header Cymraeg English
Aberpennar  

Y gamlas yn Aberpennar

Y gamlas yn Aberpennar

Fel cymaint o bentrefi eraill y De, roedd datblygiad Aberpennar yn gysylltiedig yn uniongyrchol â datblygiad diwydiannol cymoedd y De. Yn sgil hyn, gweddnewidiwyd Aberpennar o fod yn ardal wledig i un hynod o ddiwydiannol. Fodd bynnag, yn wahanol i Ferthyr neu Aberdâr, ni chyrhaeddodd y chwyldro diwydiannol Aberpennar tan 1850. Cyn hynny, nid oedd gan yr ardal ddiwydiant haearn neu o unrhyw fath ac ychydig iawn o gloddio am lo a fu yn yr ardal.
Cyn hyn, yr unig beth i darfu ar lonyddwch gwledig yr ardal fu'r gwaith o adeiladu camlas rhwng Abercynon ac Aberdâr a gwblhawyd ym 1812. Camlas Aberdâr oedd enw'r gamlas chwe milltir a thri chwarter hon, ac roedd ar waith tan ddechrau'r ugeinfed ganrif pan gaeodd oherwydd cystadleuaeth gref gan y rheilffyrdd. Agorwyd llinellau yn yr ardal gan y Taff Vale Railway ym 1846 a'r Great Western Railway ym 1864. Llenwyd y gamlas er mwyn adeiladu ffordd, sef y New Cardiff Road, a agorodd yn swyddogol ym 1933.

O ganlyniad i agor y glofeydd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynyddodd poblogaeth Aberpennar o 1,614 ym 1841 i 11,463 ym 1871. Yn sgil y cynnydd hwn, roedd angen llawer o dai newydd ac amwynderau cyhoeddus. Adeiladwyd llawer o dai, a sefydlwyd adeiladau masnachol, addysgol a chrefyddol. Cofnodwyd rhai o'r strydoedd cyntaf ar gyfrifiad 1851, gan gynnwys Duffryn Street a Navigation Street. Erbyn 1859 roedd yna 12 tafarn, ac ymhlith y rhai cyntaf oedd y Bruce Arms, y Junction Inn a'r New Inn. Agorodd llawer o siopau, ac roedd yn bosibl prynu nwyddau a chynnyrch cyffredinol yn ddidrafferth. Erbyn 1920 roedd mwy na 200 o fusnesau yn y pentref yn ôl Cyfeirlyfr Masnach Kelly.

Yn y llun hwn (dde) mae D. Coleman yn hysbysebu ei siop yn 54 Commercial Street a oedd yn gwerthu popeth o esgidiau i winoedd, arfer cymharol gyffredin yn y cyfnod hwnnw.
Yn y llun hwn (dde) mae D. Coleman yn hysbysebu ei siop yn 54 Commercial Street a oedd yn gwerthu popeth o esgidiau i winoedd, arfer cymharol gyffredin yn y cyfnod hwnnw.
Neuadd Gyhoeddus Aberpennar

Ymhlith yr adeiladau pwysig eraill a godwyd yn ystod y cyfnod cynnar hwn o ddatblygu oedd Neuadd y Dref (1904), dau ysbyty (1892 ac 1894), gorsaf heddlu (1865) a Sefydliad y Gweithwyr, Llyfrgell a Neuadd Gyhoeddus Nixon (1899). Adeiladwyd y Pafiliwn ym 1901, ac yno y cynhaliwyd Gwyl y Tri Chwm a ddechreuodd ym 1930. Duffryn House oedd cartref Arglwydd Aberdâr.

Chwith: Neuadd Gyhoeddus Aberpennar

 

Cartref hynafiaid Henry Austin Bruce, Arglwydd cyntaf Aberdâr ar un adeg. Prynodd ei hynafiaid Ystad Duffryn ym 1747. Ym 1926, prynodd Awdurdod Addysg Morgannwg y tŷ a’i droi’n Ysgol Ramadeg Sirol, rhan o Ysgol Gyfun Aberpennar (Uwch) yn ddiweddarach. Hyd at 1983, roedd y tŷ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnal gwersi hyd nes iddo gael ei bennu’n anniogel a’i ddymchwel.

