli ac, ym mis Ionawr 1895, prynodd dir mewn stryd gefn oddi ar Heol y Gelli. Yn disgwyl cefnogaeth gan Ystâd Crawshay Bailey, gwnaeth gais am dir ychwanegol a chomisiynodd bensaer, Mr Jacob Rees, i baratoi cynlluniau ar gyfer eglwys newydd. Fodd bynnag, ni chafodd y gefnogaeth roedd yn gobeithio amdani a chafodd ei orfodi i roi'r gorau i'w gynlluniau. Yna, ym 1896, prynodd y Ficer ystafell genhadol yn Ystrad Terrace ar ôl i'r deiliaid blaenorol, Methodistiaid Calfinaidd Cymru, symud i adeilad newydd ar Heol Tyisaf. Daeth yr adeilad hwn yn Eglwys Genhadol Sant Marc y Gelli, dan reolaeth y Capten J.R. Davies o Fyddin yr Eglwys. Ym 1900, lluniodd Canon Lewis gynlluniau ar gyfer ehangu'r ystafell genhadol a'i throi'n eglwys. Yn y pen draw, penderfynodd roi'r gorau i'r cynlluniau hyn am ei fod eisiau adeiladu eglwys fwy nag yr oedd y cynlluniau hyn yn caniatáu; eglwys a fyddai'n dal 350 o bobl.
Yn ddiweddarach ym 1903, prynodd Canon Lewis y ty pen ar Union Street (a ddefnyddiwyd fel Ysgol Sul ac i gynnal cyfarfodydd yr eglwys) gyda'r bwriad o adeiladu eglwys ar safle'r ystafell genhadol a'r ty. Roedd problem gyfreithiol yn golygu bod rhaid ildio'r prydlesi cyfredol ar y ddau safle hwn a chael trwydded i adeiladu eglwys ar y safleoedd. Gofynnodd Canon Lewis am help ystâd Crawshay Bailey i wneud y trefniadau hyn. Fodd bynnag, roedd rhaid i ymddiriedolwyr yr ystâd fod yn fodlon bod yna angen am eglwys newydd yn yr ardal a bod y Canon Lewis yn gallu sicrhau'r cyllid i adeiladu a chynnal yr adeilad. Am hynny, mi lwyddodd i gael trwydded 99 mlynedd tan fis Gorffennaf 1905. Unwaith eto, paratôdd Jacob Rees gynlluniau ar gyfer yr eglwys newydd a hysbysebwyd tendrau ar gyfer yr adeilad newydd yn y wasg. Derbyniwyd dyfynbrisiau o rhwng £1,342 a £2,172 ar gyfer yr adeilad. Fodd bynnag, daeth y Canon Lewis yn erbyn anawsterau pellach. Ni chafwyd cymaint o roddion â'r disgwyl, gydag o leiaf un darpar gyfrannwr yn amau a oedd angen eglwys arall mewn ardal a oedd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan eglwysi Dewi Sant a Sant Pedr. Hefyd, cafodd ei gais am grant gan y Gymdeithas Gorfforedig i hyrwyddo Ehangu ac Atgyweirio Eglwysi a Chapeli ei wrthod ym mis Mai 1905 oherwydd amodau'r brydles ar yr eglwys. Ar ôl i'w gais i ystâd Bailey i brynu rhydd-ddaliad y tir gael ei wrthod, derbyniodd o'r diwedd y byddai'n rhaid iddo gyfaddawdu a chael eglwys lai a rhatach na'r un a fwriadwyd. Unwaith eto, rhoddodd y gorau i'r cynlluniau hynny a lluniodd gynlluniau newydd ar gyfer ehangu'r ystafell genhadol gyfredol. Derbyniwyd tendr o £310 gan Messrs' Blacker Brothers, Caerdydd, gyda'r gost derfynol yn codi i £360. Pan gafodd y gwaith ei gwblhau, dychwelodd y gynulleidfa o'i chartref dros dro yn yr ysgolion yn Dorothy Street i'w heglwys newydd, a oedd yn dal 120 o bobl.
Yn ddiweddarach ym 1920, ymunodd Eglwys Sant Marc ag Eglwys Dewi Sant, Ton Pentre, i ffurfio un plwyf. Caeodd Eglwys Sant Marc ym 1987.

© 2018 Rhondda Cynon Taf Libraries