Duffryn House
Eglwys Santes Margaret

Fe aeth llawer o enwadau crefyddol ati i godi addoldai yn Aberpennar, ac ymhlith y cyntaf oedd y Bedyddwyr a adeiladodd Gapel Rhos ym 1855 a Chapel Nasareth ym 1866. Cysegrwyd eglwys Santes Margaret fel eglwys ganolog y plwyf newydd ar 14 Awst 1862, ac adeiladwyd yr Eglwys Gatholig ym 1899.

Dde: Eglwys Santes Margaret

 

Nos Galan  
Dechreuodd rasys Aberpennar ym 1958, a rhoddwyd yr enw Rasys Nos Galan arnynt gan fod y cystadleuwyr yn rhedeg ar drothwy'r flwyddyn newydd. Yn y flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd ras 100 llath ar hyd Oxford Street ynghyd â ras 4 milltir. Enillwyd y ras 100 llath gan Peter Radford a'r ras 4 milltir gan Stan Eldon. Roedd natur unigryw'r rasys a chroeso'r bobl leol wedi denu'r ddau redwr Olympaidd, a heidiodd y cyfryngau i'w gweld yn rhedeg ar hyd strydoedd tref lofaol am hanner nos ar Nos Galan.

Ar ei anterth yn y 1960au, roedd y digwyddiad yn denu dros fil o redwyr, gan gael ei ffilmio gan BBC Grandstand.

Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog, y Rhedwr Dirgel, yn gosod torch ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno. Wedyn mae'n rhedeg i Aberpennar yn cludo ffagl, gan gynnau Coelcerth Nos Galan wrth gyrraedd y dref er mwyn dechrau'r prif rasys. Tom Richards, enillydd medal arian yn y gemau Olympaidd, oedd y rhedwr dirgel cyntaf ym 1958, ac ers hynny mae llu o enwogion y byd chwaraeon wedi cael y fraint, gan gynnwys Ann Packer (y fenyw gyntaf i gario'r ffagl ym 1965), David Hemery, David Bedford, Kirsty Wade a Jamie Baulsh.

Chwith: Peter Gabbett yn ennill y ras 100 llath

 

Peter Gabbett yn ennill y ras 100 llath
Rhedwyr Dirgel y Gorffennol Rhestr o redwyr dirgel rasys Nos Galan rhwng 1958 a 2002
1958 Tom Richards
1959 Ken Norris
1960 Derek Ibbotson
1961 John Merriman
1962 Martin Hyman
1963 Bruce Tulloh
1964 Stan Eldon
1965 Ann Paker (Brightwell)
1966 Mary Rand
1967 Ron Jones
1968 Lyn Davies
1969 Lillian Board
1970 John Whetton
1971 David Bedford
1972 David Hemery
1973 Berwyn Price
1984 Steve Jones, David Bedford, Lisa Hopkins
1985 Unknown
1986 Kirsty Wade
1987 Tony Simmons
1988 Tim Hutchings
1989 Bernard Plain
1990 Phillip Snoddy
1991 Dennis Fowles
1992 Guto Eames, Tremayne Rutherford
1993 Simon Mugglestone
1994 Steve Robinson
1995 Neil Jenkins
1996 Robbie Reagen
1997 Iwan Thomas
1998 Jamie Baulch, Ron Jones
1999 Garin Jenkins, Dai Young
2000 Christian Malcolm
2001 Darren Campbell
2002 Mat Elias

Cyn Redwyr Dirgel wrth fedd Guto Nyth Brân yn Eglwys Llanwynno

O'r chwith i'r dde: Berwyn Price (1973), Kirsty Wade (1986), Derek Ibbotson (1960), Ron Jones (1967), John Merriman (1961), Stan Eldon (1964)
Cyn Redwyr Dirgel wrth fedd Guto Nyth Brân yn Eglwys Llanwynno. Berwyn Price (1973), Kirsty Wade (1986), Derek Ibbotson (1960), Ron Jones (1967), John Merriman (1961), Stan Eldon (1964)

Er gwaethaf poblogrwydd y rasys, daethant i ben ym 1973 yn dilyn pryderon gan yr heddlu eu bod yn oedi'r drafnidiaeth yn ormodol.

Ailddechreuodd y rasys ym 1984, a'r tro hwn cyfyngwyd nifer y rhedwyr i 14 a chynhaliwyd un ras milltir o hyd. Am y tro cyntaf y flwyddyn honno, cludwyd y ffagl Nos Galan gan dri rhedwr dirgel, yn cynrychioli presennol, gorffennol a dyfodol athletau. Bu newidiadau pellach i'r ras dros y blynyddoedd, gyda rasys o hyd amrywiol yn cael eu rhedeg. Fodd bynnag, mae'r ysbryd cymunedol a'r croeso lleol a fu'n nodwedd o'r ras o'r cychwyn cyntaf yn parhau hyd heddiw.

 

 

 

Dyma raglen y drydedd Ras Nos Galan ym 1960 pan oedd y digwyddiad ar ei anterth a strydoedd Aberpennar dan eu sang â phobl tan oriau mân Ddydd Calan.

 

Dyma raglen y drydedd Ras Nos Galan ym 1960 pan oedd y digwyddiad ar ei anterth a strydoedd Aberpennar dan eu sang â phobl tan oriau mân Ddydd Calan.
Guto Nyth Bran  
Cerflun Griffith Morgan - neu "Guto Nyth Brân" yn Oxford Street, Aberpennar

Enwyd Griffith Morgan, neu Guto Nyth Brân, ar ôl Fferm Nyth Brân lle'r oedd yn byw, ger y Porth yng Nghwm Rhondda. Roedd yn rhedwr rhagorol, ac mae straeon di-rif yn sôn am ei allu. Gallai redeg i Bontypridd ac yn ôl, pellter o tua saith milltir, cyn i'r tegell ferwi, a gallai redeg ar ôl sgwarnogod hefyd. Roedd Guto yn enwog am ennill llawer o rasys, ac yn ôl pob sôn, daeth ei ffrind gorau, Siân y Siop, yn fenyw gyfoethog ar ôl betio ar gampau rhedeg Guto. Pan oedd yn 37 oed, rasiodd Guto am y tro olaf yn erbyn Sais o'r enw Prince mewn ras 12 milltir o Gasnewydd i Eglwys Bedwas. Enillodd Guto yn hawdd, a phan groesodd y llinell â'i wynt yn ei ddwrn brysiodd Siân y Siop ato i'w longyfarch, gan ei daro'n go galed ar ei gefn wrth wneud. Ond roedd Guto wedi blino cymaint ar ôl rhedeg y ras nes i'r ergyd effeithio ar ei galon, a syrthiodd i'r ddaear yn farw. Cludwyd ei gorff gyda chryn alar i Eglwys Sant Gwynno, ac mae ei fedd yno hyd heddiw.

Cerflun Griffith Morgan - neu "Guto Nyth Brân" yn Oxford Street, Aberpennar

   
Diwydiant Glo Aberpennar  
Yn wahanol i ardaloedd eraill ymhellach i'r gogledd, ni chynhyrchodd Aberpennar lo ar raddfa eang tan 1850. Er bod ychydig o byllau wedi agor yn yr ardal cyn y flwyddyn honno, roedd y rhain wedi methu a heb ddylanwadu fawr ddim ar yr ardaloedd cyfagos . Y glofeydd gyda siafftau dwfn, yn cloddio'r wyth ï en 4 troedfedd, a ddaeth yn ganolbwynt y pentref maes o law.
GLOFA DEEP DUFFRYN - Dyma'r lofa bwysig gyntaf i'w sefydlu ym mhen isaf Cwm Cynon, ac fe'i hagorwyd gan David Williams ym 1850. Roedd y gwaith o agor y pwll yn beryglus a drud oherwydd natur feddal a thywodlyd y pridd, a chymerodd bum mlynedd i gyrraedd yr wythïen bedair troedfedd ar ddyfnder o 849 troedfedd. Gwerthwyd y lofa ym 1856 i John Nixon, ac aeth ati i osod awyrydd ac injans weindio newydd, gan wella'r amodau gwaith yn y lofa a chynhyrchu mwy o lo. Nixons Navigation Company oedd perchnogion y lofa tan 1930 pan unodd gyda'r Welsh Associated Collieries Limited. Prynwyd y lofa gan Powell Duffryn Associated Collieries ym 1935, a'r cwmni hwn oedd yn berchen arni nes i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947. Cafodd Glofa Deep Duffryn ei chau ym 1979 gan Fwrdd Glo Prydain am nad oedd yn gwneud elw.
GLOFA DEEP DUFFRYN
Glofa Lower Duffryn

GLOFA LOWER DUFFRYN - Pwll Cwmpennar oedd yr enw arall ar y pwll hwn. Dechreuodd Thomas Powell and Sons weithio'r lofa hon ym 1850, a chynhyrchwyd glo am y tro cyntaf ym 1854. Gwerthwyd y lofa ym 1864 i'r Powell Duffryn Steam Coal Company, a oedd yn berchen ar y lofa nes iddi gau ym 1927.

 

Dde: Glofa Lower Duffryn
GLOFA NAVIGATION NIXON - Agorwyd y lofa hon gan John Nixon ym 1855, ond roedd rhaid aros tan 1860 cyn iddi ddechrau cynhyrchu glo. Bu bron i'r holl fenter wneud John Nixon yn fethdalwr. Yn ôl pob sôn, hon oedd y lofa ddyfnaf yng Nghymru pan gafodd ei hagor gyntaf, gan gyrraedd dyfnder o 1350 troedfedd. Erbyn 1930 roedd y lofa yn nwylo Welsh Associated Collieries, a oedd yn berchen arni tan 1935. Powell Duffryn Associated Collieries oedd perchnogion y lofa pan gafodd ei chau ym 1940.
Chwith: Glofa Navigation Nixon
Glofa Navigation Nixon
Glofa Cwmcynon

GLOFA CWMCYNON: - Yn dilyn ei lwyddiant gyda Glofa Navigation, fe aeth John Nixon ati i agor glofeydd eraill yn ardal Aberpennar. Un o'r rhain oedd Glofa Cwmcynon a agorwyd ym 1889 gan Nixon Navigation Co. Ltd. Roedd y lofa hon ym mhen deheuol y dref, ac erbyn 1911 roedd yn cyflogi 1,000 o ddynion. Aed ati maes o law i gysylltu'r lofa hon o dan y ddaear â Glofa Navigation a Glofa Deep Duffryn. Bu'r lofa'n eiddo i sawl cwmni cyn i'r diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947, sef Llewellyn-Nixon Collieries Co. Ltd (1929), Welsh Associated Collieries Ltd. (1930) a Powell Duffryn Associated Collieries (1935). Caewyd Glofa Cwmcynon gan Fwrdd Glo Prydain ym 1949

Glofa Cwmcynon

Gwyl y Tri Chwm  

Dr Malcolm Sargent yng Ngwyl y Tri Chwm, 1932

Dr Malcolm Sargent yng Ngwyl y Tri Chwm, 1932

Syniad Syr Walford Davies oedd dod â chorau Cymoedd Merthyr, Cynon a Rhondda at ei gilydd i greu gwyl o gerddoriaeth gorawl a cherddorfaol. Roedd am wneud rhywbeth dros bobl ddi-waith y cymoedd, gyda'r gobaith o greu gwyl i'r bobl. Er mwyn ceisio cyflawni'r nod hwn, cynhaliwyd yr wyl mewn canolfan fawr, roedd y pris mynediad yn hynod o resymol, a threfnwyd bod gwasanaeth trên hwyr a rhad ar gael.
Parodd yr wyl gyntaf am wythnos gyfan, ac fe'i cynhaliwyd ym Mhafiliwn Aberpennar yn ystod mis Mai 1930. Parodd cysylltiad yr wyl â Phafiliwn Aberpennar gydol ei hoes, er i'r patrwm newid pan newidiodd yn wyl dridiau ym 1932.
Roedd yr wyl yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu rhai o gantorion ac arweinyddion enwocaf y byd cerddorol. Ymddangosodd tri arweinydd arbennig yn yr wyl gyntaf, sef Syr Henry J. Wood, Dr. Malcolm Sargent a Dr. W. Gillies Whittaker. Dros y blynyddoedd nesaf byddai'r wyl yn dod yn gysylltiedig â'r arweinydd Dr. Malcolm Sargent, a fu'n arweinydd gwadd ar ddim llai na saith achlysur. Salwch oedd yn gyfrifol am ei absenoldeb yn ystod y blynyddoedd eraill.

Swyddogion a Phwyllgor Gwaith Gwyl y Tri Chwm, 1932
Swyddogion a Phwyllgor Gwaith Gwyl y Tri Chwm, 1932

Cynhaliwyd yr W yl yn llwyddiannus ym Mhafiliwn Aberpennar tan ddechrau'r rhyfel ym 1939. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel cynhaliwyd sawl gwyl ranbarthol mewn canolfannau amrywiol yn y De, gan helpu i gadw'r traddodiad yn fyw a rhannu ysbryd yr wyl â chanolfannau eraill. Dychwelodd yr wyl i Bafiliwn Aberpennar ym 1947 yn dilyn bwlch o saith mlynedd, ond dyna'r tro olaf i'r wyl gael ei chynnal yn Aberpennar.

© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf